Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
23 Ionawr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
25 Ionawr 2023
Yn dod i rym
10 Ebrill 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 64(1), 64(2)(b), 66 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Ebrill 2023.
2. Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£35” rhodder “£39.50”;
(b)yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£35” rhodder “£39.50”.
3. Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn Atodlen 2 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru)—
(i)ym mharagraff 20, yn y disgrifiad rhwng cromfachau o baragraffau 21 i 24 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, ar ôl y geiriau “Gronfa Byw’n Annibynnol” mewnosoder “, unrhyw daliad Tŵr Grenfell, taliad camdriniaeth plant, taliad Windrush ac unrhyw daliad a wneir gan Ymddiriedolaeth y Plant Mudol o dan y cynllun ar gyfer cyn-blant mudol Prydeinig”;
(ii)ar ôl paragraff 39 mewnosoder—
“40. Unrhyw daliad a wneir o dan y Cynllun Cymorth Biliau Ynni o dan gyfarwyddyd(4) yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn unol ag adrannau 7(3)(a) a 107 o Ddeddf Trydan 1989(5).
41. Unrhyw daliad a wneir o dan adrannau 1, 4 a 5 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Taliadau Ychwanegol) 2022(6) (taliadau ychwanegol sy’n dibynnu ar brawf modd a thaliadau ychwanegol anabledd).”
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Ionawr 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015(7) (“y Rheoliadau Gosod Ffioedd”) a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015(8) (“y Rheoliadau Asesiad Ariannol”).
Mae’r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn nodi’r gofynion y mae rhaid i awdurdodau lleol eu bodloni wrth ddyfarnu swm y ffioedd sy’n gymwys mewn perthynas â gofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir ganddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae’r Rheoliadau Gosod Ffioedd hefyd yn cynnwys darpariaethau cyfochrog sy’n nodi gofynion sy’n gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu angen person am ofal a chymorth.
Mae’r Rheoliadau Asesiad Ariannol yn gwneud darpariaeth o dan y Ddeddf ynghylch y ffordd y mae rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol o adnoddau ariannol person (“A”) yn yr achosion a ganlyn:
pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n diwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu anghenion gofalwr am gymorth), y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf, neu
pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n gwneud taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu angen gofalwr am gymorth) drwy wneud taliadau uniongyrchol yn rhinwedd adran 50 neu 52 o’r Ddeddf, y byddai’n ei gwneud yn ofynnol i A dalu, ar ffurf ad-daliad (yn achos taliadau gros) neu gyfraniad (yn achos taliadau net), tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth honno o ofal a chymorth.
Mae rheoliad 2 o’r offeryn hwn yn diwygio rheoliad 13 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) i gynyddu’r swm incwm wythnosol net o £35 i £39.50. Mae rheoliad 28 hefyd wedi ei ddiwygio i wneud newid cyfatebol ar gyfer derbynnydd taliadau uniongyrchol.
Mae rheoliad 3(a)(i) o’r offeryn hwn yn diwygio geiriad disgrifiadol paragraff 20(1) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol i gynnwys y canlynol:
taliad Tŵr Grenfell,
taliad camdriniaeth plant,
taliad Windrush, neu
taliadau a wneir gan Ymddiriedolaeth y Plant Mudol.
Mae’r cynlluniau hyn eisoes wedi eu diystyru drwy effaith paragraff 20 o Atodlen 2 drwy eu cynnwys yn Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 ac maent wedi eu hychwanegu yn y geiriau disgrifiadol er eglurder.
Mae rheoliad 3(a)(ii) o’r offeryn hwn yn diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:
mae taliadau a wneir o dan y Cynllun Cymorth Biliau Ynni,
mae taliadau a wneir o dan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Taliadau Ychwanegol) 2022,
i’w diystyru wrth gyfrifo cyfalaf oedolyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
2014 dccc 4. Gweler adran 197(1) am y diffiniadau o “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” a “rheoliadau”.
O.S. 2015/1843 (Cy. 271), a ddiwygiwyd gan O.S. 2022/99 (Cy. 35); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2015/1844 (Cy. 272), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/214 (Cy. 58), O.S. 2019/234 (Cy. 53) ac O.S. 2022/99 (Cy. 35).
Gellir cael copi caled o’r Cyfarwyddyd oddi wrth yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, 1 Victoria Street, Llundain, SW1H 0ET. Am gopi electronig, gweler www.gov.uk/government/publications/energy-bills-support-scheme-ministerial-direction.