RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
PENNOD 2Myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
4.
Ym mhob un o reoliadau 4(1B), 5(4), 6(5), 7(5) ac 8(4) yn lle “9B a 9BA” rhodder “9B, 9BA a 9E”.
5.
Yn yr Atodlen—
(a)
ym mharagraff 1—
(i)
yn y diffiniad o “family member” yn y testun Saesneg, yn lle “aelod o deulu” rhodder “aelod o’r teulu”;
(ii)
yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”, ym mharagraff (d), yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9E neu at ddibenion paragraffau 9C a 9D mewn perthynas â pherson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
(b)
ym mharagraff 9C(1)(a)—
(i)
yn is-baragraff (i), yn lle “yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “yn berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
(ii)
yn is-baragraff (ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu a fyddai’n berson o’r fath pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig”.