2023 Rhif 754 (Cy. 119)

Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7(2) o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181 (“Deddf 2018”) a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 iddi, ac adran 10(1) a (3)(c) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 19842.

Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad3.

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2023.

2

Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at rif safle rhes mewn tabl yn gyfeiriad at ei safle heb gyfrif y rhes sy’n cynnwys penawdau colofnau’r tabl hwnnw.

Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 20182

1

Mae Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 20184 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2, ar ôl y diffiniad o “Rheoliad Rheolaeth yr UE” mewnosoder—

  • ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion5;

3

Yn rheoliad 4—

a

ym mharagraff (2), yn lle “Erthygl 45 o Reoliad Rheolaeth yr UE” rhodder “Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

b

ym mharagraff (3), ar ôl “Rheoliad Rheolaeth yr UE” mewnosoder “neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

4

Hepgorer rheoliad 5.

5

Yn yr Atodlen—

a

yn Nhabl 1, yn lle’r ail a’r drydedd golofn rhodder—

Colofn 2

Colofn 3

Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024

Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132

12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 72

12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 72

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

21 am bob anfoneb

21 am bob anfoneb

2,134.50

2,484

1,147

1,343

1,147

1,343

586

687

586

687

476

557

476

557

b

yn Nhabl 2—

i

ym mhennawd y tabl, yn lle “Erthygl 45 o Reoliad Rheolaeth yr UE” rhodder “Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

ii

yn y golofn gyntaf, yn lle “Reoliad Rheolaeth yr UE”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

iii

yn lle’r ail a’r drydedd golofn rhodder—

Colofn 2

Colofn 3

Ffi (£) am ymweliadau safle at ddibenion arolygu a gynhelir ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024

Ffi (£) am ymweliadau safle at ddibenion arolygu a gynhelir ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132

11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

188 am bob ymweliad

219 am bob ymweliad

752 y flwyddyn

876 y flwyddyn

2,256 y flwyddyn

2,628 y flwyddyn

Diwygio Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 20183

1

Mae Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 20186 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2, yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor—

a

yn lle ““arolygfa ffin” (“border inspection post”)” rhodder ““safle rheoli ar y ffin” (“border control post”)”;

b

yn lle’r diffiniad o “cynllun iechyd dofednod” rhodder—

  • ystyr “cynllun iechyd dofednod” (“poultry health scheme”) yw’r cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n llywodraethu allforio neu symud adar neu wyau deor i’r UE, Gogledd Iwerddon neu wledydd penodedig nad ydynt yn yr UE, a gyhoeddwyd ar 22 Gorffennaf 20217;

3

Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder—

Y ffi sy’n daladwy pan fo gweithgaredd yn cael ei gyflawni dros gyfnod pan fo ffioedd gwahanol yn gymwys2A

Os cyflawnir unrhyw weithgaredd y mae ffi yn daladwy ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn dros gyfnod pan fo ffioedd gwahanol yn gymwys, y ffi sy’n daladwy mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw yw—

a

pan fo’r gweithgaredd yn cael ei gyflawni fel rhan o gais, y ffi sy’n gymwys ar y dyddiad y daw’r cais i law;

b

fel arall, y ffi sy’n gymwys ar y dyddiad y dechreuir y gweithgaredd.

4

Yn rheoliadau 4(2)(a), (b) ac (c), 5(2)(a), 6(3), 7(2) ac 8(2), ar ôl “yng ngholofn 2” mewnosoder “neu golofn 3”.

5

Yn rheoliad 9, ac ym mhennawd y rheoliad hwnnw, yn lle “arolygfeydd ffin” rhodder “safleoedd rheoli ar y ffin”.

6

Yn Atodlen 1—

a

yn Nhabl 1—

i

yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2

Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024

12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd

12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 72

41

68

95

18 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys)

ii

ar ôl Colofn 2 mewnosoder—

Colofn 3

Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny

12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd

12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 72

49

83

117

21 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys)

b

yn lle Tabl 2 rhodder—

Tabl 2Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyaeth o dan Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Gweithgaredd

Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024

Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny

Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol i labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy

86

86

Cynnal arolygiadau ar gyfer gwaith sicrhau ansawdd

688 am bob ymweliad

1,025 am bob ymweliad

Cynnal profion cydweithredol ar gyfer Salmonela fel sy’n ofynnol i gael cymeradwyaeth fel labordy profi, a chadw’r gymeradwyaeth honno

44 am bob prawf

44 am bob prawf

c

yn Nhabl 3—

i

yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2

Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024

123

3,203

3,517

ii

ar ôl Colofn 2 mewnosoder—

Colofn 3

Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny

146

3,936

3,954

7

Yn Atodlen 2—

a

yn Nhabl 1—

i

yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2

Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132

82 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)

49

62

35

61 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)

34 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)

ii

ar ôl Colofn 2 mewnosoder—

Colofn 3

Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132

108 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)

71

67

39

67 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)

39 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)

b

yn Nhabl 2, yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2

Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny

86

158 am bob prawf

310 am bob prawf

310 am bob prawf

280 am bob prawf

310 am bob prawf

8

Yn y Tabl yn Atodlen 3—

a

yng Ngholofn 1—

i

yn y bedwaredd res yn lle “canolfan gasglu CE” rhodder “canolfan gasglu drwyddedig”;

ii

yn y bumed res yn lle “canolfan gwarantin CE” rhodder “canolfan gwarantin drwyddedig”;

iii

yn y chweched res—

aa

yn lle “canolfan gasglu CE” rhodder “canolfan gasglu drwyddedig”;

bb

yn lle “neu ganolfan storio CE” rhodder “neu ganolfan storio drwyddedig”;

iv

yn yr wythfed res yn lle “at ddefnydd domestig neu ddefnydd y CE” rhodder “at ddefnydd domestig neu at ddefnydd masnachu ag Aelod-wladwriaeth”;

b

yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2

Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132

27

35

39

37

23

31

c

ar ôl Colofn 2 mewnosoder—

Colofn 3

Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132

33

44

48

46

28

38

9

Yn Atodlen 4, yn y Tabl—

a

yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2

Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132

42 am bob baedd

31 am bob baedd

37

34

23

b

ar ôl Colofn 2 mewnosoder—

Colofn 3

Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132

53 am bob baedd

38 am bob baedd

46

42

28

10

Yn Atodlen 5, yn y Tabl—

a

yn y drydedd res o Golofn 1—

i

ar ôl y geiriau “tîm trosglwyddo embryonau buchol” mewnosoder “o dan reoliad 4 o Reoliadau 1995”;

ii

hepgorer “storfa o dan reoliad 13 o Reoliadau 1995;”;

iii

ar ôl y geiriau “(gan gynnwys arolygu labordy neu beidio)” mewnosoder “o dan reoliad 6 neu 7 o Reoliadau 1995”;

b

yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2

Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132

38

13

34

23

6 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol

c

ar ôl Colofn 2 mewnosoder—

Colofn 3

Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132

47

16

42

28

7 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol

11

Yn Atodlen 6—

a

ym mhennawd yr Atodlen honno ac ym mhennawd Tabl 1, yn lle “arolygfeydd ffin” rhodder “safleoedd rheoli ar y ffin”;

b

yn lle Tabl 1 rhodder—

Colofn 1

Colofn 2

Arolygu math o anifail a gwirio dogfennau

Ffioedd (£) am bob llwyth ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny

Dofednod ac adar hela bach

53

Dofednod – mewnforion wyau rheolaidd

53

Ratidau

53

Adar caeth

61

Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol ac amffibiaid

48

Gwenyn

40

Cwningod a chnofilod

44

Pryfed eraill ac infertebratau

40

Ymlusgiaid

48

Anifeiliaid anwes heb ddatganiad

63

Equidae

79

Da byw a ffermir, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt

190

Anifeiliaid nas cynhwysir mewn unrhyw gategori arall

50

Gwirio dogfennau ar gyfer trawslwytho

79

c

yn Nhabl 2, yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2

Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny

261 am bob llwyth(2)

346 am bob llwyth(2)

16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 96 am bob ymweliad

(2)

ystyr “llwyth” yw un neu ragor o lwythi o anifeiliaid sy’n tarddu o’r un wlad, sydd wedi cyrraedd ar yr un cyfleuster cludo, ac wedi eu cyflwyno ar gyfer eu gwirio yn y safle rheoli ar y ffin ar yr un pryd, gan berson sy’n gyfrifol am eu mewnforio.

d

yn Nhabl 3, yn lle Colofn 2 rhodder—

Colofn 2

Ffi am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny

21

28

14

16, hyd at uchafswm o 96 am bob ymweliad

Lesley GriffithsY Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/646 (Cy. 120)) (“y Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid”) a Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/650 (Cy. 122)) (“y Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid”) (gyda’i gilydd, “Rheoliadau 2018”). Mae’r diwygiadau’n addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2018 ar gyfer gwasanaethau a ddarperir ym maes iechyd anifeiliaid gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i adlewyrchu swm adennill cost lawn y gwasanaethau hynny.

Mae rheoliad 2(4) yn diwygio’r Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid i ddirymu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am ddogfennau adnabod gwag a gwasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â darparu dogfennau adnabod pasbortau anifeiliaid anwes.

Mae rheoliad 2(5) yn diwygio’r Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Cynyddir y ffioedd, pan gynyddir hwy, yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 41%, o’r ffioedd presennol mewn dau gam: mae’r cynnydd cyntaf yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny, ac mae’r ail gynnydd yn gymwys ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3(6) yn diwygio’r Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â rheolaethau salmonela. Cynyddir y ffioedd, pan gynyddir hwy, yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 53%, o’r ffioedd presennol mewn dau gam: mae’r cynnydd cyntaf yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny, ac mae’r ail gynnydd yn gymwys ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3(7) yn diwygio’r Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod. Cynyddir y ffioedd yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 21%, o’r ffioedd presennol. Mae rheoliad 3(7)(a) yn cynyddu ffioedd penodol y cynllun iechyd dofednod mewn dau gam: mae’r cynnydd cyntaf yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny, ac mae’r ail gynnydd yn gymwys ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny. Mae rheoliad 3(7)(b) yn cynyddu gweddill ffioedd penodedig y cynllun iechyd dofednod mewn un cam, ac mae’r cynnydd yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3(8) i (10) yn diwygio’r Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â rheolaethau bridio artiffisial. Cynyddir y ffioedd yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 65%, o’r ffioedd presennol mewn dau gam: mae’r cynnydd cyntaf yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny, ac mae’r ail gynnydd yn gymwys ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3(11) yn diwygio’r Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid i addasu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â safleoedd rheoli ar y ffin. Cynyddir y ffioedd yn ôl y codiad cyfartalog canolig, sef 34%, o’r ffioedd presennol mewn un cam, ac mae’r cynnydd yn gymwys ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 2018.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.