xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 754 (Cy. 119)

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Anifeiliaid

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

4 Gorffennaf 2023

Yn dod i rym

5 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7(2) o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1) (“Deddf 2018”) a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 iddi, ac adran 10(1) a (3)(c) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984(2).

Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(3).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2023.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at rif safle rhes mewn tabl yn gyfeiriad at ei safle heb gyfrif y rhes sy’n cynnwys penawdau colofnau’r tabl hwnnw.

Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018

2.—(1Mae Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, ar ôl y diffiniad o “Rheoliad Rheolaeth yr UE” mewnosoder—

ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(5);.

(3Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “Erthygl 45 o Reoliad Rheolaeth yr UE” rhodder “Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(b)ym mharagraff (3), ar ôl “Rheoliad Rheolaeth yr UE” mewnosoder “neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

(4Hepgorer rheoliad 5.

(5Yn yr Atodlen—

(a)yn Nhabl 1, yn lle’r ail a’r drydedd golofn rhodder—

Colofn 2Colofn 3
Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 13222 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132
12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 7212 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 72
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
21 am bob anfoneb21 am bob anfoneb
2,134.502,484
1,1471,343
1,1471,343
586687
586687
476557
476557;

(b)yn Nhabl 2—

(i)ym mhennawd y tabl, yn lle “Erthygl 45 o Reoliad Rheolaeth yr UE” rhodder “Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(ii)yn y golofn gyntaf, yn lle “Reoliad Rheolaeth yr UE”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(iii)yn lle’r ail a’r drydedd golofn rhodder—

Colofn 2Colofn 3
Ffi (£) am ymweliadau safle at ddibenion arolygu a gynhelir ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024Ffi (£) am ymweliadau safle at ddibenion arolygu a gynhelir ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 13222 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132
11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
188 am bob ymweliad219 am bob ymweliad
752 y flwyddyn876 y flwyddyn
2,256 y flwyddyn2,628 y flwyddyn.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018

3.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor—

(a)yn lle ““arolygfa ffin” (“border inspection post”)” rhodder ““safle rheoli ar y ffin” (“border control post”)”;

(b)yn lle’r diffiniad o “cynllun iechyd dofednod” rhodder—

ystyr “cynllun iechyd dofednod” (“poultry health scheme”) yw’r cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n llywodraethu allforio neu symud adar neu wyau deor i’r UE, Gogledd Iwerddon neu wledydd penodedig nad ydynt yn yr UE, a gyhoeddwyd ar 22 Gorffennaf 2021(7);.

(3Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder—

Y ffi sy’n daladwy pan fo gweithgaredd yn cael ei gyflawni dros gyfnod pan fo ffioedd gwahanol yn gymwys

2A.  Os cyflawnir unrhyw weithgaredd y mae ffi yn daladwy ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn dros gyfnod pan fo ffioedd gwahanol yn gymwys, y ffi sy’n daladwy mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw yw—

(a)pan fo’r gweithgaredd yn cael ei gyflawni fel rhan o gais, y ffi sy’n gymwys ar y dyddiad y daw’r cais i law;

(b)fel arall, y ffi sy’n gymwys ar y dyddiad y dechreuir y gweithgaredd..

(4Yn rheoliadau 4(2)(a), (b) ac (c), 5(2)(a), 6(3), 7(2) ac 8(2), ar ôl “yng ngholofn 2” mewnosoder “neu golofn 3”.

(5Yn rheoliad 9, ac ym mhennawd y rheoliad hwnnw, yn lle “arolygfeydd ffin” rhodder “safleoedd rheoli ar y ffin”.

(6Yn Atodlen 1—

(a)yn Nhabl 1—

(i)yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024
12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 72
41
68
95
18 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys);

(ii)ar ôl Colofn 2 mewnosoder—

Colofn 3
Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 72
49
83
117
21 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys);

(b)yn lle Tabl 2 rhodder—

Tabl 2

Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyaeth o dan Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
GweithgareddFfi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol i labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy8686
Cynnal arolygiadau ar gyfer gwaith sicrhau ansawdd688 am bob ymweliad1,025 am bob ymweliad
Cynnal profion cydweithredol ar gyfer Salmonela fel sy’n ofynnol i gael cymeradwyaeth fel labordy profi, a chadw’r gymeradwyaeth honno44 am bob prawf44 am bob prawf ;

(c)yn Nhabl 3—

(i)yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024
123
3,203
3,517;

(ii)ar ôl Colofn 2 mewnosoder—

Colofn 3
Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
146
3,936
3,954.

(7Yn Atodlen 2—

(a)yn Nhabl 1—

(i)yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
82 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
49
62
35
61 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
34 (nid yw’r ffi amser yn gymwys);

(ii)ar ôl Colofn 2 mewnosoder—

Colofn 3
Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
108 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
71
67
39
67 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
39 (nid yw’r ffi amser yn gymwys);

(b)yn Nhabl 2, yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny
86
158 am bob prawf
310 am bob prawf
310 am bob prawf
280 am bob prawf
310 am bob prawf.

(8Yn y Tabl yn Atodlen 3—

(a)yng Ngholofn 1—

(i)yn y bedwaredd res yn lle “canolfan gasglu CE” rhodder “canolfan gasglu drwyddedig”;

(ii)yn y bumed res yn lle “canolfan gwarantin CE” rhodder “canolfan gwarantin drwyddedig”;

(iii)yn y chweched res—

(aa)yn lle “canolfan gasglu CE” rhodder “canolfan gasglu drwyddedig”;

(bb)yn lle “neu ganolfan storio CE” rhodder “neu ganolfan storio drwyddedig”;

(iv)yn yr wythfed res yn lle “at ddefnydd domestig neu ddefnydd y CE” rhodder “at ddefnydd domestig neu at ddefnydd masnachu ag Aelod-wladwriaeth”;

(b)yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
27
35
39
37
23
31;

(c)ar ôl Colofn 2 mewnosoder—

Colofn 3
Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
33
44
48
46
28
38.

(9Yn Atodlen 4, yn y Tabl—

(a)yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
42 am bob baedd
31 am bob baedd
37
34
23;

(b)ar ôl Colofn 2 mewnosoder—

Colofn 3
Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
53 am bob baedd
38 am bob baedd
46
42
28.

(10Yn Atodlen 5, yn y Tabl—

(a)yn y drydedd res o Golofn 1—

(i)ar ôl y geiriau “tîm trosglwyddo embryonau buchol” mewnosoder “o dan reoliad 4 o Reoliadau 1995”;

(ii)hepgorer “storfa o dan reoliad 13 o Reoliadau 1995;”;

(iii)ar ôl y geiriau “(gan gynnwys arolygu labordy neu beidio)” mewnosoder “o dan reoliad 6 neu 7 o Reoliadau 1995”;

(b)yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
38
13
34
23
6 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol;

(c)ar ôl Colofn 2 mewnosoder—

Colofn 3
Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
47
16
42
28
7 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol.

(11Yn Atodlen 6—

(a)ym mhennawd yr Atodlen honno ac ym mhennawd Tabl 1, yn lle “arolygfeydd ffin” rhodder “safleoedd rheoli ar y ffin”;

(b)yn lle Tabl 1 rhodder—

Colofn 1Colofn 2
Arolygu math o anifail a gwirio dogfennauFfioedd (£) am bob llwyth ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny
Dofednod ac adar hela bach53
Dofednod – mewnforion wyau rheolaidd53
Ratidau53
Adar caeth61
Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol ac amffibiaid48
Gwenyn40
Cwningod a chnofilod44
Pryfed eraill ac infertebratau40
Ymlusgiaid48
Anifeiliaid anwes heb ddatganiad63
Equidae79
Da byw a ffermir, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt190
Anifeiliaid nas cynhwysir mewn unrhyw gategori arall50
Gwirio dogfennau ar gyfer trawslwytho79;

(c)yn Nhabl 2, yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny
(2)

ystyr “llwyth” yw un neu ragor o lwythi o anifeiliaid sy’n tarddu o’r un wlad, sydd wedi cyrraedd ar yr un cyfleuster cludo, ac wedi eu cyflwyno ar gyfer eu gwirio yn y safle rheoli ar y ffin ar yr un pryd, gan berson sy’n gyfrifol am eu mewnforio.;

261 am bob llwyth(2)
346 am bob llwyth(2)
16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 96 am bob ymweliad

(d)yn Nhabl 3, yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2
Ffi am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny
21
28
14
16, hyd at uchafswm o 96 am bob ymweliad.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

4 Gorffennaf 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/646 (Cy. 120)) (“y Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid”) a Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/650 (Cy. 122)) (“y Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid”) (gyda’i gilydd, “Rheoliadau 2018”). Mae’r diwygiadau’n addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2018 ar gyfer gwasanaethau a ddarperir ym maes iechyd anifeiliaid gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i adlewyrchu swm adennill cost lawn y gwasanaethau hynny.

Mae rheoliad 2(4) yn diwygio’r Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid i ddirymu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am ddogfennau adnabod gwag a gwasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â darparu dogfennau adnabod pasbortau anifeiliaid anwes.

Mae rheoliad 2(5) yn diwygio’r Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Cynyddir y ffioedd, pan gynyddir hwy, yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 41%, o’r ffioedd presennol mewn dau gam: mae’r cynnydd cyntaf yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny, ac mae’r ail gynnydd yn gymwys ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3(6) yn diwygio’r Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â rheolaethau salmonela. Cynyddir y ffioedd, pan gynyddir hwy, yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 53%, o’r ffioedd presennol mewn dau gam: mae’r cynnydd cyntaf yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny, ac mae’r ail gynnydd yn gymwys ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3(7) yn diwygio’r Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod. Cynyddir y ffioedd yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 21%, o’r ffioedd presennol. Mae rheoliad 3(7)(a) yn cynyddu ffioedd penodol y cynllun iechyd dofednod mewn dau gam: mae’r cynnydd cyntaf yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny, ac mae’r ail gynnydd yn gymwys ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny. Mae rheoliad 3(7)(b) yn cynyddu gweddill ffioedd penodedig y cynllun iechyd dofednod mewn un cam, ac mae’r cynnydd yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3(8) i (10) yn diwygio’r Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â rheolaethau bridio artiffisial. Cynyddir y ffioedd yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 65%, o’r ffioedd presennol mewn dau gam: mae’r cynnydd cyntaf yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny, ac mae’r ail gynnydd yn gymwys ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3(11) yn diwygio’r Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â safleoedd rheoli ar y ffin. Cynyddir y ffioedd yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 34%, o’r ffioedd presennol mewn un cam, ac mae’r cynnydd yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 2018.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2018 p. 16; gweler paragraff 8 o Atodlen 4 am ystyr “appropriate authority”. Diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf 2018 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”) a pharagraff 47(5) o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf 2020 a pharagraffau 38 a 53(2) o Atodlen 5 iddi.

(2)

1984 p. 40. Diwygiwyd adran 10 gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1993 (p. 50) a Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44). Mae adran 10(8) yn diffinio “appropriate Minister” o ran Cymru fel yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion adran 10. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Mae paragraff 1(8) o Atodlen 7 yn gymwys i reoliadau o dan Atodlen 4 yn rhinwedd paragraff 12(3) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018. Mae’r cyfeiriadau yn Neddf 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(5)

EUR 2017/625 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1481, O.S. 2022/621, O.S. 2022/846, O.S. 2022/1090 ac O.S. 2022/1315.

(7)

Mae copi o lawlyfr y cynllun iechyd dofednod ar gael ar-lein ar https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1012365/phs-handbook.pdf. Gellir cael copi caled o’r cynllun iechyd dofednod drwy ysgrifennu at yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn: The Animal and Plant Health Agency, Poultry Health Scheme Team, Customer Service Centre – One Health, Level 1 County Hall, Spetchley Road, Worcester WR5 2NP neu drwy anfon e-bost i CSCOneHealthPHS@apha.gov.uk.