xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Gorffennaf 2023.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “ailddefnyddio” yr ystyr a roddir i “re-use” yn Erthygl 3(13) o’r Gyfarwyddeb Wastraff;

mae i “ailgylchu” yr ystyr a roddir i “recycling” yn Erthygl 3(17) o’r Gyfarwyddeb Wastraff;

mae i “alcohol” yr un ystyr ag sydd i “alcohol” yn adran 191 o Ddeddf 2003 ac mae “alcoholig” i’w ddehongli yn unol â hynny;

mae i “awdurdod casglu gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste collection authority” yn adran 30(3) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(1);

mae i “awdurdod gwaredu gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste disposal authority” yn adran 30(2) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—

(a)

awdurdod casglu gwastraff;

(b)

awdurdod gwaredu gwastraff;

ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw blwyddyn galendr y mae person yn gynhyrchydd mewn cysylltiad â hi;

mae i “busnes gweithredu tafarn” (“pub operating business”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 9(2);

ystyr “categori o becynwaith” (“packaging category”) yw un o’r categorïau y cyfeirir atynt yn rheoliad 6(4);

ystyr “CNC” (“NRW”) yw Cyfoeth Naturiol Cymru;

mae i “cyflenwi” (“supplies”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10(1);

ystyr “cyfnod casglu data” (“data collection period”) yw—

(a)

y cyfnod o’r dyddiad y mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym tan 31 Rhagfyr 2023, a

(b)

mewn blynyddoedd dilynol, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr;

mae i “cynhyrchydd” (“producer”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8;

mae i “cynhyrchydd bach” (“small producer”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 11(2);

mae i “cynhyrchydd mawr” (“large producer”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 11(1);

ystyr “cynllun cofrestredig” (“registered scheme”) yw cynllun sydd wedi ei gofrestru yn unol â Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pecynwaith) 2007(2);

ystyr “cytundeb gweithredu tafarn” (“pub operating agreement”) yw cytundeb neu nifer o gytundebau cysylltiedig y mae un person (y busnes gweithredu tafarn) yn rhoi ynddo neu odano, neu ynddynt neu odanynt, denantiaeth neu les mangre i berson arall (y tenant) sy’n cynnwys rhwymedigaeth (pa un a’i mynegir fel rhwymedigaeth gadarnhaol neu fel rhwymedigaeth negyddol) ar y tenant i brynu rhywfaint neu’r cyfan o’r alcohol neu’r ddiod alcoholig (yn ôl y digwydd), i’w werthu neu i’w gyflenwi fel arall, neu i’w gwerthu neu i’w chyflenwi fel arall, yn y fangre neu o’r fangre, oddi wrth y busnes gweithredu tafarn neu oddi wrth berson neu bersonau a enwebwyd neu a awdurdodwyd gan neu ar ran y busnes hwnnw;

ystyr “cytundeb trwyddedu” (“licence agreement”) yw cytundeb neu nifer o gytundebau cysylltiedig y mae’r trwyddedwr yn rhoi ynddo neu odano, neu ynddynt neu odanynt, drwydded i’r trwyddedai sy’n caniatáu i’r trwyddedai ddefnyddio nod masnach fel enw y mae’r trwyddedai yn gwerthu odano o’r fangre nwyddau sy’n gysylltiedig â’r nod masnach hwnnw, ac mae’n cynnwys rhwymedigaeth (pa un a’i mynegir fel rhwymedigaeth gadarnhaol neu fel rhwymedigaeth negyddol) ar y trwyddedai sy’n ymwneud â diwyg y fangre honno;

ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw person sy’n cyflenwi pecynwaith y gellir ei ailddefnyddio i ddefnyddiwr y pecynwaith hwnnw pan fo’r cyflenwi’n digwydd drwy roi’r pecynwaith ar log neu ar fenthyg;

ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Trwyddedu 2003(3);

ystyr “deunydd cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr” (“fibre-based composite material”) yw deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapur-fwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw;

ystyr “deunyddiau pecynwaith” (“packaging materials”) yw deunyddiau a ddefnyddir i weithgynhyrchu pecynwaith ac mae’n cynnwys deunyddiau crai a deunyddiau wedi eu prosesu cyn eu troi’n becynwaith;

mae i “diod” (“drink”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;

ystyr “dosbarthwr” (“distributor”) yw person sy’n gweithgynhyrchu neu’n mewnforio pecynwaith nas llanwyd ac yn cyflenwi’r pecynwaith hwnnw i berson arall;

mae i “gwaredu” yr ystyr a roddir i “disposal” yn Erthygl 3(19) o’r Gyfarwyddeb Wastraff;

mae i “gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste” yn Erthygl 3(1) o’r Gyfarwyddeb Wastraff, o’i darllen gydag Erthyglau 5 a 6 o’r Gyfarwyddeb honno;

ystyr “gwastraff pecynwaith” (“packaging waste”) yw pecynwaith neu ddeunydd pecynwaith sy’n wastraff ond nid yw’n cynnwys pecynwaith sy’n cael ei daflu ac yn dod yn wastraff y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

mae i “gwastraff pecynwaith perthnasol” (“relevant packaging waste”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 16(7);

ystyr “gweithredwr” (“operator”) mewn perthynas â marchnadle ar-lein yw’r person sy’n rheoli mynediad at y marchnadle ar-lein, a chynnwys y marchnadle hwnnw, ar yr amod bod y person yn ymwneud ag—

(a)

pennu unrhyw delerau ac amodau sy’n gymwys i werthu nwyddau,

(b)

prosesu, neu hwyluso’r gwaith o brosesu, taliadau am y nwyddau, ac

(c)

archebu neu ddanfon, neu hwyluso’r gwaith o archebu neu ddanfon, y nwyddau;

ystyr “gweithredwr marchnadle ar-lein” (“online marketplace operator”) yw gweithredwr gwefan, neu unrhyw gyfrwng arall y perir bod gwybodaeth ar gael dros y rhyngrwyd drwyddo, sy’n hwyluso gwerthu nwyddau drwy’r wefan neu’r cyfrwng arall gan bersonau heblaw’r gweithredwr, pa un a yw’r gweithredwr hefyd yn gwerthu nwyddau drwy’r marchnadle ar-lein ai peidio;

ystyr “gwerthwr” (“seller”) yw person sy’n cyflenwi pecynwaith i ddefnyddiwr neu dreuliwr y pecynwaith hwnnw, pa un a yw’r pecynwaith wedi ei lenwi pan gaiff ei gyflenwi ai peidio;

ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff(4), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2018/851(5), ac fel y’i darllenir yn unol â rheoliad 4;

ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw safle gwerthu y trinnir pecynwaith arno ac mae’n cynnwys unrhyw dir, cerbyd, llestr, offer symudol a stondin;

ystyr “mewnforiwr” (“importer”) yw—

(a)

y person sy’n gyfrifol am fewnforio pecynwaith wedi ei lenwi i’r Deyrnas Unedig, pa un a gyflenwir y pecynwaith hwnnw yn y pen draw ai peidio, neu

(b)

pan nad yw’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (a) o’r diffiniad hwn yn bresennol yn y Deyrnas Unedig, y person cyntaf yn y Deyrnas Unedig sy’n cymryd perchnogaeth o’r pecynwaith;

mae i “nod masnach” yr un ystyr ag a roddir i “trade mark” yn adran 1 o Ddeddf Nodau Masnach 1994(6);

ystyr “paciwr/llanwr” (“packer/filler”) yw person sy’n rhoi nwyddau mewn pecynwaith;

mae i “pecynwaith” (“packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6;

mae i “pecynwaith cartref” (“household packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7;

mae i “pecynwaith cludo” (“shipment packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(1)(d);

mae i “pecynwaith cynradd” (“primary packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(1)(a);

mae i “pecynwaith eilaidd” (“secondary packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(1)(b);

ystyr “pecynwaith esempt” (“exempt packaging”) yw pecynwaith sy’n esempt mewn perthynas â chynhyrchydd yn unol â rheoliad 12(2);

mae i “pecynwaith trydyddol” (“tertiary packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(1)(c);

mae i “pecynwaith wedi ei frandio” (“branded packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8(13);

ystyr “pecynwaith y gellir ei ailddefnyddio” (“reusable packaging”) yw pecynwaith sydd wedi ei gynllunio i gael ei ddefnyddio sawl gwaith drwy ei ail-lenwi neu ei ailddefnyddio at yr un diben y’i crëwyd ato;

mae i “perchennog brand” (“brand owner”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8(13) o’i ddarllen gyda rheoliad 8(3);

ystyr “person a gymeradwywyd” (“approved person”) yw person sydd wedi ei gymeradwyo am y tro o dan reoliad 24 at ddiben dilysu gwybodaeth a ddarperir gan gynhyrchydd—

(a)

i CNC o dan reoliad 17(4)(b);

(b)

i weithredwr cynllun o dan reoliad 19(2)(b)(ii);

ystyr “rheoleiddiwr y DU” (“UK regulator”) yw—

(a)

o ran Lloegr, Asiantaeth yr Amgylchedd,

(b)

o ran Cymru, CNC,

(c)

o ran yr Alban, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban, neu

(d)

o ran Gogledd Iwerddon, Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon;

ystyr “rhwymedigaethau adrodd am ddata” (“data reporting obligations”) yw’r rhwymedigaethau yn rheoliad 17;

ystyr “rhwymedigaethau casglu data” (“data collection obligations”) yw’r rhwymedigaethau yn rheoliad 16;

ystyr “tenant” (“tenant”) yw’r parti mewn cytundeb gweithredu tafarn y rhoddir y les neu’r denantiaeth mangre iddo;

ystyr “treuliwr” (“consumer”) yw unigolyn sy’n gweithredu at ddibenion sydd y tu allan i fasnach, busnes, crefft neu broffesiwn yr unigolyn hwnnw;

ystyr “trosiant”, mewn perthynas â pherson, yw ei drosiant fel y diffinnir “turnover” yn adran 539 o Ddeddf Cwmnïau 2006(7) ond fel pe bai’r cyfeiriadau at gwmni yn gyfeiriadau at y person hwnnw;

ystyr “trwyddedai” (“licensee”) yw’r parti mewn cytundeb trwyddedu y rhoddir trwydded i ddefnyddio nod masnach iddo;

mae i “trwyddedwr” (“licensor”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 9(1).

(2At ddibenion y diffiniad o “gweithredwr marchnadle ar-lein”, mae marchnadle ar-lein yn hwyluso gwerthu nwyddau os yw’n caniatáu i berson—

(a)cynnig nwyddau ar werth, a

(b)ymrwymo i gontract ar gyfer gwerthu’r nwyddau hynny.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)caniateir i unrhyw ddogfen sydd i’w darparu neu ei rhoi i unrhyw berson gael ei darparu neu ei rhoi i’r person hwnnw drwy ddulliau electronig os oes modd i’r person hwnnw atgynhyrchu’r ddogfen honno ar ffurf ddarllenadwy;

(b)caniateir bodloni ar ffurf electronig unrhyw ofyniad i wneud, cadw neu ddal gafael ar gofnod neu i gadw cofrestr os oes modd i’r testun gael ei gynhyrchu gan y person sy’n ddarostyngedig i’r gofyniad ar ffurf ddogfennol ddarllenadwy;

(c)caniateir bodloni unrhyw ofyniad am lofnod drwy lofnod electronig wedi ei ymgorffori yn y ddogfen, ac at y dibenion hyn, ystyr “llofnod electronig” yw data ar ffurf electronig sydd wedi ei atodi i ddata arall ar ffurf electronig, neu sy’n rhesymegol gysylltiedig â data arall ar ffurf electronig, ac a ddefnyddir gan y llofnodwr i lofnodi.

Ymsefydlu yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, mae person wedi ymsefydlu—

(a)yng Nghymru—

(i)os yw’r person hwnnw’n preswylio fel arfer yng Nghymru, neu

(ii)os yw swyddfa gofrestredig y person hwnnw, neu os nad oes ganddo swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa, neu ei brif fan busnes, yng Nghymru, neu

(iii)os yw paragraff (2) yn gymwys;

(b)yn y Deyrnas Unedig—

(i)os yw’r person hwnnw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, neu

(ii)os yw swyddfa gofrestredig y person hwnnw, neu os nad oes ganddo swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa, neu ei brif fan busnes, yn y Deyrnas Unedig.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw swyddfa gofrestredig y person hwnnw, neu os nad oes ganddo swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa, neu ei brif fan busnes, y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

(b)os oes gan y person hwnnw gangen neu gyfeiriad post yng Nghymru, ac

(c)os nad yw’r person hwnnw wedi rhoi hysbysiad i CNC o dan baragraff (3).

(3Pan fo gan berson y mae paragraff (2)(a) yn gymwys iddo gangen neu gyfeiriad post yng Nghymru ac mewn un wlad arall neu ragor yn y Deyrnas Unedig, caiff y person hwnnw ddewis cael ei drin fel pe bai wedi ymsefydlu yn un o’r gwledydd eraill hynny yn hytrach nag yng Nghymru drwy roi hysbysiad i CNC.

(4Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (3) bennu’r wlad y mae’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn dymuno cael ei drin fel pe bai wedi ymsefydlu ynddi at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(5Pan gaiff CNC hysbysiad o ddewis o dan baragraff (3), rhaid iddo hysbysu rheoleiddiwr y DU yn y wlad a bennir yn yr hysbysiad.

Addasiadau i’r Gyfarwyddeb Wastraff

4.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae’r Gyfarwyddeb Wastraff i’w darllen yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Mae cyfeiriad at un neu ragor o Aelod-wladwriaethau mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth neu’n rhoi disgresiwn i Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr awdurdod, yr asiantaeth neu’r awdurdod lleol a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn gyfrifol am gydymffurfedd y Deyrnas Unedig â’r rhwymedigaeth honno neu’n gallu arfer y disgresiwn hwnnw.

(3Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “Member States shall take appropriate measures to ensure that” wedi ei hepgor;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.  Any decision as to whether a substance or object is a by-product must be made—

(a)in accordance with any regulations setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific substances or objects; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)paragraffau 2 a 3 wedi eu hepgor.

(4Mae Erthygl 6 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “Member States shall take appropriate measures to ensure that” wedi ei hepgor;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.  Any decision as to whether a substance or object has ceased to be waste must be made—

(a)in accordance with any regulations or retained direct EU legislation setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific types of waste; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)ym mharagraff 2—

(i)yr is-baragraff cyntaf wedi ei hepgor;

(ii)yn yr ail is-baragraff, “Any detailed criteria set out in guidance as referred to in paragraph 1A” wedi ei roi yn lle “Those detailed criteria”;

(iii)y trydydd a’r pedwerydd is-baragraff wedi eu hepgor;

(d)paragraff 3 wedi ei hepgor;

(e)ym mharagraff 4—

(i)yn yr is-baragraff cyntaf—

(aa)yn y frawddeg gyntaf, “Where criteria have not been set out as referred to in paragraph 1A(a), the Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle’r geiriau o’r dechrau hyd at “Member State”;

(bb)yr ail frawddeg wedi ei hepgor;

(ii)yn yr ail is-baragraff—

(aa)“The Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle “Member States”;

(bb)“by competent authorities” wedi ei hepgor.

Diod

5.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, ac eithrio yn rheoliad 12(4), ystyr diod yw—

(a)dŵr sy’n addas i’w yfed gan bobl,

(b)diod sy’n addas i’w hyfed gan bobl,

(c)diod chwaraeon sy’n addas i’w hyfed gan bobl, neu

(d)hylif sydd, o’i baratoi mewn dull penodedig, yn ffurfio diod sy’n addas i’w hyfed gan bobl (gan gynnwys, er enghraifft, cordial ffrwythau neu sgwash ffrwythau) neu ddiod chwaraeon.

(2Er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw paragraff (1)(d) yn gymwys i hylif nad yw’n cael ei ddefnyddio ond fel cyflasyn neu felysydd mewn hylif arall sydd ynddo’i hun yn ffurfio diod sy’n addas i’w hyfed gan bobl.

(3Mae hylif wedi ei baratoi mewn dull penodedig os yw—

(a)wedi ei wanedu,

(b)wedi ei gyfuno ag iâ mâl, neu wedi ei brosesu er mwyn creu iâ mâl,

(c)wedi ei gyfuno â charbon deuocsid, neu

(d)wedi ei baratoi drwy broses sy’n cynnwys unrhyw gyfuniad o’r prosesau a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (c).

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “diod chwaraeon” yw diod sy’n cael ei hysbysebu neu ei marchnata fel cynnyrch i wella perfformiad corfforol, ymadfer yn gynt ar ôl ymarfer corff neu fagu cyhyrau, neu ddiod arall debyg.

Pecynwaith a chategorïau o becynwaith

6.—(1Ystyr “pecynwaith”, at ddibenion y Rheoliadau hyn, yw pob cynnyrch sydd wedi ei wneud o unrhyw ddeunyddiau o unrhyw natur i’w ddefnyddio i gynnwys, diogelu, trin, danfon a chyflwyno nwyddau, o ddeunyddiau crai i nwyddau wedi eu prosesu, oddi wrth y cynhyrchydd at y defnyddiwr neu’r treuliwr, gan gynnwys eitemau na ellir eu dychwelyd a ddefnyddir at yr un dibenion, ond dim ond pan fo’r cynhyrchion yn—

(a)pecynwaith cynradd, sef pecynwaith a grëwyd i ffurfio uned werthu i’r defnyddiwr terfynol neu’r treuliwr terfynol yn y man prynu;

(b)pecynwaith eilaidd, sef pecynwaith a grëwyd i ffurfio grŵp o nifer penodol o unedau gwerthu yn y man prynu, pa un a yw’n cael ei gyflenwi yn y modd hwnnw i’r defnyddiwr terfynol neu’r treuliwr terfynol neu pa un a yw’n cael ei ddefnyddio fel ffordd o ail-lenwi’r silffoedd yn y man gwerthu yn unig; gellir ei dynnu ymaith o’r cynnyrch heb effeithio ar nodweddion y cynnyrch;

(c)pecynwaith trydyddol, sef pecynwaith a grëwyd i hwyluso trin a chludo nifer o unedau gwerthu neu becynwaith eilaidd er mwyn atal difrod wrth eu trin yn gorfforol a difrod wrth eu cludo, ac at ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw pecynwaith trydyddol yn cynnwys cynwysyddion a ddefnyddir ar y ffyrdd, ar y rheilffyrdd, ar longau ac yn yr awyr;

(d)pecynwaith cludo, sef pecynwaith a ychwanegir yn ogystal â phecynwaith cynradd, ar eitemau sy’n cael eu gwerthu ar-lein neu drwy archeb drwy’r post naill ai a ddanfonir yn uniongyrchol i’r prynwr neu a gesglir gan y prynwr o siop neu o fan casglu arall ar ôl iddynt gael eu prynu.

(2Mae’r eitemau a ganlyn hefyd i’w trin fel pecynwaith ar sail y meini prawf a nodir isod—

(a)eitemau sy’n bodloni’r diffiniad ym mharagraff (1), heb ragfarnu swyddogaethau eraill y gall yr eitem eu cyflawni, oni bai bod yr eitem yn rhan annatod o gynnyrch ac yn angenrheidiol er mwyn cynnwys, cynnal neu gadw’r cynnyrch hwnnw drwy gydol ei oes ac y bwriedir i bob elfen gael ei defnyddio, ei threulio neu ei gwaredu gyda’i gilydd;

(b)eitemau a gynlluniwyd ac a fwriadwyd i gael eu llenwi yn y man gwerthu ac eitemau tafladwy a gyflenwir, a lenwir neu a gynlluniwyd ac a fwriadwyd i gael eu llenwi yn y man gwerthu, ar yr amod eu bod yn cyflawni swyddogaeth pecynwaith a ddisgrifir ym mharagraff (1);

(c)ystyrir bod cydrannau pecynwaith ac elfennau ategol sydd wedi eu hintegreiddio mewn pecynwaith yn rhan o’r pecynwaith y maent wedi eu hintegreiddio ynddo, ac ystyrir bod elfennau ategol sydd wedi eu hongian yn uniongyrchol ar gynnyrch, neu sydd ynghlwm wrth gynnyrch, sy’n cyflawni swyddogaeth pecynwaith yn becynwaith oni bai eu bod yn rhan annatod o’r cynnyrch ac y bwriedir i bob elfen gael ei defnyddio, ei threulio neu ei gwaredu gyda’i gilydd.

(3Mae Atodlen 5 i Reoliadau Pecynwaith (Gofynion Hanfodol) 2015(8) yn cynnwys enghreifftiau eglurhaol o gymhwyso’r meini prawf a nodir ym mharagraff (2).

(4At ddiben y Rheoliadau hyn, mae pecynwaith a gwastraff pecynwaith i’w trin fel pe baent yn dod o fewn un o’r categorïau o becynwaith a ganlyn, yn dibynnu ar y deunydd y gwnaed y pecynwaith ohono—

(a)alwminiwm,

(b)deunyddiau cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr,

(c)gwydr,

(d)papur neu gardbord,

(e)plastig,

(f)dur,

(g)pren, neu

(h)deunyddiau eraill.

(5Mae deunyddiau pecynwaith sydd wedi eu ffurfio o gyfuniad o’r deunyddiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) (“deunyddiau paragraff (4)”) i’w trin fel pe baent wedi eu gwneud o’r deunydd sy’n pwyso fwyaf, oni bai bod paragraff (6) yn gymwys.

(6Pan fo deunyddiau pecynwaith wedi eu ffurfio o gyfrannau cyfartal o gyfuniad o ddeunyddiau paragraff (4) gwahanol, mae pob deunydd y mae’r deunyddiau pecynwaith wedi eu ffurfio ohono i’w drin ar wahân at ddiben y Rheoliadau hyn.

Pecynwaith cartref

7.—(1Yn y Rheoliadau hyn, “pecynwaith cartref” yw pecynwaith cynradd neu becynwaith cludo nad yw’n cael ei gyflenwi i fusnes sy’n ddefnyddiwr terfynol y pecynwaith hwnnw.

(2Mae pob pecynwaith cynradd a phecynwaith cludo i’w drin fel pecynwaith cartref oni bai bod y cynhyrchydd sy’n cyflenwi’r pecynwaith hwnnw’n gallu darparu tystiolaeth ei fod wedi ei gyflenwi i fusnes nad yw’n cyflenwi i unrhyw berson arall—

(a)y pecynwaith, neu

(b)y cynnyrch y mae’r pecynwaith yn ei gynnwys ar ei ffurf becynedig.

(3At ddibenion paragraff (2), mae cynnyrch i’w drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi ar ei ffurf becynedig oni bai bod yr holl becynwaith wedi ei dynnu ymaith o’r cynnyrch cyn ei gyflenwi i ddefnyddiwr terfynol y cynnyrch hwnnw.

(4Caiff CNC ddyroddi canllawiau ar y dystiolaeth y caniateir ei defnyddio i ddangos bod pecynwaith cynradd neu becynwaith cludo yn cael ei gyflenwi i fusnes sy’n ddefnyddiwr terfynol y pecynwaith.

Cynhyrchwyr

8.—(1Mae person yn gynhyrchydd mewn perthynas â phecynwaith a bennir yn y Rheoliadau hyn—

(a)os yw wedi ymsefydlu yng Nghymru, a

(b)os yw’n cyflawni yn unrhyw un neu ragor o wledydd y Deyrnas Unedig swyddogaethau un neu ragor o’r canlynol mewn perthynas â phecynwaith, naill ai ar ei ran ei hun, neu drwy asiant yn gweithredu ar ei ran, ac yng nghwrs busnes—

(i)perchennog brand,

(ii)paciwr/llanwr,

(iii)mewnforiwr,

(iv)dosbarthwr,

(v)gweithredwr marchnadle ar-lein,

(vi)darparwr gwasanaeth, neu

(vii)gwerthwr.

Perchennog brand

(2Oni bai bod paragraff (6) yn gymwys, ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae perchennog brand yn gynhyrchydd mewn perthynas ag—

(a)pecynwaith wedi ei lenwi y mae brand y person hwnnw yn ymddangos arno; a

(b)unrhyw becynwaith a gynhwysir o fewn pecynwaith wedi ei frandio, neu sy’n ffurfio rhan ohono (pa un a yw’r pecynwaith hwnnw wedi ei frandio ai peidio).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo mwy nag un brand yn ymddangos ar becynwaith wedi ei lenwi, mae perchennog y brand sy’n gwneud y cyflenwad cyntaf o’r pecynwaith wedi ei lenwi fel un uned werthu i’w drin fel y perchennog brand a’r cynhyrchydd mewn perthynas â’r pecynwaith hwnnw.

(4Pan fo nifer o gynhyrchion wedi eu brandio neu gynhyrchion nad ydynt wedi eu brandio (neu’r ddau) unigol gwahanol wedi eu grwpio gyda’i gilydd i’w gwerthu fel un uned werthu—

(a)mae’r perchennog brand ar gyfer cynnyrch wedi ei frandio unigol o fewn yr uned werthu yn gynhyrchydd mewn perthynas â’r pecynwaith wedi ei frandio ar y cynnyrch unigol hwnnw;

(b)mae’r paciwr/llanwr yn gynhyrchydd mewn perthynas ag unrhyw becynwaith nad yw wedi ei frandio o fewn yr uned werthu sy’n cael ei lenwi gan y paciwr/llanwr.

Paciwr/llanwr

(5Mae paciwr/llanwr yn gynhyrchydd mewn perthynas ag unrhyw becynwaith wedi ei lenwi—

(a)sydd wedi ei lenwi gan y paciwr/llanwr, a

(b)nad oes perchennog brand ar ei gyfer.

(6Mae paciwr/llanwr hefyd yn gynhyrchydd—

(a)pan—

(i)bo’r paciwr/llanwr wedi llenwi pecynwaith,

(ii)bo’r paciwr/llanwr wedi rhoi brand ar y pecynwaith er mwyn cynorthwyo gyda dosbarthu, ac nid ar gais y perchennog brand, a

(iii)na fo unrhyw frand arall ar y pecynwaith;

(b)ar gyfer unrhyw becynwaith y mae’r paciwr/llanwr yn ei ychwanegu at becynwaith wedi ei frandio ac eithrio ar gais y perchennog brand.

Mewnforiwr

(7Mae mewnforiwr yn gynhyrchydd mewn perthynas ag unrhyw becynwaith wedi ei lenwi a fewnforir i’r Deyrnas Unedig gan y mewnforiwr sydd—

(a)yn becynwaith trydyddol, neu’n becynwaith eilaidd, neu

(b)yn becynwaith arall—

(i)pan nad oes perchennog brand ar ei gyfer,

(ii)pan nad yw’r perchennog brand yn gyfrifol am fewnforio’r pecynwaith,

(iii)pan fo’r perchennog brand yn gyfrifol am fewnforio’r pecynwaith, ond nad yw’n gynhyrchydd mawr o dan y Rheoliadau hyn, neu

(iv)pan nad yw’r perchennog brand wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig.

(8Mae mewnforiwr hefyd yn gynhyrchydd mewn perthynas ag unrhyw becynwaith a fewnforir gan y mewnforiwr i’r Deyrnas Unedig, a’i daflu yno.

Dosbarthwr

(9Mae dosbarthwr yn gynhyrchydd mewn perthynas ag unrhyw becynwaith nas llanwyd sydd—

(a)yn cael ei weithgynhyrchu neu ei fewnforio gan y dosbarthwr, a

(b)yn cael ei gyflenwi i berson nad yw’n gynhyrchydd mawr sy’n ddarostyngedig i rwymedigaethau o dan reoliad 15(4)(b) neu (3)(b),

ac eithrio pan fo perchennog brand yn cael ei drin fel cynhyrchydd y pecynwaith hwnnw ar ôl iddo gael ei lenwi.

Gweithredwr marchnadle ar-lein

(10Mae gweithredwr marchnadle ar-lein yn gynhyrchydd mewn perthynas ag—

(a)unrhyw becynwaith ar eitemau a werthir yn ei farchnadle ar-lein gan berson, sy’n gweithredu yng nghwrs busnes, nad yw wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig, a

(b)unrhyw becynwaith nas llanwyd a gyflenwir yn ei farchnadle ar-lein—

(i)gan berson, sy’n gweithredu yng nghwrs busnes, nad yw wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig;

(ii)i fusnes nad yw’n gynhyrchydd mawr sy’n ddarostyngedig i rwymedigaethau o dan reoliad 15(4)(b) neu (3)(b);

ar yr amod y daw’r pecynwaith i law yn y Deyrnas Unedig.

Darparwr gwasanaeth

(11Mae darparwr gwasanaeth yn gynhyrchydd mewn perthynas ag unrhyw becynwaith y gellir ei ailddefnyddio, y tro cyntaf y cyflenwir y pecynwaith hwnnw, ond nid fel arall.

Gwerthwr

(12Mae gwerthwr pecynwaith wedi ei lenwi i dreuliwr y pecynwaith hwnnw yn gynhyrchydd mewn perthynas â’r pecynwaith hwnnw, ac at y dibenion hyn, y treuliwr yw’r person sy’n defnyddio’r pecynwaith o dan sylw ddiwethaf cyn ei daflu.

(13Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “brand” (“brand”) yw enw brand, nod masnach neu farc nodweddiadol arall;

ystyr “pecynwaith wedi ei frandio” (“branded packaging”) yw pecynwaith y mae brand y perchennog brand yn ymddangos arno;

ystyr “perchennog brand” (“brand owner”), yn ddarostyngedig i baragraff (3), yw person y mae ei frand yn ymddangos ar eitem o becynwaith wedi ei lenwi.

(14At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn gweithredu “yng nghwrs busnes” os yw’n gweithredu yng nghwrs arferol cynnal masnach, galwedigaeth neu broffesiwn.

Ystyr ymadroddion sy’n ymwneud â thrwyddedwyr a busnesau gweithredu tafarn

9.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person (“T”) yn drwyddedwr pan fo T yn barti mewn cytundeb trwyddedu y mae T yn rhoi ynddo neu odano drwydded i rywun arall i ddefnyddio nod masnach.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) yn fusnes gweithredu tafarn pan fo—

(a)P yn barti mewn cytundeb gweithredu tafarn y mae P yn rhoi ynddo neu odano les neu denantiaeth mangre yng Nghymru i rywun arall,

(b)y fangre honno yn cael ei defnyddio gan y tenant er mwyn cynnal gweithgarwch—

(i)gwerthu drwy fanwerthu alcohol i’w yfed yn y fangre, neu yn y fangre a heb fod yn y fangre, neu

(ii)cyflenwi alcohol drwy neu ar ran clwb i aelod o’r clwb, neu ar orchymyn aelod o’r clwb, neu’r ddau, i’w yfed yn y fangre, neu yn y fangre a heb fod yn y fangre, ac

(c)trwydded mangre mewn grym mewn cysylltiad â’r fangre.

(3Yn y rheoliad hwn—

mae i “cyflenwi alcohol” yr un ystyr ag sydd i “supply of alcohol” yn adran 14 o Ddeddf 2003;

mae i “gwerthu drwy fanwerthu” mewn perthynas ag unrhyw alcohol yr un ystyr ag sydd i “sale by retail” yn adran 192 o Ddeddf 2003;

mae i “trwydded mangre” yr un ystyr ag sydd i “premises licence” yn adran 11 o Ddeddf 2003.

Cyflenwi

10.—(1Yn y Rheoliadau hyn, mae person yn “cyflenwi” pecynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith os yw’r person hwnnw’n gwneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol, naill ai ei hun neu drwy asiant yn gweithredu ar ei ran, mewn perthynas â phecynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith sy’n eiddo i’r person hwnnw—

(a)ei werthu neu eu gwerthu, ei roi neu eu rhoi ar log, neu ei roi neu eu rhoi ar fenthyg,

(b)ei ddarparu neu eu darparu yn gyfnewid am unrhyw gydnabyddiaeth heblaw arian,

(c)ei ddarparu neu eu darparu wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth statudol, neu mewn cysylltiad â hynny, neu

(d)ei roi neu eu rhoi yn wobr neu yn rhodd fel arall.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae mewnforiwr i’w drin fel pe bai’n “cyflenwi” pecynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith y mae’r mewnforiwr yn ei fewnforio neu’n eu mewnforio i’r Deyrnas Unedig ac yn ei daflu neu’n eu taflu yno.

(3Pan fo’r pecynwaith neu’r deunyddiau pecynwaith yn eiddo i berson nad oes ganddo swyddfa gofrestredig neu brif fan busnes yn y Deyrnas Unedig, mae cyflenwi yn digwydd pan fo person sydd wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig yn cyflawni unrhyw un neu ragor o’r gweithredoedd ym mharagraff (1) ar ran y perchennog mewn perthynas â’r pecynwaith hwnnw neu’r deunyddiau pecynwaith hynny.

(4Pan fo’r pecynwaith yn becynwaith brand, mae’r perchennog brand i’w drin at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai’n cyflenwi’r pecynwaith hwnnw hyd yn oed os nad yw’r perchennog brand yn cyflawni yr un o’r gweithredoedd a restrir ym mharagraff (1) mewn perthynas â’r pecynwaith.

(5Nid yw paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)unrhyw becynwaith a fewnforir i’r Deyrnas Unedig gan—

(i)mewnforiwr, oni bai bod y mewnforiwr yn gweithredu fel asiant i’r perchennog brand, neu

(ii)gweithredwr marchnadle ar-lein;

(b)unrhyw becynwaith y gellir ei ailddefnyddio a gyflenwir gan ddarparwr gwasanaeth.

Y meini prawf trothwy ar gyfer cynhyrchwyr mawr a bach

11.—(1Mae person yn gynhyrchydd mawr os yw’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (3) neu (5).

(2Mae person yn gynhyrchydd bach—

(a)os yw’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (4), ond nid y rhai ym mharagraff (3), neu

(b)os yw’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (6), ond nid y rhai ym mharagraff (5).

(3Mae person yn bodloni’r meini prawf yn y paragraff hwn—

(a)os oedd trosiant y person hwnnw yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf—

(i)y mae cyfrifon archwiliedig ar gael mewn cysylltiad â hi, neu

(ii)pan nad yw cyfrifon archwiliedig yn ofynnol ar gyfer y person hwnnw, y mae cyfrifon ar gael mewn cysylltiad â hi,

cyn y dyddiad perthnasol yn fwy na £2,000,000, a

(b)os triniodd y person yn y flwyddyn gyfrifo gyfanswm o fwy na 50 tunnell o becynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith.

(4Mae person yn bodloni’r meini prawf yn y paragraff hwn—

(a)os oedd trosiant y person hwnnw yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf—

(i)y mae cyfrifon archwiliedig ar gael mewn cysylltiad â hi, neu

(ii)pan nad yw cyfrifon archwiliedig yn ofynnol ar gyfer y person hwnnw, y mae cyfrifon ar gael mewn cysylltiad â hi,

cyn y dyddiad perthnasol yn fwy nag £1,000,000, a

(b)os triniodd y person yn y flwyddyn gyfrifo gyfanswm o fwy na 25 o dunelli o becynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith.

(5Mae pob cwmni mewn grŵp o gwmnïau sy’n gynhyrchydd yn bodloni’r meini prawf yn y paragraff hwn—

(a)os oedd cyfanswm trosiannau’r cwmnïau yn y grŵp sy’n gynhyrchwyr yn fwy na £2,000,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf y mae cyfrifon archwiliedig ar gael mewn cysylltiad â hi cyn y dyddiad perthnasol, a

(b)os yw cyfanswm y symiau o becynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith a driniwyd gan bob un o’r cwmnïau hynny yn y flwyddyn gyfrifo yn fwy na 50 tunnell o becynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith.

(6Mae pob cwmni mewn grŵp o gwmnïau sy’n gynhyrchydd yn bodloni’r meini prawf yn y paragraff hwn—

(a)os oedd cyfanswm trosiannau’r cwmnïau yn y grŵp sy’n gynhyrchwyr yn fwy nag £1,000,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf y mae cyfrifon archwiliedig ar gael mewn cysylltiad â hi cyn y dyddiad perthnasol, a

(b)os yw cyfanswm y symiau o becynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith a driniwyd gan bob un o’r cwmnïau hynny yn y flwyddyn gyfrifo yn fwy na 25 o dunelli o becynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith.

(7Pan fo person (“CU”) yn gorff corfforedig a ffurfiwyd drwy uno dau neu ragor o gyrff corfforedig—

(a)mae trosiant CU ym mlwyddyn yr uno i’w gyfrifo at ddibenion y rheoliad hwn fel swm trosiannau, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, bob cwmni sydd wedi ei uno, a

(b)mae CU i’w drin fel pe bai wedi trin ym mlwyddyn yr uno gyfanswm y swm o becynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith a driniwyd gan bob un o’r cwmnïau hynny yn y flwyddyn gyfrifo.

(8Pan fo asedau ac atebolrwyddau corff corfforedig (“CC”) wedi eu rhannu rhwng dau neu ragor o gyrff corfforedig (“cyrff newydd”), ac nad oes cyfrifon archwiliedig ar gael eto ar gyfer y cyrff newydd—

(a)mae pob corff newydd i’w drin fel pe bai ganddo drosiant sy’n hafal i—

formula

pan—

(i)

“A” yw gwerth asedau’r corff newydd yn dilyn y rhannu,

(ii)

“XA” yw gwerth asedau CC cyn y rhannu, a

(iii)

“XT” yw trosiant CC yn y flwyddyn cyn blwyddyn y rhannu, a

(b)mae pob corff newydd i’w drin fel pe bai wedi trin swm o becynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith sy’n hafal i—

formula

pan fo i “A” ac “XA” yr ystyr a roddir yn is-baragraff (a), ac ystyr “XP” yw swm y pecynwaith neu’r deunyddiau pecynwaith a driniwyd gan CC yn y flwyddyn cyn blwyddyn y rhannu.

(9At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae cyfrifon archwiliedig i’w trin fel pe baent ar gael, pan fo’r person yn gwmni, pan fo cyfrifon blynyddol wedi eu danfon i’r cofrestrydd o dan adran 441 o Ddeddf Cwmnïau 2006;

(b)“blwyddyn y rhannu” yw’r flwyddyn galendr y rhannwyd ynddi asedau ac atebolrwyddau CC rhwng dau neu ragor o gwmnïau;

(c)ystyr y “dyddiad perthnasol” yw 7 Ebrill mewn blwyddyn rwymedigaeth;

(d)ystyr “grŵp o gwmnïau” yw cwmni daliannol ac un neu ragor o is-gwmnïau, ac at y diben hwn, mae i “is-gwmni” a “cwmni daliannol” yr un ystyr ag sydd i “subsidiary” a “holding company” yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

(10At ddibenion y rheoliad hwn, y swm o becynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith a drinnir gan berson (“P”) yw’r swm a gyflenwir yn unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig y mae P yn gynhyrchydd mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 8, wedi ei gyfrifo mewn tunelli i’r dunnell agosaf—

(a)gan gynnwys pecynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith a fewnforiwyd i’r Deyrnas Unedig gan P, neu gan asiant yn gweithredu ar ran P (ac at y dibenion hyn, mae pecynwaith yn cynnwys pecynwaith y gellir ei ailddefnyddio y tro cyntaf y defnyddir y pecynwaith hwnnw);

(b)heb gynnwys pecynwaith esempt.

(11Os yw P yn cyflawni dwy neu ragor o swyddogaethau fel cynhyrchydd o dan reoliad 8 mewn perthynas â’r pecynwaith—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), mae pob pecynwaith y mae P yn cyflawni swyddogaeth mewn perthynas ag ef i’w ystyried at ddibenion paragraffau (3)(b), (4)(b), (5)(b), (6)(b), (7)(b) ac (8)(b);

(b)os yw’r swyddogaethau a gyflawnir gan P yn cael eu cyflawni mewn perthynas â’r un pecynwaith, nid yw’r pecynwaith hwnnw ond i’w ystyried unwaith at ddibenion paragraffau (3)(b), (4)(b), (5)(b), (6)(b), (7)(b) ac (8)(b).

(12Yn y rheoliad hwn—

ystyr “blwyddyn gyfrifo” (“calculation year”) yw’r flwyddyn galendr cyn blwyddyn rwymedigaeth;

ystyr “blwyddyn rwymedigaeth” (“obligation year”) yw blwyddyn galendr yr ystyrir mewn cysylltiad â hi a yw person yn ddarostyngedig i ofynion casglu data neu ofynion casglu ac adrodd am ddata o dan y Rheoliadau hyn.

Pecynwaith esempt

12.—(1Nid yw cynhyrchydd yn ddarostyngedig i rwymedigaethau casglu data na rhwymedigaethau adrodd mewn perthynas ag unrhyw becynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith sy’n esempt mewn perthynas â’r cynhyrchydd hwnnw.

(2Mae pecynwaith a deunyddiau pecynwaith yn esempt mewn perthynas â chynhyrchydd (“C”) at ddibenion y Rheoliadau hyn, pan fo’r pecynwaith neu’r deunyddiau pecynwaith yn—

(a)pecynwaith sy’n cael ei ailddefnyddio sy’n becynwaith cynradd,

(b)gweddillion cynhyrchu o gynhyrchu pecynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith neu o unrhyw broses gynhyrchu arall a ddigwyddodd cyn i C drin y pecynwaith neu’r deunyddiau pecynwaith, neu sy’n digwydd wrth iddo wneud hynny neu ar ôl iddo wneud hynny,

(c)unrhyw becynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith a allforiwyd o’r Deyrnas Unedig gan C, gan gynnwys pecynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith a allforiwyd drwy asiant yn gweithredu ar ran C neu a allforiwyd fel arall, hyd y gŵyr C yn rhesymol, o’r Deyrnas Unedig (ac eithrio unrhyw becynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith a allforiwyd o’r Deyrnas Unedig i osodiad morol),

(d)pecynwaith sy’n cael ei ailddefnyddio sy’n becynwaith eilaidd neu drydyddol, ac eithrio unrhyw becynwaith sy’n cael ei ailddefnyddio o’r fath a fewnforiwyd i’r Deyrnas Unedig, neu

(e)pecynwaith sy’n becynwaith cynllun.

(3Ym mharagraff (2)(c), ystyr “gosodiad morol” yw unrhyw ynys artiffisial, gosodiad neu strwythur ar y môr, heblaw llestr.

(4Ym mharagraff (2)(e), ystyr “pecynwaith cynllun” yw pecynwaith ar gyfer eitem cynllun yr Alban a grëwyd neu a gynlluniwyd i ddod i gysylltiad uniongyrchol â diod (o fewn yr ystyr a roddir i “drink” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllun Ernes a Dychwelyd yr Alban 2020(9)) ac nid yw’n cynnwys pecynwaith a grëwyd neu a gynlluniwyd i grwpio ynghyd nifer o gydrannau mewn pecyn aml-gynnwys.

(5At ddibenion paragraff (4), ystyr “eitem cynllun yr Alban” yw “eitem cynllun” o fewn y diffiniad o “scheme article” a roddir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Cynllun Ernes a Dychwelyd yr Alban 2020, o’i ddarllen fel pe bai, ym mharagraff (b) o’r diffiniad hwnnw, “1 January 2023” wedi ei roi yn lle “16 August 2023”.

Eithrio elusennau rhag rhwymedigaethau casglu data ac adrodd am ddata

13.  Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i elusen, ac at y dibenion hyn, mae “elusen” yn cynnwys unrhyw beth sy’n elusen—

(a)o fewn yr ystyr a roddir i “charity” yn adran 1(1) o Ddeddf Elusennau 2011(10), neu

(b)at ddibenion adran 202 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010(11).

Analluedd etc.

14.—(1Pan fo cynhyrchydd, mewn blwyddyn berthnasol, yn marw, yn mynd yn fethdalwr neu’n dod yn analluog (“y cynhyrchydd cyntaf”), mae’r person hwnnw yn peidio â bod yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer y flwyddyn honno.

(2Mae unrhyw berson sy’n parhau â gweithgareddau’r cynhyrchydd cyntaf yn dilyn y digwyddiad hwnnw i’w drin fel cynhyrchydd ac mae i fod â rhwymedigaethau’r cynhyrchydd ar gyfer y flwyddyn honno a blynyddoedd wedi hynny.

(3Rhaid i unrhyw berson sy’n parhau â gweithgareddau’r cynhyrchydd cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (1), o fewn 28 o ddiwrnodau yn dechrau â’r diwrnod y mae’r person hwnnw’n dechrau gwneud hynny, hysbysu CNC yn ysgrifenedig am y ffaith honno ac am ddyddiad y farwolaeth, y dyddiad yr aed yn fethdalwr neu natur yr analluedd a’r dyddiad y dechreuodd barhau â gweithgareddau’r cynhyrchydd cyntaf.

(4Mewn perthynas â chynhyrchydd sy’n gwmni, mae’r cyfeiriadau at berson yn mynd yn fethdalwr neu’n dod yn analluog ym mharagraffau (1) a (3) i’w dehongli fel cyfeiriadau ato’n dod yn destun datodiad neu dderbynyddiad neu’n mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

(1)

1990 p. 43. Mae diwygiadau i adran 30 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

2003 p. 17. Diwygiwyd adran 191 gan adran 135 o Ddeddf Plismona a Throseddu 2017 (p. 3) ac O.S. 2006/2407.

(4)

OJ L312, 22.11.2008, t. 3.

(5)

OJ L150, 14.6.2018, t. 109.

(6)

1994 p. 26. Diwygiwyd adran 1 gan O.S. 2018/825.

(7)

2006 p. 46. Mae diwygiadau i adran 539 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S.A. 2020/154. Diwygiwyd rheoliadau 2(1) a 3(2) gan O.S.A. 2022/76.

(11)

2010 p. 4. Diwygiwyd adran 202 gan baragraff 27(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010 (p. 13), adran 35(5) o Ddeddf Cyllid 2014 (p. 26) ac O.S. 2012/964.