Diwygiadau i reoliad 3

3.  Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—

(a)hepgorer yr “ac” yn union ar ôl paragraff (k),

(b)ar ddiwedd paragraff (l), yn lle “.” rhodder “; ac”, ac

(c)ar ôl paragraff (l) mewnosoder—

(m)Dosbarth M – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth(1).

(1)

Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 23 Mai 1994 (HC 395), fel y’i diwygiwyd. Cyflwynwyd Atodiad Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth gan y Datganiad o Newidiadau i’r Rheolau Mewnfudo: HC 719, a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 18 Hydref 2022 ac sy’n cael effaith ar 30 Ionawr 2023.