Offerynnau Statudol Cymru
Partneriaeth Gymdeithasol, Cymru
Gwnaed
11 Gorffennaf 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 48 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 29 Gorffennaf 2023—
(a)adran 1;
(b)adran 2;
(c)adran 3;
(d)adran 4;
(e)adran 5;
(f)adran 6;
(g)adran 7;
(h)adran 8;
(i)adran 11;
(j)adran 12;
(k)adran 13;
(l)adran 14;
(m)adran 46;
(n)adran 47;
(o)adran 49.
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2024—
(a)adran 15;
(b)adran 16;
(c)adran 18;
(d)adran 20.
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Gorffennaf 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (dsc 1) (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 29 Gorffennaf 2023—
(a)adran 1 (Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru);
(b)adran 2 (aelodaeth Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru);
(c)adran 3 (cynrychiolwyr cyflogwyr);
(d)adran 4 (cynrychiolwyr gweithwyr);
(e)adran 5 (enwebu aelodau penodedig);
(f)adran 6 (cyfnod penodiadau);
(g)adran 7 (cyfarfodydd, gweithdrefnau a chymorth gweinyddol);
(h)adran 8 (is-grwpiau);
(i)adran 11 (cyfarfod o bell);
(j)adran 12 (treuliau);
(k)adran 13 (pwerau atodol);
(l)adran 14 (dehongli Rhan 1);
(m)adran 46 (dehongli cyffredinol);
(n)adran 47 (mân ddiwygiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2));
(o)adran 49 (enw byr).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2024—
(a)adran 15 (trosolwg o’r Rhan a dehongli);
(b)adran 16 (dyletswydd partneriaeth gymdeithasol);
(c)adran 18 (adroddiadau partneriaeth gymdeithasol);
(d)adran 20 (gwaith teg).