xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
61. Yn rheoliad 3(2)(a), ar ôl “10BA,” mewnosoder “10BB,”.
62. Yn rheoliad 8(d), yn lle “neu 10D(1)(a)” rhodder “, 10D(1)(a) neu 10D(2)(a)”.
63. Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); Aruba; Bermuda; De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; Gibraltar; Mayotte; Montserrat; Polynesia Ffrengig; St Barthélemy; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension); St Pierre a Miquelon; Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Wallis a Futuna; Yr Ynys Las; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaro; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; ac Ynysoedd Turks a Caicos;”;
“ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla; Bermuda; De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; Gibraltar; Montserrat; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension); Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; ac Ynysoedd Turks a Caicos;”.
(b)yn lle paragraff 1(4) rhodder—
“(4) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
(a)A;
(b)priod neu bartner sifil A; neu
(c)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.”;
(c)yn lle paragraff 1(5) rhodder—
“(5) At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—
(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;
(d)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;
(e)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath; ac
(f)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.”;
(d)ym mharagraff 3(1)(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(e)ym mharagraff 7A(1)(c)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(f)ym mharagraff 8A(1)(b)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(g)ym mharagraff 10A(1)—
(i)ym mharagraff (c)—
(aa)hepgorer “Gibraltar,”;
(bb)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(ii)ym mharagraff (d)—
(aa)hepgorer “Gibraltar,”;
(bb)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(h)ym mharagraff 10A(2)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(i)ar ôl paragraff 10BA mewnosoder—
“10BB.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig; ac
(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 1(4).”;
(j)yn lle paragraff 10D rhodder—
“10D.—(1) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar; neu
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;
(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;
(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Awrdal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 1(4).”
(k)ym mharagraff 11A(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(l)ym mharagraff 12A—
(i)yn is-baragraff (c)—
(aa)hepgorer “Gibraltar,”;
(bb)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(ii)yn is-baragraff (d)—
(aa)hepgorer “Gibraltar,”;
(bb)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(m)ym mharagraff 13A(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a Thwrci” rhodder “, Twrci a’r tiriogaethau tramor”.