RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
PENNOD 5Grantiau ar gyfer dibynyddion
58
Yn rheoliad 69(1)(c), yn lle “50%” rhodder “25%”.
59
Yn rheoliad 77—
a
ym mharagraff (1), yn lle—
i
“£6,159” rhodder “£6,272”;
ii
“£8,473” rhodder “£8,629”;
iii
“£9,632” rhodder “£9,809”;
iv
“£10,797” rhodder “£10,996”;
b
yn lle paragraff (2) rhodder—
2
Os yw cwrs presennol y myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser, swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(ii) neu (d)(ii) o Gam 4 o baragraff (1) wedi ei luosi ag—
- a
25%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 25% o leiaf ond yn llai na 30%;
- b
30%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 30% o leiaf ond yn llai na 40%;
- c
40%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 40% o leiaf ond yn llai na 50%;
- d
50%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 50% o leiaf ond yn llai na 60%;
- e
60%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 60% o leiaf ond yn llai na 75%;
- f
75%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 75% neu’n fwy.