Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

RHAN 6LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

PENNOD 1LL+CCyflwyniad

37.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 37 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2LL+CMyfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig

38.  Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “6BA,” mewnosoder “6BB,”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 38 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

39.  Yn rheoliad 44(1), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 39 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

40.  Yn rheoliad 54, yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 40 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

41.  Yn rheoliad 62(2), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 41 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

42.  Yn rheoliad 69(2), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 42 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

43.  Yn rheoliad 80(2)(b)(iii), yn lle “neu 6D(a)” rhodder “, 6D(1)(a) neu 6D(2)(a)”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 43 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

44.  Yn Atodlen 2—LL+C

(a)yn lle paragraff 1(2)(d) rhodder—

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—

(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)y tiriogaethau tramor.;

(b)ym mharagraff 4A—

(i)yn lle is-baragraff (1)(b) rhodder—

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor, pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.

(ii)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, ac;

(c)ym mharagraff 6A(1)(c)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(d)ym mharagraff 6A(1)(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(e)ym mharagraff 6A(2)(d), yn lle’r geiriau o “preswylio fel arfer” hyd at y diwedd rhodder—

preswylio fel arfer n union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—

(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)y tiriogaethau tramor.;

(f)ar ôl paragraff 6BA mewnosoder—

Categori 6BB – Personau o’r tiriogaethau tramor Prydeinig sydd wedi setlo

6BB.(1) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sydd—

(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol, ac

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 9(2).;

(g)yn lle paragraff 6D rhodder—

6D.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar, neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,

(b)sy’n ymgymryd—

(i)â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,

(b)sydd—

(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 9(2).;

(h)yn lle paragraff 7A(c) rhodder—

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, a;

(i)ym mharagraff 8A(1), yn lle paragraff (d) rhodder—

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.;

(j)ym mharagraff 9—

(i)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)

P,

(b)

priod neu bartner sifil P, neu

(c)

yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.;

(ii)yn lle is-baragraff (3) rhodder—

(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—

(a)

yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(b)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(c)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;

(d)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;

(e)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath;

(f)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.;

(k)ym mharagraff 11(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla, Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten), Aruba, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Mayotte, Montserrat, Polynesia Ffrengig, St Barthélemy, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), St Pierre a Miquelon, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc, Wallis a Futuna, Yr Ynys Las, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaro, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;;

ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Montserrat, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 44 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

45.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 4(1)(a)(i)—LL+C

(a)yn lle “6A(2)” rhodder “6A(2)(d)(i)”;

(b)hepgorer “6BA,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 45 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

46.  Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder y cofnodion a ganlyn—LL+C

“tiriogaethau tramor”Atodlen 2, paragraff 11(1)
“tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”Atodlen 2, paragraff 11(1)

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 46 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 3LL+CAelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo

47.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6C(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 47 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 4LL+CCymorth ariannol – codiadau

48.  Yn rheoliad 55, yn Nhabl 7—LL+C

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Categori 1Byw gartref£8,950
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£13,635
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£10,720
Categori 2Byw gartref£4,475
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£6,815
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£5,360

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 48 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

49.  Yn rheoliad 56—LL+C

(a)yn Nhabl 8—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Byw gartref£9,950
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£14,635
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£11,720

(b)yn Nhabl 8A—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Byw gartref£4,475
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£6,815
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£5,360

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 49 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

50.  Yn rheoliad 57(7), yn Nhabl 9—LL+C

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Byw gartref£93
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£179
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£141

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 50 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

51.  Yn rheoliad 58(2), yn Nhabl 10—LL+C

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023£7,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 51 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

52.  Yn rheoliad 58A(2), yn Nhabl 10A—LL+C

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023£8,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 52 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

53.  Yn rheoliad 63(2), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 53 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

54.  Yn rheoliad 72(2), yn Nhabl 11—LL+C

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023£3,322

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 54 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

55.  Yn rheoliad 74, yn Nhabl 12—LL+C

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023£1,896

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 55 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

56.  Yn rheoliad 76(2)—LL+C

(a)yn Nhabl 13—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Un plentyn dibynnol£187
Mwy nag un plentyn dibynnol£321

(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£141” rhodder “£144”.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 56 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

57.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(2), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 57 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 5LL+CGrantiau ar gyfer dibynyddion

58.  Yn rheoliad 69(1)(c), yn lle “50%” rhodder “25%”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 58 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

59.  Yn rheoliad 77—LL+C

(a)ym mharagraff (1), yn lle—

(i)“£6,159” rhodder “£6,272”;

(ii)“£8,473” rhodder “£8,629”;

(iii)“£9,632” rhodder “£9,809”;

(iv)“£10,797” rhodder “£10,996”;

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Os yw cwrs presennol y myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser, swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(ii) neu (d)(ii) o Gam 4 o baragraff (1) wedi ei luosi ag—

(a)

25%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 25% o leiaf ond yn llai na 30%;

(b)

30%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 30% o leiaf ond yn llai na 40%;

(c)

40%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 40% o leiaf ond yn llai na 50%;

(d)

50%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 50% o leiaf ond yn llai na 60%;

(e)

60%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 60% o leiaf ond yn llai na 75%;

(f)

75%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 75% neu’n fwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 59 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)