xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gwnaed
7 Gorffennaf 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
11 Gorffennaf 2023
Yn dod i rym
17 Medi 2023
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod perthnasol, yn gwneud y Rheoliadau yn Rhan 1 o’r Offeryn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 64(1), (2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1) (“Deddf 1984”) fel y maent wedi eu hestyn gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2).
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod perthnasol a’r awdurdod cenedlaethol, yn rhoi’r Cyfarwyddydau Cyffredinol yn Rhan 2 o’r Offeryn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 65(1)(3) a 85(2)(4) o Ddeddf 1984.
Mae Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â’r Rheoliadau yn Rhan 1, yn unol ag adran 134(10) o Ddeddf 1984, wedi ymgynghori â’r sefydliadau cynrychioliadol yr oeddent yn meddwl eu bod yn addas ac, yn unol ag adran 134(13) o Ddeddf 1984, maent wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.
Mae Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â’r Cyfarwyddydau Cyffredinol yn Rhan 2, yn unol ag adrannau 65(3ZC) a 85(10) o Ddeddf 1984, wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.
1.—(1) Enw’r Rhan hon o’r Offeryn yw—
(a)Rheoliadau Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023, a
(b)ynghyd â Rhan 2, Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Medi 2023.
2. Mae Rheoliadau Arwyddion Traffig 2016(5) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.
3.—(1) Yn Atodlen 2, yn y tabl yn Rhan 2 (Arwyddion rhybudd a phlatiau cysylltiedig)—
(a)yn y rhes yn eitem 25, yn yr ail golofn (Disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”,
(b)ar ôl y rhes yn eitem 25, mewnosoder—
(c)yn y rhes yn eitem 43, yn yr ail golofn (Disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”, a
(d)ar ôl y rhes yn eitem 43, mewnosoder—
(2) Yn Atodlen 2, yn y tabl yn Rhan 3 (Platiau cysylltiedig atodol i’w gosod mewn cyfuniad ag arwyddion yn Rhan 2), ar y diwedd, mewn rhes newydd, mewnosoder—
4. Yn Atodlen 10, yn y tabl yn Rhan 2 (Arwyddion a marciau ffordd sy’n dynodi terfynau cyflymder)—
(a)yn y rhes yn eitem 5, yn yr ail golofn (Disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”,
(b)yn y rhes yn eitem 6, yn yr ail golofn (Disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”, ac
(c)yn y rhes yn eitem 7, yn yr ail golofn (Disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”.
5. Yn Atodlen 11, yn y tabl yn Rhan 2 (Arwyddion unionsyth)—
(a)ar ôl y rhes yn eitem 32, mewnosoder—
(b)yn y rhes yn eitem 64, yn yr ail golofn (Disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”, ac
(c)ar ôl y rhes yn eitem 64, mewnosoder—
6. Yn Atodlen 13, yn y tabl yn Rhan 6 (arwyddion dros dro ychwanegol)—
(a)yn y rhes yn eitem 38, yn yr ail golofn (disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”, a
(b)ar ôl y rhes yn eitem 38, mewnosoder—
7.—(1) Enw’r Rhan hon o’r Offeryn yw—
(a)Cyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023, a
(b)ynghyd â Rhan 1, Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Cyfarwyddydau Cyffredinol hyn i rym ar 17 Medi 2023.
8. Mae Cyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016(6) wedi eu diwygio yn unol â chyfarwyddydau 9 a 10.
9. Yn Atodlen 10, yn Rhan 4 (Cyfarwyddydau Cyffredinol Atodlen 10), yn lle paragraff 2, rhodder—
“2. This sign must not be placed as a repeater sign where—
(a)in relation to England, the road is subject to a maximum speed limit of 30 mph and has a system of carriageway lighting; or
(b)in relation to Wales, the road is subject to a maximum speed limit of 20 mph and has a system of carriageway lighting.”
10. Yn Atodlen 13, yn Rhan 12 (Cyfarwyddydau Cyffredinol Atodlen 13) ar ôl paragraff 13, mewnosoder—
“13A. The sign may only be placed—-
(a)to indicate or give warning of the point at which a recently imposed speed limit of 20 mph begins on a road; and
(b)during the period of 12 months beginning with the day on which the 20 mph speed limit comes into force.”
11.—(1) Mae arwydd traffig i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio ag Offeryn 2016 fel y’i diwygir gan yr Offeryn hwn—
(a)pan fo’r arwydd traffig yn ei le yn union cyn 17 Medi 2023,
(b)pan fo’r arwydd traffig yn cydymffurfio ag Offeryn 2016 fel yr oedd mewn grym yn union cyn 17 Medi 2023, ac
(c)pan na fo’r arwydd traffig yn cydymffurfio ag Offeryn 2016 fel y’i diwygir gan yr Offeryn hwn.
(2) Ond mae paragraff (1)—
(a)yn peidio â bod yn gymwys i arwyddion traffig a ragnodir gan eitem 9 yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 10 i Offeryn 2016 ar ddiwedd y dydd ar 16 Medi 2028;
(b)yn peidio â bod yn gymwys i unrhyw arwyddion traffig eraill ar ddiwedd y dydd ar 16 Medi 2024.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i arwyddion traffig a ragnodir gan eitem 64 yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 11 i Offeryn 2016.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “Offeryn 2016” yw Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016;
(b)mae i “arwydd traffig” yr ystyr a roddir i “traffic sign” yn adran 64(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Lee Waters
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Offeryn)
Mae’r Offeryn hwn yn diwygio Rheoliadau Arwyddion Traffig 2016 a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016, a elwir gyda’i gilydd yn Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016 (“Offeryn 2016”). Mae’r diwygiadau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig ac maent yn ganlyniadol i Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 ac yn atodol i’r Gorchymyn hwnnw, sy’n gostwng y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig o 30 milltir yr awr i 20 milltir yr awr yng Nghymru o 17 Medi 2023. Mae cyfeiriad yn y nodyn hwn at Atodlen yn gyfeiriad at Atodlen i Offeryn 2016.
Mae rheoliad 3 yn galluogi defnyddio plât newydd ynghylch diogelwch ar y ffordd yn ychwanegol at yr arwyddion sy’n rhybuddio ynghylch plant ymhellach ymlaen yn mynd i’r ysgol neu oddi yno, neu’n mynd i faes chwarae neu oddi yno, neu ynghylch twmpathau ffordd. Mae hefyd yn galluogi cael plât sy’n rhybuddio ynghylch ardal tawelu traffig gydag arwydd ar gyfer twmpathau ffordd.
Mae rheoliad 4 yn diwygio cymhwysiad yr arwyddion a ddefnyddir i hysbysu am fynedfa ac allanfa parth 20 mya fel na ellir eu defnyddio yng Nghymru mwyach. O ganlyniad i ostwng y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig o 30 mya i 20 mya yng Nghymru, ni fydd parthau 20 mya yn angenrheidiol mwyach a byddant felly yn cael eu diddymu.
Mae rheoliad 5 yn galluogi defnyddio dau arwydd newydd. Bydd un arwydd yn cael ei ddefnyddio i rybuddio ynghylch diwedd ardal tawelu traffig a bydd yr arwydd arall yn cael ei ddefnyddio i rybuddio ynghylch camera cyflymder ymhellach ymlaen ac i atgoffa gyrwyr o’r terfyn cyflymder 20 mya. Ni fydd yr arwydd cyfatebol sy’n atgoffa gyrwyr o’r terfyn cyflymder 30 mya yn gymwys i Gymru mwyach er mwyn adlewyrchu’r gostyngiad i’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig.
Mae rheoliad 6 yn galluogi defnyddio arwydd newydd i rybuddio neu nodi bod terfyn cyflymder 20 mya newydd yn cychwyn. Ni fydd yr arwydd cyfatebol sy’n dynodi man cychwyn terfyn cyflymder 30 mya newydd yn gymwys i Gymru mwyach er mwyn adlewyrchu’r gostyngiad i’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig.
Mae rheoliad 9 yn gwahardd defnyddio arwyddion ategu ar ffyrdd sy’n ddarostyngedig i derfyn cyflymder uchaf o 20 mya ac sydd â system goleuo cerbytffyrdd.
Mae rheoliad 10 yn cyfyngu ar ddefnyddio’r arwydd newydd a gyflwynir yn rheoliad 6 sy’n rhybuddio neu’n nodi bod terfyn cyflymder 20 mya newydd yn cychwyn. Ni ellir defnyddio’r arwydd ar ffordd sydd â therfyn cyflymder 20 mya a osodwyd yn ddiweddar ond yn ystod y cyfnod o 12 mis gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r terfyn cyflymder 20 mya newydd i rym.
Mae rheoliad 11 yn ddarpariaeth drosiannol ac arbedion sy’n gymwys i Offeryn 2016. Mae arwyddion a oedd yn eu lle cyn i’r Offeryn hwn ddod i rym ac a oedd yn cydymffurfio ag Offeryn 2016 fel yr oedd mewn grym cyn y diwygiadau a wneir gan yr Offeryn hwn i’w trin fel pe baent yn parhau i gydymffurfio ag Offeryn 2016. Bydd y ddarpariaeth drosiannol ac arbedion yn peidio â chael effaith ar ôl 12 mis, heblaw mewn perthynas â’r marc ffordd sy’n dynodi’r terfyn cyflymder uchaf a fydd yn peidio â chael effaith ar ôl 5 mlynedd. Ni fydd y ddarpariaeth drosiannol ac arbedion yn gymwys i’r arwydd sy’n rhybuddio ynghylch camera cyflymder ymhellach ymlaen ar ffordd a gaiff ei goleuo ac sy’n atgoffa gyrwyr o derfyn cyflymder 30 mya.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Offeryn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Offeryn hwn.
1984 p. 27; diwygiwyd adran 64(1) a (2) gan adran 26(4)(a) o Ran 2 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Offeryn hwn. Ar gyfer y diffiniad o “relevant authority” gweler adran 64(6A) o Ddeddf 1984 (gyda’r diffiniad hwnnw wedi ei fewnosod gan adran 26(4)(b) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) fel mai ystyr “relevant authority” o ran Cymru yw Gweinidogion Cymru).
Amnewidiwyd adran 65(1) gan baragraff 48(2) o Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22); diwygiwyd adran 65(1) gan baragraff 37(2) o Ran 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Offeryn hwn. Ar gyfer y diffiniad o “relevant authority” gweler adran 65(5) o Ddeddf 1984 (gyda’r diffiniad hwnnw wedi ei fewnosod gan baragraff 37(6) o Ran 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) fel mai ystyr “relevant authority” o ran Cymru yw Gweinidogion Cymru).
Diwygiwyd adran 85(2) gan baragraff 62(3) o Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22); paragraff 30 o Atodlen 4 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p. 40); a pharagraff 89(2) o Atodlen 7 i Ddeddf Seilwaith 2015 (p. 7). Ar gyfer y diffiniad o “national authority” gweler adran 142(1) o Ddeddf 1984 (gyda’r diffiniad hwnnw wedi ei fewnosod gan adran 41(18) o Ddeddf yr Alban 2016 (p. 11) ac wedi ei ddiwygio gan adran 26(8) o Ran 2 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) fel mai ystyr “national authority” o ran Cymru yw Gweinidogion Cymru).
Rhan 1 o O.S. 2016/362.
Rhan 2 o O.S. 2016/362.