NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015(1) (“y Rheoliadau Gosod Ffioedd”) a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015(2) (“y Rheoliadau Asesiad Ariannol”).

Mae’r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn nodi’r gofynion y mae rhaid i awdurdodau lleol eu bodloni wrth ddyfarnu swm y ffioedd sy’n gymwys mewn perthynas â gofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir ganddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae’r Rheoliadau Gosod Ffioedd hefyd yn cynnwys darpariaethau cyfochrog sy’n nodi gofynion sy’n gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu angen person am ofal a chymorth.

Mae’r Rheoliadau Asesiad Ariannol yn gwneud darpariaeth o dan y Ddeddf ynghylch y ffordd y mae rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol o adnoddau ariannol person (“A”) yn yr achosion a ganlyn:

Mae rheoliad 2 o’r offeryn hwn yn diwygio rheoliad 13 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) i gynyddu’r swm incwm wythnosol net o £35 i £39.50. Mae rheoliad 28 hefyd wedi ei ddiwygio i wneud newid cyfatebol ar gyfer derbynnydd taliadau uniongyrchol.

Mae rheoliad 3(a)(i) o’r offeryn hwn yn diwygio geiriad disgrifiadol paragraff 20(1) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol i gynnwys y canlynol:

Mae’r cynlluniau hyn eisoes wedi eu diystyru drwy effaith paragraff 20 o Atodlen 2 drwy eu cynnwys yn Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 ac maent wedi eu hychwanegu yn y geiriau disgrifiadol er eglurder.

Mae rheoliad 3(a)(ii) o’r offeryn hwn yn diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:

i’w diystyru wrth gyfrifo cyfalaf oedolyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.