xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3. Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
4. Ym mhob un o reoliadau 4(1B), 5(4), 6(5), 7(5) ac 8(4) yn lle “9B a 9BA” rhodder “9B, 9BA a 9E”.
5. Yn yr Atodlen—
(a)ym mharagraff 1—
(i)yn y diffiniad o “family member” yn y testun Saesneg, yn lle “aelod o deulu” rhodder “aelod o’r teulu”;
(ii)yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”, ym mharagraff (d), yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9E neu at ddibenion paragraffau 9C a 9D mewn perthynas â pherson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
(b)ym mharagraff 9C(1)(a)—
(i)yn is-baragraff (i), yn lle “yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “yn berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
(ii)yn is-baragraff (ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu a fyddai’n berson o’r fath pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig”.
6. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9Ch(1)(a) yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.
O.S. 2007/2310 (Cy. 181); y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2021/481 (Cy. 148); O.S. 2021/1365 (Cy. 360) ac O.S. 2022/764 (Cy. 166).