xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

PENNOD 5Grantiau ar gyfer dibynyddion

59.  Yn rheoliad 77—

(a)ym mharagraff (1), yn lle—

(i)“£6,159” rhodder “£6,272”;

(ii)“£8,473” rhodder “£8,629”;

(iii)“£9,632” rhodder “£9,809”;

(iv)“£10,797” rhodder “£10,996”;

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Os yw cwrs presennol y myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser, swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(ii) neu (d)(ii) o Gam 4 o baragraff (1) wedi ei luosi ag—

(a)

25%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 25% o leiaf ond yn llai na 30%;

(b)

30%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 30% o leiaf ond yn llai na 40%;

(c)

40%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 40% o leiaf ond yn llai na 50%;

(d)

50%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 50% o leiaf ond yn llai na 60%;

(e)

60%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 60% o leiaf ond yn llai na 75%;

(f)

75%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 75% neu’n fwy.