Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 754 (Cy. 119)

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Anifeiliaid

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

4 Gorffennaf 2023

Yn dod i rym

5 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7(2) o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1) (“Deddf 2018”) a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 iddi, ac adran 10(1) a (3)(c) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984(2).

Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(3).

(1)

2018 p. 16; gweler paragraff 8 o Atodlen 4 am ystyr “appropriate authority”. Diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf 2018 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”) a pharagraff 47(5) o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf 2020 a pharagraffau 38 a 53(2) o Atodlen 5 iddi.

(2)

1984 p. 40. Diwygiwyd adran 10 gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1993 (p. 50) a Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44). Mae adran 10(8) yn diffinio “appropriate Minister” o ran Cymru fel yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion adran 10. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Mae paragraff 1(8) o Atodlen 7 yn gymwys i reoliadau o dan Atodlen 4 yn rhinwedd paragraff 12(3) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018. Mae’r cyfeiriadau yn Neddf 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.