- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
15.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchydd (“C”) fel y’i diffinnir o dan reoliad 8(1).
(2) Os yw C yn gynhyrchydd bach neu fawr sy’n berchennog brand neu’n baciwr/llanwr, mae C yn ddarostyngedig i—
(a)y rhwymedigaethau casglu data yn rheoliad 16(2), a
(b)pan fo C yn gynhyrchydd mawr, y rhwymedigaethau adrodd am ddata yn rheoliad 17(1)(a) a (b).
(3) Os yw C yn gynhyrchydd bach neu fawr sy’n ddosbarthwr, yn fewnforiwr neu’n ddarparwr gwasanaeth, mae C yn ddarostyngedig i—
(a)y rhwymedigaethau casglu data yn rheoliad 16(3), a
(b)pan fo C yn gynhyrchydd mawr—
(i)sy’n fewnforiwr neu’n ddarparwr gwasanaeth, y rhwymedigaethau adrodd am ddata yn rheoliad 17(1)(a) a (b), neu
(ii)sy’n ddosbarthwr, y rhwymedigaethau adrodd am ddata yn rheoliad 17(1)(a) ac (c).
(4) Os yw C yn gynhyrchydd bach neu fawr sy’n weithredwr marchnadle ar-lein, mae C yn ddarostyngedig i—
(a)y rhwymedigaethau casglu data yn rheoliad 16(4), a
(b)pan fo C yn gynhyrchydd mawr, y rhwymedigaethau adrodd am ddata yn rheoliad 17(1)(a) a (d).
(5) Os yw C yn gynhyrchydd bach neu fawr sy’n werthwr, mae C yn ddarostyngedig i’r rhwymedigaethau casglu data yn rheoliad 16(5).
(6) Pan fo P yn gynhyrchydd bach neu fawr a bod P yn cyflawni mwy nag un swyddogaeth fel cynhyrchydd o dan reoliad 8 mewn perthynas â’r pecynwaith, mae P yn ddarostyngedig i’r rhwymedigaethau a osodir o dan baragraffau (2) i (5), i’r graddau y bônt yn berthnasol, mewn perthynas â phob swyddogaeth y mae P yn ei chyflawni.
(7) Os yw C yn gynhyrchydd sy’n drwyddedwr neu’n fusnes gweithredu tafarn, mae Atodlen 2 yn gymwys er mwyn pennu a yw C yn ddarostyngedig i’r rhwymedigaethau casglu data yn rheoliad 16(6).
(8) Nid yw paragraff (7) yn effeithio ar unrhyw rwymedigaethau sydd gan drwyddedwr neu fusnes gweithredu tafarn o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio o dan Atodlen 2.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: