RHAN 7Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
PENNOD 2Myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
61
Yn rheoliad 3(2)(a), ar ôl “10BA,” mewnosoder “10BB,”.
62
Yn rheoliad 8(d), yn lle “neu 10D(1)(a)” rhodder “, 10D(1)(a) neu 10D(2)(a)”.
63
Yn Atodlen 1—
a
ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); Aruba; Bermuda; De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; Gibraltar; Mayotte; Montserrat; Polynesia Ffrengig; St Barthélemy; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension); St Pierre a Miquelon; Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Wallis a Futuna; Yr Ynys Las; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaro; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; ac Ynysoedd Turks a Caicos;
ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla; Bermuda; De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; Gibraltar; Montserrat; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension); Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; ac Ynysoedd Turks a Caicos;
b
yn lle paragraff 1(4) rhodder—
4
At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
a
A;
b
priod neu bartner sifil A; neu
c
yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.
c
yn lle paragraff 1(5) rhodder—
5
At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—
a
yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
b
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
c
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;
d
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;
e
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath; ac
f
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.
d
ym mharagraff 3(1)(d)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
e
ym mharagraff 7A(1)(c)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
f
ym mharagraff 8A(1)(b)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
g
ym mharagraff 10A(1)—
i
ym mharagraff (c)—
aa
hepgorer “Gibraltar,”;
bb
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
ii
ym mharagraff (d)—
aa
hepgorer “Gibraltar,”;
bb
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
h
ym mharagraff 10A(2)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
i
ar ôl paragraff 10BA mewnosoder—
10BB
1
Person—
a
sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
b
sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
d
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
e
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig; ac
f
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
2
Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 1(4).
j
yn lle paragraff 10D rhodder—
10D
1
Person—
a
sydd—
i
yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar; neu
ii
yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;
b
sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
d
yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
2
Person—
a
sydd—
i
yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu
ii
yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;
b
sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Awrdal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
d
yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
3
Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 1(4).
k
ym mharagraff 11A(d)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
l
ym mharagraff 12A—
i
yn is-baragraff (c)—
aa
hepgorer “Gibraltar,”;
bb
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
ii
yn is-baragraff (d)—
aa
hepgorer “Gibraltar,”;
bb
yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
m
ym mharagraff 13A(d)—
i
hepgorer “Gibraltar,”;
ii
yn lle “a Thwrci” rhodder “, Twrci a’r tiriogaethau tramor”.