44. Yn Atodlen 2—LL+C
(a)yn lle paragraff 1(2)(d) rhodder—
“(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—
(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)y tiriogaethau tramor.”;
(b)ym mharagraff 4A—
(i)yn lle is-baragraff (1)(b) rhodder—
“(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor, pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.”
(ii)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—
“(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, ac”;
(c)ym mharagraff 6A(1)(c)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(d)ym mharagraff 6A(1)(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(e)ym mharagraff 6A(2)(d), yn lle’r geiriau o “preswylio fel arfer” hyd at y diwedd rhodder—
“preswylio fel arfer n union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—
(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)y tiriogaethau tramor.”;
(f)ar ôl paragraff 6BA mewnosoder—
“Categori 6BB – Personau o’r tiriogaethau tramor Prydeinig sydd wedi setlo
6BB.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b)sydd—
(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol, ac
(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 9(2).”;
(g)yn lle paragraff 6D rhodder—
“6D.—(1) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar, neu
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,
(b)sy’n ymgymryd—
(i)â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
(ii)â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,
(b)sydd—
(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 9(2).”;
(h)yn lle paragraff 7A(c) rhodder—
“(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, a”;
(i)ym mharagraff 8A(1), yn lle paragraff (d) rhodder—
“(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci, neu
(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.”;
(j)ym mharagraff 9—
(i)yn lle is-baragraff (2) rhodder—
“(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
P,
priod neu bartner sifil P, neu
yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.”;
(ii)yn lle is-baragraff (3) rhodder—
“(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—
yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath;
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.”;
(k)ym mharagraff 11(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla, Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten), Aruba, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Mayotte, Montserrat, Polynesia Ffrengig, St Barthélemy, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), St Pierre a Miquelon, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc, Wallis a Futuna, Yr Ynys Las, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaro, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;”;
“ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Montserrat, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 44 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)