Offerynnau Statudol Cymru
2023 Rhif 953 (Cy. 155)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023
Gwnaed
1 Medi 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
5 Medi 2023
Yn dod i rym
1 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 7(8), 41(3), (5) a (6), 43, 44, 47, 48(1) a (3), 54(6) a (7), 135 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
RHAN 1Cyffredinol
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2023.
Cymhwyso
2. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac mewn perthynas â chontract—
(a)yr oedd Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(2) yn gymwys iddo yn union cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, neu
(b)yr ymrwymir iddo rhwng contractwr a Bwrdd Iechyd Lleol ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Dehongli
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adnodd ar-lein” (“online resource”) yw gwefan practis neu broffil practis ar-lein;
ystyr “aelod o deulu agos” (“immediate family member”) yw—
priod neu bartner sifil,
person (pa un a yw o’r rhyw arall ai peidio) y mae i’w berthynas â’r claf cofrestredig nodweddion y berthynas rhwng gŵr a gwraig,
rhiant neu lys-riant,
mab,
merch,
plentyn y mae’r claf cofrestredig—
yn warcheidwad iddo, neu
yn ofalwr iddo sydd wedi ei awdurdodi’n briodol gan awdurdod lleol y traddodwyd y plentyn i’w ofal o dan Ddeddf Plant 1989(3), neu
tad-cu/taid neu fam-gu/nain;
ystyr “agored” (“open”), mewn perthynas â rhestr contractwr o gleifion, yw agored i geisiadau gan gleifion yn unol â pharagraffau 23, 24 a 25 o Atodlen 3;
ystyr “anghymhwysiad cenedlaethol” (“nationaldisqualification”) yw—
penderfyniad a wneir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 115 o’r Ddeddf (anghymhwysiad cenedlaethol) neu o dan reoliadau sy’n cyfateb i’r adran honno a wneir o dan—
adran 49 o’r Ddeddf (personau sy’n cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol),
adran 63 o’r Ddeddf (personau sy’n cyflawni gwasanaethau deintyddol sylfaenol),
adran 72 o’r Ddeddf (rheoliadau o ran gwasanaethau offthalmig cyffredinol), a
adrannau 83, 86, 103 neu 105 (cyflawnwyr gwasanaethau fferyllol a chynorthwywyr) o’r Ddeddf, neu
unrhyw benderfyniad yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon sy’n cyfateb i anghymhwysiad cenedlaethol o dan adran 115(2) a (3) o’r Ddeddf;
ystyr “ardal practis” (“practice area”) yw’r ardal y cyfeirir ati yn rheoliad18(1)(d);
mae “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(4);
ystyr “Bwrdd Iechyd” (“Health Board”) yw Bwrdd Iechyd a sefydlir o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(5) (Byrddau Iechyd);
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”), oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n barti, neu’n ddarpar barti, i gontract;
ystyr “Bwrdd Partneriaeth Integredig Ardal” (“Area Integrated Partnership Board”) yw Bwrdd Partneriaeth Integredig Ardal a sefydlir o dan adran 15B o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009(6);
ystyr “cartref gofal” (“care home”) yw man yng Nghymru lle y darperir llety, ynghyd â gwasanaeth nyrsio neu ofal, i bersonau oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen ond yn eithrio man a grybwyllir ym mharagraff 1(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(7);
ystyr “claf” (“patient”) yw—
claf cofrestredig,
preswylydd dros dro,
personau y mae’n ofynnol i’r contractwr ddarparu triniaeth sy’n angenrheidiol ar unwaith iddynt o dan reoliad 17(7) neu 17(9), a
unrhyw berson arall y mae’r contractwr wedi cytuno i ddarparu gwasanaethau iddo o dan y contract;
ystyr “claf cofrestredig” (“registered patient”) yw—
person y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei gofnodi fel un sydd ar restr y contractwr o gleifion, neu
person y mae’r contractwr wedi ei dderbyn i’w gynnwys yn ei restr o gleifion, pa un a yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cael ei hysbysu ei fod wedi cael ei dderbyn ai peidio, ac nad yw wedi cael ei hysbysu gan y Bwrdd Iechyd Lleol ei fod wedi peidio â bod ar y rhestr honno;
ystyr “clwstwr” (“cluster”) yw grŵp o ddarparwyr gwasanaethau lleol sy’n ymwneud ag iechyd a gofal ac sydd wedi cytuno i gydweithredu i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol ar draws ardal ddaearyddol benodedig;
ystyr “cofrestr berthnasol” (“relevant register”) yw—
mewn perthynas â nyrs, y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth,
mewn perthynas â fferyllydd, Ran 1 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 19 (sefydlu a chynnal y Gofrestr a mynediad iddi) o Orchymyn Fferylliaeth 2010(8) neu’r gofrestr a gynhelir o dan Erthygl 6 (y Gofrestr) ac Erthygl 9 (y Cofrestrydd) o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976(9),
mewn perthynas ag optometrydd, y gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Optegol Cyffredinol yn unol ag adran 7(a) o Ddeddf Optegwyr 1989 (cofrestr optegwyr)(10), a
y rhan o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(11) (sefydlu a chynnal cofrestr) sy’n ymwneud â’r canlynol—
ciropodyddion a phodiatryddion,
parafeddygon,
ffisiotherapyddion, neu
radiograffwyr;
ystyr “Cofrestr Feddygol” (“Medical Register”) yw’r gofrestr a gedwir o dan adran 2 o Ddeddf Meddygaeth 1983(12) (cofrestru ymarferwyr meddygol);
ystyr “Cofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth” (“Nursing and Midwifery Register”) yw’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(13) (sefydlu a chynnal cofrestr);
ystyr “Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol” (“GP Specialty Registrar”) yw ymarferydd meddygol sy’n cael ei hyfforddi mewn ymarfer cyffredinol gan ymarferydd meddygol cyffredinol a gymeradwywyd o dan adran 34I o Ddeddf Meddygaeth 1983(14) at ddiben darparu hyfforddiant o dan yr adran honno, pa un ai fel rhan o hyfforddiant sy’n arwain at ddyfarnu TCH neu fel arall;
ystyr “contract” (“contract”) ac eithrio yn rheoliad 31 (darpariaeth drosiannol gyffredinol ac arbediad) yw contract gwasanaethau meddygol cyffredinol a wneir o dan adran 42 o’r Ddeddf (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol);
mae i “contract GIG” yr ystyr a roddir i “NHS contract” gan adran 7 o’r Ddeddf;
ystyr “contract GMC” (“GMS contract”) yw contract gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan adran 42 o’r Ddeddf (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol);
ystyr “contract GMDdA” (“APMS contract”) yw trefniant i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a wneir gyda Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 41(2)(b) o’r Ddeddf (gwasanaethau meddygol sylfaenol);
mae i “contractwr”, ac eithrio yn rheoliad 6 (amod cyffredinol yn ymwneud â phob contract), yr ystyr a roddir i “contractor” yn adran 42(5) o’r Ddeddf (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol);
ystyr “contractwr cyfarpar GIG” (“NHS appliance contractor”) yw person sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 10 o’r Rheoliadau Fferyllol (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig;
ystyr “contractwr GMC” (“GMS contractor”) yw parti i gontract GMC, heblaw’r Bwrdd Iechyd Lleol
ystyr “contractwr GMDdA” (“APMS contractor”) yw parti i gontract GMDdA, heblaw’r Bwrdd Iechyd Lleol;
mae i “corff gwasanaeth iechyd” yr ystyr a roddir i “health service body” yn adran 7(4)(15) o’r Ddeddf (contractau’r GIG);
ystyr “corff rheoleiddio neu oruchwylio” (“regulatory or supervisory body”) yw unrhyw gorff statudol neu gorff arall sydd ag awdurdod i ddyroddi canllawiau, safonau neu argymhellion y mae rhaid i’r contractwr, neu’r personau y mae’r contractwr wedi eu cyflogi neu wedi eu cymryd ymlaen, gydymffurfio â hwy neu roi sylw iddynt, gan gynnwys—
Gweinidogion Cymru,
yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol,
NICE,
Healthwatch England a Local Healthwatch,
Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU,
y Cyngor Fferyllol Cyffredinol,
Corff Ymchwilio Diogelwch Gwasanaethau Iechyd,
y Comisiynydd Gwybodaeth, ac
unrhyw gorff arall a restrir yn adran 25(2) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002;
ystyr “corff trwyddedu” (“licensing body”) yw corff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio proffesiwn;
ystyr “cwrs a achredwyd” (“accredited course”) yw cwrs sydd wedi ei achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;
ystyr “Cydweithredfa Ymarfer Cyffredinol” (“GP Collaborative”) yw grŵp o ddarparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol sy’n gweithio gyda’i gilydd, yn yr ardal y mae cleifion cofrestredig y darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol hynny yn preswylio ynddi, er mwyn cyflenwi gwasanaethau meddygol sylfaenol wedi eu cydlynu yn yr ardal honno, ac i hybu llesiant cleifion ar draws yr ardal y mae cleifion cofrestredig y darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol hynny yn preswylio ynddi;
ystyr “cyfarpar” (“appliance”) yw cyfarpar sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion adran 80 o’r Ddeddf (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol);
ystyr “cyfarpar argaeledd cyfyngedig” (“restricted availability appliance”) yw cyfarpar a gymeradwywyd ar gyfer categorïau penodol o bersonau neu at ddibenion penodol yn unig;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(16) (dehongli cyffredinol);
ystyr “cyflawnydd” (“performer”) yw cyflawnydd gwasanaethau meddygol o dan y contract y mae darpariaethau Rhan 6 o Atodlen 3 yn gymwys iddo;
ystyr “cyfnod y tu allan i oriau” (“out of hours period”) yw unrhyw ddiwrnodau neu amseroedd sydd y tu allan i’r oriau craidd;
ystyr “cyffur Atodlen” (“Scheduled drug”) yw cyffur neu sylwedd arall a bennir yn Atodlen 1 neu 2 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc.) (Cymru) 2004(17) (sy’n ymwneud â chyffuriau, meddyginiaethau a sylweddau eraill nad ydynt i’w harchebu o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol neu y caniateir eu harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig);
mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(c) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(18);
ystyr “data creu llofnod electronig” (“electronic signature creation data”) yw data unigryw a ddefnyddir gan y llofnodwr i greu llofnod electronig;
ystyr “Datganiad ar Hawlogaethau Ariannol yr GMC” (“GMS Statement of Financial Entitlements” yw’r Cyfarwyddydau i’r Byrddau Iechyd Lleol ynghylch y Datganiad ar Hawlogaethau Ariannol a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 45 o’r Ddeddf (contractau GMC: taliadau);
ystyr “deintydd” (“dentist”) yw ymarferydd deintyddol sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion o dan Ddeddf Deintyddion 1984(19);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn , yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc;
ystyr “dyfarnwr” (“adjudicator”) yw Gweinidogion Cymru neu berson a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 7(8) o’r Ddeddf (contractau’r GIG) neu baragraff 106(5) o Atodlen 3 iddi;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976;
ystyr “fferyllydd GIG” (“NHS pharmacist”) yw—
fferyllydd cofrestredig, neu
person sy’n cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn gyfreithlon yn unol ag adran 69 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(20),
y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 10 o’r Rheoliadau Fferyllol (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau;
ystyr “fferyllydd-ragnodydd annibynnol” (“pharmacist independent prescriber”) yw fferyllydd cofrestredig—
sydd naill ai wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan y contractwr neu sy’n barti i’r contract, a
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976(21) (sy’n ymwneud â chofrestrau a’r cofrestrydd) sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol;
ystyr “ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol” (“physiotherapist independent prescriber”) yw person—
sydd naill ai wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan y contractwr neu sy’n barti i’r contract, a
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 9 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2002(22) sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol;
ystyr “Fframwaith Sicrwydd” (“Assurance Framework”) yw’r dull gweithredu cenedlaethol, gan ddefnyddio setiau data a phrosesau cenedlaethol, a bennir mewn canllawiau a ddyroddir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru i Fyrddau Iechyd Lleol i’w defnyddio ar gyfer llywodraethu a rheoli contractau;
ystyr “ffurflen archebu ocsigen cartref” (“home oxygen order form”) yw ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddir gan broffesiynolyn gofal iechyd i awdurdodi person i gyflenwi gwasanaethau ocsigen cartref i glaf y mae arno angen therapi ocsigen yn y cartref;
ystyr “ffurflen bresgripsiwn” (“prescription form”) yw—
ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu gorff cyfatebol ac a ddyroddir gan ragnodydd, neu
ffurflen bresgripsiwn electronig,
sy’n galluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac nad yw’n cynnwys presgripsiwn amlroddadwy;
ystyr “ffurflen bresgripsiwn anelectronig” (“non-electronic prescription form”) yw ffurflen bresgripsiwn sy’n dod o fewn paragraff (a) o’r diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn”;
ystyr “ffurflen bresgripsiwn electronig” (“electronic prescription form”) yw data a grëir mewn ffurflen electronig at ddiben archebu cyffur neu gyfarpar—
sydd wedi ei llofnodi, neu sydd i’w llofnodi, â llofnod electronig uwch rhagnodydd,
sydd wedi ei thrawsyrru, neu sydd i’w thrawsyrru, fel cyfathrebiad electronig at weinyddydd enwebedig gan y gwasanaeth TPE, neu drwy gyfrwng hyb gwybodaeth gan y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, ac
nad yw’n dangos y caniateir darparu’r cyffur neu’r cyfarpar a archebir fwy nag unwaith;
ystyr “Gorchymyn 2010” (“the 2010 Order”) yw Gorchymyn Addysg a Hyfforddiant Meddygol Ôl-raddedig y Cyngor 2010(23);
ystyr “Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig” (“Electronic Prescription Service”) yw’r gwasanaeth o’r enw hwnnw a reolir gan GIG Lloegr;
ystyr “gwasanaeth TPE” (“ETP service”) yw’r gwasanaeth presgripsiynau cod bar 2-ddimensiwn sy’n rhan o’r systemau technoleg gwybodaeth mewn systemau rhagnodi a gweinyddu yng Nghymru, ac a ddefnyddir gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i drosglwyddo a chadw gwybodaeth am bresgripsiynau sy’n ymwneud â chleifion;
ystyr “gwasanaethau amlragnodi” (“repeatable prescribing services”) yw gwasanaethau sy’n cynnwys rhagnodi cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar ar bresgripsiwn amlroddadwy;
ystyr “gwasanaethau amlweinyddu” (“repeat dispensing services”) yw gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol sy’n cynnwys darparu cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy;
ystyr “gwasanaethau atal cenhedlu” (“contraceptive services”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 4 o Atodlen 2;
“gwasanaethau atodol” (“supplementary services”) yw—
gwasanaethau heblaw gwasanaethau unedig neu wasanaethau y tu allan i oriau, neu
gwasanaethau unedig neu elfen o wasanaeth o’r fath y mae contractwr yn cytuno o dan y contract i’w ddarparu neu i’w darparu yn unol â manylebau a nodir mewn cynllun, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr ddarparu lefel uwch o ddarpariaeth gwasanaeth o’i gymharu â’r hyn y mae rhaid iddo ei ddarparu yn gyffredinol mewn perthynas â’r gwasanaeth unedig hwnnw neu’r elfen honno o wasanaeth;
ystyr “gwasanaethau brechu ac imiwneiddio” (“vaccine and immunisation services”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 7 o Atodlen 2;
ystyr “gwasanaethu brechu ac imiwneiddio i blant” (“childhood vaccinations and immunisations services”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 3 o Atodlen 2;
ystyr “gwasanaethau clinigol” (“clinical services”) yw gwasanaethau meddygol o dan y contract sy’n ymwneud ag arsylwi ar gleifion a thrin cleifion mewn gwirionedd;
ystyr “gwasanaethau fferyllol” (“pharmaceutical services”) yw gwasanaethau fferyllol sy’n dod o fewn adrannau 80 ac 81 o’r Ddeddf ac mae’n cynnwys gwasanaethau cyfeiriedig;
mae i “gwasanaethau fferyllol lleol” (“local pharmaceutical services”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Fferyllol;
ystyr “gwasanaethau gweinyddu” (“dispensing services”) yw darparu cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar y caniateir eu darparu fel gwasanaethau fferyllol gan ymarferydd meddygol yn unol â threfniadau o dan adran 80 (trefniant ar gyfer gwasanaethau fferyllol) ac adran 86 (personau a awdurdodwyd i ddarparu gwasanaethau fferyllol) o’r Ddeddf;
ystyr “gwasanaethau gwyliadwriaeth iechyd plant” (“child health surveillance services”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 2 o Atodlen 2;
ystyr “Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board Medical Services”) yw gwasanaethau meddygol sylfaenol a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 41(2)(a) o’r Ddeddf (gwasanaethau meddygol sylfaenol);
ystyr “gwasanaethau meddygol mamolaeth” (“maternity medical services”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 5 o Atodlen 2;
ystyr “gwasanaethau meddygol sylfaenol” (“primary medical services”) yw gwasanaethau meddygol a ddarperir o dan gontract neu gytundeb y mae darpariaethau Rhan 4 o’r Ddeddf yn gymwys iddynt neu yn rhinwedd contract neu gytundeb o’r fath;
ystyr “gwasanaethau ocsigen cartref” (“home oxygen services”) yw unrhyw un neu ragor o’r mathau a ganlyn o therapi neu gyflenwad ocsigen—
cyflenwad ocsigen symudol,
cyflenwad brys,
cyflenwad rhyddhau o’r ysbyty,
therapi ocsigen hirdymor, ac
therapi ocsigen hwrdd byr;
ystyr “gwasanaethau preifat” (“private services”) yw darparu unrhyw driniaeth y telir amdani o fath a fyddai fel arfer yn gyfystyr â gwasanaethau meddygol sylfaenol pe câi ei darparu o dan gontract neu gytundeb y mae darpariaethau Rhan 4 o’r Ddeddf yn gymwys iddo neu yn rhinwedd contract neu gytundeb o’r fath;
ystyr “gwasanaethau sgrinio serfigol” (“cervical screening services”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 1 o Atodlen 2;
ystyr “gwasanaethau unedig” (“unified services”) yw’r gwasanaethau y mae’n ofynnol eu darparu yn unol â rheoliad 17;
ystyr “gwasanaethau y tu allan i oriau” (“out of hours services”) yw gwasanaethau a ddarperir yn y cyfan neu ran o gyfnod y tu allan i oriau a fyddai’n wasanaethau unedig pe baent yn cael eu darparu gan gontractwr i’w gleifion cofrestredig yn yr oriau craidd;
ystyr “gwefan practis” (“practice website”) yw gwefan y mae’r contractwr yn hysbysebu’r gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’n eu darparu drwyddi;
ystyr “gweinyddydd” (“dispenser”) yw fferyllydd, ymarferydd meddygol neu gontractwr GIG y mae claf yn dymuno iddo weinyddu presgripsiynau electronig y claf;
ystyr “gweinyddydd enwebedig” (“nominated dispenser”) yw fferyllydd, ymarferydd meddygol neu gontractwr GIG sydd wedi ei enwebu mewn cysylltiad â chlaf pan fo manylion yr enwebiad hwnnw mewn cysylltiad â’r claf hwnnw wedi eu cadw yn y Gwasanaeth Demograffeg Personol sy’n cael ei reoli gan GIG Lloegr;
ystyr “gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG” (“NHS dispute resolutionprocedure”) yw’r weithdrefn ar gyfer datrys anghydfodau a bennir—
ym mharagraffau 106 a 107 o Atodlen 3, neu
mewn achos y mae paragraff 46 o Atodlen 3 yn gymwys iddo, yn y paragraff hwnnw;
ystyr “gweithred waharddedig” (“prohibited act”) yw cyflawni trosedd o dan Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010;
ystyr “Iechyd a Gofal Digidol Cymru” (“Digital Health and Care Wales”) yw’r sefydliad a sefydlwyd o dan Orchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020(24);
ystyr “Iechyd Cyhoeddus Cymru” (“Public Health Wales”) yw Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y’i sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009(25);
ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw data ar ffurf electronig sydd wedi eu hatodi i ddata eraill ar ffurf electronig neu wedi eu cysylltu’n rhesymegol â data eraill ar ffurf electronig ac sy’n cael eu defnyddio gan y llofnodwr i lofnodi;
ystyr “llofnod electronig uwch” (“advancedelectronic signature”) yw llofnod electronig sy’n bodloni’r gofynion a ganlyn—
mae ganddo gysylltiad unigryw â’r llofnodwr,
gellir adnabod y llofnodwr oddi wrtho,
fe’i crëir drwy ddefnyddio data creu llofnod electronig y gall y llofnodwr, â lefel uchel o hyder, ei ddefnyddio o dan ei reolaeth ef ei hun yn unig, a
mae wedi ei gysylltu â’r data a lofnodwyd mewn modd sy’n gwneud unrhyw newid diweddarach yn y data yn ganfyddadwy;
ystyr “llofnodwr” (“signatory”) yw person naturiol sy’n creu llofnod electronig;
ystyr “lluoedd arfog y Goron” (“armed forces of the Crown”) yw’r lluoedd sy’n “lluoedd rheolaidd” neu’n “lluoedd wrth gefn” o fewn yr ystyr a roddir i “regular forces” neu “reserve forces” yn adran 374 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006(26) (diffiniadau sy’n gymwys at ddibenion y Ddeddf gyfan);
ystyr “mân lawdriniaeth” (“minor surgery”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2;
ystyr “mangre practis” (“practice premises”) yw cyfeiriad a bennir yn y contract fel un y mae gwasanaethau i’w darparu ynddo o dan y contract;
ystyr “meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig” (“prescription only medicine”) yw meddyginiaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 5(3) (dosbarthiad cynhyrchion meddyginiaethol) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
ystyr “nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol” (“independent nurse prescriber”) yw person—
sydd wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, a
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau a chyfarpar fel nyrs sy’n rhagnodi fel ymarferydd cymunedol, nyrs-ragnodydd annibynnol neu nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol;
ystyr “nyrs-ragnodydd annibynnol” (“nurse independent prescriber”) yw person—
sydd naill ai wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan gontractwr neu sy’n barti i gontract,
y mae ei enw wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth,
sydd â nodyn neu gofnod gyferbyn â’i enw yn y gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel—
nyrs-ragnodydd annibynnol, neu
nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol, ac
sydd, mewn cysylltiad â pherson sy’n ymarfer yng Nghymru ar neu ar ôl 19 Gorffennaf 2010, wedi llwyddo mewn cwrs a achredwyd i ymarfer fel nyrs-ragnodydd annibynnol;
ystyr “Offeryn Uwchgyfeirio Ymarfer Cyffredinol” (“General Practice Escalation Tool”) yw’r offeryn y cytunwyd arno gan Weinidogion Cymru, Byrddau Iechyd Lleol a Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru sy’n cynnwys fframwaith ar gyfer adrodd ar bwysau ar y gwaith o gyflenwi gwasanaethau o fewn practisau;
ystyr “optometrydd-ragnodydd annibynnol” (“optometrist independent prescriber”) yw person—
sy’n optometrydd sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o optometryddion a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989(27) (sy’n ymwneud â’r gofrestr o optometryddion a’r gofrestr o optegwyr fferyllol) neu’r gofrestr o optometryddion sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol a gynhelir o dan adran 8B(1)(a)(84) o’r Ddeddf honno, a
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw sy’n dynodi bod yr optometrydd yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel optometrydd-ragnodydd annibynnol;
ystyr “oriau craidd” (“core hours”) yw’r cyfnod sy’n dechrau gydag 8.00am ac sy’n dod i ben gyda 6.30pm ar ddiwrnod gwaith;
ystyr “panel asesu” (“assessment panel”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i Fwrdd Iechyd Lleol (heblaw’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n barti i’r contract dan sylw) at ddiben gwneud penderfyniadau o dan baragraff 45(7) o Atodlen 3;
ystyr “parafeddyg cofrestredig” (“registered paramedic”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 8 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;
ystyr “parafeddyg-ragnodydd annibynnol” (“paramedic independent prescriber”) yw person—
sydd naill ai wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan gontractwr neu sy’n barti i gontract,
sydd wedi ei gofrestru’n barafeddyg yn Rhan 8 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, ac
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 8 o’r gofrestr honno sy’n dynodi bod y person yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel parafeddyg-ragnodydd annibynnol;
ystyr “partneriaeth gyfyngedig” (“limited partnership”) yw partneriaeth a gofrestrwyd yn unol ag adran 5 o Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907(28) (cofrestru partneriaethau cyfyngedig yn ofynnol);
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 16 mlwydd oed;
ystyr “podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol” (“podiatrist or chiropodist independent prescriber”) yw person—
sydd wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan y contractwr neu sy’n barti i’r contract,
sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 2 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(29) (sefydlu a chynnal cofrestr), ac
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 2 o’r gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol;
ystyr “practis” (“practice”) yw’r busnes sy’n cael ei weithredu gan y contractwr at ddiben cyflenwi gwasanaethau o dan y contract;
ystyr “practis GMBILl” (“LHBMS practice”) yw practis sy’n darparu Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Iechyd Lleol;
ystyr “presgripsiwn amlroddadwy” (“repeatableprescription”) yw presgripsiwn sydd wedi ei gynnwys mewn ffurflen a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddiben archebu cyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar a honno yn y fformat sy’n ofynnol gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG ac—
sydd naill ai—
wedi ei gynhyrchu drwy gyfrifiadur ond wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy, neu
yn ffurflen a grëwyd mewn fformat electronig, a adwaenir drwy ddefnyddio cod rhagnodydd amlroddadwy, a drawsyrrir fel cyfathrebiad electronig gan y gwasanaeth TPE at fferyllydd GIG, contractwr cyfarpar GIG neu feddyg fferyllol enwebedig ac sydd wedi ei llofnodi â llofnod electronig uwch rhagnodydd amlroddadwy,
sydd wedi ei ddyroddi neu wedi ei greu i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol, ac
sy’n dangos y caniateir darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebir ar y ffurflen honno fwy nag unwaith, ac sy’n pennu nifer y troeon y caniateir iddynt gael eu darparu;
ystyr “presgripsiwn amlroddadwy anelectronig” (“non-electronic repeatable prescription”) yw presgripsiwn sy’n dod o fewn paragraff (a)(i) o’r diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy”;
ystyr “presgripsiwn amlroddadwy electronig” (“electronic repeatable prescription”) yw presgripsiwn sy’n dod o fewn paragraff (a)(ii) o’r diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy”;
ystyr “presgripsiwn electronig” (“electronic prescription”) yw ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig;
ystyr “preswylydd dros dro” (“temporary resident”) yw person a dderbyniwyd gan y contractwr fel preswylydd dros dro o dan baragraff 25 o Atodlen 3 ac nad yw cyfrifoldeb y contractwr amdano wedi ei derfynu yn unol â’r paragraff hwnnw;
ystyr “prif ofalwr” (“primary carer”), mewn perthynas ag oedolyn, yw’r oedolyn neu’r sefydliad sy’n gofalu’n bennaf am yr oedolyn hwnnw;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person, heblaw gweithiwr cymdeithasol, sy’n aelod o broffesiwn a reoleiddir gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(30);
ystyr “proffil practis ar-lein” (“online practice profile”) yw proffil—
sydd ar wefan (heblaw gwefan y GIG), neu blatfform ar-lein, a ddarperir gan berson arall i’r contractwr ei ddefnyddio, a
y mae’r contractwr yn hysbysebu’r gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’n eu darparu drwyddo;
ystyr “Pwyllgor Meddygol Lleol” (“Local Medical Committee”) yw pwyllgor sydd wedi ei gydnabod o dan adran 54 o’r Ddeddf (Pwyllgorau Meddygol Lleol);
ystyr “radiograffydd cofrestredig” (“registered radiographer”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;
ystyr “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yw person—
sy’n radiograffydd cofrestredig, a
y cofnodir gyferbyn â’i enw yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal—
hawlogaeth i ddefnyddio’r teitl “radiograffydd therapiwtig” neu “therapeutic radiographer”, a
nodyn sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol;
ystyr “rhaglen ôl-gofrestru” (“post registration programme”) yw rhaglen sydd am y tro wedi ei chydnabod gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan reoliad 10A o Ddeddf Meddygaeth 1983 (rhaglenni i feddygon sydd wedi eu cofrestru dros dro) fel un sy’n rhoi i feddygon sydd wedi eu cofrestru dros dro sylfaen dderbyniol ar gyfer ymarfer yn y dyfodol fel ymarferydd meddygol sydd wedi ei gofrestru’n llawn;
ystyr “rhagnodydd” (“prescriber”) yw—
deintydd,
nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol,
ymarferydd meddygol,
nyrs-ragnodydd annibynnol,
optometrydd-ragnodydd annibynnol,
parafeddyg-ragnodydd annibynnol,
fferyllydd-ragnodydd annibynnol,
ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol,
podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol,
rhagnodydd atodol, neu
radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol,
sydd naill ai wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan y contractwr neu sy’n barti i’r contract;
ystyr “rhagnodydd amlroddadwy” (“repeatableprescriber”) yw person—
sy’n gontractwr GMC sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau yn ei gontract sy’n rhoi effaith i baragraff 52 (gwasanaethau amlragnodi) o Atodlen 3,
sy’n gontractwr GMDdA sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau yn ei gytundeb sy’n rhoi effaith i ddarpariaeth mewn cyfarwyddydau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â chontractau GMDdA, sy’n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff 52 o Atodlen 3, neu
sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen—
gan gontractwr GMC sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau mewn contract sy’n rhoi effaith i baragraff 52 o Atodlen 3,
gan gontractwr GMDdA sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau mewn cytundeb sy’n rhoi effaith i ddarpariaeth mewn cyfarwyddydau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â chontractau GMDdA, sy’n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff 52 o Atodlen 3, neu
gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol mewn practis GMBILl sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi yn unol â darpariaeth mewn cyfarwyddydau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Iechyd Lleol, sy’n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff 52(4) o Atodlen 3;
ystyr “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”) yw—
fferyllydd cofrestredig sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976 sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol,
person y mae ei enw wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y Gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol,
person—
sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (sefydlu a chynnal cofrestr) sy’n ymwneud â chiropodyddion a phodiatryddion, deietegyddion, parafeddygon, ffisiotherapyddion neu radiograffwyr, a
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol, neu
optometrydd sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y gofrestr o optometryddion a gynhelir o dan adran 7 neu 8B(1)(a) o Ddeddf Optegwyr 1989 sy’n dynodi bod yr optometrydd yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol;
ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Mawrth) 2004;
ystyr “Rheoliadau Fferyllol” (“PharmaceuticalRegulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Mawrth) 2020(31);
ystyr “rhestr contractwr o gleifion” (“contractor’s list of patients”) yw’r rhestr a lunnir ac a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 22 o Atodlen 3;
ystyr “rhestr cyflawnwyr meddygol” (“medical performers list”) yw rhestr o ymarferwyr meddygol a lunnir ac a gyhoeddir yn unol â rheoliad 3(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004(32);
ystyr “rhestr gofal sylfaenol” (“primary care list”) yw—
rhestr o bersonau sy’n cyflawni gwasanaethau meddygol neu ddeintyddol sylfaenol a lunnir yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 49 a 63 o’r Ddeddf,
rhestr o bersonau sy’n ymgymryd â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu, yn ôl y digwydd, wasanaethau fferyllol a lunnir yn unol â rheoliadau a wneir o dan Ran 4, Rhan 5, Rhan 6, Rhan 7 a Rhan 8 o’r Ddeddf, neu sy’n cynorthwyo yn y gwasanaethau hynny, neu
rhestr sy’n cyfateb i unrhyw un neu ragor o’r uchod yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys, mewn perthynas ag unrhyw blentyn, unrhyw oedolyn sydd, ym marn y contractwr, am y tro yn cyflawni mewn cysylltiad â’r plentyn hwnnw y rhwymedigaethau sydd fel arfer yn perthyn i riant mewn cysylltiad â’i blentyn;
ystyr “Safonau Gwirio Cyn Cyflogaeth” (“Pre-employment Checks Standards”) yw’r gwiriadau cyn penodi y mae rhaid i gyflogwr ymgymryd â hwy fel rhan o’i broses recriwtio cyn recriwtio staff, y mae rhaid iddynt gynnwys o leiaf yr elfennau a ganlyn o Safonau Gwirio Cyflogaeth y GIG a gyhoeddir gan Gonffederasiwn y GIG—
y safon gwiriadau adnabod,
y safon gwiriadau hawl i weithio,
y safon gwiriadau cofrestru a chymwysterau proffesiynol,
y safon gwiriadau geirdaon, ac
y safon gwiriadau cofnodion troseddol;
mae “swm craidd” (“global sum”) i’w ddehongli yn unol â Rhan 2 o Ddatganiad ar Hawlogaethau Ariannol yr GMC;
ystyr “swpddyroddiad” (“batch issue”) yw ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddir gan ragnodydd amlroddadwy ar yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig i alluogi fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, sydd yn y fformat gofynnol, ac—
a gynhyrchir gan gyfrifiadur ac nas llofnodir gan ragnodydd amlroddadwy,
sy’n ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig penodol ac sy’n cynnwys yr un dyddiad â’r presgripsiwn hwnnw,
a ddyroddir fel un o ddilyniant o ffurflenni, sydd â’u nifer yn hafal i nifer y troeon y caniateir darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebir ar y presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, a
sy’n pennu rhif i ddynodi ei safle yn y dilyniant y cyfeirir ato ym mharagraff (c);
ystyr “Tariff Cyffuriau” (“Drug Tariff”) yw’r cyhoeddiad a elwir y Tariff Cyffuriau y cyfeirir ato yn adran 81(4) o’r Ddeddf (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol);
ystyr “TCH” (“CCT”) yw Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant a ddyfernir o dan adran 34L(1) o Ddeddf Meddygaeth 1983(33) (dyfarnu Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant a’i thynnu’n ôl);
ystyr “tocyn GPE” (“EPS token”) yw ffurflen (a all fod yn ffurflen electronig), a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol—
y caniateir iddi gael ei dyroddi gan ragnodydd yr un pryd ag y mae presgripsiwn electronig yn cael ei greu, a
sydd â chod bar neu ddynodydd unigryw sy’n galluogi’r presgripsiwn i gael ei weinyddu gan ddarparwr gwasanaethau fferyllol a all ddefnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig at ddibenion gweinyddu presgripsiynau, o dan amgylchiadau pan na fo’r darparwr yn gweinyddu’r presgripsiwn fel gweinyddydd enwebedig;
ystyr “wedi ei chau” (“closed”), mewn perthynas â rhestr y contractwr o gleifion, yw wedi ei chau i geisiadau am gynnwys person yn y rhestr o gleifion, heblaw ceisiadau gan aelodau o deulu agos cleifion cofrestredig;
mae i “ymarferydd meddygol” yr ystyr a roddir i “medical practitioner” gan adran 206(1) o’r Ddeddf;
ystyr “ymarferydd meddygol cyffredinol” (“general medical practitioner”) yw ymarferydd meddygol y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol a gedwir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan adran 2 o Ddeddf Meddygaeth 1983(34) (cofrestru ymarferwyr meddygol);
ystyr “Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol” (“Health and Social Care Trust”) yw Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 10 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991(35) (ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol);
mae “ysgrifennu” (“writing”), ac eithrio ym mharagraff 109 o Atodlen 3 ac oni bai bod y cyd-destun yn gofyn fel arall, yn cynnwys post electronig ac mae “ysgrifenedig” i’w ddehongli yn unol â hynny.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod defnyddio’r term “ef” mewn perthynas â’r contractwr yn cynnwys cyfeiriad at gontractwr sy’n ymarferydd meddygol unigol, dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth neu gwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
(3) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr un ystyr ag yn y Ddeddf honno.
RHAN 2Contractwyr: amodau a chymhwystra
Amodau: cyffredinol
4. Dim ond os yw’r amodau a bennir yn rheoliadau 5 a 6 wedi eu bodloni y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ymrwymo i gontract.
Amodau sy’n ymwneud ag ymarferwyr meddygol yn unig
5.—(1) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ymrwymo i gontract, neu’n bwriadu ymrwymo i gontract—
(a)gydag ymarferydd meddygol, mae rhaid i’r ymarferydd meddygol hwnnw fod yn ymarferydd meddygol cyffredinol,
(b)gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth—
(i)rhaid i un partner o leiaf (na chaiff fod yn bartner cyfyngedig) fod yn ymarferydd meddygol cyffredinol, a
(ii)rhaid i unrhyw bartner arall sy’n ymarferydd cyffredinol fod—
(aa)yn ymarferydd meddygol cyffredinol, neu
(bb)wedi ei gyflogi gan Fwrdd Iechyd Lleol, (yng Nghymru a Lloegr a’r Alban) Ymddiriedolaeth GIG, ymddiriedolaeth sefydledig y GIG, (yn yr Alban) Bwrdd Iechyd, neu (yng Ngogledd Iwerddon) Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu
(c)gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—
(i)rhaid i un gyfran o leiaf yn y cwmni fod yn eiddo cyfreithiol a llesiannol i ymarferydd meddygol cyffredinol, a
(ii)rhaid i unrhyw gyfran arall neu unrhyw gyfrannau eraill yn y cwmni sy’n eiddo cyfreithiol a llesiannol i ymarferydd cyffredinol fod yn eiddo felly—
(aa)i ymarferydd meddygol cyffredinol, neu
(bb)i ymarferydd meddygol sydd wedi ei gyflogi gan Fwrdd Iechyd Lleol, (yng Nghymru a Lloegr a’r Alban) Ymddiriedolaeth GIG, ymddiriedolaeth sefydledig y GIG, (yn yr Alban) Bwrdd Iechyd neu, (yng Ngogledd Iwerddon) Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
(2) Ym mharagraff (1)(a), (b)(i) ac (c)(i) nid yw “ymarferydd meddygol cyffredinol” yn cynnwys ymarferydd meddygol y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ymarferydd meddygol y mae paragraff (3), (4) neu (5) yn gymwys iddo.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ymarferydd meddygol y cyfeirir ato yn erthygl 4(3) o Orchymyn 2010 (ymarferwyr cyffredinol sy’n gymwys i’w cofnodi yn y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol) a oedd wedi ei esemptio o’r gofyniad i fod â’r profiad rhagnodedig o dan—
(a)rheoliad 5(1)(d) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol ar gyfer Ymarfer Meddygol Cyffredinol) 1997(36),
(b)rheoliad 5(1)(d) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol ar gyfer Ymarfer Meddygol Cyffredinol) (Yr Alban) 1998(37), neu
(c)rheoliad 5(1)(d) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol) (Gogledd Iwerddon) 1998(38).
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ymarferydd meddygol sydd â hawl gaffaeledig at ddibenion erthygl 6(2) o Orchymyn 2010 (personau â hawliau caffaeledig) yn rhinwedd y ffaith—
(a)ei fod wedi bod yn brif ymarferydd gwasanaethau cyfyngedig, a
(b)bod enw’r ymarferydd meddygol hwnnw wedi ei gynnwys, fel yr oedd ar 31 Mawrth 1994—
(i)mewn rhestr feddygol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Awdurdod Gwasanaethau Iechyd Teuluol(39), neu
(ii)mewn unrhyw restr gyfatebol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Fwrdd Iechyd neu gan Asiantaeth Gwasanaethau Canolog Gogledd Iwerddon ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.
(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ymarferydd meddygol sydd â hawl gaffaeledig at ddibenion erthygl 6(6) o Orchymyn 2010 (sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi eu cymryd ymlaen neu wedi eu darparu fel dirprwy neu wedi eu cyflogi fel cynorthwyydd) oherwydd bod yr ymarferydd meddygol hwnnw, ar o leiaf 10 diwrnod yn y 4 blynedd sy’n gorffen â 31 Mawrth 1994, neu ar o leiaf 40 diwrnod yn y 10 mlynedd sy’n gorffen â’r dyddiad hwnnw—
(a)wedi ei gymryd ymlaen fel dirprwy gan ymarferydd meddygol, neu wedi ei ddarparu fel dirprwy i ymarferydd meddygol, y cynhwyswyd ei enw—
(i)yn y rhestr feddygol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Awdurdod Gwasanaethau Iechyd Teuluol, neu
(ii)mewn unrhyw restr gyfatebol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Fwrdd Iechyd neu gan Asiantaeth Gwasanaethau Canolog Gogledd Iwerddon ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon, neu
(b)wedi ei gyflogi fel cynorthwyydd (heblaw fel ymarferydd cyffredinol o dan hyfforddiant) gan ymarferydd meddygol o’r fath.
(6) Ym mharagraff (4)(a), ystyr “prif ymarferydd gwasanaethau cyfyngedig” yw ymarferydd meddygol a ddarparodd wasanaethau meddygol cyffredinol a oedd yn gyfyngedig i wyliadwriaeth iechyd plant, gwasanaethau atal cenhedlu, gwasanaethau meddygol mamolaeth neu fân lawdriniaeth.
Amod cyffredinol yn ymwneud â phob contract
6.—(1) Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ymrwymo i gontract—
(a)gydag ymarferydd meddygol y mae paragraff (2) yn gymwys iddo,
(b)gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, pan fo paragraff (2) yn gymwys i unrhyw berson sy’n bartner yn y bartneriaeth, neu
(c)gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau pan fo paragraff (2) yn gymwys—
(i)i’r cwmni,
(ii)i unrhyw berson y mae cyfran yn y cwmni yn eiddo cyfreithiol neu lesiannol iddo, neu
(iii)i unrhyw gyfarwyddwr neu ysgrifennydd i’r cwmni.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os yw’r person yn destun anghymhwysiad cenedlaethol;
(b)os yw’r person, yn ddarostyngedig i baragraff (3), wedi ei anghymhwyso neu wedi ei atal dros dro (heblaw drwy orchymyn atal dros dro interim neu gyfarwyddyd wrth aros am ymchwiliad) rhag ymarfer gan unrhyw gorff trwyddedu unrhyw le yn y byd;
(c)os yw’r person, o fewn y 5 mlynedd naill ai cyn llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo (heblaw oherwydd dileu swydd) o unrhyw gyflogaeth gan gorff gwasanaeth iechyd, oni bai—
(i)bod y person, os oedd yn cael ei gyflogi fel aelod o broffesiwn gofal iechyd adeg y diswyddo, wedi cael ei gyflogi wedyn gan y corff gwasanaeth iechyd hwnnw neu gan gorff gwasanaeth iechyd arall, a
(ii)bod unrhyw dribiwnlys neu lys cymwys wedi dyfarnu bod y diswyddiad yn ddiswyddiad annheg;
(d)os yw’r person, o fewn y 5 mlynedd naill ai cyn llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddileu o restr gofal sylfaenol, neu os gwrthodwyd ei gynnwys ynddi, oherwydd aneffeithlonrwydd, twyll neu anaddasrwydd (o fewn ystyr adran 107(2), (3) neu (4) o’r Ddeddf (anghymhwyso ymarferwyr)), neu os yw wedi ei ddileu o restr cyflawnwyr a gedwir gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd rheoliad a wnaed o dan adran 49(3) (personau sy’n cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol) o’r Ddeddf neu os gwrthodwyd ei gynnwys ynddi, oni bai bod enw’r person wedi ei gynnwys wedyn yn y rhestr honno;
(e)os yw’r person wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth;
(f)os yw’r person wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd heblaw llofruddiaeth a gyflawnwyd ar neu ar ôl 14 Mawrth 2001 a’i fod wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar;
(g)os yw’r person, yn ddarostyngedig i baragraff (3), wedi ei euogfarnu y tu allan i’r Deyrnas Unedig o drosedd a fyddai’n llofruddiaeth pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr, ac—
(i)bod y drosedd wedi ei chyflawni ar neu ar ôl 26 Mawrth 2002, a
(ii)bod y person wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar;
(h)os yw’r person wedi ei euogfarnu o drosedd, y cyfeirir ati yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933(40) (troseddau yn erbyn plant a phobl ifanc y mae darpariaethau arbennig o’r Ddeddf hon yn gymwys iddynt), neu yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(41) (troseddau yn erbyn plant o dan 17 oed y mae darpariaethau arbennig yn gymwys iddynt), a gyflawnwyd ar neu ar ôl 1 Mawrth 2004;
(i)os yw’r person ar unrhyw adeg wedi ei gynnwys—
(i)mewn unrhyw restr wahardd o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(42) (rhestrau gwahardd), neu
(ii)mewn unrhyw restr wahardd o fewn ystyr Erthygl 6 o Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007(43) (rhestrau gwahardd),
oni bai bod y person wedi ei ddileu o’r rhestr naill ai ar y sail nad oedd yn briodol i’r person fod wedi ei gynnwys ynddi neu o ganlyniad i apêl lwyddiannus;
(j)os yw’r person, o fewn y cyfnod o 5 mlynedd naill ai cyn llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo o swydd ymddiriedolwr elusen neu ymddiriedolwr ar gyfer elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiwn Elusennau, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon neu’r Uchel Lys, a bod y gorchymyn hwnnw wedi ei wneud ar sail camymddwyn neu gamreoli wrth weinyddu elusen y bu’r person yn gyfrifol amdano neu yr oedd y person yn ymwybodol ohono, neu y cyfrannodd ymddygiad y person hwnnw ato, neu a hwyluswyd gan ymddygiad y person;
(k)os yw’r person, o fewn y 5 mlynedd naill ai cyn dyddiad llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff mewn achos pan fo’r diswyddo yn rhinwedd adran 34(5)(e) o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005(44) (pwerau’r Llys Sesiwn);
(l)os —
(i)yw’r person wedi ei wneud yn fethdalwr ac nad yw wedi ei ryddhau o’r methdaliad neu nad yw’r gorchymyn methdaliad wedi ei ddirymu, neu
(ii)dyfarnwyd i ystad y person gael ei secwestru ac nad yw’r person wedi ei ryddhau o’r secwestru;
(m)os yw’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim o dan Atodlen 4A i Ddeddf Ansolfedd 1986(45) (gorchymyn cyfyngu methdaliad ac ymgymeriad), Atodlen 2A i Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989(46) (gorchymyn cyfyngu methdaliad ac ymgymeriad), neu adrannau 56A i 56K o Ddeddf Methdaliad (Yr Alban) 1985(47) (gorchymyn cyfyngu methdaliad, gorchymyn cyfyngu methdaliad interim ac ymgymeriad cyfyngu methdaliad), oni bai bod y person wedi ei ryddhau o’r gorchymyn hwnnw neu fod y gorchymyn hwnnw wedi ei ddirymu;
(n)os yw’r person—
(i)yn ddarostyngedig i gyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled o dan Ran VIIA o Ddeddf Ansolfedd 1986(48) (gorchmynion rhyddhau o ddyled), neu
(ii)yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled neu orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled interim o dan Atodlen 4ZB i Ddeddf Ansolfedd 1986(49) (gorchmynion cyfyngu rhyddhau o ddyled ac ymgymeriadau);
(o)os yw’r person wedi gwneud cytundeb neu drefniant cyfansoddi gyda chredydwyr y person, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth ar eu cyfer, ac nad yw’r person wedi ei ryddhau mewn perthynas â’r cytundeb neu â’r trefniant;
(p)os yw’r person yn ddarostyngedig—
(i)i orchymyn anghymhwyso o dan adran 1 o Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(50) (gorchmynion anghymhwyso: cyffredinol) neu ymgymeriad anghymhwyso o dan adran 1A o’r Ddeddf honno(51) (ymgymeriadau anghymhwyso: cyffredinol),
(ii)i orchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Erthygl 3 (gorchmynion anghymhwyso: cyffredinol) neu Erthygl 4 (ymgymeriadau anghymhwyso: cyffredinol) o Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(52), neu
(iii)gorchymyn anghymhwyso o dan adran 429(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986(53) (anableddau pan ddirymir gorchymyn gweinyddu yn erbyn unigolyn);
(q)os oes gweinyddydd, derbynnydd gweinyddol neu dderbynnydd wedi ei benodi mewn cysylltiad â’r person;
(r)os yw’r person wedi peri i orchymyn gweinyddu gael ei wneud mewn perthynas â’r contractwr o dan Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986(54) (gweinyddu); neu
(s)os yw’r contractwr yn bartneriaeth ac—
(i)bod unrhyw lys, tribiwnlys neu gyflafareddwr cymwys yn gorchymyn diddymu’r bartneriaeth, neu
(ii)bod digwyddiad yn digwydd sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i fusnes y bartneriaeth barhau, neu i aelodau o’r bartneriaeth barhau mewn partneriaeth.
(3) Nid yw paragraff (2)(b) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (2)(g), yn gymwys i berson—
(a)pan fo’r person hwnnw—
(i)wedi ei anghymhwyso neu wedi ei atal dros dro rhag ymarfer gan gorff trwyddedu y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu
(ii)wedi ei euogfarnu o drosedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a
(b)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni nad yw’r anghymhwysiad, yr atal dros dro neu, yn ôl y digwydd, yr euogfarn yn gwneud y person hwnnw’n anaddas i fod—
(i)yn gontractwr,
(ii)yn bartner, yn achos contract â dau berson neu ragor yn ymarfer mewn partneriaeth, neu
(iii)yn achos cwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—
(aa)yn berson y mae cyfran yn y cwmni yn eiddo iddo yn gyfreithiol neu’n llesiannol, neu
(bb)yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd i’r cwmni.
(4) At ddibenion paragraff (2)(c), pan fo person wedi ei gyflogi fel aelod o broffesiwn gofal iechyd, rhaid i unrhyw gyflogaeth ddilynol hefyd fod fel aelod o’r proffesiwn hwnnw.
(5) Yn y rheoliad hwn, mae “contractwr” yn cynnwys person y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu ymrwymo i gontract gydag ef.
Hysbysiad bod amodau heb eu bodloni a rhesymau
7.—(1) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried nad yw’r amodau a bennir yn rheoliadau 5 a 6 ar gyfer ymrwymo i gontract wedi eu bodloni, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person neu’r personau sy’n bwriadu ymrwymo i’r contract am y canlynol—
(a)ei farn a’r rhesymau dros y farn honno, a
(b)yr hawl i apelio o dan reoliad 8.
(2) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hefyd roi hysbysiad ysgrifenedig o’i farn a’r rhesymau dros y farn honno i unrhyw berson sy’n berchen yn gyfreithiol ac yn llesiannol ar gyfran o gwmni, neu sy’n gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd i gwmni, sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (1) mewn unrhyw achos pan fo ei reswm dros y penderfyniad yn ymwneud â’r person hwnnw.
Hawl i apelio
8. Caiff person sydd wedi cael hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 7(1) apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol nad yw’r amodau yn rheoliadau 5 neu 6 wedi eu bodloni.
RHAN 3Datrys anghydfodau cyn contract
Anghydfodau cyn contract
9.—(1) Ac eithrio pan fo’r ddau barti i’r darpar gontract yn gyrff gwasanaeth iechyd (ac yn yr achos hwnnw mae adran 7 o’r Ddeddf (contractau’r GIG) yn gymwys), os na all y darpar bartïon i’r contract hwnnw, yn ystod y trafodaethau y bwriedir iddynt arwain at gontract, gytuno ar un o delerau penodol y contract, caiff y naill barti neu’r llall atgyfeirio’r anghydfod at Weinidogion Cymru i ystyried y mater a phenderfynu arno.
(2) Rhaid i anghydfodau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1) neu adran 7 o’r Ddeddf gael eu hystyried a’u penderfynu yn unol â darpariaethau paragraffau 106(3) i (14) a 107(1) o Atodlen 3, a pharagraff (3) (pan fo’n gymwys) o’r rheoliad hwn.
(3) Yn achos anghydfod a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan baragraff (1), mae’r penderfyniad—
(a)yn cael pennu’r telerau sydd i’w cynnwys yn y contract arfaethedig,
(b)yn cael ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol fwrw ymlaen â’r contract arfaethedig, ond ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr arfaethedig fwrw ymlaen â’r contract arfaethedig, ac
(c)yn rhwymo darpar bartïon y contract.
RHAN 4Statws corff gwasanaeth iechyd
Statws corff gwasanaeth iechyd: dewis
10.—(1) Caiff person sy’n bwriadu ymrwymo i gontract gyda Bwrdd Iechyd Lleol (“contractwr arfaethedig”), drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn ymrwymo i’r contract, ddewis cael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf.
(2) Mae dewis a wneir gan gontractwr arfaethedig o dan baragraff (1) yn cael effaith gan ddechrau â’r dyddiad yr ymrwymir i’r contract.
(3) Os bydd contractwr arfaethedig, yn rhinwedd paragraff (1), yn dewis cael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd, mae natur unrhyw gontract arall yr ymrwymwyd iddo yn flaenorol gan y contractwr arfaethedig hwnnw gyda chorff gwasanaeth iechyd cyn dyddiad y dewis hwnnw, neu unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy’n codi odano, yn parhau heb eu heffeithio.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys—
(a)pan fo contractwr sy’n ymarferydd meddygol unigol, neu pan fo dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, yn ymrwymo i gontract gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol, a
(b)pan fo’r contractwr hwnnw i’w ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd yn unol â pharagraff (1).
(5) Yn ddarostyngedig i reoliad 11, mae’r contractwr i’w ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf (contractau’r GIG) cyhyd ag y mae’r contract hwnnw’n parhau ni waeth am unrhyw newid—
(a)yn y partneriaid sy’n ffurfio’r bartneriaeth,
(b)yn statws y contractwr o statws ymarferydd meddygol unigol i statws partneriaeth, neu
(c)yn statws y contractwr o statws partneriaeth i statws ymarferydd meddygol unigol.
Statws corff gwasanaeth iechyd: amrywio contractau
11.—(1) Caiff contractwr ofyn yn ysgrifenedig unrhyw bryd am amrywio’r contract er mwyn cynnwys yn y contract, neu dynnu o’r contract, ddarpariaeth i’r perwyl bod y contract yn gontract GIG, ac os yw’n gwneud hynny—
(a)rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gytuno i’r amrywiad, a
(b)mae’r weithdrefn a bennir yn rheoliad 27 a Rhan 11 o Atodlen 3 ar gyfer amrywio contractau yn gymwys.
(2) Os yw’r contractwr, yn rhinwedd cais o dan baragraff (1), i’w ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd, mae unrhyw hawliau neu rwymedigaethau o dan unrhyw gontract arall gyda chorff gwasanaeth iechyd yr ymrwymwyd iddo gan y contractwr cyn y dyddiad y caiff y contractwr ei ystyried felly, yn parhau heb eu heffeithio.
(3) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cytuno i’r amrywiad i’r contract, rhaid i’r contractwr—
(a)cael ei ystyried, neu
(b)yn ddarostyngedig i reoliad 12, beidio â chael ei ystyried mwyach,
yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf gan ddechrau â’r dyddiad y mae’r amrywiad i gymryd effaith yn unol â rheoliad 27 a Rhan 11 o Atodlen 3.
Rhoi’r gorau i statws corff gwasanaeth iechyd
12.—(1) Mae contractwr yn peidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf (contractau’r GIG) os bydd y contract yn terfynu.
(2) Pan fo contractwr, yn rhinwedd paragraff (1), yn peidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd mewn perthynas â chontract (“y contract perthnasol”), mae’r contractwr i barhau i gael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion unrhyw gontract GIG arall y daeth yn barti iddo rhwng y dyddiad y daeth yn gorff gwasanaeth iechyd mewn perthynas â’r contract perthnasol a’r dyddiad y peidiwyd â’i ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion y contract hwnnw (ond mae’n peidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion unrhyw gontract GIG arall pan derfynir y contract hwnnw).
(3) Pan—
(a)bo contractwr yn peidio â chael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd mewn perthynas â chontract naill ai oherwydd paragraff (1) neu oherwydd amrywiad i’r contract yn rhinwedd rheoliad 11(1), a
(b)bo’r contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(i)wedi atgyfeirio unrhyw fater at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG cyn i’r contractwr beidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd, neu
(ii)yn atgyfeirio unrhyw fater a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod pan oedd y contractwr yn cael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG, yn unol â pharagraff 106 o Atodlen 3, ar ôl iddo beidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd,
mae’r contractwr i barhau i gael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd (ac yn unol â hynny mae’r contract i barhau i gael ei ystyried yn gontract GIG) at ddibenion ystyried yr anghydfod a phenderfynu arno.
(4) Pan fo contractwr yn parhau i gael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd yn rhinwedd rheoliad 12(3) at ddibenion gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG, mae’r contractwr yn peidio â chael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at y dibenion hynny ar ddiwedd y weithdrefn honno.
RHAN 5Contractau: telerau gofynnol
Y partïon i’r contract
13. Rhaid i gontract bennu—
(a)enwau’r partïon i’r contract,
(b)yn achos pob parti i’r contract, y cyfeiriad y dylid anfon gohebiaeth a hysbysiadau swyddogol iddo, ac
(c)yn achos parti i’r contract sy’n bartneriaeth—
(i)enwau’r partneriaid,
(ii)pa un a yw’r bartneriaeth yn bartneriaeth gyfyngedig ai peidio, a
(iii)yn achos partneriaeth gyfyngedig, statws pob partner fel partner cyffredinol neu bartner cyfyngedig.
Contract gwasanaeth iechyd
14. Os yw contractwr, yn rhinwedd rheoliad 10 neu 11, i’w ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd, rhaid i’r contract ddatgan mai contract GIG ydyw.
Contractau gydag unigolion sy’n ymarfer mewn partneriaeth
15. Pan fo contract yn gontract gyda dau neu ragor o unigolion sy’n gweithio mewn partneriaeth—
(a)mae’r contract i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gyda’r bartneriaeth fel y mae wedi ei chyfansoddi o bryd i’w gilydd, a rhaid i’r contract wneud darpariaeth benodol i’r perwyl hwn, a
(b)rhaid i delerau’r contract ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr sicrhau bod unrhyw berson sy’n dod yn bartner yn y bartneriaeth ar ôl i’r contract ddod i rym yn cael ei rwymo’n awtomatig gan y contract, pa un ai yn rhinwedd cytundeb partneriaeth neu fel arall.
Hyd
16.—(1) Ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2), rhaid i gontract ddarparu ei fod yn parhau nes iddo gael ei derfynu yn unol â thelerau’r contract neu yn rhinwedd y ffaith bod unrhyw ddarpariaeth gyfreithiol arall ar waith.
(2) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn dymuno ymrwymo i gontract dros dro am gyfnod nad yw’n hwy na 24 o fisoedd ar gyfer darparu gwasanaethau i gyn-gleifion contractwr, ar ôl i gontract y contractwr hwnnw derfynu.
(3) Caiff y naill barti neu’r llall i ddarpar gontract y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, os yw’n dymuno gwneud hynny, wahodd y Pwyllgor Meddygol Lleol ar gyfer ardal y Bwrdd Iechyd Lleol i gymryd rhan yn y trafodaethau y bwriedir iddynt arwain at gontract o’r fath.
Gwasanaethau unedig
17.—(1) At ddibenion adran 43(1) o’r Ddeddf (gofyniad i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol penodol), y gwasanaethau y mae rhaid eu darparu, ac eithrio o dan amgylchiadau pan fo rheoliad 18(7) neu baragraff 124 o Atodlen 3 yn gymwys, o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol (“gwasanaethau unedig”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraffau (3), (5), (6), (7) a (9), ac Atodlen 2, yn ystod y cyfnod a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—
(a)yn achos paragraffau (3), (5) a (6), bob amser o fewn yr oriau craidd fel sy’n briodol i ddiwallu anghenion rhesymol cleifion y contractwr, a
(b)yn achos paragraffau (7) a (9), bob amser o fewn yr oriau craidd.
(3) Y gwasanaethau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw gwasanaethau sy’n ofynnol er mwyn rheoli cleifion cofrestredig contractwr a’i breswylwyr dros dro sydd, neu sy’n credu eu bod—
(a)yn sâl, gyda chyflyrau y disgwylir yn gyffredinol i rywun ymadfer ohonynt,
(b)â salwch angheuol, neu
(c)yn dioddef o glefyd cronig,
a’r gwasanaethau hynny’n cael eu cyflenwi yn y modd a benderfynir gan bractis y contractwr ar ôl ystyried canllawiau neu lwybrau clinigol perthnasol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a thrwy drafod â’r claf.
(4) At ddibenion paragraff (3)—
ystyr “clefyd” (“disease”) yw clefyd sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o gategorïau tri chymeriad a geir yn y cyhoeddiad diweddaraf o Ddosbarthiad Ystadegol Rhyngwladol Clefydau a Phroblemau Iechyd Cysylltiedig, ac
mae “rheoli” (“management”) yn cynnwys—
cynnig ymgynghoriad a, pan fo’n briodol, archwiliad corfforol at ddiben nodi’r angen, os oes angen o gwbl, am driniaeth neu ymchwiliad pellach, a
rhoi ar gael unrhyw driniaeth neu ymchwiliad pellach sy’n angenrheidiol ac sy’n briodol, gan gynnwys atgyfeirio’r claf at wasanaethau eraill o dan y Ddeddf a chysylltu â phroffesiynolion gofal iechyd eraill sy’n ymwneud â thriniaeth a gofal y claf.
(5) Y gwasanaethau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw’r ddarpariaeth o driniaeth a gofal priodol parhaus i holl gleifion cofrestredig a phreswylwyr dros dro y contractwr gan ystyried eu hanghenion penodol sy’n cynnwys—
(a)cyngor mewn cysylltiad ag iechyd y claf a chyngor perthnasol ar hybu iechyd, a
(b)atgyfeirio claf at wasanaethau o dan y Ddeddf,
ynghyd â darparu’r gwasanaethau a bennir ym mharagraff (6).
(6) Y gwasanaethau a grybwyllir ym mharagraff (5) yw—
(a)gwasanaethau sgrinio serfigol,
(b)gwasanaethau gwyliadwriaeth iechyd plant,
(c)gwasanaethau brechu ac imiwneiddio i blant,
(d)gwasanaethau atal cenhedlu,
(e)gwasanaethau meddygol mamolaeth,
(f)gwasanaethau mân lawdriniaeth, ac
(g)gwasanaethau brechu ac imiwneiddio.
(7) Y gwasanaethau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw gwasanaethau meddygol sylfaenol sy’n ofynnol er mwyn rhoi triniaeth angenrheidiol ar unwaith i unrhyw berson y gofynnwyd i’r contractwr ddarparu triniaeth iddo oherwydd damwain neu argyfwng mewn unrhyw le yn ardal practis y contractwr.
(8) Ym mharagraff (7), mae “argyfwng” yn cynnwys unrhyw argyfwng meddygol pa un a yw’n gysylltiedig â gwasanaethau a ddarperir o dan y contract ai peidio.
(9) Y gwasanaethau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw gwasanaethau meddygol sylfaenol sy’n ofynnol er mwyn rhoi triniaeth angenrheidiol ar unwaith i unrhyw berson sy’n dod o fewn paragraff (10) sy’n gofyn am driniaeth o’r fath am y cyfnod a bennir ym mharagraff (11).
(10) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson—
(a)os yw cais y person hwnnw i gael ei gynnwys yn rhestr y contractwr o gleifion wedi ei wrthod yn unol â pharagraff 26 o Atodlen 3 ac nad yw’r person hwnnw wedi ei gofrestru gyda darparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,
(b)os yw cais y person hwnnw i gael ei dderbyn fel preswylydd dros dro wedi ei wrthod yn unol â pharagraff 26 o Atodlen 3, neu
(c)os yw’r person hwnnw’n bresennol yn ardal practis y contractwr am lai na 24 awr.
(11) Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—
(a)yn achos person y mae paragraff (10)(a) yn gymwys iddo, 14 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y gwrthodwyd cais y person hwnnw neu hyd nes y bydd y person hwnnw wedi ei gofrestru wedyn mewn man arall ar gyfer darparu gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol), pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf,
(b)yn achos person y mae paragraff (10)(b) yn gymwys iddo, 14 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y gwrthodwyd cais y person hwnnw neu hyd nes y bydd y person hwnnw wedi ei dderbyn wedyn mewn man arall fel preswylydd dros dro, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf, ac
(c)yn achos person y mae paragraff (10)(c) yn gymwys iddo, 24 awr neu unrhyw gyfnod byrrach y mae’r person yn bresennol yn ardal practis y contractwr.
Gwasanaethau: cyffredinol
18.—(1) Rhaid i gontract bennu—
(a)y gwasanaethau i’w darparu,
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (4), cyfeiriad pob mangre sydd i’w defnyddio gan y contractwr neu unrhyw is-gontractwr i ddarparu’r gwasanaethau hynny,
(c)y personau y mae’r gwasanaethau hynny i’w darparu iddynt,
(d)yr ardal (“ardal practis” y contractwr) y mae gan bersonau sy’n preswylio ynddi, yn ddarostyngedig i unrhyw delerau eraill yn y contract sy’n ymwneud â chofrestru cleifion, hawlogaeth mewn perthynas â hi—
(i)i gofrestru gyda’r contractwr, neu
(ii)i ofyn am gael eu derbyn gan y contractwr fel preswylydd dros dro, ac
(e)pa un a yw rhestr y contractwr o gleifion, gan ddechrau â’r dyddiad y daw’r contract i rym, yn agored ynteu wedi ei chau.
(2) Rhaid i gontract hefyd—
(a)cynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr—
(i)rhoi apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau unedig ar gael i’w gleifion am unrhyw gyfran o’r oriau craidd ar bob diwrnod gwaith fel sy’n briodol i ddiwallu anghenion rhesymol y cleifion hynny,
(ii)bod â threfniadau yn eu lle i’w gleifion gael mynediad at wasanaethau unedig drwy gydol yr oriau craidd os bydd argyfwng,
(iii)sicrhau bod pob mangre practis, heblaw unrhyw fangre practis a bennir ym mharagraff (3), yn agored ac yn gorfforol hygyrch i gleifion—
(aa)bob amser rhwng 8.30am a 6.00pm ar bob diwrnod gwaith, a
(bb)am unrhyw gyfnodau eraill o fewn yr oriau craidd sy’n ofynnol i alluogi’r contractwr i gydymffurfio â’r gofynion yn rheoliad 17, rheoliad 18 ac Atodlen 3, a
(b)nodi’r cyfnod (os oes cyfnod o gwbl) y darperir unrhyw wasanaethau heblaw gwasanaethau unedig.
(3) Y fangre practis a bennir yn y paragraff hwn yw mangre practis y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno, yn ysgrifenedig â’r contractwr, ar oriau agor mwy cyfyngedig ar ei chyfer oherwydd nad yw’r fangre practis yn un o brif safleoedd y contractwr.
(4) Nid yw’r mangreoedd y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yn cynnwys—
(a)cartrefi cleifion, na
(b)unrhyw fangre arall lle y darperir gwasanaethau ar sail argyfwng.
(5) Pan nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, ar y dyddiad y llofnodir y contract, wedi ei fodloni bod pob un neu unrhyw un neu ragor o’r mangreoedd a bennir yn unol â pharagraff (1)(b) yn bodloni’r gofynion a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 3, mae rhaid i’r contract gynnwys cynllun, wedi ei lunio ar y cyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr, sy’n pennu—
(a)y camau a gymerir gan y contractwr i ddod â’r fangre i’r safon berthnasol,
(b)unrhyw gymorth ariannol a all fod ar gael gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ac
(c)yr amserlen y mae’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) i’w cymryd ynddi.
(6) Pan fo’r contract, yn unol â pharagraff (1)(e), yn pennu bod rhestr y contractwr o gleifion wedi ei chau, rhaid i’r contract hefyd bennu mewn perthynas â’r cau hwnnw bob un o’r eitemau a restrir ym mharagraff 39(2) o Atodlen 3.
(7) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, o dan amgylchiadau eithriadol neu ar gyfer amser dysgu gwarchodedig, roi cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw i gontractwyr i leihau dros dro yr oriau y maent yn darparu gwasanaethau unedig ar ddiwrnod gwaith, ar yr amod bod gan y contractwr drefniadau yn eu lle i’w gleifion barhau i gael mynediad at wasanaethau unedig drwy gydol yr oriau craidd ar y diwrnod gwaith hwnnw os bydd argyfwng.
Tystysgrifau
19.—(1) Rhaid i gontract gynnwys teler sydd â’r effaith o’i gwneud yn ofynnol i’r contractwr ddyroddi, am ddim i glaf neu i gynrychiolydd claf, unrhyw dystysgrif feddygol o ddisgrifiad a ragnodir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, sy’n rhesymol ofynnol o dan y deddfiadau, neu at ddibenion y deddfiadau a bennir mewn perthynas â’r dystysgrif yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Ni chaniateir dyroddi tystysgrif, o ran y cyflwr y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef—
(a)pan fo’r claf yn cael sylw gan ymarferydd meddygol nad yw—
(i)wedi ei gyflogi nac wedi ei gymryd ymlaen gan y contractwr,
(ii)yn achos contract gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, yn un o’r personau hynny, neu
(iii)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, yn un o’r personau y mae cyfrannau yn y cwmni hwnnw yn eiddo iddo yn gyfreithiol neu’n llesiannol, neu
(b)pan nad yw’r claf yn cael ei drin gan broffesiynolyn gofal iechyd neu o dan oruchwyliaeth proffesiynolyn gofal iechyd.
(3) Nid yw’r eithriad ym mharagraff (2)(a) yn gymwys pan fo’r dystysgrif yn cael ei dyroddi—
(a)yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Tystiolaeth Feddygol) 1976(55) (tystiolaeth o analluogrwydd ar gyfer gwaith, gallu cyfyngedig ar gyfer gwaith a gwelyfod), neu
(b)yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Tâl Salwch Statudol (Tystiolaeth Feddygol) 1985(56) (gwybodaeth feddygol).
Cyllid
20.—(1) Rhaid i’r contract gynnwys teler sydd â’r effaith o’i gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud o dan y contract yn brydlon ac yn unol â’r canlynol—
(a)telerau’r contract, a
(b)unrhyw amodau eraill yn ymwneud â thaliad a gynhwysir mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 (arfer swyddogaethau) neu adran 45 o’r Ddeddf (contractau GMC: taliadau).
(2) Rhaid i’r contract gynnwys teler i’r perwyl, pan fo’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud taliad i gontractwr o dan gontract ond yn ddarostyngedig i amodau, yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 (arfer swyddogaethau) neu adran 45 (contractau GMC: taliadau) o’r Ddeddf, fod rhaid i’r amodau hynny fod yn un o delerau’r contract.
(3) Mae’r rhwymedigaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn ddarostyngedig i unrhyw hawl a all fod gan y Bwrdd Iechyd Lleol i osod yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy i’r contractwr o dan y contract unrhyw swm—
(a)sy’n ddyledus gan y contractwr i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan y contract, neu
(b)y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei gadw’n ôl oddi wrth y contractwr yn unol â thelerau’r contract neu unrhyw ddarpariaethau cymwys a gynhwysir mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 45 o’r Ddeddf.
Ffioedd, taliadau a buddiannau ariannol
21.—(1) Rhaid i’r contract gynnwys telerau yn ymwneud â ffioedd, taliadau a buddiannau ariannol sydd â’r un effaith â’r rhai a nodir ym mharagraffau (2) i (9).
(2) Ni chaiff y contractwr, naill ai drosto’i hun neu drwy unrhyw berson arall, fynnu oddi wrth unrhyw un neu ragor o’i gleifion ffi na thaliad cydnabyddiaeth arall er ei fudd ei hun nac er budd person arall, na derbyn ffi na thaliad cydnabyddiaeth o’r fath, mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)darparu unrhyw driniaeth, pa un ai o dan y contract neu fel arall, neu
(b)unrhyw bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy ar gyfer unrhyw gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar,
ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 22.
(3) Ni chaiff y contractwr, naill ai drosto’i hun neu drwy unrhyw berson arall, fynnu oddi wrth unrhyw un neu ragor o’i gleifion ffi na thaliad cydnabyddiaeth arall er ei fudd ei hun nac er budd person arall, na derbyn ffi na thaliad cydnabyddiaeth o’r fath, am gwblhau’r canlynol mewn perthynas ag iechyd meddwl y claf—
(a)y ffurflen tystiolaeth dyled ac iechyd meddwl, neu
(b)unrhyw archwiliad o’r claf neu o gofnod meddygol y claf er mwyn cwblhau’r ffurflen, at ddiben cynorthwyo credydwyr i benderfynu pa gamau i’w cymryd pan fo gan y dyledwr broblem iechyd meddwl.
(4) Ni chaiff y contractwr, naill ai drosto’i hun neu drwy unrhyw berson arall, fynnu oddi wrth unrhyw un neu ragor o’i gleifion ffi na thaliad cydnabyddiaeth arall er ei fudd ei hun nac er budd person arall, na derbyn ffi na thaliad cydnabyddiaeth o’r fath, am baratoi neu ddarparu—
(a)tystiolaeth bod yr unigolyn yn ddioddefwr cam-drin domestig, neu’n wynebu risg o fod yn ddioddefwr cam-drin domestig, y bwriedir iddi ategu cais gan yr unigolyn am wasanaethau cyfreithiol sifil, neu
(b)unrhyw dystiolaeth arall bod yr unigolyn yn ddioddefwr cam-drin domestig, neu’n wynebu risg o fod yn ddioddefwr cam-drin domestig, sydd o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6)—
(a)pan fo person—
(i)yn gwneud cais i gontractwr am ddarpariaeth gwasanaethau unedig, a
(ii)yn honni ei fod ar restr y contractwr hwnnw o gleifion, a
(b)bod gan y contractwr amheuon rhesymol ynglŷn â honiad y person hwnnw,
rhaid i’r contractwr roi unrhyw driniaeth angenrheidiol i’r person hwnnw a chaiff fynnu a derbyn gan y person hwnnw ffi resymol yn unol â rheoliad 22(e).
(6) Pan fo—
(a)person y mae’r contractwr wedi cael ffi ganddo o dan reoliad 22(e) yn gwneud cais i’r Bwrdd Iechyd Lleol am ad-daliad o fewn 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad talu’r ffi (neu o fewn unrhyw gyfnod hwy nad yw’n fwy na 4 wythnos fel y gall y Bwrdd Iechyd Lleol ei ganiatáu os yw wedi ei fodloni bod y methiant i wneud cais o fewn 14 o ddiwrnodau yn rhesymol), a
(b)y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod y person hwnnw ar restr y contractwr o gleifion pan gafodd y driniaeth ei rhoi,
caiff y Bwrdd Iechyd Lleol adennill swm y ffi oddi wrth y contractwr, drwy ddidyniad o daliad cydnabyddiaeth y contractwr neu fel arall, a rhaid iddo dalu’r swm a adenillir i’r person a dalodd y ffi.
(7) Wrth ddarparu gwasanaethau i gleifion o dan y contract, rhaid i’r contractwr—
(a)darparu gwybodaeth ynghylch gwasanaethau y mae’n eu darparu heblaw o dan y contract, dim ond pan fo hynny’n briodol ac yn unol â’r cyfyngiad ar hysbysebu gwasanaethau preifat ym mharagraff 134 o Atodlen 3,
(b)pan fo’n darparu gwybodaeth o’r fath, sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn deg ac yn gywir, ac
(c)pan fo’r gwasanaethau eraill ar gael i’r claf fel rhan o’r gwasanaeth iechyd a sefydlwyd o dan adran 1(1) o’r Ddeddf (dyletswydd Gweinidogion Cymru i hybu gwasanaeth iechyd), roi gwybod i’r claf—
(i)bod y gwasanaethau ar gael felly,
(ii)am unrhyw dâl sy’n gymwys i’r gwasanaeth iechyd hwnnw ac, os nad oes tâl o’r fath yn gymwys, bod y gwasanaeth ar gael am ddim, a
(iii)sut i gael mynediad at y gwasanaeth iechyd hwnnw.
(8) Wrth wneud penderfyniad—
(a)i atgyfeirio claf at wasanaethau eraill o dan y Ddeddf, neu
(b)i ragnodi unrhyw gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar i glaf,
rhaid i’r contractwr wneud y penderfyniad hwnnw heb ystyried ei fuddiannau ariannol ei hun.
(9) Ni chaiff y contractwr roi gwybod i gleifion fod rhaid i unrhyw bresgripsiwn ar gyfer unrhyw gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar gael ei weinyddu gan y contractwr neu gan berson y mae’r contractwr yn gysylltiedig ag ef yn unig.
Amgylchiadau lle y caniateir codi ffioedd a thaliadau
22. Caiff y contractwr fynnu neu dderbyn (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) ffi neu daliad cydnabyddiaeth arall—
(a)gan unrhyw gorff statudol am wasanaethau a ddarperir at ddibenion swyddogaethau statudol y corff hwnnw;
(b)gan unrhyw gorff, cyflogwr neu ysgol—
(i)am archwiliad meddygol arferol o bersonau y mae’r corff, y cyflogwr neu’r ysgol yn gyfrifol am eu lles, neu
(ii)am archwilio personau o’r fath at y diben o gynghori’r corff, y cyflogwr neu’r ysgol am unrhyw gamau gweinyddol y gallent eu cymryd;
(c)am driniaeth nad yw’n wasanaethau meddygol sylfaenol neu’n ofynnol fel arall o dan y contract ac sy’n cael ei rhoi—
(i)mewn lle sy’n cael ei roi ar gael yn unol â darpariaethau paragraff 11 o Atodlen 5 i’r Ddeddf (lle a gwasanaethau i gleifion preifat), neu
(ii)mewn cartref nyrsio cofrestredig nad yw’n darparu gwasanaethau o dan y Ddeddf,
os yw’r person sy’n rhoi’r driniaeth, yn y naill achos neu’r llall, yn gwasanaethu ar staff ysbyty sy’n darparu gwasanaethau o dan y Ddeddf fel arbenigwr sy’n darparu triniaeth o’r math y mae ar y claf ei angen ac os yw’r contractwr neu’r person sy’n darparu’r driniaeth, o fewn 7 niwrnod ar ôl rhoi’r driniaeth, yn rhoi i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ar ffurflen a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwnnw, unrhyw wybodaeth a all fod yn ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol;
(d)o dan adran 158 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 (tâl am driniaeth frys ar gyfer anafiadau traffig);
(e)pan fo’r contractwr yn trin claf o dan reoliad 21(5), ac yn yr achos hwnnw mae gan y contractwr hawlogaeth i fynnu a derbyn ffi resymol (y gellir ei hadennill o dan amgylchiadau penodol o dan reoliad 21(6) am unrhyw driniaeth a roddir, os yw’r contractwr yn rhoi derbynneb i’r claf;
(f)am roi sylw i glaf ac archwilio claf (ond nid ei drin fel arall)—
(i)mewn gorsaf heddlu, ar gais y claf, mewn cysylltiad ag achos troseddol posibl yn erbyn y claf,
(ii)at ddiben llunio adroddiad neu dystysgrif feddygol, ar gais sefydliad masnachol, addysgol neu nid-er-elw,
(iii)at ddiben creu adroddiad meddygol sy’n ofynnol mewn cysylltiad â hawliad gwirioneddol neu hawliad posibl am ddigollediad gan y claf;
(g)am driniaeth sy’n cynnwys imiwneiddiad nad oes tâl cydnabyddiaeth yn daladwy amdano gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac y gofynnir amdano mewn cysylltiad â theithio dramor;
(h)am archwiliad meddygol—
(i)i alluogi penderfyniad i gael ei wneud ynghylch pa un a yw’n annoeth ai peidio ar sail feddygol i berson wisgo gwregys diogelwch, neu
(ii)at ddiben creu adroddiad—
(aa)ynghylch damwain traffig ar y ffordd neu ymosodiad troseddol, neu
(bb)sy’n cynnig barn pa un a yw claf yn ffit i deithio;
(i)am brofi golwg person nad yw’r un o baragraffau (a), (b) nac (c) o adran 71(2) o’r Ddeddf (trefniadau ar gyfer gwasanaethau offthalmig cyffredinol) yn gymwys iddo (gan gynnwys oherwydd rheoliadau o dan adrannau 71(8) a (9) o’r Ddeddf).
Data Gweithgareddau ac Apwyntiadau
23.—(1) Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr—
(a)cynnal eu hapwyntiadau wedi eu mapio yn yr adran berthnasol yn y Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol,
(b)adolygu eu data cyflwyno o leiaf unwaith y mis,
(c)sicrhau bod y categorïau wedi eu mapio yn gyfoes, a
(d)sicrhau bod eu gweinydd bob amser wedi ei droi ymlaen, yn cael ei gynnal ac ar gael i alluogi’r feddalwedd berthnasol i echdynnu’r data.
(2) Rhaid i’r data ar weithgareddau ac apwyntiadau ar draws y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol gael eu trafod yng nghyfarfodydd y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol gan y cynrychiolwyr awdurdodedig o’r practisau sy’n aelodau o’r Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol, gyda’r nod o ddatblygu mesurau ar draws y practisau hynny sy’n aelodau i reoli’r galw a safoni arfer da, a phan fo’n briodol, ansawdd data.
Rheolau ar Setiau Data a Busnes
24. Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr ddarparu data, pan fo hynny’n gymwys, yn unol â rheolau’r busnes a ddefnyddir o fewn y Fframwaith Sicrwydd.
Sicrhau’r contract
25.—(1) Rhaid i gontract gynnwys, yn ychwanegol at y gofynion yn Atodlen 3, deler sy’n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr ymgysylltu â’r Bwrdd Iechyd Lleol yn y prosesau a amlinellir yn y Fframwaith Sicrwydd cyhoeddedig diweddaraf—
(a)drwy ddarparu datganiadau a data, neu hwyluso cyflenwi data, fel sy’n ofynnol er mwyn rheoli’r contract ac er mwyn bodloni gofynion sicrwydd y contract,
(b)fel y bo’n ofynnol gan y Fframwaith Sicrwydd, drwy ymgysylltu â’r Bwrdd Iechyd Lleol ym mhrosesau adolygu ffurfiol y practis o’r contract a’r llywodraethu,
(c)yn dilyn pob adolygiad practis ffurfiol o’r contract a’r llywodraethu, drwy lunio Cynllun Ymateb Practis i’r Contract a’r Fframwaith Llywodraethu i fynd i’r afael, o fewn cyfnod y cytunir arno, ag unrhyw bryderon a godwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a
(d)os oes angen mynd i’r afael â phryderon drwy lefelau ysgol uwchgyfeirio’r Fframwaith Sicrwydd, drwy weithio’n gadarnhaol gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol i ddatrys pryderon.
(2) Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddilyn y prosesau ac ystyried yr egwyddorion a amlinellir yn y Fframwaith Sicrhau cyhoeddedig diweddaraf—
(a)drwy ddefnyddio’r dangosyddion y cytunwyd arnynt yn genedlaethol yn y Fframwaith Sicrwydd ynghyd â’r asesiad hunan-adroddedig gan y contractwr, i nodi’r blaenoriaethau yn y broses sicrwydd contract a llywodraethu,
(b)drwy bennu natur a dyfnder adolygiad ffurfiol y practis o’r contract a’r llywodraethu gan ystyried y blaenoriaethau a nodwyd yn y broses sicrwydd contract a llywodraethu,
(c)drwy ymgysylltu a gweithio’n gadarnhaol â’r contractwr i ddatrys pryderon,
(d)drwy roi adborth ar lafar i’r contractwr yn ystod yr ymweliad, gan gynnwys unrhyw ofynion i’r contractwr fynd i’r afael ag unrhyw bryderon sy’n codi ar unwaith,
(e)drwy anfon adborth ysgrifenedig mewn Adroddiad ar Ymweliad Contract a Llywodraethu at y contractwr o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith ar ôl yr ymweliad,
(f)drwy werthuso Cynllun Ymateb Practis i’r Contract a’r Fframwaith Llywodraethu o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl ei gael,
(g)drwy gytuno ar unrhyw ddyddiad ar gyfer gwaith dilynol gyda’r contractwr, gan gynnwys adolygu pa un a gafodd unrhyw bryderon uniongyrchol sylw boddhaol, ac
(h)drwy hysbysu’r contractwr os oes angen mynd i’r afael â phryderon drwy ddefnyddio lefelau ysgol uwchgyfeirio’r Fframwaith Sicrwydd.
Is-gontractio
26. Rhaid i gontract gynnwys telerau sy’n atal contractwr rhag is-gontractio unrhyw un neu ragor o’i rwymedigaethau o dan y contract mewn perthynas â materion clinigol, neu faterion nad ydynt yn glinigol sy’n effeithio’n uniongyrchol ar gleifion, ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan baragraff 76 o Atodlen 3.
Amrywio contractau
27.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn Rhan 11 o Atodlen 3 y caniateir gwneud amrywiad neu ddiwygiad i’r contract.
(2) Nid yw paragraff (1) yn atal amrywio neu ddiwygio contract o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer ym mharagraffau 76(8), 109, 110, 111 a 124 o Atodlen 3.
Terfynu contract
28.—(1) Dim ond fel y darperir ar ei gyfer gan Ran 11 o Atodlen 3 y caniateir terfynu contract.
(2) Rhaid i gontract wneud darpariaeth addas ar gyfer y trefniadau sydd i gael effaith pan derfynir y contract, gan gynnwys canlyniadau dod â’r contract i ben (pa un ai’n ariannol neu fel arall).
(3) Rhaid i’r darpariaethau sy’n ymdrin â’r canlyniadau ariannol o derfynu gynnwys o leiaf ddarpariaethau sy’n cael yr effaith a bennir ym mharagraffau (4), (5), (6), (7) ac (8) a rhaid iddynt ddarparu bod y darpariaethau hynny i barhau ar ôl i’r contract gael ei derfynu.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6), (7) ac (8), mae rhwymedigaeth y Bwrdd Iechyd Lleol i wneud taliadau i’r contractwr yn unol â’r contract yn dod i ben ar ddyddiad terfynu’r contract.
(5) Ar derfyn y contract neu pan y’i terfynir am unrhyw reswm, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gysoni’r taliadau a wnaed gan y Bwrdd Iechyd Lleol i’r contractwr a nodi i ba raddau y mae’r contractwr wedi cyflawni’r rhwymedigaethau o dan y contract y mae’r taliadau hynny yn ymwneud â hwy (a rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hefyd, os yw’r contractwr wedi terfynu’r contract yn unol â pharagraff 114 o Ran 11 o Atodlen 3 ond heb gyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract drwy gydol y cyfnod hysbysu (neu unrhyw gyfnod byrrach y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr wedi cytuno arno yn ysgrifenedig), fod â hawlogaeth i adlewyrchu yn y cysoniad unrhyw gostau ychwanegol y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi mynd iddynt wrth sicrhau gwasanaethau eraill drwy gydol y cyfnod hysbysu hwnnw).
(6) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno i’r contractwr fanylion ysgrifenedig y cysoniad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a pha un bynnag, heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl terfynu’r contract.
(7) Os yw’r contractwr yn dadlau cywirdeb y cysoniad, caiff y contractwr atgyfeirio’r anghydfod at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cyflwynodd y Bwrdd Iechyd Lleol fanylion ysgrifenedig y cysoniad i’r contractwr. Bydd y penderfyniad hwnnw ar yr anghydfod yn rhwymo’r partïon.
(8) Rhaid i bob parti dalu i’r parti arall unrhyw arian sy’n ddyledus o fewn 3 mis i’r dyddiad y cyflwynodd y Bwrdd Iechyd Lleol fanylion ysgrifenedig y cysoniad i’r contractwr, neu’r dyddiad y mae’r weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG yn dod i ben, yn ôl y digwydd.
(9) Rhaid i’r darpariaethau sy’n ymdrin â chanlyniadau anariannol terfynu gynnwys o leiaf y darpariaethau ym mharagraffau (10) ac (11) a rhaid iddynt ddarparu bod y darpariaethau hynny i barhau ar ôl i’r contract gael ei derfynu.
(10) Rhaid i’r contract ddarparu nad yw terfynu’r contract, am ba reswm bynnag, yn rhagfarnu hawliau cronedig y naill barti na’r llall o dan y contract.
(11) Rhaid i’r contract ddarparu, pan derfynir y contract am unrhyw reswm, fod rhaid i’r contractwr—
(a)yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff (11) hwn, beidio â chyflawni unrhyw waith nac unrhyw rwymedigaethau o dan y contract,
(b)cydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol i hwyluso’r gwaith o ymdrin ag unrhyw faterion sy’n weddill o dan y contract, neu o ddod â materion o’r fath i ben yn foddhaol,
(c)cydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol i hwyluso’r broses o drosglwyddo cleifion y contractwr i un neu ragor o gontractwyr eraill neu ddarparwyr gwasanaethau unedig (neu ddarparwyr cyfatebol), y mae rhaid i hynny gynnwys—
(i)darparu gwybodaeth resymol am gleifion unigol, a
(ii)rhoi cofnodion cleifion, a
(d)rhoi popeth sy’n eiddo i’r Bwrdd Iechyd Lleol i’r Bwrdd Iechyd Lleol gan gynnwys yr holl ddogfennau, ffurflenni, caledwedd a meddalwedd gyfrifiadurol, cyffuriau, cyfarpar neu offer meddygol a all fod ym meddiant neu o dan reolaeth y contractwr.
Telerau eraill yn y contract
29.—(1) Oni bai ei fod o fath neu natur nad yw darpariaeth benodol yn gymwys iddo neu iddi, rhaid i gontract gynnwys telerau eraill sydd â’r un effaith â’r rhai a bennir yn Atodlen 3 ac eithrio paragraffau 45(5) i (9), 46(5) i (17), 106(5) i (14) a 107.
(2) Mae’r paragraffau a bennir ym mharagraff (1) yn cael effaith mewn perthynas â’r materion a nodir yn y paragraffau hynny.
RHAN 6Swyddogaethau Pwyllgorau Meddygol Lleol
30.—(1) Swyddogaethau Pwyllgor Meddygol Lleol a ragnodir at ddibenion adran 54(7) o’r Ddeddf (Pwyllgorau Meddygol Lleol) yw—
(a)ystyried unrhyw gŵyn a wneir iddo gan unrhyw ymarferydd meddygol yn erbyn ymarferydd meddygol a bennir ym mharagraff (2) sy’n darparu gwasanaethau o dan gontract yn yr ardal berthnasol sy’n cynnwys unrhyw gwestiwn ynglŷn ag effeithlonrwydd y gwasanaethau hynny,
(b)adrodd ar ganlyniad yr ystyriaeth ar unrhyw gŵyn o’r fath i’r Bwrdd Iechyd Lleol y delir y contract gydag ef mewn achosion pan fo’r ystyriaeth honno’n arwain at unrhyw bryderon ynglŷn ag effeithlonrwydd y gwasanaethau a ddarperir o dan gontract,
(c)gwneud trefniadau ar gyfer archwiliad meddygol i ymarferydd meddygol a bennir ym mharagraff (2), pan fo’r contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn pryderu bod yr ymarferydd meddygol yn methu darparu gwasanaethau o dan y contract yn ddigonol a’i fod yn gofyn am hyn gyda chytundeb yr ymarferydd meddygol dan sylw, a
(d)ystyried yr adroddiad ar unrhyw archwiliad meddygol a drefnir yn unol ag is-baragraff (c) a llunio adroddiad ysgrifenedig ynghylch gallu’r ymarferydd meddygol i ddarparu gwasanaethau yn ddigonol o dan y contract i’r ymarferydd meddygol dan sylw, i’r contractwr ac i’r Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r contractwr yn dal contract gydag ef.
(2) Mae’r ymarferydd meddygol y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) ac (c) yn ymarferydd meddygol sydd—
(a)yn gontractwr,
(b)yn un o ddau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth sy’n dal contract, neu
(c)yn gyfranddaliwr cyfreithiol a llesiannol mewn cwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau ac sy’n dal contract.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “yr ardal berthnasol” yw’r ardal y mae’r Pwyllgor Meddygol Lleol wedi ei ffurfio ar ei chyfer.
RHAN 7Darpariaeth drosiannol gyffredinol ac arbediad, diwygiadau canlyniadol a dirymiadau
Darpariaeth drosiannol gyffredinol ac arbediad
31.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
(a)arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan Reoliadau 2004 cyn y dyddiad cychwyn, a
(b)unrhyw hawliau neu atebolrwyddau sydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Reoliadau 2004.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae unrhyw weithred neu anweithred ynglŷn â chontract yr oedd Rheoliadau 2004 yn gymwys iddo yn union cyn y dyddiad cychwyn mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a bennir ym mharagraff (1), i’w thrin fel gweithred neu anweithred ynglŷn â chontract y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae unrhyw beth sydd, cyn y dyddiad cychwyn, wedi ei wneud neu wrthi’n cael ei wneud o dan Reoliadau 2004 ynglŷn â chontract yr oedd Rheoliadau 2004 yn gymwys iddo yn union cyn y dyddiad hwnnw mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a bennir ym mharagraff (1), i’w drin fel pe bai wedi ei wneud neu wrthi’n cael ei wneud o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Er gwaethaf paragraffau (2) a (3) a’r dirymiadau y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 6, pan fo Rheoliadau 2004 yn cynnwys darpariaeth nad oes darpariaeth gyfatebol ar ei chyfer yn y Rheoliadau hyn (“y ddarpariaeth berthnasol”), mae Rheoliadau 2004, fel yr oeddent mewn grym yn union cyn y dyddiad cychwyn, i barhau i fod yn gymwys i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddibenion—
(a)cadw unrhyw hawliau a roddwyd neu atebolrwyddau a gronnwyd gan neu o dan y ddarpariaeth berthnasol, neu
(b)asesu neu benderfynu ar unrhyw hawliau neu atebolrwyddau sy’n codi o dan y ddarpariaeth berthnasol neu yn unol â’r ddarpariaeth berthnasol.
(5) Yn y rheoliad hwn—
mae “contract” (“contract”) yn cynnwys unrhyw gontract yr oedd Rheoliadau 2004 yn gymwys iddo yn union cyn y dyddiad cychwyn y darparwyd gwasanaethau meddygol odano cyn y dyddiad cychwyn (pa un a oedd y gwasanaethau hynny’n parhau i gael eu darparu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio);
ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygiadau canlyniadol
32. Mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i’r Rheoliadau hyn yn dod i rym.
Dirymu
33. Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dirymu’r deddfiadau a bennir.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Medi 2023
Rheoliad 19
ATODLEN 1Rhestr o Dystysgrifau Meddygol Rhagnodedig
Tabl 1
Disgrifiad o’r dystysgrif feddygol | Deddfiad y mae’r dystysgrif yn ofynnol odano neu at ei ddiben |
---|---|
1. I ategu hawliad neu i sicrhau taliad naill ai’n bersonol neu drwy ddirprwy; i brofi analluedd i weithio neu i hunan-gynorthwyo at ddibenion dyfarniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol; neu i alluogi dirprwy i godi pensiynau etc. | Deddf Tâl a Phensiynau’r Llynges a’r Môr 1865 Deddf yr Awyrlu (Cyfansoddiad) 1917 Deddf Pensiynau (y Llynges, y Fyddin, yr Awyrlu a’r Llynges Fasnachol) 1939 Deddf Anafiadau Personol (Darpariaethau Brys) 1939 Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 |
2. I sefydlu bod menyw yn feichiog at ddiben sicrhau bwydydd lles | Adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (budd-daliadau o dan gynlluniau ar gyfer gwella maeth: menywod beichiog, mamau a phlant) |
3. I sicrhau bod marw-enedigaeth yn cael ei chofrestru | Adran 11 o Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953 (darpariaeth arbennig o ran cofrestru marw-enedigaeth) |
4. I alluogi gwneud taliad i sefydliad neu berson arall yn achos anhwylder meddwl personau sydd â hawlogaeth i gael taliad o gronfeydd cyhoeddus | Adran 142 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (tâl, pensiynau etc., pobl ag anhwylder meddwl) |
5. I sefydlu anaddasrwydd i wasanaethu ar reithgor | Deddf Rheithgorau 1974 |
6. I ategu cais hwyr i berson gael ei adfer mewn cyflogaeth sifil neu i hysbysu nad yw person ar gael i ymgymryd â chyflogaeth oherwydd salwch | Deddf Lluoedd Wrth Gefn (Diogelu Cyflogaeth) 1985 |
7. I alluogi cofrestru person fel pleidleisiwr absennol ar sail analluedd corfforol | Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 |
8. I ategu ceisiadau am dystysgrifau sy’n rhoi esemptiad rhag taliadau mewn cysylltiad â chyffuriau | Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 |
9. I ategu hawliad gan neu ar ran person sydd â nam difrifol ar ei feddwl am esemptiad rhag atebolrwydd i dalu’r Dreth Gyngor neu am gymhwystra i gael gostyngiad mewn perthynas â swm y Dreth Gyngor sy’n daladwy | Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 |
Rheoliad 17
ATODLEN 2Manylion pellach ynghylch Gwasanaethau Unedig penodol
Sgrinio serfigol
1.—(1) Rhaid i gontractwr—
(a)darparu’r holl wasanaethau a ddisgrifir yn is-baragraff (2), a
(b)gwneud y cofnodion a bennir yn is-baragraff (4) yng nghofnod y claf a gedwir yn unol â pharagraff 79 o Atodlen 3.
(2) Y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) yw—
(a)darparu unrhyw wybodaeth a chyngor angenrheidiol i gynorthwyo cleifion perthnasol i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch cymryd rhan yn Rhaglen Sgrinio Serfigol Cymru a gynhelir gan Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (y “Rhaglen”),
(b)cyflawni profion sgrinio serfigol ar bobl sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn y Rhaglen honno,
(c)trefnu i bobl gael gwybod am ganlyniadau eu prawf, a
(d)sicrhau bod canlyniadau profion yn cael eu dilyn fel y bo’n glinigol briodol.
(3) At ddibenion is-baragraff (2)(a) ystyr “cleifion perthnasol” yw cleifion ar restr y contractwr o gleifion sydd wedi eu dynodi gan Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru fel ymgeiswyr addas i gael prawf sgrinio serfigol.
(4) Y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—
(a)cofnod manwl gywir o’r prawf sgrinio serfigol a gynhelir, a
(b)canlyniad unrhyw brawf a gynhelir, ac
(c)unrhyw ofynion clinigol dilynol.
Gwyliadwriaeth iechyd plant
2.—(1) Mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn o dan 5 oed y mae ganddo gyfrifoldeb amdano o dan y contract, rhaid i gontractwr—
(a)darparu’r holl wasanaethau a ddisgrifir yn is-baragraff (2), heblaw unrhyw archwiliad a ddisgrifir felly y mae rhiant yn gwrthod caniatáu i’w blentyn ei gael, tan y dyddiad y mae’r plentyn yn cyrraedd 5 oed, a
(b)cynnal y cofnodion a bennir yn is-baragraff (3).
(2) Y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) yw—
(a)monitro iechyd, llesiant a datblygiad corfforol, meddyliol a chymdeithasol (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd yn y paragraff hwn fel “datblygiad”) plentyn o dan 5 oed gyda’r bwriad o ganfod unrhyw wyriadau oddi wrth ddatblygiad arferol—
(i)drwy ystyried unrhyw wybodaeth ynghylch y plentyn sy’n dod i law’r contractwr neu sy’n dod i law ar ei ran, a
(ii)ar unrhyw achlysur pan archwilir y plentyn neu pan arsylwir ar y plentyn gan y contractwr neu ar ei ran (boed yn unol â pharagraff (b) neu fel arall);
(b)archwilio plentyn mor aml ag y cytunir gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â’r rhaglen seiliedig ar dystiolaeth y cytunwyd arni’n genedlaethol ac a nodwyd yn y canllawiau clinigol diweddaraf mewn perthynas ag Archwiliadau Corfforol ar gyfer Babanod a Babanod Newydd-anedig Cymru, a chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r contractwr ofyn barn y Pwyllgor Meddygol Lleol perthnasol cyn dod i gytundeb ar amlder priodol yr archwiliadau hyn.
(3) Rhaid i’r cofnodion a bennir at ddibenion is-baragraff (1)(b) fod yn gofnod manwl gywir o’r canlynol—
(a)datblygiad y plentyn tra bo o dan 5 mlwydd oed, wedi ei lunio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn archwiliad cyntaf y plentyn hwnnw a, pan fo’n briodol, wedi ei ddiwygio yn dilyn pob archwiliad dilynol, a
(b)yr ymatebion (os oes ymatebion o gwbl) i gynigion a wnaed i riant y plentyn i’r plentyn gael unrhyw archwiliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)(b).
Brechu ac imiwneiddio yn ystod plentyndod
3.—(1) Rhaid i gontractwr gydymffurfio â’r gofynion yn is-baragraffau (2) a (3).
(2) Rhaid i’r contractwr—
(a)cynnig darparu i blant bob brechiad ac imiwneiddiad o fath ac o dan yr amgylchiadau a bennir yn yr Atodiad perthnasol i Ddatganiad ar Hawlogaethau Ariannol y GMC;
(b)darparu gwybodaeth a chyngor priodol i gleifion a, pan fo’n briodol, i’w rhieni, am y brechiadau a’r imiwneiddiadau hynny;
(c)cofnodi yng nghofnod y claf a gedwir yn unol â pharagraff 78 o Atodlen 3 unrhyw benderfyniad i wrthod y cynnig y cyfeirir ato ym mharagraff (a);
(d)pan dderbynnir y cynnig, rhoi’r brechiadau a’r imiwneiddiadau a chynnwys yng nghofnod y claf a gedwir yn unol â pharagraff 78 o Atodlen 3—
(i)enw’r person a roddodd gydsyniad i’r brechiad neu’r imiwneiddiad a pherthynas y person hwnnw â’r claf,
(ii)rhifau’r sypiau, y dyddiad dod i ben ac enw’r brechlyn,
(iii)dyddiad rhoi’r brechiadau a’r imiwneiddiadau,
(iv)mewn achos pan fo dau frechlyn yn cael eu rhoi y naill yn fuan ar ôl y llall, llwybr rhoi’r brechlynnau a safle pigiad y naill frechlyn a’r llall,
(v)unrhyw wrtharwyddion yn erbyn y brechiad neu’r imiwneiddiad, a
(vi)unrhyw adweithiau niweidiol i’r brechiad neu’r imiwneiddiad.
(3) Rhaid i’r contractwr sicrhau bod yr holl staff sy’n rhan o roi brechlynnau wedi eu hyfforddi i adnabod anaffylacsis a rhoi’r driniaeth gychwynnol ar ei gyfer a bod eu gwybodaeth yn cael ei chadw’n gyfredol.
Gwasanaethau atal cenhedlu
4. Rhaid i gontractwr roi’r gwasanaethau hynny a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (g) ar gael i bob un o’i gleifion sy’n gofyn amdanynt—
(a)rhoi cyngor ynghylch yr ystod lawn o ddulliau atal cenhedlu,
(b)pan fo’n briodol, archwiliad meddygol i gleifion sy’n gofyn am gyngor o’r fath,
(c)trin cleifion o’r fath at ddibenion atal cenhedlu a rhagnodi sylweddau a chyfarpar atal cenhedlu (ac eithrio gosod a mewnblannu dyfeisiau a mewnblaniadau yn y groth),
(d)rhoi cyngor am atal cenhedlu brys a phan fo’n briodol, cyflenwi neu ragnodi dulliau atal cenhedlu hormonaidd brys neu, pan fo gan y contractwr wrthwynebiad cydwybodol i ddulliau atal cenhedlu brys, atgyfeirio’n brydlon at ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol nad oes ganddo wrthwynebiad cydwybodol o’r fath,
(e)darparu cyngor ac atgyfeiriad mewn achosion lle y ceir beichiogrwydd heb ei gynllunio neu feichiogrwydd digroeso, gan gynnwys cyngor bod profion beichiogrwydd am ddim ar gael yn yr ardal practis a, pan fo’n briodol, pan fo gan y contractwr wrthwynebiad cydwybodol i derfynu beichiogrwydd, atgyfeirio’n brydlon at ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol nad oes ganddo wrthwynebiad cydwybodol o’r fath,
(f)rhoi cyngor cychwynnol am hybu iechyd rhywiol ac am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac
(g)atgyfeirio yn ôl yr angen ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol arbenigol, gan gynnwys pecynnau profi gartref neu becynnau hunan-brofi ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
Gwasanaethau meddygol mamolaeth
5.—(1) Rhaid i gontractwr ddarparu’r holl wasanaethau meddygol mamolaeth angenrheidiol i’r canlynol—
(a)cleifion sydd wedi cael diagnosis o feichiogrwydd drwy gydol y cyfnod cynenedigol;
(b)cleifion a’u babanod drwy gydol y cyfnod ôl-enedigol, heblaw gwiriadau newydd-anedig;
(c)cleifion y mae eu beichiogrwydd wedi terfynu o ganlyniad i gamesgoriad neu erthyliad neu, pan fo gan y contractwr wrthwynebiad cydwybodol i derfynu beichiogrwydd, rhaid i’r contractwr atgyfeirio’r claf yn brydlon at ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol nad oes ganddo wrthwynebiad cydwybodol o’r fath.
(2) Yn y paragraff hwn—
ystyr “cyfnod cynenedigol” (“antenatal period”) yw’r cyfnod rhwng dechrau’r beichiogrwydd a dechrau esgor;
ystyr “cyfnod ôl-enedigol” (“postnatalperiod”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â diwedd esgoriad y babi neu ryddhau’r claf o’r gwasanaethau gofal eilaidd, pa un bynnag yw’r olaf, ac sy’n gorffen gyda’r 14eg diwrnod ar ôl yr enedigaeth;
ystyr “gwasanaethau meddygol mamolaeth” (“maternity medical services”) yw—
mewn perthynas â chleifion (heblaw babanod) yr holl wasanaethau meddygol sylfaenol sy’n ymwneud â beichiogrwydd, ac eithrio gofal yn ystod yr esgor, a
mewn perthynas â babanod, unrhyw wasanaethau meddygol sylfaenol sy’n angenrheidiol i’w 14 o ddiwrnodau cyntaf o fywyd;
ystyr “gwiriad newydd-anedig” (“neonatal check”) yw archwilio’r babi yn y mis cyntaf ar ôl ei eni.
Mân lawdriniaeth
6. Rhaid i gontractwr—
(a)trefnu bod rhew-serio, ciwretio a serio dafadennau, ferwcau a briwiau eraill y croen, pan fo’n glinigol briodol, ar gael i gleifion, a
(b)sicrhau bod ei gofnod o unrhyw driniaeth a ddarperir o dan y paragraff hwn yn cynnwys—
(i)manylion y fân lawdriniaeth a ddarparwyd i’r claf, a
(ii)cydsyniad y claf i’r driniaeth honno.
Brechu ac imiwneiddio
7.—(1) Rhaid i gontractwr—
(a)cynnig rhoi neu ddarparu i gleifion bob brechiad ac imiwneiddiad o fath ac o dan yr amgylchiadau a bennir yn yr Atodiad perthnasol i Ddatganiad ar Hawlogaethau Ariannol y GMC ac a gyllidir o dan y swm craidd;
(b)darparu gwybodaeth a chyngor priodol i gleifion a, pan fo’n briodol, i rieni cleifion, am y brechiadau a’r imiwneiddiadau hyn;
(c)mewn perthynas â chleifion heblaw plant a chan gymryd i ystyriaeth amgylchiadau unigol y claf, ystyried—
(i)pa un a ddylai’r imiwneiddiad gael ei roi gan y contractwr ynteu gan broffesiynolyn gofal iechyd sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan y contractwr, neu
(ii)pa un a ddylid darparu ffurflen bresgripsiwn er mwyn i’r claf roi’r imiwneiddiad iddo’i hun;
(d)cofnodi yng nghofnod y claf unrhyw benderfyniad i wrthod y cynnig a grybwyllir ym mharagraff (a);
(e)pan—
(i)bo’r cynnig a grybwyllir ym mharagraff (a) yn cael ei dderbyn, a
(ii)bo’r imiwneiddiad, yn achos claf nad yw’n blentyn, i’w roi gan y contractwr neu broffesiynolyn gofal iechyd arall,
rhoi’r imiwneiddiad a chofnodi’r wybodaeth am yr imiwneiddiad yng nghofnod y claf, gan ddefnyddio codau y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn;
(f)pan—
(i)bo’r cynnig a grybwyllir ym mharagraff (a) yn cael ei dderbyn, a
(ii)nad yw’r imiwneiddiad, yn achos claf nad yw’n blentyn, i’w roi gan y contractwr neu broffesiynolyn gofal iechyd arall,
dyroddi ffurflen bresgripsiwn er mwyn i’r claf roi’r imiwneiddiad iddo’i hun.
(2) At ddibenion y paragraff hwn—
ystyr “gwybodaeth am yr imiwneiddiad” yw—
naill ai—
cydsyniad y claf i’r imiwneiddiad, neu
pan fo person arall yn cydsynio i’r imiwneiddiad ar ran y claf, enw’r person a roddodd y cydsyniad hwnnw a’i berthynas â’r claf;
rhif y swp, y dyddiad dod i ben ac enw’r brechlyn,
dyddiad rhoi’r brechlyn,
pan fo dau frechlyn yn cael eu rhoi drwy bigiadau, y naill yn fuan ar ôl y llall, llwybr rhoi’r brechlynnau a safle pigiad y naill frechlyn a’r llall,
unrhyw wrtharwyddion yn erbyn y brechlyn, ac
unrhyw adweithiau niweidiol i’r brechlyn.
(3) Rhaid i’r contractwr sicrhau bod yr holl staff sy’n rhan o roi brechlynnau wedi eu hyfforddi i adnabod anaffylacsis a rhoi’r driniaeth gychwynnol ar ei gyfer a bod eu gwybodaeth yn cael ei chadw’n gyfredol.
8. At ddibenion paragraffau 1 i 7 ystyr “cofnod claf” yw’r cofnod a gedwir mewn perthynas â chlaf yn unol â pharagraff 78 o Atodlen 3.
Rheoliad 29
ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract
RHAN 1Darparu gwasanaethau
Mangreoedd, cyfleusterau ac offer
1.—(1) Rhaid i’r contractwr sicrhau bod y mangreoedd a ddefnyddir er mwyn darparu gwasanaethau o dan y contract—
(a)yn addas at ddarparu’r gwasanaethau hynny,
(b)yn ddigon i ateb anghenion rhesymol cleifion y contractwr, ac
(c)yn bodloni’r safonau gofynnol a nodir mewn cyfarwyddydau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf neu’n rhagori ar y safonau hynny.
(2) Mae’r gofyniad yn is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i unrhyw gynllun a gynhwyswyd yn y contract yn unol â rheoliad 18(5) sy’n nodi camau i’w cymryd gan y contractwr i ddod â’r fangre i’r safon ofynnol.
(3) Mewn perthynas â phob gwasanaeth y mae’n ei ddarparu, rhaid i’r contractwr ddarparu unrhyw gyfleusterau ac offer sy’n angenrheidiol i’w alluogi i gyflawni’r gwasanaeth hwnnw yn briodol.
Gwasanaethau ffôn
2.—(1) Ni chaiff y contractwr fod yn barti i unrhyw gontract na threfniadau eraill lle y mae’r rhif ar gyfer gwasanaethau ffôn sydd i’w ddefnyddio—
(a)gan gleifion i gysylltu â’r practis at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â’r contract, neu
(b)gan unrhyw berson arall i gysylltu â’r practis mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
yn dechrau â’r digidau 084, 087, 090 neu 091 neu’n rhif personol, oni bai bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu am ddim i’r galwr.
(2) Rhaid i’r contractwr sicrhau bod ei linellau ffôn—
(a)wedi eu staffio drwy gydol yr oriau craidd, oni bai bod y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr wedi dod i gytundeb yn unol â rheoliad 18(7) sy’n caniatáu defnyddio neges ffôn ateb am gyfnodau dros dro, a
(b)yn cael eu hateb gan aelodau o staff y contractwr sydd wedi cymhwyso’n briodol ac sydd wedi eu lleoli yn y Deyrnas Unedig.
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “rhif personol” yw rhif ffôn sy’n dechrau â’r rhif 070 ac yna 8 digid arall.
Cost galwadau perthnasol
3.—(1) Ni chaiff y contractwr wneud, adnewyddu nac estyn contract neu drefniant arall ar gyfer gwasanaethau ffôn oni bai ei fod wedi ei fodloni, o roi sylw i’r trefniant yn ei gyfanrwydd, na fydd personau yn gorfod talu mwy i wneud galwadau perthnasol i bractis y contractwr nag a dalent i wneud galwadau cyfatebol i rif daearyddol.
(2) Yn y paragraff hwn—
ystyr “galwadau perthnasol” (“relevant calls”) yw—
galwadau a wneir gan gleifion i bractis y contractwr am unrhyw reswm sy’n ymwneud â gwasanaethau a ddarperir o dan y contract, a
galwadau a wneir gan bersonau, heblaw cleifion, i’r practis mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd;
ystyr “rhif daearyddol” (“geographical number”) yw rhif sydd â chod ardal ddaearyddol yn rhagddodiad iddo.
Mynediad
4.—(1) Rhaid i’r contractwr—
(a)bod â system ffonau ac iddi swyddogaeth recordio ar gyfer llinellau sy’n dod i mewn ac yn mynd allan, sy’n pentyrru galwadau ac sy’n caniatáu i ddata galwadau gael ei ddadansoddi,
(b)bod â neges gyflwyno dros y ffôn wedi ei recordio’n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg nad yw’n para’n hwy na chyfanswm o 2 funud,
(c)sicrhau bod cleifion a chartrefi gofal yn gallu archebu presgripsiynau amlroddadwy yn ddigidol,
(d)drwy gydol yr oriau craidd, sicrhau bod cleifion yn gallu gofyn yn ddigidol am apwyntiad nad yw’n fater brys neu alwad yn ôl, a bod y trefniadau llywodraethu angenrheidiol yn eu lle ar gyfer y broses hon,
(e)rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth, drwy adnodd ar-lein y practis, am—
(i)y gofynion mynediad a bennir ym mharagraff 4 (y paragraff hwn), a
(ii)y modd y gall cleifion—
(aa)cael mynediad at wasanaethau’r contractwr, a
(bb)gofyn am ymgynghoriad brys, ymgynghoriad rheolaidd ac ymgynghoriad pellach,
(f)cynnig ymgynghoriad yr un diwrnod i—
(i)plant o dan 16 oed sy’n ymgyflwyno â materion acíwt, a
(ii)cleifion sydd wedi eu brysbennu’n glinigol fel rhai y mae arnynt angen asesiad brys,
(g)cynnig apwyntiadau y gellir eu trefnu ymlaen llaw i ddigwydd yn ystod oriau craidd, ac
(h)mynd ati’n weithredol i gyfeirio cleifion at wasanaethau priodol—
(i)sydd ar gael oddi wrth aelodau clwstwr y contractwr,
(ii)sydd wedi eu darparu neu eu comisiynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu
(iii)sydd ar gael yn lleol neu’n genedlaethol.
(2) Rhaid i’r contractwr hunanddatgan yn chwarterol fod y gofynion yn is-baragraff (1) wedi eu bodloni a bod yn barod, os gofynnir am hynny, i ddarparu’r dystiolaeth i’r Bwrdd Iechyd Lleol fel sy’n ofynnol.
Mynd i fangre practis
5.—(1) Rhaid i’r contractwr gymryd camau i sicrhau bod unrhyw glaf—
(a)sydd heb wneud apwyntiad o’r blaen, a
(b)sy’n mynd i’r fangre practis ar gyfer gwasanaethau unedig rhwng 8.30am a 6.00pm ar ddiwrnod gwaith,
yn cael y gwasanaethau hynny gan broffesiynolyn gofal iechyd priodol ar y diwrnod hwnnw.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys—
(a)pan fo’n fwy priodol i’r claf gael ei atgyfeirio at fan arall i gael gwasanaethau o dan y Ddeddf, neu
(b)pan fo’r claf wedyn yn cael cynnig apwyntiad i fynd eto o fewn amser sy’n briodol ac yn rhesymol o roi sylw i’r holl amgylchiadau ac na fyddai iechyd y claf yn cael ei beryglu drwy wneud hynny.
Mynd at gleifion y tu allan i fangre practis
6.—(1) Pan fo cyflwr meddygol claf yn golygu, ym marn resymol y contractwr—
(a)bod angen mynd at y claf, a
(b)y byddai’n amhriodol i’r claf fynd i’r fangre practis,
rhaid i’r contractwr ddarparu gwasanaethau i’r claf hwnnw ym mha un bynnag o’r lleoedd a ddisgrifir yn is-baragraff (2) sydd fwyaf priodol ym marn y contractwr.
(2) Y lleoedd a ddisgrifir yn yr is-baragraff hwn yw—
(a)y lle a gofnodwyd yng nghofnodion meddygol y claf fel cyfeiriad cartref diweddaraf y claf,
(b)unrhyw le arall y mae’r contractwr wedi rhoi gwybod i’r claf a’r Bwrdd Iechyd Lleol mai dyna’r lle y mae’r contractwr wedi cytuno i ymweld â’r claf a’i drin, neu
(c)lle arall yn ardal practis y contractwr.
(3) Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal y contractwr—
(a)rhag trefnu i atgyfeirio’r claf heb weld y claf yn gyntaf, mewn unrhyw achos pan fo cyflwr meddygol y claf yn peri bod y ffordd honno o weithredu yn briodol, neu
(b)rhag ymweld â’r claf o dan amgylchiadau pan na fo’r paragraff hwn yn gosod y contractwr o dan rwymedigaeth i wneud hynny.
Cleifion sydd newydd gofrestru
7.—(1) Pan fo claf—
(a)wedi ei dderbyn ar restr contractwr o gleifion, neu
(b)wedi ei neilltuo i’r rhestr honno gan y Bwrdd Iechyd Lleol,
rhaid i’r contractwr wahodd y claf i gymryd rhan mewn ymgynghoriad naill ai ym mangre practis y contractwr neu, os yw cyflwr meddygol y claf yn haeddu hynny, yn un o’r lleoedd y cyfeirir atynt ym mharagraff 6(2).
(2) Rhaid i wahoddiad o dan is-baragraff (1) gael ei ddyroddi gan y contractwr cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â dyddiad derbyn y claf ar restr y contractwr o gleifion, neu neilltuo’r claf iddi.
(3) Pan fo claf (neu, pan fo’n briodol, yn achos claf sy’n blentyn, rhiant y plentyn) yn cytuno i gymryd rhan mewn ymgynghoriad a grybwyllir yn is-baragraff (1) rhaid i’r contractwr, yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw—
(a)gwneud unrhyw ymholiadau ac ymgymryd ag unrhyw archwiliadau y mae’n ymddangos i’r contractwr eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau, a
(b)ar gyfer pob claf sydd newydd gofrestru sydd wedi cyrraedd 16 oed, gyda chydweithrediad y claf, gwblhau’r fersiwn ddiweddaraf o’r holiadur set ddata genedlaethol gofynnol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau gwybodaeth sgrinio iechyd.
(4) Nid oes dim yn y paragraff hwn yn effeithio ar rwymedigaethau eraill y contractwr o dan y contract mewn cysylltiad â’r claf.
Cleifion sydd heb eu gweld o fewn 3 blynedd
8.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo claf cofrestredig sydd wedi cyrraedd 16 oed ond heb gyrraedd 75 oed—
(a)yn gofyn am ymgynghoriad gyda’r contractwr, a
(b)heb fynd naill ai i ymgynghoriad gyda’r contractwr neu i glinig a ddarparwyd gan y contractwr o fewn y cyfnod o 3 blynedd cyn dyddiad y cais.
(2) Rhaid i’r contractwr—
(a)darparu ymgynghoriad i’r claf, a
(b)yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw, wneud unrhyw ymholiadau ac ymgymryd ag unrhyw archwiliadau y mae’n ystyried eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau.
(3) Nid oes dim yn y paragraff hwn yn effeithio ar rwymedigaethau eraill y contractwr o dan y contract mewn perthynas â’r claf.
Cleifion 75 oed a throsodd
9.—(1) Pan fo claf cofrestredig sy’n gofyn am ymgynghoriad—
(a)wedi cyrraedd 75 oed, a
(b)heb gymryd rhan mewn ymgynghoriad o fewn y flwyddyn cyn dyddiad y cais,
rhaid i’r contractwr ddarparu ymgynghoriad o’r fath pryd y mae rhaid iddo wneud unrhyw ymholiadau ac ymgymryd ag unrhyw archwiliadau y mae’n ystyried eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau.
(2) Rhaid i ymgynghoriad o dan is-baragraff (1) gael ei gynnal yng nghartref y claf pan fyddai’n amhriodol i’r claf fynd i’r fangre practis, ym marn resymol y contractwr, o ganlyniad i gyflwr meddygol y claf.
(3) Nid oes dim yn y paragraff hwn yn effeithio ar rwymedigaethau eraill y contractwr o dan y contract mewn perthynas â’r claf.
Adroddiadau clinigol
10.—(1) Pan fo’r contractwr yn darparu unrhyw wasanaethau clinigol, heblaw o dan drefniant preifat, i glaf nad yw ar ei restr o gleifion, rhaid i’r contractwr, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ddarparu adroddiad clinigol ynglŷn â’r ymgynghoriad, ac unrhyw driniaeth a ddarparwyd i’r claf, i’r Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon unrhyw adroddiad sy’n dod i law o dan is-baragraff (1)—
(a)at y person y mae’r claf wedi ei gofrestru gydag ef ar gyfer darparu gwasanaethau unedig neu wasanaethau cyfatebol, neu
(b)os nad yw’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn hysbys iddo, i’r Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r claf yn preswylio yn ei ardal.
Storio brechlynnau
11. Rhaid i’r contractwr sicrhau—
(a)bod pob brechlyn yn cael ei storio yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd, a
(b)bod gan bob oergell y mae brechlynnau’n cael eu storio ynddi thermomedr uchaf/isaf a bod darlleniadau tymheredd yn cael eu cymryd ar bob diwrnod gwaith.
Rheoli heintiau
12. Rhaid i’r contractwr sicrhau bod ganddo drefniadau priodol ar gyfer rheoli heintiau a dihalogi.
Y ddyletswydd i gydweithredu mewn perthynas â gwasanaethau atodol
13.—(1) Pan nad yw contractwr yn darparu gwasanaeth atodol penodol i’w gleifion cofrestredig nac i bersonau y mae wedi eu derbyn yn breswylwyr dros dro rhaid iddo gydymffurfio â’r gofynion a bennir yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion a bennir yn yr is-baragraff hwn yw bod rhaid i’r contractwr yn ystod oriau craidd—
(a)cydweithredu, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol, ag unrhyw berson sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaeth hwnnw neu’r gwasanaethau hynny, a
(b)cydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol am wybodaeth gan berson o’r fath neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn â darparu’r gwasanaeth hwnnw neu’r gwasanaethau hynny.
Y ddyletswydd i gydweithredu mewn perthynas â gwasanaethau y tu allan i oriau
14. Rhaid i’r contractwr—
(a)sicrhau bod unrhyw glaf sy’n cysylltu â mangreoedd practis y contractwr yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau yn cael gwybodaeth ynglŷn â sut i sicrhau gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwnnw,
(b)sicrhau bod manylion clinigol pob ymgynghoriad y tu allan i oriau sy’n dod i law oddi wrth y darparwr y tu allan i oriau yn cael eu hadolygu gan glinigydd ym mhractis y contractwr ar yr un diwrnod gwaith ag y daw’r manylion hynny i law yn y practis neu, yn eithriadol, ar y diwrnod gwaith nesaf,
(c)sicrhau bod unrhyw geisiadau am wybodaeth sy’n dod i law oddi wrth y darparwr y tu allan i oriau mewn perthynas ag unrhyw ymgyngoriadau y tu allan i oriau yn cael ymateb gan glinigydd ym mhractis y contractwr ar yr un diwrnod ag y daw’r ceisiadau hynny i law ym mhractis y contractwr, neu ar y diwrnod gwaith nesaf,
(d)cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio ag unrhyw systemau sydd gan y darparwr y tu allan i oriau ar waith i sicrhau bod data cleifion yn cael eu trawsyrru’n gyflym, yn ddiogel ac yn effeithiol mewn cysylltiad ag ymgyngoriadau y tu allan i oriau, ac
(e)cytuno â’r darparwr y tu allan i oriau ar system ar gyfer trawsyrru gwybodaeth yn gyflym, yn ddiogel ac yn effeithiol ynghylch cleifion cofrestredig y rhagwelir eu bod, oherwydd clefyd cronig neu salwch angheuol, yn debycach o ymgyflwyno i gael triniaeth yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau.
Aelodaeth o glwstwr
15. Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr fod yn aelod o glwstwr.
Y ddyletswydd i gydweithredu: gweithio mewn clwstwr
16.—(1) Rhaid i gontractwr gydymffurfio â’r gofynion yn is-baragraff (2) pan ddarperir gwasanaethau gan glwstwr y contractwr i gleifion cofrestredig neu breswylwyr dros dro.
(2) Y gofynion a bennir yn yr is-baragraff hwn yw bod rhaid i’r contractwr—
(a)cydweithredu, i’r graddau y mae’n rhesymol, ag unrhyw berson sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaethau,
(b)cydymffurfio yn ystod oriau craidd ag unrhyw gais rhesymol am wybodaeth gan y person hwnnw neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn â darparu’r gwasanaethau,
(c)cytuno ar fandad y cynrychiolydd Cydweithredfa Ymarfer Cyffredinol yng nghyfarfodydd y clwstwr a chymryd adborth o gyfarfodydd y clwstwr i ystyriaeth,
(d)cymryd camau rhesymol i ddarparu gwybodaeth i’w gleifion cofrestredig am y gwasanaethau, gan gynnwys gwybodaeth am sut i gael mynediad i’r gwasanaethau ac unrhyw newidiadau iddynt, ac
(e)sicrhau yr ymgysylltir â’r gwaith o gynllunio a chyflawni gwasanaethau lleol, fel sydd wedi ei gytuno o fewn cynllun gweithredu’r clwstwr, sy’n cynnwys trefniadau addas i alluogi rhannu data, pan fo mesurau diogelu priodol wedi eu bodloni, i gefnogi’r gwaith o gyflenwi’r gwasanaethau ac i drafod cyllid a chyllidebau’r clwstwr.
Aelodaeth o Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol
17.—(1) Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n cael yr effaith o’i gwneud yn ofynnol i’r contractwr fod yn aelod o Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol.
(2) Rhaid i gontractwr—
(a)penodi o leiaf 1 proffesiynolyn gofal iechyd a chanddo awdurdod i weithredu ar ran y contractwr yn yr ymdriniaethau rhwng y contractwr a’r Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol y mae’r contractwr yn perthyn iddi, a
(b)mynd i 4 cyfarfod o leiaf o’r Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol y mae’r contractwr yn perthyn iddi ym mhob blwyddyn ariannol (oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol), neu benodi un o uwch glinigwyr y practis, neu pan fo’n briodol uwch weinyddydd, a gyflogir gan y practis i fynd i’r cyfarfodydd hynny ac i weithredu ar ran y contractwr yn y cyfarfodydd hynny.
Cyfrannu at glystyrau a Chydweithredfeydd Ymarfer Cyffredinol
18. Rhaid i gontractwr—
(a)cyfrannu gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys cynlluniau galw a chapasiti, i Gynllun Tymor Canolig Integredig y clwstwr drwy’r Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol, a rhaid i’r cyfraniad gynnwys gwybodaeth am gynlluniau galw a chapasiti,
(b)dangos sut y maent wedi ymwneud â’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau lleol y cytunwyd arnynt yng nghyfraniad y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol at gynllun y clwstwr, gan gynnwys tystiolaeth o waith partneriaeth eang, gweithio amlbroffesiwn/amlasiantaeth, a datblygu gwasanaethau integredig, ac
(c)cyfrannu at gyflawni canlyniadau penodol a bennir gan y clwstwr, gan gynnwys ymwneud â chynllunio mentrau lleol drwy ymwneud â’r clwstwr drwy gyfrwng arweinydd y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol.
Galw a chapasiti
19. Mae’n ofynnol i gontractwr ymwneud â Chydweithredfa Ymarfer Cyffredinol i gynorthwyo’r gydweithredfa—
(a)wrth ymgymryd ag asesiad o anghenion y boblogaeth o ran ei chleifion,
(b)wrth ddadansoddi’r gwasanaethau presennol sydd ar gael i boblogaeth y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol, gan nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth,
(c)wrth ddadansoddi niferoedd a sgiliau presennol y gweithlu a’i anghenion datblygu,
(d)wrth fesur anghenion iechyd lleol fel y penderfynir gan y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol, ac
(e)wrth ddarparu tystiolaeth o’r asesiad o’r galw a’r capasiti a wnaed, y mae tystiolaeth ohono i’w chynnwys yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol.
Rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau: ceisiadau am wybodaeth
20. Pan fo contractwr yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth atodol i’w gleifion, rhaid i’r contractwr gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol am wybodaeth ynglŷn â darparu’r gwasanaeth hwnnw, neu’r gwasanaethau hynny, a wneir gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gan unrhyw berson y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu ymrwymo i gontract gydag ef ar gyfer darparu gwasanaethau o’r fath.
Y Gymraeg
21.—(1) Pan fo’r contractwr yn darparu gwasanaethau meddygol o dan y contract drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iddo hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig.
(2) Rhaid i’r contractwr roi ar gael fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen sydd i’w defnyddio gan gleifion a/neu aelodau o’r cyhoedd, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
(3) Pan fo’r contractwr yn arddangos arwydd newydd neu hysbysiad newydd mewn cysylltiad â’r gwasanaethau meddygol a ddarperir o dan y contract, rhaid i’r testun ar yr arwydd neu’r hysbysiad fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff y contractwr ddefnyddio’r gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn.
(4) Rhaid i’r contractwr annog y rhai sy’n siarad Cymraeg ac yn darparu gwasanaethau meddygol o dan y contract i wisgo bathodyn, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, i gyfleu’r ffaith eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
(5) Rhaid i’r contractwr annog y rhai sy’n darparu gwasanaethau meddygol o dan y contract i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynychu cyrsiau a digwyddiadau hyfforddiant a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol fel y gallant ddatblygu—
(a)ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o’i hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru), a
(b)dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan y contract.
(6) Rhaid i’r contractwr annog y rhai sy’n darparu gwasanaethau meddygol o dan y contract i ganfod a chofnodi pa un ai’r Gymraeg ynteu’r Saesneg yw hoff ddewis iaith y claf, yn unol â’r hyn a fynegir gan neu ar ran y claf.
RHAN 2Cleifion
Rhestr o gleifion
22.—(1) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol lunio a diweddaru rhestr o’r cleifion sydd—
(a)wedi eu derbyn gan y contractwr i’w cynnwys yn rhestr y contractwr o gleifion o dan baragraffau 22 i 25 ac nad ydynt wedi eu dileu oddi ar y rhestr honno wedyn o dan baragraffau 28 i 36, a
(b)wedi eu neilltuo gan y Bwrdd Iechyd Lleol i restr y contractwyr o gleifion—
(i)o dan baragraff 44(1)(a), neu
(ii)o dan baragraff 44(1)(b) (yn rhinwedd penderfyniad gan y panel asesu o dan baragraff 46(7) na chafodd ei wyrdroi wedyn gan benderfyniad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 47 na chan lys).
(2) Ar ôl cael cais ysgrifenedig rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r contractwr—
(a)cymryd camau priodol (gan gynnwys cysylltu â chleifion pan fo’n rhesymol angenrheidiol i gadarnhau bod eu data cleifion yn gywir) cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, i gywiro a diweddaru data cleifion a gedwir ar systemau clinigol cyfrifiadurol y practis, a phan fo’n angenrheidiol gofrestru neu ddatgofrestru cleifion i sicrhau bod y rhestr cleifion yn gywir, a
(b)darparu gwybodaeth ynglŷn â’i restr o gleifion i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a pha un bynnag, heb fod yn hwyrach na 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y daeth y cais i law’r contractwr, er mwyn cynorthwyo’r Bwrdd Iechyd Lleol i arfer ei ddyletswyddau o dan is-baragraff (1).
Gwneud cais am gynnwys person mewn rhestr o gleifion
23.—(1) Oni bai bod paragraff 26(1) yn gymwys, os yw rhestr y contractwr o gleifion yn agored, rhaid i’r contractwr dderbyn cais i gynnwys person yn y rhestr honno o gleifion a wneir gan neu ar ran unrhyw berson, pa un a yw’n preswylio yn ardal ei bractis ai peidio, neu pa un a yw wedi ei gynnwys ai peidio, adeg y cais hwnnw, yn rhestr cleifion contractwr arall neu ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol arall.
(2) Os yw rhestr y contractwr o gleifion wedi ei chau, ni chaiff y contractwr ond derbyn cais i gynnwys person yn y rhestr honno a wneir gan neu ar ran person sy’n aelod o deulu agos claf cofrestredig, pa un a yw’r person hwnnw’n preswylio yn ardal practis y contractwr ai peidio, neu pa un a yw wedi ei gynnwys ai peidio, adeg y cais hwnnw, yn rhestr cleifion contractwr arall neu ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol arall.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i gais i gynnwys person mewn rhestr contractwr o gleifion gael ei wneud gan y ceisydd, neu gan berson a awdurdodir gan y ceisydd, gan gyflwyno i’r contractwr ffurflen gais (gan gynnwys ffurflen gais electronig). Ni chaiff y contractwr ei gwneud yn rhagofyniad i geisydd ddangos prawf adnabod neu brawf o gyfeiriad i gael ei gynnwys yn rhestr y contractwr o gleifion (na pheri bod cais yn amodol ar ddangos prawf adnabod neu brawf o gyfeiriad o’r fath).
(4) Caniateir i gais gael ei wneud—
(a)pan fo’r claf yn blentyn, ar ran y claf—
(i)gan y naill riant neu’r llall, neu yn absenoldeb y ddau riant, gan y gwarcheidwad neu’r oedolyn arall a chanddo ofal dros y plentyn,
(ii)gan berson a awdurdodir yn briodol gan awdurdod lleol y traddodwyd y plentyn i’w ofal o dan Ddeddf Plant 1989(57), neu
(iii)gan berson a awdurdodir yn briodol gan sefydliad gwirfoddol y mae’r plentyn yn cael llety ganddo o dan ddarpariaethau Deddf Plant 1989, neu
(b)pan fo’r claf yn oedolyn sydd heb alluedd i wneud y cais, neu i awdurdodi’r cais i gael ei wneud ar ei ran—
(i)gan berthynas i’r person hwnnw,
(ii)gan brif ofalwr i’r person hwnnw,
(iii)gan roddai atwrneiaeth arhosol a roddir gan y person hwnnw, neu
(iv)gan ddirprwy a benodir ar gyfer y person hwnnw gan y llys o dan ddarpariaethau Deddf Galluedd Meddyliol 2005(58).
(5) Pan fo contractwr yn derbyn cais i gynnwys person yn rhestr y contractwr o gleifion, rhaid i’r contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod wedi derbyn y cais hwnnw cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(6) Ar ôl cael hysbysiad a roddwyd o dan is-baragraff (5) rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)cynnwys y ceisydd yn rhestr y contractwr o gleifion o’r dyddiad y daw’r hysbysiad i law, a
(b)os dyma’r tro cyntaf i’r ceisydd gael ei dderbyn yn glaf cofrestredig gan gontractwr neu gontractwr GMDdA (neu gael ei neilltuo gan Fwrdd Iechyd Lleol iddo), roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd fod y cais hwnnw wedi ei dderbyn (neu, yn achos plentyn neu oedolyn sydd heb alluedd, i’r person sy’n gwneud y cais ar ei ran).
Cynnwys yn y rhestr o gleifion: personél y lluoedd arfog
24.—(1) Oni bai bod paragraff 26(1) yn gymwys, os yw ei restr o gleifion yn agored rhaid i’r contractwr gynnwys person y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn y rhestr honno am gyfnod o hyd at 2 flynedd ac nid yw paragraff 34(1)(b) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw berson sy’n cael ei gynnwys yn rhestr y contractwr o gleifion yn rhinwedd y paragraff hwn.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson—
(a)sy’n aelod ar wasanaeth o luoedd arfog y Goron sydd wedi cael awdurdodiad ysgrifenedig gan y Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn i gael gwasanaethau meddygol sylfaenol gan bractis y contractwr, a
(b)sy’n byw neu’n gweithio o fewn ardal practis y contractwr yn ystod y cyfnod y rhoddir yr awdurdodiad ysgrifenedig hwnnw mewn cysylltiad ag ef.
(3) Pan fo’r contractwr wedi derbyn person y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo i’w restr o gleifion, rhaid i’r contractwr—
(a)sicrhau copi o gofnod meddygol y claf, neu grynodeb o’r cofnod hwnnw, gan y Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, a
(b)darparu diweddariadau rheolaidd i’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, fesul pa ysbeidiau bynnag y cytunwyd arnynt gyda’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, am unrhyw ofal a thriniaeth y mae’r contractwr wedi eu darparu i’r claf.
(4) Ar ddiwedd y cyfnod o 2 flynedd, neu ar unrhyw ddyddiad cynharach pan fydd cyfrifoldeb y contractwr am y claf wedi dod i ben, rhaid i’r contractwr—
(a)hysbysu’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn yn ysgrifenedig fod cyfrifoldeb y contractwr am y claf wedi dod i ben, a
(b)diweddaru cofnod meddygol y claf, neu grynodeb o’r cofnod hwnnw, a’i ddychwelyd i’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn.
Preswylwyr dros dro
25.—(1) Oni bai bod paragraff 26(1) yn gymwys, os yw ei restr o gleifion yn agored rhaid i’r contractwr dderbyn person yn breswylydd dros dro os yw’r person—
(a)yn preswylio dros dro i ffwrdd o’i fan preswylio arferol ac nad yw’n cael gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) o dan unrhyw drefniant arall yn yr ardal lle y mae’r person hwnnw’n preswylio dros dro, neu
(b)yn symud o le i le ac nad yw am y tro yn preswylio mewn unrhyw le.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae person i’w ystyried yn breswylydd dros dro mewn lle os yw, pan fydd y person hwnnw’n cyrraedd y lle hwnnw, yn bwriadu aros yno am fwy na 24 o oriau ond dim mwy na 12 wythnos.
(3) Pan fo contractwr yn awyddus i derfynu ei gyfrifoldeb am berson a dderbyniwyd ganddo yn breswylydd dros dro cyn pen—
(a)12 wythnos, neu
(b)unrhyw gyfnod byrrach y cytunodd y contractwr i dderbyn y person hwnnw yn breswylydd dros dro amdano,
rhaid i’r contractwr roi hysbysiad o’r ffaith honno i’r person naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig ac mae cyfrifoldeb y contractwr am y person hwnnw yn dod i ben 7 niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
(4) Pan fo cyfrifoldeb y contractwr am berson fel preswylydd dros dro yn dod i ben, rhaid i’r contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod wedi derbyn y person hwnnw yn breswylydd dros dro—
(a)ar ddiwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y derbyniodd y contractwr y person hwnnw yn breswylydd dros dro, neu
(b)os daeth cyfrifoldeb y contractwr am y person hwnnw fel preswylydd dros dro i ben yn gynharach nag ar ddiwedd y cyfnod o 12 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (a), ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
Gwrthod ceisiadau i gynnwys person yn y rhestr o gleifion neu derfynu’r cyfrifoldeb am breswylwyr dros dro yn gynnar
26.—(1) Ni chaiff contractwr wrthod cais a wneir o dan baragraffau 23, 24, neu 25 na therfynu ei gyfrifoldeb am berson a dderbyniwyd ganddo yn breswylydd dros dro o dan baragraff 25(3) ond os oes ganddo sail resymol dros wneud hynny nad yw’n ymwneud â hil, dosbarth cymdeithasol, oedran, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, golwg, rhywedd neu ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, anabledd neu gyflwr meddygol y ceisydd.
(2) Caiff y seiliau rhesymol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), yn achos ceisiadau a wneir o dan baragraff 23, gynnwys y sail nad yw’r ceisydd yn byw yn ardal practis y contractwr.
(3) Pan fo contractwr yn gwrthod cais a wneir o dan baragraffau 23, 24 neu 25 neu’n terfynu ei gyfrifoldeb am berson a dderbyniwyd ganddo yn breswylydd dros dro o dan baragraff 25(3), rhaid i’r contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig o’r gwrthodiad hwnnw neu’r terfyniad hwnnw, a’r rhesymau drosto, i’r ceisydd (neu, yn achos plentyn neu oedolyn sydd heb alluedd, i’r person a wnaeth y cais ar ei ran) cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad ei benderfyniad.
(4) Rhaid i’r contractwr—
(a)cadw cofnod ysgrifenedig—
(i)o’r penderfyniad i wrthod unrhyw gais a wneir o dan baragraffau 23, 24 neu 25 neu i derfynu ei gyfrifoldeb am berson a dderbyniwyd ganddo yn breswylydd dros dro o dan baragraff 25(3), a
(ii)o’r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu’r terfyniad hwnnw, a
(b)rhoi’r cofnodion hyn ar gael i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gais.
Hoff ddewis y claf o ymarferydd
27.—(1) Pan fo’r contractwr wedi derbyn cais a wneir o dan baragraffau 23, 24 neu 25 i gynnwys person yn ei restr o gleifion, rhaid i’r contractwr gofnodi yn ysgrifenedig unrhyw hoff ddewis a fynegir gan y person hwnnw (neu, yn achos plentyn neu oedolyn sydd heb alluedd, y person a wnaeth y cais ar ran y ceisydd) i gael gwasanaethau gan gyflawnydd penodol, naill ai yn gyffredinol neu mewn perthynas ag unrhyw gyflwr penodol.
(2) Rhaid i’r contractwr ymdrechu i gydymffurfio ag unrhyw hoff ddewis rhesymol a fynegir o dan is-baragraff (1) ond nid oes angen iddo wneud hynny—
(a)os oes gan y cyflawnydd sy’n hoff ddewis sail resymol dros wrthod darparu gwasanaethau i’r person a fynegodd y dewis, neu
(b)os nad yw’r cyflawnydd sy’n hoff ddewis yn rheolaidd yn cyflawni’r gwasanaeth o dan sylw o fewn practis y contractwr.
Dileu person o’r rhestr ar gais y claf
28.—(1) Rhaid i’r contractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig am unrhyw gais a wneir gan unrhyw berson sy’n glaf cofrestredig i gael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion.
(2) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)yn cael hysbysiad gan y contractwr o dan is-baragraff (1), neu
(b)yn cael cais yn uniongyrchol gan y person am gael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion,
rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu’r person hwnnw o restr y contractwr o gleifion.
(3) Mae’r penderfyniad i ddileu person o restr contractwr o gleifion yn unol ag is-baragraff (2) i gael effaith ar ba un bynnag yw’r cyntaf o blith—
(a)y dyddiad y rhoddir hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol fod y person hwnnw wedi ei gofrestru gyda darparwr gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) arall, neu
(b)14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y daw’r hysbysiad a roddir o dan is-baragraff (1) neu’r cais a wneir o dan is-baragraff (2) i law’r Bwrdd Iechyd Lleol.
(4) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi hysbysiad ysgrifenedig—
(a)i’r person a wnaeth y cais am y dileu, a
(b)i’r contractwr,
fod enw’r person i’w ddileu, neu ei fod wedi ei ddileu, o restr y contractwr o gleifion ar y dyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3).
(5) Yn y paragraff hwn ac ym mharagraffau 29(1)(b) a (10), 30(5) a (6), 32 a 35, rhaid i gyfeiriad at gais sy’n dod i law oddi wrth berson, neu at gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo, gynnwys y canlynol—
(a)yn achos plentyn—
(i)cais sy’n dod i law gan y naill riant neu’r llall neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddynt, neu yn absenoldeb y ddau riant, cais sy’n dod i law gan y gwarcheidwad neu’r oedolyn arall sydd â gofal dros y plentyn neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo,
(ii)cais sy’n dod i law gan berson a awdurdodir yn briodol gan awdurdod lleol y traddodwyd plentyn i’w ofal o dan Ddeddf Plant 1989 neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo, neu
(iii)cais sy’n dod i law gan berson a awdurdodir yn briodol gan sefydliad gwirfoddol y mae’r plentyn yn cael llety ganddo o dan ddarpariaethau Deddf Plant 1989 neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo, neu
(b)yn achos claf sy’n oedolyn sydd heb alluedd i wneud y cais perthnasol neu i dderbyn y cyngor, yr wybodaeth neu’r hysbysiad perthnasol—
(i)cais sy’n dod i law gan berthynas i’r person hwnnw neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo,
(ii)cais sy’n dod i law gan brif ofalwr i’r person hwnnw neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo,
(iii)cais sy’n dod i law gan roddai atwrneiaeth arhosol a roddwyd gan y person hwnnw neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo, neu
(iv)cais sy’n dod i law gan ddirprwy a benodwyd ar gyfer y person hwnnw gan y llys o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo.
Dileu person o’r rhestr ar gais y contractwr
29.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 30, rhaid i gontractwr a chanddo sail resymol dros fod yn awyddus i berson gael ei ddileu o’i restr o gleifion nad ydynt yn ymwneud â hil, dosbarth cymdeithasol, oedran, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd neu ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, golwg, anabledd neu gyflwr meddygol y person—
(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn awyddus i ddileu’r person o’r rhestr a darparu o fewn yr hysbysiad esboniad o’r seiliau dros y cais am ei ddileu a pham y byddai’r penderfyniad i’w ddileu yn rhesymol, a
(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person o’i resymau penodol dros ofyn am gael dileu’r person hwnnw o’r rhestr.
(2) Pan fo, ym marn resymol y contractwr—
(a)amgylchiadau dileu’r person o’r rhestr yn golygu nad yw’n briodol rhoi rheswm mwy penodol, a
(b)bod tor perthynas diwrthdro wedi bod rhwng y person perthnasol a’r contractwr,
caiff y rheswm a roddir i’r claf o dan is-baragraff (1) fod yn ddatganiad bod tor perthynas o’r fath wedi bod.
(3) Ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir yn is-baragraff (4), ni chaiff y contractwr wneud cais am ddileu person o’i restr o gleifion o dan is-baragraff (1) ond os yw’r contractwr, cyn diwedd y cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau â dyddiad cais y contractwr i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)wedi rhybuddio’r person hwnnw am y risg o gael ei ddileu o’r rhestr honno, a
(b)wedi esbonio’r rhesymau dros hyn i’r person.
(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) yw—
(a)bod y rheswm dros ddileu’r person o’r rhestr yn ymwneud â newid cyfeiriad,
(b)bod gan y contractwr sail resymol dros gredu y byddai rhoi rhybudd o dan is-baragraff (3)(a)—
(i)yn niweidiol i iechyd corfforol neu feddyliol y person, neu
(ii)yn creu risg i ddiogelwch un neu ragor o’r personau a bennir yn is-baragraff (5), neu
(c)bod y contractwr yn ystyried nad yw’n rhesymol neu’n ymarferol fel arall i rybudd gael ei roi.
(5) Y personau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4) yw—
(a)y contractwr, pan fo’r contractwr yn ymarferydd meddygol unigol,
(b)yn achos contract gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, partner yn y bartneriaeth honno,
(c)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, person y mae cyfrannau yn y cwmni hwnnw yn eiddo iddo yn gyfreithiol ac yn llesiannol,
(d)aelod o staff y contractwr,
(e)person a gymerwyd ymlaen gan y contractwr i gyflawni neu i helpu i gyflawni gwasanaethau o dan y contract, neu
(f)unrhyw berson arall sy’n bresennol—
(i)ar y fangre practis, neu
(ii)yn y man lle mae gwasanaethau’n cael eu darparu i’r claf o dan y contract.
(6) Rhaid i’r contractwr gadw cofnod ysgrifenedig—
(a)o ddyddiad unrhyw rybudd a roddir yn unol ag is-baragraff (3)(a) a’r rhesymau dros roi’r rhybudd hwnnw fel y’u hesboniwyd i’r person o dan sylw, neu
(b)o’r rheswm pam na roddwyd rhybudd o’r fath.
(7) Rhaid i’r contractwr gadw cofnod ysgrifenedig o ddileu unrhyw berson o’i restr o gleifion o dan y paragraff hwn sy’n cynnwys—
(a)y rheswm dros ddileu’r person o’r rhestr,
(b)amgylchiadau dileu’r person o’r rhestr, ac
(c)mewn achosion pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, y sail sy’n golygu nad yw rheswm mwy penodol yn briodol,
a rhaid i’r contractwr sicrhau bod y cofnod hwn ar gael i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gais.
(8) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), rhaid i’r penderfyniad i ddileu person o restr y contractwr o gleifion gael effaith o ba un bynnag yw’r cynharaf o blith—
(a)y dyddiad y rhoddir hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol fod y person hwnnw wedi ei gofrestru gyda darparwr gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) arall,
(b)yr wythfed niwrnod ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad i’r contractwr ei fod yn cymeradwyo dileu’r person o’r rhestr, neu
(c)yr wythfed niwrnod ar hugain ar ôl y dyddiad y mae’r hysbysiad gan y contractwr yn dod i law’r Bwrdd Iechyd Lleol, os nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cymeradwyo nac wedi gwrthod yr hysbysiad yn ystod y cyfnod hwnnw.
(9) Pan fo’r contractwr, ar y dyddiad y byddai’r penderfyniad i ddileu’r person o’r rhestr yn cael effaith o dan is-baragraff (8), yn trin y person fesul ysbeidiau o lai na 7 niwrnod, rhaid i’r contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol o’r ffaith honno ac mae’r penderfyniad i ddileu’r person yn cael effaith ar ba un bynnag yw’r cynharaf o blith—
(a)yr wythfed diwrnod ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol gael hysbysiad gan y contractwr nad oes ar y person angen triniaeth o’r fath mwyach, neu
(b)y dyddiad y rhoddir hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol bod y person wedi ei gofrestru gyda darparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol).
(10) Os yw person i gael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion yn unol ag is-baragraff (8) neu (9), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig—
(a)i’r person y cymeradwywyd ei ddileu o’r rhestr, a
(b)i’r contractwr,
fod enw’r person wedi ei ddileu neu i’w ddileu o restr y contractwr o gleifion ar y dyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (8) neu (9).
Dileu o’r rhestr gleifion sy’n dreisgar
30.—(1) Pan fo contractwr yn dymuno i berson gael ei ddileu o’i restr o gleifion ar y sail—
(a)bod y person wedi cyflawni gweithred o drais yn erbyn unrhyw un neu ragor o’r personau a bennir yn is-baragraff (2) neu wedi ymddwyn yn y fath fodd fel bod unrhyw un neu ragor o’r personau hynny wedi ofni am eu diogelwch, a
(b)bod y contractwr wedi adrodd am y digwyddiad i’r heddlu,
rhaid i’r contractwr roi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag is-baragraff (3) yn gofyn i’r person gael ei ddileu o’i restr o gleifion.
(2) Y personau a bennir yn yr is-baragraff hwn yw—
(a)y contractwr, pan fo’r contractwr yn ymarferydd meddygol unigol,
(b)yn achos contract gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, partner yn y bartneriaeth honno,
(c)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, person y mae cyfrannau yn y cwmni hwnnw yn eiddo iddo yn gyfreithiol ac yn llesiannol,
(d)aelod o staff y contractwr,
(e)person a gymerwyd ymlaen gan y contractwr i gyflawni neu i helpu i gyflawni gwasanaethau o dan y contract, neu
(f)unrhyw berson arall sy’n bresennol—
(i)ar fangre practis y contractwr, neu
(ii)yn y man lle’r oedd gwasanaethau’n cael eu darparu i’r claf o dan y contract.
(3) Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys y rhif cyfeirnod trosedd a ddyrannwyd i’r digwyddiad gan yr heddlu.
(4) Mae penderfyniad i ddileu person o restr y gwnaed cais amdano yn unol ag is-baragraff (1) yn cael effaith o ba un bynnag yw’r cynharaf o blith—
(a)y dyddiad y rhoddir hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol bod y person hwnnw wedi ei gofrestru gyda darparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol),
(b)drannoeth y diwrnod y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi hysbysiad i’r contractwr ei fod wedi cymeradwyo dileu’r person o’r rhestr, neu
(c)y seithfed niwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael yr hysbysiad gan y contractwr, os nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cymeradwyo nac wedi gwrthod yr hysbysiad o fewn y cyfnod hwnnw.
(5) Pan fo’r contractwr, yn unol â’r paragraff hwn, wedi rhoi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn dymuno dileu claf o’i restr o gleifion a bod y cais hwnnw wedi cymryd effaith o dan is-baragraff (4), rhaid i’r contractwr hysbysu’r person hwnnw o’r ffaith honno oni bai—
(a)nad yw’n rhesymol ymarferol i’r contractwr wneud hynny, neu
(b)bod gan y contractwr sail resymol dros gredu y byddai gwneud hynny—
(i)yn niweidiol i iechyd corfforol neu feddyliol y person hwnnw, neu
(ii)yn peri risg i ddiogelwch unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (2).
(6) Pan fo person yn cael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad i’r person hwnnw yn ysgrifenedig ei fod wedi ei ddileu o’r rhestr.
(7) Rhaid i’r contractwr gofnodi penderfyniad i ddileu unrhyw berson o’i restr o gleifion o dan y paragraff hwn, a’r amgylchiadau sy’n arwain at ei ddileu, yng nghofnodion meddygol y person y dilëir ei enw.
Dileu cleifion o’r rhestr os ydynt wedi eu cofrestru mewn man arall
31.—(1) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu person o restr y contractwr o gleifion—
(a)os yw’r person wedi ei gofrestru wedyn gyda darparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu
(b)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cael hysbysiad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall, GIG Lloegr, Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod y claf wedi ei gofrestru wedyn gyda darparwr gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) y tu allan i ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Mae dileu person yn unol ag is-baragraff (1) i gael effaith—
(a)ar y dyddiad y rhoddir hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol fod y person wedi ei gofrestru gyda’r darparwr newydd, neu
(b)gyda chydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, ar unrhyw ddyddiad arall y cytunir arno rhwng y contractwr a’r darparwr newydd.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i gontractwr am unrhyw berson sy’n cael ei ddileu o’i restr o gleifion o dan is-baragraff (1).
Dileu o’r rhestr gleifion sydd wedi symud
32.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni, neu wedi ei hysbysu gan y contractwr, fod person ar restr y contractwr o gleifion wedi symud ac nad yw’n preswylio mwyach yn ardal practis y contractwr hwnnw, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)rhoi gwybod i’r person ac i’r contractwr nad oes rheidrwydd bellach ar y contractwr i ymweld â’r person a’i drin,
(b)cynghori’r person yn ysgrifenedig naill ai i sicrhau cytundeb y contractwr i’r person hwnnw barhau i gael ei gynnwys ar restr y contractwr o gleifion, neu i wneud cais i gofrestru gyda darparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol), ac
(c)rhoi gwybod i’r person, os nad yw’r person hwnnw, ar ôl y cyfnod o 30 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd y cyngor a grybwyllir ym mharagraff (b), wedi gweithredu yn unol â’r cyngor hwnnw ac wedi hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â hynny, fod y person hwnnw i’w ddileu o restr y contractwr o gleifion.
(2) Os nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, ar ddiwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (1)(c), wedi ei hysbysu gan y person am y camau a gymerwyd, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu’r person hwnnw o restr y contractwr o gleifion a hysbysu’r person hwnnw a’r contractwr ei fod wedi ei ddileu.
Dileu o’r rhestr gleifion nad yw eu cyfeiriad yn hysbys
33. Pan na fo cyfeiriad person sydd ar restr y contractwr o gleifion yn hysbys i’r Bwrdd Iechyd Lleol mwyach a bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn credu yn rhesymol nad yw hyn oherwydd na all y claf ddangos prawf o gyfeiriad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr ei fod, ar ddiwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad, yn bwriadu dileu’r person o restr y contractwr o gleifion, a
(b)ar ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), ddileu’r person o restr y contractwr o gleifion oni bai bod y contractwr, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn bodloni’r Bwrdd Iechyd Lleol bod y person yn glaf y mae’n dal i fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau unedig iddo.
Dileu o’r rhestr gleifion sy’n absennol o’r Deyrnas Unedig etc.
34.—(1) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu person o restr y contractwr o gleifion pan fo’n cael hysbysiad i’r perwyl bod y person—
(a)yn bwriadu bod i ffwrdd o’r Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 wythnos o leiaf,
(b)yn lluoedd arfog y Goron (ac eithrio yn achos claf y mae paragraff 24 yn gymwys iddo),
(c)yn treulio cyfnod yn y carchar o fwy na 2 flynedd, neu fwy nag un cyfnod yn y carchar sy’n gyfanswm cyfanredol o fwy na 2 flynedd,
(d)wedi bod yn absennol o’r Deyrnas Unedig am gyfnod o fwy na 12 wythnos, neu
(e)wedi marw.
(2) Mae dileu person o restr contractwr o gleifion o dan y paragraff hwn yn cael effaith—
(a)pan fo is-baragraff (1)(a) i (c) yn gymwys, o ba un bynnag yw’r hwyraf o blith—
(i)y dyddiad y mae’r person yn ymadael, yn ymrestru neu’n cael ei garcharu, neu
(ii)y dyddiad y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn cael hysbysiad am y tro cyntaf fod y person wedi ymadael, wedi ymrestru neu wedi ei garcharu, neu
(b)pan fo is-baragraff (1)(d) ac (e) yn gymwys, y dyddiad y rhoddir hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol fod y person yn absennol neu wedi marw.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr fod unrhyw berson wedi ei ddileu o restr y contractwr o gleifion o dan y paragraff hwn.
Dileu o’r rhestr gleifion a dderbyniwyd mewn mannau eraill yn breswylwyr dros dro
35.—(1) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu person o restr y contractwr o gleifion pan fo’r person wedi ei dderbyn yn breswylydd dros dro gan gontractwr arall neu ddarparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni, ar ôl ymholiadau priodol—
(a)bod arhosiad y person yn y man preswylio dros dro wedi mynd dros 12 wythnos, a
(b)nad yw’r person wedi dychwelyd i’w fan preswylio arferol nac i unrhyw le arall o fewn ardal practis y contractwr.
(2) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig bod person wedi ei dynnu oddi ar restr contractwr o gleifion o dan y paragraff hwn—
(a)i’r contractwr, a
(b)pan fo’n ymarferol, i’r person hwnnw.
(3) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan is-baragraff (2)(b) roi gwybod i’r person—
(a)am hawlogaeth y person hwnnw i wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) i’r person hwnnw, gan gynnwys gan y contractwr y mae’r person hwnnw wedi ei drin ganddo fel preswylydd dros dro, a
(b)am enw, cyfeiriad post a chyfeiriad post electronig a rhif ffôn y Bwrdd Iechyd Lleol.
Dileu o’r rhestr ddisgyblion etc. ysgol
36.—(1) Pan fo’r contractwr yn darparu gwasanaethau unedig o dan y contract i bersonau ar y sail eu bod yn ddisgyblion, yn staff neu’n breswylwyr mewn ysgol, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu o restr y contractwr o gleifion unrhyw berson nad yw’n ymddangos ar y manylion a ddarperir gan yr ysgol honno o bobl sy’n ddisgyblion, yn staff neu’n breswylwyr yn yr ysgol honno.
(2) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gofyn i ysgol ddarparu’r manylion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac nad yw wedi cael y manylion hynny, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ymgynghori â’r contractwr ynghylch pa un a ddylai ddileu o restr y contractwr o gleifion unrhyw bersonau sy’n ymddangos yn y rhestr honno fel disgyblion, staff neu breswylwyr yn yr ysgol honno.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr fod unrhyw berson wedi ei ddileu o restr y contractwr o gleifion o dan y paragraff hwn.
Terfynu cyfrifoldeb am gleifion sydd heb eu cofrestru gyda’r contractwr
37.—(1) Pan fo’r contractwr—
(a)wedi cael cais am ddarpariaeth gwasanaethau meddygol heblaw gwasanaethau unedig—
(i)gan berson nad yw wedi ei gynnwys (ac nad yw’n gwneud cais am gael ei gynnwys) yn rhestr y contractwr o gleifion,
(ii)gan berson nad yw’r contractwr wedi ei dderbyn yn breswylydd dros dro, neu
(iii)a wneir ar ran person y cyfeirir ato yn is-baragraff (i) neu (ii), gan berson a bennir ym mharagraff 23(4), a
(b)wedi derbyn y person sy’n gwneud y cais neu y gwneir y cais ar ei ran yn glaf ar gyfer darparu’r gwasanaeth o dan sylw,
mae cyfrifoldeb y contractwr am y person hwnnw yn terfynu o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-baragraff (2).
(2) Yr amgylchiadau a ddisgrifir yn yr is-baragraff hwn yw—
(a)bod y contractwr yn cael gwybod nad yw’r person yn dymuno mwyach i’r contractwr fod yn gyfrifol am ddarparu’r gwasanaeth o dan sylw, neu
(b)bod y contractwr yn cael gwybod nad yw’r person—
(i)yn preswylio mwyach yn yr ardal y mae’r contractwr wedi cytuno i ddarparu’r gwasanaeth o dan sylw ar ei chyfer, neu
(ii)wedi ei gynnwys mwyach yn rhestr cleifion contractwr arall y mae’r contractwr wedi cytuno i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw i’w gleifion cofrestredig.
(3) Rhaid i’r contractwr gadw cofnod ysgrifenedig o derfyniadau o dan y paragraff hwn ac o’r rhesymau dros y terfyniadau hynny, a rhaid iddo drefnu bod y cofnod hwn ar gael i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gais.
RHAN 3Rhestr o gleifion: cau, etc.
Cais am gau rhestr o gleifion
38.—(1) Pan fo contractwr yn awyddus i gau ei restr o gleifion, rhaid i’r contractwr anfon cais ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw (“y cais”) i’r Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Rhaid i’r cais gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y cyfnod o amser, sy’n gyfnod nad yw’n llai na 12 o wythnosau ac nad yw’n hwy nag 1 flwyddyn, pan fo’r contractwr yn cynnig y dylai ei restr o gleifion gael ei chau,
(b)y nifer cyfredol o gleifion cofrestredig sydd gan y contractwr,
(c)nifer y cleifion cofrestredig (llai na’r nifer cyfredol o gleifion o’r fath, ac wedi ei fynegi naill ai mewn termau absoliwt neu fel canran o nifer y cleifion o’r fath a bennir yn unol â pharagraff (b)) a fyddai, pe câi’r nifer hwnnw ei gyrraedd, yn sbarduno ailagor rhestr cleifion y contractwr,
(d)nifer y cleifion cofrestredig (wedi ei fynegi naill ai mewn termau absoliwt neu fel canran o nifer y cleifion o’r fath a bennir yn unol â pharagraff (b)) a fyddai, pe câi’r nifer hwnnw ei gyrraedd, yn sbarduno ail-gau rhestr cleifion y contractwr,
(e)unrhyw dynnu’n ôl neu leihau darpariaeth unrhyw wasanaethau ategol a oedd wedi eu darparu yn flaenorol o dan y contract, ac
(f)unrhyw wybodaeth arall y mae’r contractwr o’r farn y dylid ei dwyn i sylw’r Bwrdd Iechyd Lleol.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gydnabod bod y cais wedi dod i law cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth y cais i law’r Bwrdd Iechyd Lleol.
(4) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y cais a chaiff ofyn am unrhyw wybodaeth gan y contractwr sy’n ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn ei alluogi i benderfynu ar y cais.
(5) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddechrau trafodaethau gyda’r contractwr ynghylch y canlynol—
(a)y cymorth y gallai’r Bwrdd Iechyd Lleol ei roi i’r contractwr, neu
(b)unrhyw newidiadau y gallai’r Bwrdd Iechyd Lleol neu’r contractwr eu gwneud,
a fyddai’n fodd i’r contractwr gadw ei restr o gleifion yn agored.
(6) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr, drwy gydol cyfnod y trafodaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), wneud ymdrech resymol i gyflawni’r nod o gadw rhestr y contractwr o gleifion yn agored.
(7) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r contractwr, ar unrhyw adeg yn ystod y trafodaethau, wahodd y Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal lle y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract i fynd i unrhyw gyfarfodydd a drefnir rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr i drafod y cais.
(8) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i’r Bwrdd Iechyd Lleol y gallai cau rhestr y contractwr o gleifion effeithio arnynt, ac os bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud hyn, rhaid iddo ddarparu i’r contractwr grynodeb o’r farn a fynegir gan y personau hynny yr ymgynghorir â hwy ynghylch y cais.
(9) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol alluogi’r contractwr i ystyried yr holl wybodaeth a gwneud sylwadau arni cyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud penderfyniad mewn cysylltiad â’r cais.
(10) Caiff contractwr dynnu’r cais yn ôl unrhyw bryd cyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud penderfyniad mewn cysylltiad â’r cais hwnnw.
(11) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth y cais i law’r Bwrdd Iechyd Lleol (neu o fewn unrhyw gyfnod hirach y gallai’r partïon gytuno arno), wneud penderfyniad—
(a)i gymeradwyo’r cais a phenderfynu ar y dyddiad y bydd y penderfyniad i gau rhestr y contractwr yn cael effaith, neu
(b)i wrthod y cais.
(12) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr o’i benderfyniad—
(a)i gymeradwyo’r cais yn unol â pharagraff 39, neu
(b)i wrthod y cais yn unol â pharagraff 40.
(13) Ni chaiff contractwr gyflwyno mwy nag un cais am gau ei restr o gleifion mewn unrhyw gyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud ei benderfyniad ar y cais oni bai—
(a)bod paragraff 40(3) yn gymwys, neu
(b)bod newid wedi bod yn amgylchiadau’r contractwr sy’n effeithio ar ei allu i ddarparu gwasanaethau o dan y contract.
Cymeradwyo cais am gau rhestr o gleifion
39.—(1) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cymeradwyo cais am gau rhestr contractwr o gleifion, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr am ei benderfyniad cyn gynted â phosibl a rhaid i’r hysbysiad (“yr hysbysiad cau”) gynnwys y manylion a bennir yn is-baragraff (2), a
(b)yr un pryd ag y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi hysbysiad i’r contractwr, anfon copi o’r hysbysiad cau—
(i)i’r Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract ynddi, a
(ii)at unrhyw berson yr ymgynghorodd y Bwrdd Iechyd Lleol ag ef yn unol â pharagraff 38(8).
(2) Rhaid i’r hysbysiad cau gynnwys—
(a)y cyfnod o amser y mae rhestr y contractwr o gleifion i fod wedi ei chau, sy’n gorfod bod—
(i)y cyfnod a bennir yn y cais, neu
(ii)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr wedi cytuno yn ysgrifenedig ar gyfnod gwahanol, y cyfnod gwahanol hwnnw, ac
yn y naill achos neu’r llall, ni chaiff y cyfnod fod yn llai na 12 wythnos nac yn fwy nag 1 flwyddyn,
(b)y dyddiad y mae’r penderfyniad i gau’r rhestr o gleifion i gael effaith (“y dyddiad cau”), ac
(c)y dyddiad y mae’r rhestr o gleifion i ailagor.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff 42, rhaid i gontractwr gau ei restr o gleifion o’r dyddiad cau ymlaen a rhaid i’r rhestr o gleifion aros ar gau drwy gydol y cyfnod cau fel y’i pennir yn yr hysbysiad cau.
Gwrthod cais am gau rhestr o gleifion
40.—(1) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrthod cais am gau rhestr contractwr o gleifion, rhaid iddo—
(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr am ei benderfyniad cyn gynted â phosibl gan gynnwys rhesymau’r Bwrdd Iechyd Lleol dros wrthod y cais, a
(b)ar yr un pryd ag y mae’n rhoi hysbysiad i’r contractwr, anfon copi o’r hysbysiad—
(i)i’r Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract ynddi, a
(ii)at unrhyw berson yr ymgynghorodd y Bwrdd Iechyd Lleol ag ef yn unol â pharagraff 38(8).
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrthod cais gan gontractwr am gau ei restr o gleifion, ni chaiff y contractwr wneud cais pellach am gau ei restr o gleifion tan ba un bynnag yw’r hwyraf o blith—
(a)diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y gwneir penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i wrthod y cais, neu
(b)mewn achos pan fo anghydfod sy’n deillio o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i wrthod y cais wedi ei atgyfeirio at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG, diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed penderfyniad terfynol i wrthod y cais yn unol â’r weithdrefn honno (neu unrhyw achos llys).
(3) Caiff contractwr wneud cais pellach am gau ei restr o gleifion pan fo newid wedi bod yn amgylchiadau’r contractwr sy’n effeithio ar allu’r contractwr i ddarparu gwasanaethau o dan y contract.
Ailagor rhestr o gleifion
41. Caiff y contractwr ailagor ei restr o gleifion cyn i’r cyfnod cau ddod i ben os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr yn cytuno y dylai’r contractwr wneud hynny.
RHAN 4Neilltuo cleifion i restrau
42.—(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn cysylltiad â phenderfyniad gan y Bwrdd Iechyd lleol i neilltuo—
(a)person yn glaf newydd i restr contractwr o gleifion—
(i)pan fo’r person hwnnw wedi ei wrthod i’w gynnwys mewn rhestr contractwr o gleifion neu heb ei dderbyn yn breswylydd dros dro gan gontractwr, a
(ii)pan hoffai’r person hwnnw gael ei gynnwys yn rhestr cleifion contractwr o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddo, neu
(b)unrhyw berson sy’n rhan o wasgariad rhestr yn sgil cau practis—
(i)pan nad yw’r person hwnnw wedi cofrestru gyda chontractwr arall, a
(ii)pan hoffai’r person hwnnw gael ei gynnwys yn rhestr cleifion contractwr o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddo, neu
(c)unrhyw berson sy’n rhan o wasgariad rhestr yn sgil cau practis pan nad yw’r person hwnnw wedi cofrestru gyda chontractwr arall ac nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi llwyddo i gysylltu â’r person hwnnw.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gwasgariad rhestr” yw dyrannu cleifion o restr contractwr o gleifion gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar ôl terfynu’r contract neu yn ystod y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad terfynu neu’r cytundeb i derfynu.
Neilltuo cleifion i restrau o gleifion: rhestrau agored a rhestrau wedi eu cau
43.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 44, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)neilltuo claf newydd i gontractwr y mae ei restr o gleifion yn agored, a
(b)neilltuo claf newydd i gontractwr y mae ei restr o gleifion wedi ei chau o dan yr amgylchiadau a bennir yn is-baragraff (2) yn unig.
(2) Yr amgylchiadau a bennir yn yr is-baragraff hwn yw—
(a)pan fo’r panel asesu wedi penderfynu o dan baragraff 45(7) y caniateir i gleifion newydd gael eu neilltuo i’r contractwr o dan sylw, ac nad yw’r penderfyniad hwnnw wedi ei wyrdroi naill ai drwy benderfyniad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 46(13) neu (pan fo’n gymwys) gan lys, a
(b)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi dechrau trafodaethau gyda’r contractwr o dan sylw ynghylch neilltuo cleifion newydd os yw trafodaethau o’r fath yn ofynnol o dan baragraff 47.
Ffactorau sy’n berthnasol wrth neilltuo
44. Wrth neilltuo person yn glaf newydd i restr contractwr o gleifion o dan baragraff 43(1)(a) neu (b), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i’r canlynol—
(a)hoff ddewisiadau ac amgylchiadau’r person,
(b)y pellter rhwng man preswylio’r person a mangre practis y contractwr,
(c)unrhyw gais a wneir gan gontractwr am ddileu’r person o’i restr o gleifion o fewn y cyfnod blaenorol o 6 mis yn dechrau â’r dyddiad y daw’r cais am neilltuo’r person i law’r Bwrdd Iechyd Lleol,
(d)pa un a yw’r person, yn ystod y cyfnod blaenorol o 6 mis yn dechrau â’r dyddiad y daw’r cais am neilltuo’r person i law’r Bwrdd Iechyd Lleol, wedi ei ddileu o restr o gleifion ar y sail y cyfeirir ati—
(i)ym mharagraff 29 (sy’n ymwneud â’r amgylchiadau y gellir dileu person o restr contractwr o gleifion ar gais y contractwr odanynt),
(ii)ym mharagraff 30 (sy’n ymwneud â dileu personau sy’n dreisgar o restr y contractwr o gleifion), neu
(iii)yn y darpariaethau cyfatebol i’r paragraffau hynny mewn perthynas â threfniadau a wneir o dan adran 41(2) o’r Ddeddf (sy’n ymwneud â threfniadau ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol),
(e)mewn achos y mae is-baragraff (d)(ii) yn gymwys iddo (neu y mae darpariaethau cyfatebol fel y’u crybwyllir yn is-baragraff (d)(iii) yn gymwys iddo), pa un a oes gan y contractwr gyfleusterau priodol i ymdrin â chleifion o’r fath, ac
(f)unrhyw faterion eraill y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu bod yn berthnasol.
Neilltuo i restrau wedi eu cau: cyfansoddiad a phenderfyniadau’r panel asesu
45.—(1) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn awyddus i neilltuo claf newydd i gontractwr sydd wedi cau ei restr o gleifion, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol baratoi cynnig i gael ei ystyried gan y panel asesu.
(2) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig ei fod wedi atgyfeirio’r mater at y panel asesu—
(a)i gontractwyr, gan gynnwys y contractwyr sy’n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan drefniadau a wneir o dan adran 41(2) o’r Ddeddf (sy’n ymwneud â threfniadau ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol)—
(i)sydd wedi cau eu rhestrau o gleifion, a
(ii)y gallai penderfyniad y panel asesu effeithio arnynt ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, a
(b)i’r Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwyr y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) yn darparu gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) ynddi.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol sicrhau y penodir y panel asesu i ystyried a phenderfynu ar y cynnig a wneir o dan is-baragraff (1), a rhaid i gyfansoddiad y panel asesu gyd-fynd â’r disgrifiad yn is-baragraff (4).
(4) Rhaid i aelodau’r panel asesu fod fel a ganlyn—
(a)Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r panel asesu yn bwyllgor neu’n is-bwyllgor iddo,
(b)person sy’n cynrychioli cleifion mewn ardal heblaw ardal y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n barti i’r contract, ac
(c)person sy’n cynrychioli Pwyllgor Meddygol Lleol nad yw’n cynrychioli ymarferwyr yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n barti i’r contract.
(5) Wrth ddod i’w benderfyniad, rhaid i’r panel asesu roi sylw i’r holl ffactorau perthnasol gan gynnwys—
(a)pa un a yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ceisio sicrhau darpariaeth gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) ar gyfer cleifion newydd heblaw drwy eu neilltuo i gontractwr sydd â rhestr wedi ei chau, a
(b)llwyth gwaith y contractwyr y mae unrhyw benderfyniad i neilltuo cleifion o’r fath i’w rhestr o gleifion yn debygol o effeithio arnynt.
(6) Rhaid i’r panel asesu ddod i benderfyniad cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y penodwyd y panel.
(7) Rhaid i’r panel asesu—
(a)penderfynu a gaiff y Bwrdd Iechyd Lleol neilltuo cleifion newydd i gontractwr sydd â rhestr o gleifion sydd wedi ei chau, a
(b)os yw’n penderfynu y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol neilltuo fel hyn, penderfynu, pan geir mwy nag un contractwr, ar y contractwyr y caniateir i gleifion gael eu neilltuo iddynt.
(8) Caiff y panel asesu benderfynu y caniateir i’r Bwrdd Iechyd Lleol neilltuo cleifion newydd i gontractwyr heblaw unrhyw un neu ragor o’r contractwyr a bennir yn ei gynigion o dan is-baragraff (1), cyn belled â bod y contractwyr wedi cael hysbysiad ysgrifenedig o dan is-baragraff (2)(a).
(9) Rhaid i benderfyniad y panel asesu gynnwys ei sylwadau ar y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), a rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad hwnnw i’r contractwyr hynny y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(a).
Neilltuo i restrau wedi eu cau: gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG ynglŷn â phenderfyniadau’r panel asesu
46.—(1) Pan fo panel asesu yn gwneud penderfyniad o dan baragraff 45(7) y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol neilltuo cleifion newydd i gontractwyr sydd wedi cau eu rhestrau o gleifion, caiff unrhyw gontractwr a bennir yn y penderfyniad atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru i adolygu’r penderfyniad hwnnw.
(2) Pan atgyfeirir mater at Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (1), rhaid iddo gael ei adolygu yn unol â’r weithdrefn a bennir yn yr is-baragraffau a ganlyn.
(3) Pan fyddai mwy nag un contractwr a bennir yn y penderfyniad yn hoffi atgyfeirio’r mater er mwyn i anghydfod gael ei ddatrys, caiff y contractwyr hynny, os ydynt i gyd yn cytuno, atgyfeirio’r mater ar y cyd, ac yn yr achos hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r mater mewn perthynas â’r contractwyr hynny gyda’i gilydd.
(4) Rhaid i’r contractwr (neu’r contractwyr) anfon at Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â dyddiad penderfyniad y panel asesu yn unol â pharagraff 45(7), gais ysgrifenedig am ddatrys anghydfod y mae’n rhaid iddo gynnwys y canlynol neu y mae’n rhaid cael y canlynol i gyd-fynd ag ef—
(a)enwau a chyfeiriadau’r partïon i’r anghydfod,
(b)copi o’r contract (neu’r contractau), ac
(c)datganiad byr sy’n disgrifio natur yr anghydfod a’r amgylchiadau yn arwain ato.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y mater at Weinidogion Cymru—
(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r partïon fod Gweinidogion Cymru yn delio â’r mater, a
(b)cynnwys gyda’r hysbysiad gais ysgrifenedig i’r partïon i gyflwyno unrhyw sylwadau yr hoffai’r partïon hynny eu cyflwyno ynghylch yr anghydfod yn ysgrifenedig cyn diwedd cyfnod penodedig.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r parti heblaw’r un a atgyfeiriodd y mater at y weithdrefn datrys anghydfodau, gyda’r hysbysiad o dan is-baragraff (5), gopi o unrhyw ddogfen yr atgyfeiriwyd yr anghydfod at y weithdrefn datrys anghydfodau drwyddi.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael unrhyw sylwadau gan barti—
(a)rhoi copi o’r sylwadau hynny i bob parti arall, a
(b)gofyn, yn ysgrifenedig, i bob parti y rhoddir copi o’r sylwadau hynny iddo, gyflwyno cyn diwedd cyfnod penodedig unrhyw arsylwadau ysgrifenedig yr hoffai’r parti eu cyflwyno am y sylwadau hynny.
(8) Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)gwahodd cynrychiolwyr i’r partïon i ymddangos gerbron Gweinidogion Cymru, a chyflwyno sylwadau llafar iddynt, naill ai gyda’i gilydd neu, gyda chytundeb y partïon, ar wahân, a chaniateir iddynt ddarparu i’r partïon, ymlaen llaw, restr o faterion neu gwestiynau yr hoffai Gweinidogion Cymru iddynt roi ystyriaeth arbennig iddynt, neu
(b)ymgynghori â phersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru’n ystyried bod eu harbenigedd yn debygol o gynorthwyo Gweinidogion Cymru i ystyried yr anghydfod.
(9) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â pherson arall o dan is-baragraff (8)(b), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i’r partïon, a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai canlyniadau’r ymgynghoriad effeithio’n sylweddol ar fuddiannau unrhyw barti, roi i’r partïon unrhyw gyfle y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn rhesymol o dan yr amgylchiadau i gyflwyno arsylwadau ar y canlyniadau hynny.
(10) Wrth ystyried yr anghydfod, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth—
(a)unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynir mewn ymateb i gais o dan is-baragraff (5)(b), ond dim ond os cyflwynir y sylwadau hynny cyn diwedd y cyfnod penodedig,
(b)unrhyw arsylwadau ysgrifenedig a gyflwynir mewn ymateb i gais o dan is-baragraff (7), ond dim ond os cyflwynir yr arsylwadau ysgrifenedig hynny cyn diwedd y cyfnod penodedig,
(c)unrhyw sylwadau llafar a gyflwynir mewn ymateb i wahoddiad o dan is-baragraff (8)(a),
(d)canlyniadau unrhyw ymgynghoriad o dan is-baragraff (8)(b), ac
(e)unrhyw arsylwadau a gyflwynir yn unol â chyfle a roddir o dan is-baragraff (9).
(11) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y paragraff hwn ac i unrhyw gytundeb gan y partïon, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y weithdrefn sydd i fod yn gymwys i ddatrys anghydfod mewn unrhyw fodd sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru er mwyn sicrhau bod penderfyniad cyfiawn, diymdroi, darbodus a therfynol yn cael ei wneud ar yr anghydfod.
(12) Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfnod penodedig” yw—
(a)unrhyw gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru yn y cais, sef cyfnod heb fod yn llai na 7 niwrnod a heb fod yn fwy na 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato, neu
(b)unrhyw gyfnod hwy y gall Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar gyfer penderfynu ar yr anghydfod pan fo’r cyfnod ar gyfer penderfynu’r anghydfod wedi ei estyn yn unol ag is-baragraff (16), a phan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu hynny, mae cyfeiriad yn y paragraff hwn at y cyfnod penodedig yn gyfeiriad at y cyfnod fel y’i hestynnir felly.
(13) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (16), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)penderfynu ar yr anghydfod cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y mater at Weinidogion Cymru,
(b)penderfynu a gaiff y Bwrdd Iechyd Lleol neilltuo cleifion newydd i gontractwyr sydd wedi cau eu rhestrau o gleifion, ac
(c)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol neilltuo cleifion newydd i’r contractwyr hynny, penderfynu ar y contractwyr y caniateir neilltuo’r cleifion newydd iddynt.
(14) Ni chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu y caniateir i gleifion gael eu neilltuo i gontractwr na chafodd ei bennu ym mhenderfyniad y panel asesu o dan baragraff 45(7)(b).
(15) Yn achos mater a atgyfeirir ar y cyd gan gontractwyr yn unol ag is-baragraff (3), caiff Gweinidogion Cymru benderfynu y caniateir i gleifion gael eu neilltuo i un, rhai neu’r cyfan o’r contractwyr a atgyfeiriodd y mater.
(16) Caniateir i’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn is-baragraff (13) gael ei estyn (hyd yn oed ar ôl iddo ddod i ben) yn ôl nifer penodedig pellach o ddiwrnodau os cytunir i’r perwyl hwnnw—
(a)gan Weinidogion Cymru,
(b)gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ac
(c)gan y contractwr (neu’r contractwyr) a atgyfeiriodd y mater at y weithdrefn datrys anghydfodau.
(17) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cofnodi’r penderfyniad, a’r rhesymau drosto, yn ysgrifenedig, a
(b)rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad (gan gynnwys y cofnod o resymau) i’r partïon.
Neilltuo i restrau wedi eu cau: neilltuo cleifion gan y Bwrdd Iechyd Lleol
47.—(1) Cyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol neilltuo claf newydd i gontractwr, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3)—
(a)dechrau trafodaethau gyda’r contractwr ynghylch y cymorth ychwanegol y gall y Bwrdd Iechyd Lleol ei gynnig i’r contractwr, a
(b)defnyddio’i ymdrechion gorau i ddarparu’r cymorth priodol hwnnw.
(2) Yn y trafodaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a), rhaid i’r ddau barti ddefnyddio ymdrechion rhesymol i ddod i gytundeb.
(3) Mae’r gofyniad yn is-baragraff (1)(a) i ddechrau trafodaethau yn gymwys—
(a)i’r penderfyniad cyntaf i neilltuo claf i gontractwr penodol, a
(b)i unrhyw benderfyniad dilynol i neilltuo claf i’r contractwr hwnnw i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ac yn briodol gan roi sylw i’r canlynol—
(i)y niferoedd o gleifion sydd wedi eu neilltuo neu a allai gael eu neilltuo iddo, a
(ii)y cyfnod o amser ers i’r trafodaethau diwethaf o dan is-baragraff (1)(a) gael eu cynnal.
RHAN 5Rhagnodi a gweinyddu
Rhagnodi: cyffredinol
48.—(1) Rhaid i’r contractwr sicrhau—
(a)bod unrhyw ffurflen bresgripsiwn neu unrhyw bresgripsiwn amlroddadwy ar gyfer cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar a ddyroddir gan ragnodydd, a
(b)bod unrhyw ffurflen archebu ocsigen cartref a ddyroddir gan broffesiynolyn gofal iechyd,
yn cydymffurfio, fel y bo’n briodol, â’r gofynion yn y Rhan hon.
(2) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at “cyffuriau” yn cynnwys sylweddau atal cenhedlu ac mae cyfeiriad at “cyfarpar” yn cynnwys cyfarpar atal cenhedlu.
Archebion ar gyfer cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar
49.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (4) ac i’r cyfyngiadau ar ragnodi ym mharagraffau 55 a 56, rhaid i ragnodydd archebu unrhyw gyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar y mae eu hangen ar gyfer trin unrhyw glaf sy’n cael triniaeth o dan y contract drwy—
(a)dyroddi i’r claf ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig sydd wedi ei chwblhau neu wedi ei gwblhau yn unol ag is-baragraff (6), neu
(b)creu a thrawsyrru presgripsiwn electronig o dan amgylchiadau y mae paragraff 50(1) yn gymwys iddynt,
ac ni chaniateir defnyddio ffurflen bresgripsiwn anelectronig, presgripsiwn amlroddadwy anelectronig na phresgripsiwn electronig sydd at ddefnydd y gwasanaeth iechyd o dan unrhyw amgylchiadau eraill.
(2) Ar achlysur penodol pan fydd angen cyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar fel y crybwyllir yn is-baragraff (1)—
(a)os yw’r rhagnodydd, yn ddi-oed, yn gallu archebu’r cyffur, y feddyginiaeth neu’r cyfarpar drwy gyfrwng presgripsiwn electronig,
(b)os yw’r feddalwedd Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig y byddai’r rhagnodydd yn ei defnyddio at y diben hwnnw yn darparu ar gyfer creu a thrawsyrru presgripsiynau electronig heb fod angen gweinyddydd enwebedig, ac
(c)os nad yw’r un o’r rhesymau dros ddyroddi ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig a roddir yn is-baragraff (3) yn gymwys,
rhaid i’r rhagnodydd greu a thrawsyrru presgripsiwn electronig ar gyfer y cyffur hwnnw, y feddyginiaeth honno neu’r cyfarpar hwnnw.
(3) Y rhesymau a roddir yn yr is-baragraff hwn yw—
(a)er bod y rhagnodydd yn gallu defnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, nid yw’r rhagnodydd wedi ei fodloni—
(i)bod y mynediad sydd gan y rhagnodydd at y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn ddibynadwy, neu
(ii)bod y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn gweithredu mewn modd dibynadwy,
(b)bod y claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn rhoi gwybod i’r rhagnodydd bod y claf yn awyddus i gael yr opsiwn i’r presgripsiwn gael ei weinyddu yn rhywle arall heblaw yng Nghymru, neu
(c)bod y claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn mynnu bod ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig yn cael ei dyroddi neu ei ddyroddi i’r claf ar gyfer presgripsiwn penodol ac, ym marn broffesiynol y rhagnodydd, fod lles y claf yn debygol o fod mewn perygl onid yw ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig yn cael ei dyroddi neu ei ddyroddi.
(4) Rhaid i broffesiynolyn gofal iechyd archebu unrhyw wasanaethau ocsigen cartref y mae eu hangen ar gyfer trin unrhyw glaf sy’n cael triniaeth o dan y contract drwy ddyroddi ffurflen archebu ocsigen cartref.
(5) Ni chaiff rhagnodydd archebu cyffuriau, meddyginiaeth na chyfarpar ar bresgripsiwn amlroddadwy ond pan fo’r cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar i’w darparu neu i’w ddarparu fwy nag unwaith.
(6) Wrth ddyroddi ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig—
(a)rhaid i’r rhagnodydd lofnodi’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy mewn inc yn llawysgrifen y rhagnodydd ei hun, ac nid drwy gyfrwng stamp, gyda phriflythrennau’r rhagnodydd, neu ei enwau cyntaf, a’i gyfenw, a
(b)ni chaiff y rhagnodydd ond llofnodi’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy ar ôl i fanylion yr archeb gael eu mewnosod yn y ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.
(7) Ni chaiff ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy gyfeirio at unrhyw ffurflen bresgripsiwn flaenorol na phresgripsiwn amlroddadwy blaenorol.
(8) Rhaid defnyddio ffurflen bresgripsiwn ar wahân neu bresgripsiwn amlroddadwy ar wahân ar gyfer pob claf, ac eithrio pan ddyroddir swmp-bresgripsiwn ar gyfer ysgol neu sefydliad o dan baragraff 58.
(9) Rhaid i ffurflen archebu ocsigen cartref gael ei llofnodi gan broffesiynolyn gofal iechyd.
(10) Pan fo rhagnodydd yn archebu’r cyffur bwprenorffin neu deuasepam neu gyffur a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001(59) (cyffuriau a reolir y mae rheoliadau 14 i 16, 18 i 21, 23, 26 a 27 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt) i’w gyflenwi fesul rhanbresgripsiwn ar gyfer trin caethiwed i unrhyw gyffur a bennir yn yr Atodlen honno, rhaid i’r rhagnodydd—
(a)defnyddio dim ond y ffurflen bresgripsiwn a ddarperir yn benodol at ddibenion cyflenwi fesul rhanbresgripsiwn,
(b)pennu nifer y rhanbresgripsiynau sydd i’w gweinyddu, a’r ysbaid rhwng pob rhanbresgripsiwn, ac
(c)archebu dim ond y swm hwnnw o’r cyffur a fydd yn darparu triniaeth ar gyfer cyfnod nad yw’n hwy na 14 o ddiwrnodau.
(11) Ni chaniateir defnyddio’r ffurflen bresgripsiwn a ddarperir yn arbennig at ddiben cyflenwi fesul rhanbresgripsiwn at unrhyw ddiben arall heblaw archebu cyffuriau yn unol ag is-baragraff (10).
(12) Mewn achos brys, ni chaiff rhagnodydd ond gofyn i fferyllydd GIG weinyddu cyffur neu feddyginiaeth cyn i ffurflen bresgripsiwn gael ei dyroddi neu ei chreu na chyn i bresgripsiwn amlroddadwy gael ei ddyroddi neu ei greu—
(a)os nad yw’r cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno yn gyffur Atodlen,
(b)os nad yw’r cyffur yn gyffur a reolir o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno), heblaw cyffur a bennir am y tro yn Rhan 1 o Atodlen 4 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 22, 23, 26 a 27) neu Atodlen 5 (cyffuriau a reolir sydd wedi eu heithrio o’r gwaharddiad ar fewnforio, allforio a bod ym meddiant ac sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 24 a 26) i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, ac
(c)os yw’r rhagnodydd yn ymgymryd â’r canlynol—
(i)darparu i’r fferyllydd GIG, o fewn 72 awr gan ddechrau â’r amser y gwneir y cais, ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig wedi ei chwblhau neu wedi ei gwblhau yn unol ag is-baragraff (6), neu
(ii)trawsyrru presgripsiwn electronig drwy’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig o fewn 72 awr, gan ddechrau â’r amser y gwneir y cais.
(13) Mewn achos brys, ni chaiff rhagnodydd ond gofyn i fferyllydd GIG weinyddu cyfarpar cyn i ffurflen bresgripsiwn gael ei dyroddi neu ei chreu na chyn i bresgripsiwn amlroddadwy gael ei ddyroddi neu ei greu—
(a)os nad yw’r cyfarpar yn cynnwys cyffur Atodlen, na chyffur a reolir o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno), heblaw cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 (cyffuriau a reolir sydd wedi eu heithrio o’r gwaharddiad ar fewnforio, allforio a bod ym meddiant ac sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 24 a 26),
(b)pan fo’r cyfarpar yn gyfarpar argaeledd cyfyngedig, os yw’r claf yn berson a bennir yn y Tariff Cyffuriau neu’r cyfarpar at ddiben a bennir yn y Tariff Cyffuriau, ac
(c)os yw’r rhagnodydd yn ymgymryd â’r canlynol—
(i)darparu i’r fferyllydd GIG, o fewn 72 awr, gan ddechrau â’r amser y gwneir y cais, ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig wedi ei chwblhau neu wedi ei gwblhau yn unol ag is-baragraff (6), neu
(ii)trawsyrru presgripsiwn electronig drwy’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig o fewn 72 awr, gan ddechrau â’r amser y gwneir y cais.
Presgripsiynau electronig
50.—(1) Ni chaiff rhagnodydd ond archebu cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar drwy gyfrwng presgripsiwn electronig os nad yw’r presgripsiwn—
(a)ar gyfer cyffur a reolir o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno), ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlenni 2 i 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, neu
(b)yn swmp-bresgripsiwn a ddyroddir ar gyfer ysgol neu sefydliad o dan baragraff 58.
(2) Os yw rhagnodydd yn archebu cyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar drwy gyfrwng presgripsiwn electronig, rhaid i’r rhagnodydd ddyroddi i’r claf—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), tocyn GPE, a
(b)os yw’r claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn gofyn hynny, cofnod ysgrifenedig o’r presgripsiwn sydd wedi ei greu.
(3) Ar y dyddiad y mae GPE y contractwr yn mynd yn fyw, ac ar ôl hynny, os yw’r archeb yn gymwys ar gyfer defnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, rhaid i’r rhagnodydd ganfod pa un a yw’r claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn awyddus i’r presgripsiwn electronig gael ei weinyddu gan weinyddydd enwebedig.
(4) Ni chaiff y rhagnodydd ddyroddi tocyn GPE i’r claf os yw’r claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn awyddus i’r presgripsiwn electronig gael ei weinyddu gan weinyddydd enwebedig.
(5) Ni chaiff proffesiynolyn gofal iechyd archebu gwasanaethau ocsigen cartref drwy gyfrwng presgripsiwn electronig.
Enwebu gweinyddwyr at ddibenion presgripsiynau electronig
51.—(1) Rhaid i gontractwr sydd wedi ei awdurdodi i ddefnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ar gyfer ei gleifion, os yw claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn gofyn iddo wneud hynny, fewnosod yn y manylion ynghylch y claf a gedwir yng Ngwasanaeth Demograffeg Cymru a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru neu yn y Gwasanaeth Demograffeg Personol a reolir gan GIG Lloegr—
(a)pan na fo gan y claf weinyddydd enwebedig, y gweinyddydd a ddewisir gan y claf neu, pan fo’n briodol, y gweinyddydd a ddewisir gan berson awdurdodedig y claf, a
(b)pan fo gan y claf weinyddydd enwebedig—
(i)gweinyddydd yn lle gweinyddydd arall, neu
(ii)gweinyddydd ychwanegol,
a ddewisir gan y claf neu, pan fo’n briodol, a ddewisir gan berson awdurdodedig y claf.
(2) Nid yw is-baragraff (1)(b)(ii) yn gymwys pe byddai nifer y gweinyddwyr enwebedig o ganlyniad yn fwy na’r uchafswm a ganiateir gan y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig.
(3) O ran contractwr—
(a)ni chaiff geisio perswadio claf neu berson awdurdodedig claf i enwebu gweinyddydd y mae’r rhagnodydd neu’r contractwr yn ei argymell, a
(b)os yw claf neu berson awdurdodedig claf yn gofyn iddo argymell fferyllydd GIG y gallai’r claf neu berson awdurdodedig y claf ei enwebu fel gweinyddydd y claf, rhaid iddo ddarparu i’r claf neu, yn ôl y digwydd, i berson awdurdodedig y claf, y rhestr a roddwyd i’r contractwr gan y Bwrdd Iechyd Leol yn cynnwys yr holl fferyllwyr GIG yn yr ardal sy’n darparu Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig.
Gwasanaethau amlragnodi
52.—(1) Ni chaiff contractwr ond darparu gwasanaethau amlragnodi i berson sydd ar ei restr o gleifion os yw’r contractwr—
(a)yn bodloni’r amodau yn is-baragraff (2), a
(b)wedi hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol am ei fwriad i ddarparu gwasanaethau amlragnodi yn unol ag is-baragraffau (3) a (4).
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) yw—
(a)bod gan y contractwr fynediad at systemau cyfrifiadurol a meddalwedd sy’n ei alluogi i ddyroddi presgripsiynau amlroddadwy anelectronig a swpddyroddiadau, a
(b)bod y mangre practis y mae’r gwasanaethau amlragnodi i’w darparu ynddi wedi ei lleoli mewn ardal o’r Bwrdd Iechyd Lleol y mae mangre o leiaf un fferyllydd GIG sydd wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau amlweinyddu, neu sydd wedi ymrwymo i drefniant i ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, wedi ei lleoli ynddi hefyd.
(3) Mae’r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b) yn hysbysiad ysgrifenedig gan y contractwr i’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ei fod—
(a)yn dymuno darparu gwasanaethau amlragnodi,
(b)yn bwriadu dechrau darparu’r gwasanaethau hynny o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, ac
(c)yn bodloni’r amodau yn is-baragraff (2).
(4) Rhaid i’r dyddiad a bennir gan y contractwr o dan baragraff (3)(b) fod o leiaf 10 niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad a bennir yn is-baragraff (1).
(5) Nid oes dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gontractwr neu ragnodydd ddarparu gwasanaethau amlragnodi i unrhyw berson.
(6) Ni chaiff rhagnodydd ond darparu gwasanaethau amlragnodi i berson ar achlysur penodol—
(a)os yw’r person hwnnw wedi cytuno i gael gwasanaethau o’r fath ar yr achlysur hwnnw, a
(b)os yw’r rhagnodydd yn ystyried ei bod yn briodol yn glinigol i ddarparu gwasanaethau o’r fath i’r person hwnnw ar yr achlysur hwnnw.
(7) Ni chaiff y contractwr ddarparu gwasanaethau amlragnodi i unrhyw berson ar ei restr o gleifion y mae unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (8) wedi ei awdurdodi neu o dan ofyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau fferyllol iddo yn unol â threfniadau o dan adran 80 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol) ac adran 86 (personau sydd wedi eu hawdurdodi i ddarparu gwasanaethau fferyllol) o’r Ddeddf.
(8) Y personau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (7) yw—
(a)yn achos contract gydag ymarferydd meddygol unigol, yr ymarferydd meddygol hwnnw,
(b)yn achos contract gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth, unrhyw ymarferydd meddygol sy’n bartner,
(c)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, unrhyw ymarferydd meddygol sy’n gyfranddaliwr cyfreithiol a llesiannol yn y cwmni hwnnw, neu
(d)unrhyw ymarferydd meddygol sydd wedi ei gyflogi gan y contractwr.
Presgripsiynau amlroddadwy
53.—(1) Rhaid i ragnodydd sy’n dyroddi presgripsiwn amlroddadwy anelectronig ddyroddi’r nifer priodol o swpddyroddiadau yr un pryd.
(2) Pan fo rhagnodydd am wneud newid i fath, swm, cryfder neu ddogn cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar a archebir ar bresgripsiwn amlroddadwy person, rhaid i’r rhagnodydd—
(a)yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig—
(i)rhoi hysbysiad i’r person, a
(ii)gwneud ymdrechion rhesymol i roi hysbysiad i’r fferyllydd GIG sy’n darparu gwasanaethau amlweinyddu i’r person hwnnw,
nad yw’r presgripsiwn amlroddadwy gwreiddiol i’w ddefnyddio mwyach i gael nac i ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, a gwneud trefniadau ar gyfer dyroddi presgripsiwn amlroddadwy newydd i’r person yn ei le, neu
(b)yn achos presgripsiwn amlroddadwy electronig—
(i)trefnu gyda’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig i ddileu’r presgripsiwn amlroddadwy gwreiddiol, a
(ii)creu presgripsiwn amlroddadwy newydd mewn cysylltiad â’r person yn ei le, a rhoi hysbysiad i’r person fod hyn wedi ei wneud.
(3) Pan fo rhagnodydd wedi creu presgripsiwn amlroddadwy electronig ar gyfer person, rhaid i’r rhagnodydd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, drefnu gyda’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig i’w ganslo os yw’r rhagnodydd, cyn i’r presgripsiwn hwnnw ddod i ben—
(a)yn ystyried nad yw’n ddiogel neu’n briodol mwyach i’r person—
(i)cael y cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar sydd wedi eu harchebu neu wedi ei archebu ar bresgripsiwn amlroddadwy electronig y person, neu
(ii)parhau i gael gwasanaethau amlragnodi,
(b)wedi dyroddi presgripsiwn amlroddadwy anelectronig i’r person yn lle’r presgripsiwn amlroddadwy electronig, neu
(c)yn cael ei hysbysu bod y person y cafodd y presgripsiwn ei ddyroddi ar ei ran wedi cael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion.
(4) Pan fo rhagnodydd wedi canslo presgripsiwn amlroddadwy electronig mewn cysylltiad â pherson yn unol ag is-baragraff (3), rhaid i’r rhagnodydd roi hysbysiad o’r canslo i’r person cyn gynted ag y bo modd.
(5) Rhaid i ragnodydd sydd wedi dyroddi presgripsiwn amlroddadwy anelectronig mewn cysylltiad â pherson, cyn gynted ag y bo modd, wneud ymdrechion rhesymol i roi hysbysiad i’r fferyllydd GIG na chaniateir defnyddio’r presgripsiwn amlroddadwy hwnnw mwyach i ddarparu gwasanaethau amlweinyddu i’r person hwnnw os yw’r rhagnodydd, cyn i’r presgripsiwn amlroddadwy hwnnw ddod i ben,—
(a)yn ystyried nad yw’n ddiogel neu’n briodol mwyach i’r person—
(i)cael y cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar sydd wedi eu harchebu neu wedi ei archebu ar bresgripsiwn amlroddadwy y person, neu
(ii)parhau i gael gwasanaethau amlragnodi,
(b)yn dyroddi neu’n creu presgripsiwn amlroddadwy ychwanegol mewn cysylltiad â’r person i ddisodli’r presgripsiwn amlroddadwy gwreiddiol, ac eithrio o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff 2(a) (er enghraifft, oherwydd bod y person yn awyddus i gael y cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar gan fferyllydd GIG gwahanol), neu
(c)yn cael ei hysbysu bod y person y cafodd y presgripsiwn ei ddyroddi ar ei ran wedi cael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion.
(6) Pan fo’r amgylchiadau yn is-baragraff 5(a) i (c) yn gymwys mewn cysylltiad â pherson, rhaid i’r rhagnodydd, cyn gynted ag y bo modd, roi hysbysiad i’r person hwnnw na chaniateir defnyddio ei bresgripsiwn amlroddadwy mwyach i gael gwasanaethau amlweinyddu.
Rhagnodi ar gyfer amlweinyddu’n electronig
54.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau 49, 50, 52, a 53(2)(b) i (4), pan fo rhagnodydd yn archebu cyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar drwy gyfrwng presgripsiwn amlroddadwy electronig, rhaid i’r rhagnodydd ddyroddi’r presgripsiwn mewn fformat sy’n briodol ar gyfer amlweinyddu’n electronig pan fo’n briodol yn glinigol i wneud hynny ar gyfer y claf hwnnw ar yr achlysur hwnnw.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “amlweinyddu’n electronig” yw gweinyddu fel rhan o wasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol sy’n ymwneud â darparu cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy electronig.
Cyfyngiadau ar ragnodi gan ymarferwyr meddygol
55.—(1) Rhaid i ymarferydd meddygol, wrth drin claf y mae’r ymarferydd yn darparu triniaeth iddo o dan y contract, gydymffurfio â’r is-baragraffau a ganlyn.
(2) Ni chaniateir i’r ymarferydd meddygol archebu ar docyn meddyginiaethau rhestredig, ffurflen bresgripsiwn na phresgripsiwn amlroddadwy gyffuriau, meddyginiaethau na sylweddau eraill y pennir mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir o dan adran 46 o’r Ddeddf (contractau GMC: rhagnodi cyffuriau etc.) eu bod yn gyffuriau, yn feddyginiaethau neu’n sylweddau eraill na chaniateir iddynt gael eu harchebu ar gyfer cleifion wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan y contract.
(3) Ni chaniateir i’r ymarferydd meddygol archebu ar docyn meddyginiaethau rhestredig, ffurflen bresgripsiwn na phresgripsiwn amlroddadwy gyffuriau, meddyginiaethau na sylweddau eraill y pennir mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 46 o’r Ddeddf (contractau GMC: rhagnodi cyffuriau etc) eu bod yn gyffuriau, yn feddyginiaethau neu yn sylweddau eraill na chaniateir ond eu harchebu ar gyfer cleifion penodedig ac at ddibenion penodedig oni bai—
(a)bod y claf yn berson o’r disgrifiad penodedig,
(b)y rhagnodir y cyffur, y feddyginiaeth neu’r sylwedd arall ar gyfer y claf hwnnw yn unig at y diben penodedig, ac
(c)os yw’r archeb ar ffurflen bresgripsiwn, bod yr ymarferydd yn cynnwys y cyfeirnod “SLS” ar y ffurflen.
(4) Ni chaiff yr ymarferydd meddygol archebu cyfarpar argaeledd cyfyngedig ar ffurflen bresgripsiwn na phresgripsiwn amlroddadwy oni bai—
(a)bod y claf yn berson, neu fod y cyfarpar argaeledd cyfyngedig at ddiben, a bennir yn y Tariff Cyffuriau, a
(b)bod yr ymarferydd yn cynnwys y cyfeirnod “SLS” ar y ffurflen bresgripsiwn.
(5) Ni chaiff yr ymarferydd meddygol archebu ar bresgripsiwn amlroddadwy gyffur a reolir o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno), heblaw cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 22, 23, 26 a 27) neu Atodlen 5 (cyffuriau a reolir sydd wedi eu heithrio o’r gwaharddiad ar fewnforio, allforio a bod ym meddiant ac sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 24 a 26) i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001.
(6) Yn ddarostyngedig i reoliad 21(2)(b) ac i is-baragraff (7), nid oes dim yn yr is-baragraffau blaenorol yn atal ymarferydd meddygol, wrth drin claf y mae’r is-baragraff hwn yn cyfeirio ato, rhag rhagnodi cyffur, meddyginiaeth neu sylwedd arall neu, yn ôl y digwydd, gyfarpar argaeledd cyfyngedig neu gyffur a reolir o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno), ar gyfer trin y claf hwnnw o dan drefniant preifat.
(7) O dan is-baragraff (6), pan ragnodir cyffur, meddyginiaeth neu sylwedd arall o dan drefniant preifat, os yw’r archeb i gael ei thrawsyrru fel cyfathrebiad electronig at fferyllydd GIG er mwyn i’r cyffur, y feddyginiaeth neu’r cyfarpar gael ei weinyddu neu ei gweinyddu—
(a)os nad yw’r archeb ar gyfer cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 2 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 14, 15, 16, 18, 19, 20, 21, 23, 26 a 27) neu Atodlen 3 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 14, 15, 16, 18, 22, 23, 24, 26 a 27) i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, caniateir iddi gael ei thrawsyrru drwy’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, ond
(b)os yw’r archeb ar gyfer cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 2 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 14, 15, 16, 18, 19, 20, 21, 23, 26 a 27) neu Atodlen 3 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 14, 15, 16, 18, 22, 23, 24, 26 a 27) i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, rhaid iddi gael ei thrawsyrru drwy’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig.
Cyfyngiadau ar ragnodi gan ragnodwyr atodol
56.—(1) Rhaid i’r contractwr gael trefniadau yn eu lle i sicrhau na chaiff unigolyn sy’n rhagnodydd atodol—
(a)dyroddi neu greu presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig,
(b)rhoi meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig i’w roi drwy’r gwythiennau, neu
(c)rhoi cyfarwyddydau ar gyfer rhoi meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig i’w roi drwy’r gwythiennau,
fel rhagnodydd atodol ond o dan yr amodau a nodir yn is-baragraff (2).
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—
(a)bod yr unigolyn yn bodloni’r amodau cymwys a nodir yn rheoliad 215 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(60) (rhagnodi a gweinyddu gan ragnodwyr atodol), oni bai nad yw’r amodau hynny’n gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r esemptiadau a nodir yn narpariaethau dilynol y Rheoliadau hynny;
(b)nad yw’r cyffur, y feddyginiaeth neu’r sylwedd arall wedi ei bennu neu ei phennu mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 46 o’r Ddeddf yn gyffur, yn feddyginiaeth neu’n sylwedd arall na chaniateir ei archebu neu ei harchebu ar gyfer cleifion wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan y contract;
(c)nad yw’r cyffur, y feddyginiaeth neu’r sylwedd arall wedi ei bennu neu ei phennu mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 46 o’r Ddeddf yn gyffur, yn feddyginiaeth neu’n sylwedd arall na chaniateir ei archebu neu ei harchebu ond ar gyfer cleifion penodedig ac at ddibenion penodedig oni bai—
(i)bod y claf yn berson o’r disgrifiad penodedig,
(ii)bod y feddyginiaeth yn cael ei rhagnodi ar gyfer y claf hwnnw yn unig at y dibenion penodedig, a
(iii)os yw’r rhagnodydd atodol yn rhoi presgripsiwn, ei fod yn arnodi wyneb y ffurflen â’r cyfeirnod “SLS”.
(3) Pan fo swyddogaethau rhagnodydd atodol yn cynnwys rhagnodi, rhaid i’r contractwr gael trefniadau yn eu lle i sicrhau na chaiff y person hwnnw ond rhoi presgripsiwn ar gyfer—
(a)cyfarpar, neu
(b)meddyginiaeth nad yw’n feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig,
fel rhagnodydd atodol o dan yr amodau a nodir yn is-baragraff (4).
(4) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
(a)bod y rhagnodydd atodol yn gweithredu yn unol â chynllun rheoli clinigol sydd ar waith ar yr adeg y mae’r rhagnodydd atodol yn gweithredu ac sy’n cynnwys y manylion a ganlyn—
(i)enw’r claf y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef,
(ii)y salwch neu’r cyflyrau y caiff y rhagnodydd atodol eu trin,
(iii)y dyddiad y mae’r cynllun i gymryd effaith, a phryd y mae i gael ei adolygu gan yr ymarferydd meddygol neu’r deintydd sy’n barti i’r cynllun,
(iv)cyfeiriad at ddosbarth neu ddisgrifiad meddyginiaethau neu fathau o gyfarpar y caniateir eu rhagnodi neu eu rhoi o dan y cynllun,
(v)unrhyw gyfyngiadau neu derfynau o ran cryfder neu ddogn unrhyw feddyginiaeth y caniateir ei rhagnodi neu ei rhoi o dan y cynllun, ac unrhyw gyfnod o roi neu o ddefnyddio unrhyw feddyginiaeth neu gyfarpar y caniateir ei rhagnodi neu ei rhoi o dan y cynllun,
(vi)rhybuddion perthnasol ynghylch sensitifrwydd hysbys y claf i feddyginiaethau neu gyfarpar penodol, neu anawsterau hysbys y claf gyda meddyginiaethau neu gyfarpar penodol,
(vii)y trefniadau ar gyfer hysbysu am—
(aa)adweithiau niweidiol tybiedig neu hysbys i unrhyw feddyginiaeth y caniateir ei rhagnodi neu ei rhoi o dan y cynllun, ac adweithiau niweidiol tybiedig neu hysbys i unrhyw feddyginiaeth arall a gymerir yr un pryd ag unrhyw feddyginiaeth a ragnodir neu a roddir o dan y cynllun,
(bb)digwyddiadau sy’n digwydd gyda’r cyfarpar a allai arwain, y gallent fod wedi arwain neu sydd wedi arwain at farwolaeth y claf neu at ddirywiad difrifol yng nghyflwr iechyd y claf, ac
(viii)yr amgylchiadau y dylai’r rhagnodydd atodol gyfeirio at yr ymarferydd meddygol neu’r deintydd sy’n barti i’r cynllun, neu geisio ei gyngor, odanynt,
(b)bod gan y rhagnodydd atodol fynediad at gofnodion iechyd y claf y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef a ddefnyddir gan unrhyw ymarferydd meddygol neu ddeintydd sy’n barti i’r cynllun,
(c)os yw’n bresgripsiwn ar gyfer cyffur, meddyginiaeth neu sylwedd arall, nad yw’r cyffur hwnnw, y feddyginiaeth honno neu’r sylwedd arall hwnnw wedi ei bennu neu ei phennu mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 46 o’r Ddeddf yn gyffur, yn feddyginiaeth neu’n sylwedd arall na chaniateir ei archebu neu ei harchebu ar gyfer cleifion wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan y contract,
(d)os yw’n bresgripsiwn ar gyfer cyffur, meddyginiaeth neu sylwedd arall, nad yw’r cyffur hwnnw, y feddyginiaeth honno neu’r sylwedd arall hwnnw wedi ei bennu neu ei phennu mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan Adran 46 o’r Ddeddf yn gyffur, yn feddyginiaeth neu’n sylwedd arall na chaniateir ei archebu neu ei harchebu ond ar gyfer cleifion penodedig ac at ddibenion penodedig oni bai—
(i)bod y claf yn berson o’r disgrifiad penodedig,
(ii)bod y feddyginiaeth yn cael ei rhagnodi ar gyfer y claf hwnnw yn unig at y dibenion penodedig, a
(iii)pan fydd y presgripsiwn yn cael ei roi, bod y rhagnodydd atodol yn arnodi wyneb y ffurflen gyda’r cyfeirnod “SLS”,
(e)os yw’n bresgripsiwn ar gyfer cyfarpar, bod y cyfarpar wedi ei restru yn Rhan 9 o’r Tariff Cyffuriau, ac
(f)os yw’n bresgripsiwn ar gyfer cyfarpar argaeledd cyfyngedig—
(i)bod y claf yn berson o ddisgrifiad a grybwyllir yn y cofnod yn Rhan 9 o’r Tariff Cyffuriau mewn cysylltiad â’r cyfarpar hwnnw,
(ii)nad yw’r cyfarpar yn cael ei ragnodi ond at y dibenion a bennir mewn cysylltiad â’r person hwnnw yn y cofnod hwnnw, a
(iii)bod y rhagnodydd atodol, pan fydd yn rhoi’r presgripsiwn, yn arnodi wyneb y ffurflen gyda’r cyfeirnod “SLS”.
(5) Yn is-baragraff (4)(a), ystyr “cynllun rheoli clinigol” yw cynllun ysgrifenedig (y gellir ei ddiwygio o bryd i’w gilydd) sy’n ymwneud â thriniaeth claf unigol, y cytunir arno gan—
(a)y claf y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef,
(b)yr ymarferydd meddygol neu’r deintydd sy’n barti i’r cynllun, ac
(c)unrhyw ragnodydd atodol sydd i ragnodi, rhoi cyfarwyddydau ar gyfer rhoi, neu roi o dan y cynllun.
Swmpragnodi
57.—(1) Caiff rhagnodydd ddefnyddio ffurflen bresgripsiwn anelectronig unigol—
(a)pan fo contractwr yn gyfrifol, o dan y contract, am drin 10 person neu ragor mewn ysgol neu sefydliad arall y mae o leiaf 20 person yn preswylio fel arfer ynddi neu ynddo, a
(b)pan fo’r rhagnodydd yn archebu, ar gyfer unrhyw 2 neu ragor o’r personau hynny y mae’r contractwr yn gyfrifol am eu triniaeth, gyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddynt.
(2) Pan fo rhagnodydd yn defnyddio ffurflen bresgripsiwn anelectronig unigol at y diben a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b), rhaid i’r rhagnodydd (yn lle nodi ar y ffurflen enwau’r personau y mae’r cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar yn cael eu harchebu neu ei archebu ar eu cyfer) nodi ar y ffurflen—
(a)enw’r ysgol y mae’r personau hynny yn preswylio ynddi neu enw sefydliad arall y mae’r personau hynny yn preswylio ynddo, a
(b)nifer y personau sy’n preswylio yno y mae’r contractwr yn gyfrifol am eu triniaeth.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar y gellir ei gyflenwi neu ei chyflenwi fel rhan o wasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol nad yw, yn achos—
(a)cyffur neu feddyginiaeth, yn feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, neu
(b)cyfarpar, yn cynnwys cynnyrch o’r fath.
Rhagnodi’n ormodol
58.—(1) Ni chaiff y contractwr ragnodi cyffuriau, meddyginiaethau na chyfarpar y mae eu cost neu eu swm, mewn perthynas â chlaf, oherwydd natur y cyffur, y feddyginiaeth neu’r cyfarpar o dan sylw, yn fwy na’r hyn a oedd yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer trin y claf yn briodol.
(2) Wrth ystyried pa un a yw contractwr wedi torri ei rwymedigaethau o dan baragraff (1), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol geisio barn y Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract ynddi.
Darparu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar ar gyfer rhoi triniaeth ar unwaith neu ar gyfer eu rhoi neu eu defnyddio ar y claf gan y meddyg ei hunan
59.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3)—
(a)rhaid i gontractwr ddarparu i glaf gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar, nad yw’n gyffur Atodlen, pan fo angen darpariaeth o’r fath ar gyfer rhoi triniaeth i’r claf ar unwaith cyn y gellir cael darpariaeth fel arall, a
(b)caiff contractwr ddarparu i glaf gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar, nad yw’n gyffur Atodlen, y mae’r contractwr ei hunan yn ei roi neu’n ei rhoi i’r claf neu’n ei ddodi neu’n ei dodi ar y claf.
(2) Ni chaiff contractwr ond darparu cyfarpar argaeledd cyfyngedig o dan baragraff (1)(a) neu (b) os yw ar gyfer person neu at ddiben a bennir yn y Tariff Cyffuriau.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (1) na (2) sy’n awdurdodi person i gyflenwi meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig i glaf heblaw yn unol â Rhan 12 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (sy’n ymwneud ag ymdrin â chynhyrchion meddyginiaethol).
Darparu gwasanaethau gweinyddu
60.—(1) Ni chaiff y contractwr ond darparu, a rhaid iddo sicrhau nad yw’r rhai sydd wedi eu cyflogi neu eu cymryd ymlaen ganddo ond yn darparu, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliadau Fferyllol.
(2) Pan fo’r contractwr, neu berson sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan y contractwr, wedi ei gynnwys yn rhestr meddygon fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r contractwr sicrhau wrth ddarparu unrhyw wasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu fod y contractwr, a’r meddyg fferyllol (ac unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weinyddu ar ei ran o dan y Rheoliadau Fferyllol)—
(a)yn cydymffurfio â’r telerau gwasanaeth sy’n gymwys i’r person sy’n darparu’r gwasanaethau fferyllol neu’r gwasanaethau gweinyddu hynny yn rhinwedd rheoliad 12(2) o’r Rheoliadau Fferyllol, a
(b)yn sicrhau bod y claf y mae’n bwriadu darparu’r gwasanaethau hynny iddo yn ymwybodol nad oddi wrtho ef yn unig (neu oddi wrth berson y mae’r contractwr yn gysylltiedig ag ef) y mae’r cyffuriau neu’r cyfarpar perthnasol ar gael a bod gan y claf yr opsiwn i gael y cyffuriau neu’r cyfarpar hynny oddi wrth unrhyw fferyllydd GIG.
RHAN 6Personau sy’n cyflawni gwasanaethau
Cymwysterau cyflawnwyr: ymarferwyr meddygol
61.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff unrhyw ymarferydd meddygol gyflawni gwasanaethau meddygol o dan y contract oni bai—
(a)bod yr ymarferydd meddygol wedi ei gynnwys mewn rhestr o gyflawnwyr meddygol ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru,
(b)nad yw’r ymarferydd meddygol wedi ei atal dros dro o’r rhestr honno neu o’r Gofrestr Feddygol, ac
(c)nad yw’r ymarferydd meddygol yn destun ataliad dros dro interim o dan adran 41A o Ddeddf Meddygaeth 1983 (gorchymyn interim).
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw ymarferydd meddygol sy’n ymarferydd meddygol esempt o fewn ystyr is-baragraff (3), ond dim ond i’r graddau y mae unrhyw wasanaethau meddygol y mae’r ymarferydd meddygol yn eu cyflawni yn rhan o raglen ôl-gofrestru.
(3) At ddibenion y paragraff hwn, “ymarferydd meddygol esempt” yw—
(a)ymarferydd meddygol a gyflogir gan ymddiriedolaeth GIG(61), ymddiriedolaeth sefydledig y GIG(62), Bwrdd Iechyd, neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau heblaw gwasanaethau meddygol sylfaenol yn y fangre practis,
(b)person sydd wedi ei gofrestru dros dro o dan adran 15 (cofrestru dros dro), 15A (cofrestru dros dro ar gyfer gwladolion yr AEE) neu 21 (cofrestru dros dro) o Ddeddf Meddygaeth 1983 ac sy’n gweithredu yng nghwrs cyflogaeth y person yn rhinwedd swyddogaeth feddygol breswyl,
(c)Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol sydd wedi gwneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol am gynnwys ei enw yn ei restr o gyflawnwyr meddygol hyd nes y digwydd y cyntaf o’r digwyddiadau a ganlyn—
(i)bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu’r Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol am ei benderfyniad ynghylch y cais hwnnw, neu
(ii)diwedd cyfnod o 12 wythnos, sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol hwnnw yn dechrau cynllun addysg a hyfforddiant meddygol i raddedigion, sy’n angenrheidiol i ddyfarnu Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant,
(d)ymarferydd meddygol sydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr cyflawnwyr meddygol sefydliad gofal sylfaenol arall ac sydd wedi cyflwyno cais i Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliad 4A o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004 hyd nes y digwydd y cyntaf o’r digwyddiadau a ganlyn—
(i)mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu’r ymarferydd meddygol am ei benderfyniad ynghylch y cais hwnnw, neu
(ii)diwedd cyfnod o 12 wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cafodd y cais ei gyflwyno, neu
(e)ymarferydd meddygol—
(i)nad yw’n Gofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol,
(ii)sy’n ymgymryd â rhaglen ymarfer clinigol ôl-gofrestru o dan oruchwyliaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol,
(iii)sydd wedi hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn mynd i ymgymryd â rhan neu’r cyfan o raglen ôl-gofrestru yn ei ardal o leiaf 24 o oriau cyn dechrau unrhyw ran o’r rhaglen honno sy’n digwydd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, a
(iv)sydd, ynghyd â’r hysbysiad hwnnw, wedi darparu digon o dystiolaeth i’r Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn iddo ei fodloni ei hun fod yr ymarferydd yn ymgymryd â rhaglen ôl-gofrestru,
ond dim ond i’r graddau y mae unrhyw wasanaethau meddygol a gyflawnir gan yr ymarferydd meddygol yn rhan o raglen ôl-gofrestru.
Cymwysterau cyflawnwyr: proffesiynolion gofal iechyd
62. Ni chaiff proffesiynolyn gofal iechyd (heblaw un y mae paragraff 61 yn gymwys iddo) gyflawni gwasanaethau clinigol o dan y contract oni bai—
(a)bod y person hwnnw wedi ei gofrestru â’r corff proffesiynol sy’n berthnasol i broffesiwn y person hwnnw, a
(b)nad yw’r cofrestriad hwnnw yn ddarostyngedig i gyfnod o ataliad dros dro.
Cofrestru neu gynnwys person yn amodol mewn rhestr gofal sylfaenol
63. Pan fo cofrestru proffesiynolyn gofal iechyd yn ddarostyngedig i amodau neu, yn achos ymarferydd meddygol, pan fo cynnwys yr ymarferydd meddygol mewn rhestr gofal sylfaenol yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r contractwr sicrhau cydymffurfedd â’r amodau hynny i’r graddau y maent yn berthnasol i’r contract.
Profiad clinigol
64. Ni chaiff unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd gyflawni unrhyw wasanaethau clinigol oni bai bod gan y proffesiynolyn gofal iechyd y fath brofiad clinigol a’i fod wedi cael y fath hyfforddiant clinigol sy’n angenrheidiol i alluogi’r proffesiynolyn gofal iechyd i gyflawni gwasanaethau o’r fath yn briodol.
Amodau ar gyfer cyflogaeth neu gymryd ymlaen: ymarferydd meddygol
65.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), ni chaiff contractwr gyflogi na chymryd ymlaen ymarferydd meddygol (heblaw ymarferydd meddygol esempt o fewn ystyr is-baragraff 61(3)) oni bai—
(a)bod yr ymarferydd hwnnw wedi darparu i’r contractwr enw a chyfeiriad y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r ymarferydd yn ymddangos yn ei restr o gyflawnwyr meddygol, a
(b)bod y contractwr wedi gwirio bod yr ymarferydd yn bodloni’r gofynion ym mharagraff 61.
(2) Pan—
(a)bo angen cyflogi neu gymryd ymlaen ymarferydd meddygol ar frys, a
(b)nad yw’n bosibl i’r contractwr wirio bod yr ymarferydd meddygol yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 61 cyn cyflogi neu gymryd ymlaen y proffesiynolyn gofal iechyd,
caiff y contractwr gyflogi neu gymryd ymlaen yr ymarferydd meddygol ar sail dros dro am un cyfnod o hyd at 7 niwrnod tra bo gwiriadau o’r fath yn cael eu cyflawni.
(3) Pan fo’r darpar gyflogai yn Gofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol, mae’r gofynion a nodir yn is-baragraff (1) yn gymwys gyda’r addasiadau—
(a)y caiff yr enw a’r cyfeiriad a ddarperir o dan is-baragraff (1) fod yn enw a chyfeiriad y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol wedi gwneud cais am gael ei gynnwys yn ei restr, a
(b)na fydd yn ofynnol cadarnhau bod enw’r Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol yn ymddangos yn y rhestr honno hyd nes i 12 wythnos gyntaf cyfnod hyfforddiant y Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol ddod i ben.
(4) Pan fo’r darpar gyflogai yn ymarferydd meddygol sydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr cyflawnwyr meddygol sefydliad gofal sylfaenol arall ac sydd wedi cyflwyno cais i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliad 4A o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004, mae’r gofynion a nodir yn is-baragraff (1) yn gymwys gyda’r addasiadau—
(a)y caiff yr enw a’r cyfeiriad a ddarperir o dan is-baragraff (1) fod yn enw a chyfeiriad y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r ymarferydd meddygol wedi gwneud cais am gael ei gynnwys ar ei restr, ar yr amod y darperir yn ogystal enw a chyfeiriad y sefydliad gofal sylfaenol y mae’r ymarferydd meddygol eisoes wedi ei gynnwys ar ei restr, a
(b)bod cadarnhad bod enw’r ymarferydd meddygol yn ymddangos yn y rhestr honno yn golygu cadarnhad bod yr ymarferydd meddygol wedi ei gynnwys yn amodol yn rhestr y Bwrdd Iechyd Lleol o gyflawnwyr meddygol yn unol â rheoliad 4A o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004.
(5) Yn y paragraff hwn mae i “sefydliad gofal sylfaenol” yr ystyr a roddir i “primary care organisation” yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004.
Amodau ar gyfer cyflogi neu gymryd ymlaen: proffesiynolion gofal iechyd
66.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff contractwr gyflogi na chymryd ymlaen broffesiynolyn gofal iechyd i gyflawni gwasanaethau clinigol o dan y contract oni bai—
(a)bod y contractwr wedi gwirio bod y proffesiynolyn gofal iechyd yn bodloni gofynion paragraff 62, a
(b)bod y contractwr wedi cymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun fod y proffesiynolyn gofal iechyd yn bodloni gofynion paragraff 64.
(2) Pan—
(a)bo angen cyflogi neu gymryd ymlaen broffesiynolyn gofal iechyd ar frys, a
(b)nad yw’n bosibl i’r contractwr wirio bod y proffesiynolyn gofal iechyd yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 62 cyn cyflogi neu gymryd ymlaen y proffesiynolyn gofal iechyd,
caiff y contractwr gyflogi neu gymryd ymlaen y proffesiynolyn gofal iechyd ar sail dros dro am un cyfnod o 7 niwrnod tra bo gwiriadau o’r fath yn cael eu cyflawni.
(3) Pan fydd contractwr yn ystyried profiad a hyfforddiant proffesiynolyn gofal iechyd at ddibenion paragraff 1(b), rhaid i’r contractwr, yn benodol, roi sylw i—
(a)unrhyw gymhwyster ôl-radd neu ôl-gofrestru a ddelir gan y proffesiynolyn gofal iechyd, a
(b)unrhyw hyfforddiant perthnasol yr ymgymerwyd ag ef, ac unrhyw brofiad clinigol perthnasol a enillwyd, gan y proffesiynolyn gofal iechyd.
Geirdaon clinigol
67.—(1) Ni chaiff y contractwr gyflogi na chymryd ymlaen broffesiynolyn gofal iechyd i gyflawni gwasanaethau clinigol o dan y contract (heblaw ymarferydd meddygol esempt y mae paragraff 61(3)(e) yn gymwys iddo) oni bai—
(a)bod y person hwnnw wedi darparu dau eirda clinigol, yn ymwneud â dwy swydd ddiweddar (y caniateir iddynt gynnwys unrhyw swydd bresennol) fel proffesiynolyn gofal iechyd a barodd am o leiaf 12 wythnos heb doriad sylweddol neu, pan na fo hyn yn bosibl, esboniad llawn o ran pam y mae hyn yn wir ynghyd â manylion canolwyr eraill, a
(b)bod y contractwr wedi gwirio’r geirdaon ac yn fodlon arnynt.
(2) Pan—
(a)bo angen cyflogi neu gymryd ymlaen broffesiynolyn gofal iechyd ar frys, a
(b)nad yw’n bosibl i’r contractwr gael a gwirio’r geirdaon yn unol ag is-baragraff 1(b) cyn cyflogi neu gymryd ymlaen y proffesiynolyn gofal iechyd hwnnw,
caiff y contractwr gyflogi neu gymryd ymlaen y proffesiynolyn gofal iechyd ar sail dros dro am un cyfnod o hyd at 14 o ddiwrnodau tra bo’r geirdaon yn cael eu gwirio a’u hystyried, ac am gyfnod ychwanegol o 7 niwrnod os yw’r contractwr yn credu bod y person sy’n darparu’r geirdaon hynny yn sâl, ar wyliau neu nad yw ar gael fel arall am gyfnod dros dro.
(3) Pan fo’r contractwr yn cyflogi neu’n cymryd ymlaen yr un person ar fwy nag achlysur o fewn cyfnod o 12 wythnos, caiff y contractwr ddibynnu ar y geirdaon a ddarparwyd ar yr achlysur cyntaf, ar yr amod nad yw’r geirdaon hynny yn fwy na blwydd oed.
Dilysu cymwysterau a chymhwysedd
68.—(1) Rhaid i’r contractwr, cyn cyflogi unrhyw berson neu gymryd unrhyw berson ymlaen—
(a)cydymffurfio â’r Safonau Gwirio Cyn Cyflogaeth mewn perthynas â’r person hwnnw, a
(b)cymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun fod y person o dan sylw yn briodol gymwysedig a chymwys i gyflawni’r dyletswyddau y mae’r person hwnnw i gael ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar eu cyfer.
(2) Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-baragraff (1) yn ychwanegol at y dyletswyddau a osodir gan baragraffau 61 i 67.
(3) Wrth ystyried cymhwysedd ac addasrwydd unrhyw berson at ddiben is-baragraff (1), rhaid i’r contractwr, yn benodol, roi sylw i—
(a)cymwysterau academaidd a galwedigaethol y person hwnnw,
(b)addysg a hyfforddiant y person hwnnw, ac
(c)cyflogaeth flaenorol neu brofiad gwaith blaenorol y person hwnnw.
Hyfforddiant
69.—(1) Rhaid i’r contractwr sicrhau, ar gyfer unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd—
(a)sy’n cyflawni gwasanaethau clinigol o dan y contract, neu
(b)sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen i gynorthwyo i gyflawni gwasanaethau o’r fath,
bod trefniadau yn eu lle at ddiben cynnal a diweddaru sgiliau a gwybodaeth y proffesiynolyn gofal iechyd mewn perthynas â’r gwasanaethau y mae’n eu cyflawni neu’n cynorthwyo i’w cyflawni.
(2) Rhaid i’r contractwr gynnig cyfleoedd rhesymol i bob cyflogai i ymgymryd â hyfforddiant priodol gyda’r bwriad o gynnal cymhwysedd y cyflogai hwnnw.
Telerau ac amodau
70. Ni chaiff y contractwr ond cynnig cyflogaeth i ymarferydd meddygol cyffredinol ar delerau ac amodau nad ydynt yn llai ffafriol na’r rhai sydd wedi eu cynnwys yn “Model terms and conditions of service for a salaried general practitioner employed by a GMS practice” a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Chonffederasiwn y GIG fel eitem 1.2 o’r dogfennau atodol i gontract GMC 2003(63).
Trefniadau ar gyfer Cofrestrwyr Arbenigol Ymarfer Cyffredinol
71.—(1) Ni chaiff y contractwr ond cyflogi Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol yn ddarostyngedig i’r amodau yn is-baragraff (2).
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw na chaiff y contractwr, dim ond oherwydd ei fod wedi cyflogi neu wedi cymryd ymlaen Gofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol, leihau cyfanswm nifer yr oriau y mae ymarferwyr meddygol eraill yn eu treulio yn cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan y contract, na chyfanswm nifer yr oriau y mae aelodau eraill o staff yn eu treulio yn eu cynorthwyo i gyflawni’r gwasanaethau hynny.
(3) Rhaid i gontractwr sy’n cyflogi Cofrestrydd Ymarfer Cyffredinol—
(a)cynnig telerau cyflogaeth i’r Cofrestrydd Ymarfer Cyffredinol yn unol â’r cyfraddau ac yn ddarostyngedig i’r amodau a gynhwysir mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru i Fyrddau Iechyd Lleol o dan adran 12 o’r Ddeddf (Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol) sy’n ymwneud â’r grantiau, y ffioedd, y lwfansau teithio a’r lwfansau eraill sy’n daladwy i Gofrestrwyr Ymarfer Cyffredinol, a
(b)ystyried y canllawiau sydd wedi eu cynnwys yn y ddogfen o’r enw “A Reference Guide For Postgraduate Foundation and Specialty Training in the UK”(64).
Gofynion o ran hysbysiadau mewn cysylltiad â rhagnodwyr perthnasol
72.—(1) At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhagnodydd perthnasol” yw—
(a)nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol,
(b)nyrs-ragnodydd annibynnol,
(c)parafeddyg-ragnodydd annibynnol,
(d)fferyllydd-ragnodydd annibynnol,
(e)ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol,
(f)podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol,
(g)rhagnodydd atodol, neu
(h)radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol.
(2) Rhaid i’r contractwr roi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)pan fo rhagnodydd perthnasol wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan gontractwr i gyflawni swyddogaethau sy’n cynnwys rhagnodi,
(b)pan fo rhagnodydd perthnasol y mae ei swyddogaethau yn cynnwys rhagnodi yn barti i’r contract, neu
(c)pan fo swyddogaethau rhagnodydd perthnasol y mae’r contractwr eisoes yn ei gyflogi neu eisoes wedi ei gymryd ymlaen yn cael eu hestyn i gynnwys rhagnodi.
(3) Rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (2) gael ei roi yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn i’r cyfnod o 7 niwrnod ddod i ben gan ddechrau â’r dyddiad—
(a)y cafodd y rhagnodydd perthnasol ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan y contractwr neu, yn ôl y digwydd, y daeth yn barti i’r contract (oni bai, yn union cyn dod yn barti o’r fath, fod paragraff 2(a) yn gymwys i’r rhagnodydd perthnasol hwnnw), neu
(b)y cafodd swyddogaethau’r rhagnodydd perthnasol eu hestyn i gynnwys rhagnodi.
(4) Rhaid i’r contractwr roi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)pan fo’r contractwr yn peidio â chyflogi neu gymryd ymlaen ragnodydd perthnasol ym mhractis y contractwr y mae ei swyddogaethau yn cynnwys rhagnodi ym mhractis y contractwr,
(b)pan fo rhagnodydd perthnasol yn peidio â bod yn barti i’r contract,
(c)pan fo swyddogaethau rhagnodydd perthnasol sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan gontractwr ym mhractis y contractwr yn cael eu newid fel nad ydynt mwyach yn cynnwys rhagnodi ym mhractis y contractwr, neu
(d)pan fo’r contractwr yn dod yn ymwybodol bod rhagnodydd perthnasol y mae’n ei gyflogi neu’n ei gymryd ymlaen wedi cael ei ddileu o’r gofrestr berthnasol neu wedi cael ei atal dros dro ohoni.
(5) Rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (4) gael ei roi yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn diwedd yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y digwyddodd digwyddiad a ddisgrifir yn is-baragraffau (4)(a) i (d) mewn perthynas â’r rhagnodydd perthnasol.
(6) Rhaid i’r contractwr ddarparu’r wybodaeth a ganlyn pan fydd yn rhoi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag is-baragraff (2)—
(a)enw llawn y person,
(b)cymwysterau proffesiynol y person,
(c)rhif adnabod y person, sy’n ymddangos yn y gofrestr berthnasol,
(d)y dyddiad y cafodd cofnod y person yn y gofrestr berthnasol ei anodi i’r perwyl bod y person yn gymwysedig i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar ar gyfer cleifion,
(e)y dyddiad—
(i)y cafodd y person ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen (os yw’n berthnasol),
(ii)y daeth y person yn barti i’r contract (os yw’n berthnasol), neu
(iii)y cafodd swyddogaethau’r person eu hestyn i gynnwys rhagnodi ym mhractis y contractwr.
(7) Rhaid i’r contractwr ddarparu’r wybodaeth a ganlyn pan fydd yn rhoi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag is-baragraff (4)—
(a)enw llawn y person,
(b)cymwysterau proffesiynol y person,
(c)rhif adnabod y person, sy’n ymddangos yn y gofrestr berthnasol,
(d)y dyddiad—
(i)y peidiodd y person â chael ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ym mhractis y contractwr,
(ii)y peidiodd y person â bod yn barti i’r contract,
(iii)y cafodd swyddogaethau’r person eu newid i beidio â chynnwys rhagnodi ym mhractis y contractwr mwyach, neu
(iv)y cafodd y person ei ddileu o’r gofrestr berthnasol neu ei atal dros dro ohoni.
Llofnodi dogfennau
73.—(1) Rhaid i’r contractwr sicrhau—
(a)bod y dogfennau a bennir yn is-baragraff (2) yn cynnwys—
(i)proffesiwn clinigol y proffesiynolyn gofal iechyd a lofnododd y ddogfen, a
(ii)enw’r contractwr y mae’r ddogfen wedi ei llofnodi ar ei ran, a
(b)bod y dogfennau a bennir yn is-baragraff (3) yn cynnwys proffesiwn clinigol y proffesiynolyn gofal iechyd a lofnododd y ddogfen.
(2) Y dogfennau a bennir yn yr is-baragraff hwn yw—
(a)tystysgrifau a ddyroddir yn unol â rheoliad 19, oni bai bod rheoliadau sy’n ymwneud â thystysgrifau penodol yn darparu fel arall, a
(b)unrhyw ddogfennau clinigol eraill ar wahân i—
(i)ffurflenni archebu ocsigen cartref, a
(ii)y dogfennau a bennir yn is-baragraff (3).
(3) Y dogfennau a bennir yn y paragraff hwn yw swpddyroddiadau, ffurflenni presgripsiwn a phresgripsiynau amlroddadwy.
(4) Mae’r paragraff hwn yn ychwanegol at unrhyw ofynion eraill sy’n ymwneud â’r dogfennau a bennir yn is-baragraffau (2) a (3) pa un ai yn y Rheoliadau hyn neu yn rhywle arall.
Lefel sgiliau a chydymffurfedd â llwybrau
74. Rhaid i’r contractwr wneud y canlynol, a rhaid iddo sicrhau bod y rhai y mae’n eu cyflogi neu’n eu cymryd ymlaen yn gwneud y canlynol—
(a)cyflawni rhwymedigaethau’r contractwr o dan y contract â gofal a sgìl rhesymol, a
(b)ystyried cymhwyso llwybrau cyflwr cenedlaethol sy’n berthnasol ar gyfer pob claf.
Gwerthuso ac asesu
75.—(1) Rhaid i’r contractwr sicrhau bod unrhyw ymarferydd meddygol sy’n cyflawni gwasanaethau o dan y contract—
(a)yn cymryd rhan yn y system arfarnu a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol oni bai bod yr ymarferydd meddygol hwnnw yn cymryd rhan mewn system arfarnu briodol a ddarperir gan gorff gwasanaeth iechyd arall neu ei fod yn ymarferydd cyffredinol i’r lluoedd arfog, a
(b)yn cydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol mewn perthynas â swyddogaethau diogelwch cleifion y Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddarparu system arfarnu at ddibenion is-baragraff 1(a) ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r ymarferydd yn darparu gwasanaethau ynddi o dan y contract, ac ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol.
(3) Ym mharagraff (1), ystyr “ymarferydd cyffredinol i’r lluoedd arfog” yw ymarferydd meddygol sydd wedi ei gyflogi ar gontract gwasanaeth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, pa un a yw’n aelod o luoedd arfog y Goron ai peidio.
RHAN 7Is-gontractio
Is-gontractio
76.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff y contractwr is-gontractio unrhyw un neu ragor o’i hawliau na’i ddyletswyddau o dan y contract mewn perthynas â materion clinigol, neu faterion anghlinigol sy’n cael effaith uniongyrchol ar gleifion, oni bai—
(a)ei fod ym mhob achos wedi cymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun—
(i)ei bod yn rhesymol o dan bob un o’r amgylchiadau i wneud hynny, a
(ii)bod y person y mae unrhyw un neu ragor o’r hawliau neu’r dyletswyddau hynny wedi eu his-gontractio iddo yn gymwysedig ac yn gymwys i ddarparu’r gwasanaeth, a
(b)bod y contractwr wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol am ei fwriad i is-gontractio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol cyn y dyddiad y bwriedir i’r is-gontract arfaethedig gymryd effaith.
(2) Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys—
(a)i gontract ar gyfer gwasanaethau â phroffesiynolyn gofal iechyd ar gyfer darparu gwasanaethau clinigol yn bersonol gan y proffesiynolyn hwnnw, neu
(b)contract rhwng y contractwr a phractis arall yng Nghydweithredfa Ymarfer Cyffredinol y contractwr y mae’r practis arall i ddarparu, fel rhan o weithgareddau’r Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol honno, wasanaethau meddygol sylfaenol i gleifion y contractwr odano.
(3) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan is-baragraff (1)(b) gynnwys—
(a)enw a chyfeiriad yr is-gontractwr arfaethedig,
(b)hyd yr is-gontract arfaethedig,
(c)y gwasanaethau y mae’r is-gontract arfaethedig i’w cwmpasu, a
(d)cyfeiriad unrhyw fangre sydd i gael ei defnyddio ar gyfer darparu gwasanaethau o dan yr is-gontract arfaethedig.
(4) Ar ôl cael hysbysiad a roddir o dan is-baragraff (1)(b), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ofyn am ragor o wybodaeth sy’n ymddangos yn rhesymol iddo mewn perthynas â’r is-gontract arfaethedig, a rhaid i’r contractwr roi’r wybodaeth honno i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn brydlon.
(5) Ni chaiff y contractwr fwrw ymlaen â’r is-gontract neu, os yw’r is-gontract eisoes wedi cymryd effaith, rhaid i’r contractwr gymryd pob cam rhesymol i’w derfynu pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi hysbysiad yn ysgrifenedig am ei wrthwynebiad i’r is-gontract ar y seiliau—
(a)y byddai’r is-gontract—
(i)yn peri risg i ddiogelwch cleifion y contractwr, neu
(ii)yn peri risg i’r Bwrdd Iechyd Lleol fynd i golled ariannol sylweddol,
(b)pan na fyddai’r is-gontractwr yn gallu cyflawni rhwymedigaethau’r contractwr o dan y contract,
a bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi hysbysiad o’r fath cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y cafodd y Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad oddi wrth y contractwr o dan is-baragraff (1)(b).
(6) Rhaid i hysbysiad a roddir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan is-baragraff (5)(a) gynnwys datganiad o’r rhesymau dros wrthwynebiad y Bwrdd Iechyd Lleol.
(7) Mae is-baragraffau (1) a (3) i (6) hefyd yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw adnewyddiad neu amrywiad sylweddol i is-gontract mewn perthynas â materion clinigol.
(8) Pan fo’r hysbysiad gan y contractwr yn unol ag is-baragraff (3) yn ymwneud â materion clinigol ac nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi hysbysiad am wrthwynebiad o dan is-baragraff (5), bernir bod y partïon i’r contract wedi cytuno ar amrywiad i’r contract sydd, yn ddarostyngedig i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan is-baragraff (1)(b), â’r effaith o ychwanegu at y rhestr o fangreoedd practis unrhyw fangre y cafodd hysbysiad o’i chyfeiriad ei roi i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan is-baragraff (3)(d) ac, o dan yr amgylchiadau hyn, nid yw paragraff 109(1) yn gymwys.
(9) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (10), rhaid i is-gontract yr ymrwymir iddo gan gontractwr wahardd yr is-gontractwr rhag is-gontractio unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau clinigol y mae wedi cytuno arnynt gyda’r contractwr i’w darparu o dan yr is-gontract.
(10) Caiff is-gontract yr ymrwymir iddo gan y contractwr sy’n dod o fewn is-baragraff (2)(b) ganiatáu i’r is-gontractwr is-gontractio gwasanaethau clinigol ar yr amod bod y contractwr yn cael cymeradwyaeth ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol cyn i’r is-gontractwr is-gontractio’r gwasanaethau hynny.
(11) Ni chaiff y contractwr is-gontractio unrhyw un neu ragor o’i hawliau na’i ddyletswyddau o dan y contract mewn perthynas â darparu gwasanaethau unedig i gwmni neu ffyrm—
(a)sy’n eiddo’n gyfan gwbl neu’n rhannol i’r contractwr, neu i unrhyw gyflogai blaenorol neu gyflogai presennol i’r contractwr, neu i unrhyw bartner neu gyfranddaliwr yn y contractwr,
(b)a ffurfir gan neu ar ran y contractwr, neu y mae’r contractwr yn ennill neu y gallai ennill buddiant ariannol ohono neu ohoni, neu
(c)a ffurfir gan neu ar ran cyflogai blaenorol neu bresennol i’r contractwr, neu gan neu ar ran partner neu gyfranddaliwr yn y contractwr, neu y mae person o’r fath yn ennill neu y gallai ennill buddiant ariannol ohono neu ohoni,
pan fo is-baragraff (12) yn gymwys i’r cwmni hwnnw neu i’r ffyrm honno.
(12) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i gwmni neu ffyrm sydd neu a oedd wedi cael ei ffurfio yn gyfan gwbl neu yn rhannol at ddiben osgoi’r cyfyngiadau ar werthu ewyllys da practis meddygol yn rheoliad 3 o Reoliadau Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Gwerthu Ewyllys Da a Chyfyngiadau ar Is-gontractio) (Cymru) 2004(65).
Tynnu’n ôl ac amrywio cymeradwyaeth a’r hawl i wrthwynebu is-gontract o dan adran 76 yn ddiweddarach
77.—(1) Heb ragfarnu unrhyw rwymedïau eraill a all fod ganddo o dan y contract, pan fernir bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi cymeradwyo cais a wneir o dan baragraff 76, mae ganddo hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad i’r contractwr sy’n tynnu’n ôl neu’n amrywio’r gymeradwyaeth honno gydag effaith ar unwaith—
(a)os nad yw wedi ei fodloni mwyach fod y trefniant arfaethedig yn galluogi’r contractwr i fodloni ei rwymedigaethau o dan y contract yn foddhaol, neu
(b)os yw wedi ei fodloni bod angen tynnu’n ôl neu amrywio ar unwaith er mwyn gwarchod—
(i)diogelwch cleifion y contractwr, neu
(ii)y Bwrdd Iechyd Lleol rhag colled ariannol sylweddol.
(2) Mae hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff hwn yn cymryd effaith ar y dyddiad y mae’r contractwr yn ei gael.
RHAN 8Cofnodion, gwybodaeth, hysbysiadau a hawliau mynediad
Cofnodion cleifion
78.—(1) Rhaid i’r contractwr gadw cofnodion digonol o’r sylw a rydd i’w gleifion a’i driniaeth o’i gleifion a rhaid iddo wneud hynny—
(a)ar ffurflenni a gyflenwir iddo at y diben gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu
(b)gyda chydsyniad ysgrifenedig y Bwrdd Iechyd Lleol, drwy gyfrwng cofnodion cyfrifiadur,
neu mewn cyfuniad o’r ddwy ffordd hyn.
(2) Rhaid i’r contractwr gynnwys yn y cofnodion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) adroddiadau clinigol a anfonir yn unol â pharagraff 10 neu oddi wrth unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd arall sydd wedi darparu gwasanaethau clinigol i berson ar ei restr o gleifion.
(3) Ni chaniateir i gydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n ofynnol o dan is-baragraff (1)(b) gael ei gadw’n ôl na’i dynnu’n ôl ar yr amod bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni, ac yn parhau i fod wedi ei fodloni—
(a)bod y gwasanaethau digidol Meddygon Teulu y mae’r contractwr yn bwriadu cadw’r cofnodion arnynt yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Cytundeb Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Systemau a Gwasanaethau Clinigol Meddygon Teulu yng Nghymru,
(b)bod y mesurau diogelwch a’r swyddogaethau archwilio a rheoli systemau sydd wedi eu hymgorffori yn y gwasanaethau digidol Meddygon Teulu yn cydymffurfio â’r Cytundeb Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Systemau a Gwasanaethau Clinigol Meddygon Teulu yng Nghymru ac wedi eu galluogi, ac
(c)bod y contractwr yn ymwybodol o’r canllawiau sydd wedi eu cynnwys yn “The Good Practice Guidelines for GP electronic patient records (Version 4)” a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2011 ac wedi llofnodi ymgymeriad bod rhaid iddo roi sylw i’r canllawiau hynny.
(4) Pan fo cofnodion cleifion y contractwr yn gofnodion cyfrifiadurol, rhaid i’r contractwr, cyn gynted â phosibl yn dilyn cais gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ganiatáu i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyrchu’r wybodaeth a gofnodwyd ar y system gyfrifiadur y cedwir y cofnodion hynny arni drwy’r swyddogaeth archwilio y cyfeirir ati yn is-baragraff (3)(b) i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol gadarnhau bod y swyddogaeth archwilio wedi ei galluogi ac yn gweithredu’n gywir.
(5) Pan fo claf ar restr y contractwr o gleifion yn marw, rhaid i’r contractwr anfon y cofnodion cyflawn sy’n ymwneud â’r claf hwnnw i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)mewn achos pan hysbyswyd y contractwr gan y Bwrdd Iechyd Lleol am farwolaeth y claf hwnnw, cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y contractwr ei hysbysu felly, neu
(b)mewn unrhyw achos arall, cyn diwedd y cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y contractwr wybod am farwolaeth y claf hwnnw.
(6) Pan fo claf ar restr contractwr o gleifion wedi cofrestru gyda darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol arall a bod y contractwr yn cael cais gan y darparwr hwnnw am y cofnodion cyflawn sy’n ymwneud â’r claf hwnnw, rhaid i’r contractwr, cyn gynted ag y bo modd, a pha un bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cael y cais oddi wrth y darparwr, anfon at y darparwr hwnnw y cofnodion cyflawn (heblaw unrhyw ran a ddelir ar bapur yn unig), drwy’r cyfleuster GP2GP yn unol â pharagraff 80 ac anfon i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)y cofnodion cyflawn, neu unrhyw ran o’r cofnodion, a anfonwyd drwy’r cyfleuster GP2GP yn unol â pharagraff 80 nad yw’r contractwr yn cael cadarnhad eu bod wedi eu trosglwyddo’n ddiogel ac effeithiol trwy’r cyfleuster hwnnw, a
(b)unrhyw ran o’r cofnodion a gedwir gan y contractwr ar bapur yn unig.
(7) O ran claf ar restr contractwr o gleifion—
(a)pan fo’r claf yn cael ei ddileu o’r rhestr honno ar gais y claf hwnnw o dan baragraff 28, neu am fod unrhyw un neu ragor o baragraffau 29 i 36 wedi eu cymhwyso, a
(b)pan nad yw’r contractwr wedi cael cais gan ddarparwr arall gwasanaethau meddygol y mae’r claf hwnnw wedi cofrestru gydag ef am drosglwyddo’r cofnodion cyflawn sy’n ymwneud â’r claf hwnnw,
rhaid i’r contractwr anfon copi o’r cofnodion hynny i’r Bwrdd Iechyd Lleol.
(8) Pan fo cyfrifoldeb contractwr am glaf yn terfynu yn unol â pharagraff 37, rhaid i’r contractwr anfon unrhyw gofnodion yn ymwneud â’r claf hwnnw sydd ganddo—
(a)os yw’n hysbys, at y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf hwnnw wedi cofrestru gydag ef, neu
(b)ym mhob achos arall, i’r Bwrdd Iechyd Lleol.
(9) At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “cyfleuster GP2GP” yr un ystyr ag yn is-baragraff (2) o baragraff 80.
(10) I’r graddau y mae cofnodion claf yn gofnodion cyfrifiadurol, mae’r contractwr yn cydymffurfio ag is-baragraffau (5), (7) neu (8) os yw’n anfon copi o’r cofnodion hynny i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)ar ffurf ysgrifenedig, neu
(b)gyda chydsyniad ysgrifenedig y Bwrdd Iechyd Lleol ar unrhyw ffurf arall.
(11) Ni chaniateir i gydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i drawsyrru gwybodaeth heblaw ar ffurf ysgrifenedig at ddibenion is-baragraff (10)(b) gael ei gadw’n ôl na’i dynnu’n ôl ar yr amod ei fod wedi ei fodloni, ac yn parhau i fod wedi ei fodloni, ynglŷn â’r materion a ganlyn—
(a)cynigion y contractwr ynghylch sut y mae’r cofnod i gael ei drawsyrru,
(b)cynigion y contractwr ynghylch fformat y cofnod a drawsyrrir,
(c)sut y mae’r contractwr i sicrhau bod y cofnod sy’n dod i law’r Bwrdd Iechyd Lleol yn union yr un fath â’r hyn a drawsyrrir, a
(d)sut y gall copi ysgrifenedig o’r cofnod gael ei lunio gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
(12) Ni chaiff contractwr y mae ei gofnodion cleifion yn gofnodion cyfrifiadurol analluogi, na cheisio analluogi, naill ai’r mesurau diogelwch na’r swyddogaethau archwilio a rheoli systemau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b).
(13) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cofnodion cyfrifiadurol” yw cofnodion a grëir drwy gyfrwng eitemau ar gyfrifiadur.
Cofnod Meddyg Teulu Cymru
79.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gontractwr, mewn unrhyw achos pan fo newid yn yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yng nghofnod meddygol claf, alluogi gwybodaeth gryno i gael ei hadalw yn awtomatig o Gofnod Meddyg Teulu Cymru ac Ap GIG Cymru, pan fydd y newid yn digwydd, gan ddefnyddio systemau a gymeradwywyd a ddarperir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Rhaid bod galluogi gwybodaeth gryno i gael ei hadalw yn awtomatig o Gofnod Meddyg Teulu Cymru at ddefnydd clinigol.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “Ap GIG Cymru” (“NHS Wales App”) yw’r system a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar gyfer cyrchu a rheoli apwyntiadau iechyd, presgripsiynau a manylion personol;
ystyr “Cofnod Meddyg Teulu Cymru” (“Welsh GP Record”) yw’r system a gymeradwywyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer adalw, storio ac arddangos yn awtomataidd ddata cleifion sy’n ymwneud â meddyginiaethau, alergeddau, adweithiau niweidiol a, pan gytunir â’r contractwr ac yn ddarostyngedig i gydsyniad y claf, unrhyw ddata arall a gymerir o gofnod electronig y claf;
ystyr “gwybodaeth gryno” (“summary information”) yw eitemau o ddata cleifion sy’n ffurfio Cofnod Meddyg Teulu Cymru.
Trosglwyddo cofnodion cleifion yn electronig rhwng practisau ymarfer cyffredinol
80.—(1) Rhaid i gontractwr ddefnyddio’r cyfleuster o’r enw “GP2GP” i drosglwyddo unrhyw gofnodion cleifion yn ddiogel ac yn effeithiol—
(a)mewn achos pan fo claf newydd yn cofrestru gyda phractis y contractwr, i bractis y contractwr o bractis darparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol (os oes un) y cofrestrwyd y claf gydag ef o’r blaen, neu
(b)mewn achos pan fo’r contractwr yn cael cais gan ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf wedi cofrestru gydag ef, er mwyn ymateb i’r cais hwnnw.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfleuster GP2GP” yw’r cyfleuster a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol i bractis contractwr sy’n galluogi cofnodion iechyd electronig claf cofrestredig a ddelir ar systemau clinigol cyfrifiadurol practis contractwr i gael eu trosglwyddo’n electronig yn ddiogel ac yn uniongyrchol i ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf wedi cofrestru gydag ef.
(3) Nid yw gofynion y paragraff hwn yn gymwys yn achos preswylydd dros dro.
Gohebiaeth glinigol: gofyniad bod rhaid cael rhif GIG
81.—(1) Rhaid i gontractwr gynnwys rhif GIG claf cofrestredig fel y prif ddynodydd ym mhob gohebiaeth glinigol sy’n ymwneud â’r claf hwnnw a ddyroddir gan y contractwr .
(2) Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan na fo’n bosibl i’r contractwr, o dan amgylchiadau eithriadol y tu hwnt i reolaeth y contractwr, ganfod rhif GIG y claf.
(3) Yn y paragraff hwn—
ystyr “gohebiaeth glinigol” (“clinical correspondence”) yw pob gohebiaeth ysgrifenedig, pa un ai ar ffurf electronig neu fel arall, rhwng y contractwr a darparwyr gwasanaethau iechyd eraill ynghylch sylw i gleifion a thrin cleifion ym mangre practis neu yn deillio o hynny, gan gynnwys atgyfeiriadau a wneir drwy lythyr neu drwy unrhyw ddull arall;
ystyr “rhif GIG” (“NHS number”), mewn perthynas â chlaf cofrestredig, yw’r rhif, a ffurfir o ddeg digid rhifol, sy’n gwasanaethu fel y dynodydd unigryw gwladol a ddefnyddir at ddiben rhannu gwybodaeth yn ddiogel, yn gywir ac yn effeithlon ynglŷn â’r claf hwnnw ar draws y gwasanaeth iechyd cyfan yng Nghymru.
Defnyddio peiriannau ffacs
82.—(1) Pan fo contractwr yn gallu trawsyrru gwybodaeth yn ddiogel ac yn uniongyrchol drwy ddulliau electronig heblaw trawsyriad ffacsimili, ni chaiff y contractwr—
(a)trawsyrru gwybodaeth i berson perthnasol drwy drawsyriad ffacsimili, na
(b)cytuno i dderbyn unrhyw wybodaeth oddi wrth berson perthnasol drwy drawsyriad ffacsimili.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i wybodaeth sy’n ymwneud yn unig â chlaf o dan drefniant preifat i ddarparu gwasanaethau clinigol neu driniaeth glinigol.
(3) Yn y paragraff hwn ystyr “person perthnasol” yw—
(a)corff GIG,
(b)darparwr arall gwasanaethau iechyd,
(c)claf, neu
(d)person yn gweithredu ar ran claf.
Cyfrinachedd data personol: person a enwebir
83. Rhaid i’r contractwr enwebu person sydd â chyfrifoldeb am arferion a gweithdrefnau ynglŷn â chyfrinachedd data personol a ddelir ganddo.
Darparu gwybodaeth i gleifion
84.—(1) Rhaid i’r contractwr—
(a)bod ag adnodd ar-lein,
(b)darparu’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 4 yn ddigidol ar adnodd ar-lein y practis a sicrhau bod taflen ysgrifenedig y practis ar gael hefyd, sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 4,
(c)adolygu’r wybodaeth a ddarperir ym mharagraffau (a) a (b) o leiaf unwaith y flwyddyn, a
(d)gwneud ei gleifion a’i ddarpar gleifion yn ymwybodol o’r wybodaeth a gynhwysir ar adnodd ar-lein ei bractis neu sut y gallant gyrchu’r wybodaeth hon ar daflen ysgrifenedig y practis.
(2) Rhaid i’r contractwr wneud unrhyw ddiwygiadau sy’n angenrheidiol i gynnal cywirdeb yr wybodaeth ar ei adnodd ar-lein yn dilyn—
(a)adolygiad o dan is-baragraff (1)(c),
(b)newid—
(i)yng nghyfeiriad unrhyw un neu ragor o fangreoedd practis y contractwr,
(ii)yn rhif ffôn y contractwr,
(iii)yng nghyfeiriad post electronig y contractwr (os trefnir bod hwnnw ar gael ar ei adnodd ar-lein), neu
(iv)mewn unrhyw ddull arall y dywedir y caiff claf gysylltu â’r contractwr drwyddo er mwyn trefnu neu ddiwygio apwyntiad, neu er mwyn archebu presgripsiynau amlroddadwy ar gyfer cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar.
Darparu gwybodaeth (neu fynediad at wybodaeth) ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol
85.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i’r contractwr, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol, ddangos i’r Bwrdd Iechyd Lleol neu i berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu ganiatáu i’r Bwrdd Iechyd Lleol neu i berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig ganddo, gael mynediad at—
(a)unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddibenion y contract neu mewn cysylltiad ag ef, a
(b)unrhyw wybodaeth arall sy’n rhesymol ofynnol mewn cysylltiad â swyddogaethau’r Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Nid yw’n ofynnol i’r contractwr gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir yn unol ag is-baragraff (1) oni bai ei fod wedi ei wneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â chyfarwyddydau sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth gan gontractwyr a roddir iddo gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o’r Ddeddf.
(3) Rhaid i’r contractwr ddangos yr wybodaeth y gofynnwyd amdani, neu, yn ôl y digwydd, ganiatáu mynediad i’r Bwrdd Iechyd Lleol at yr wybodaeth honno—
(a)erbyn dyddiad y cytunir arno fel dyddiad rhesymol rhwng y contractwr a’r Bwrdd Iechyd Lleol, neu
(b)yn absenoldeb cytundeb o’r fath, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y gwneir y cais.
Archwiliadau clinigol a’r Adnodd Data Cenedlaethol
86.—(1) Rhaid i gontractwr gofnodi a chaniatáu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gael mynediad at unrhyw ddata sy’n ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddibenion Rhaglen Archwiliadau Clinigol Cenedlaethol ac Adolygu Canlyniadau Clinigol GIG Cymru yn unol â pharagraff (2).
(2) Rhaid i’r data y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) gael eu codio’n briodol gan y contractwr gan ddefnyddio codio safonedig a’u huwchlwytho i systemau clinigol cyfrifiadurol y contractwr yn unol â gofynion canllawiau a gyhoeddir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru at y dibenion hyn.
(3) Rhaid i’r contractwr ganiatáu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru dynnu data ar lefel cleifion at ddiben cynnal archwiliadau clinigol a gynhwysir yn y Rhaglen Archwiliadau Clinigol Cenedlaethol ac Adolygu Canlyniadau Clinigol i ategu’r gwaith o reoli’r system iechyd a gofal.
(4) Rhaid i gontractwyr ystyried data ar lefel y practis o archwiliadau clinigol cenedlaethol a chymryd camau perthnasol a chymesur i leihau unrhyw amrywiad arwyddocaol a diangen a nodir.
Gwybodaeth ynglŷn â dangosyddion nad ydynt yn y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd mwyach
87.—(1) Rhaid i gontractwr ganiatáu i’r Bwrdd Iechyd Lleol dynnu o systemau clinigol cyfrifiadurol y contractwr yr wybodaeth a bennir yn y tabl isod (Dangosyddion sydd wedi eu symud o’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd) ar ba ysbeidiau bynnag yn ystod pob blwyddyn ariannol a hysbysir i’r contractwr gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Rhaid i gontractwr—
(a)sefydlu a chynnal y cofrestrau a bennir yn y dangosyddion clinigol a restrir yn y golofn “Disgrifiad y Dangosydd” yn y tabl isod (Dangosyddion sydd wedi eu symud o’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd),
(b)pan fo dangosydd yn pennu ystadegyn penodol, gofnodi’r data cysylltiedig yr un pryd fel rhan o’r gwaith o reoli clefydau cronig, ac
(c)pan fo’r dangosydd yn pennu gofyniad neu weithgaredd penodol, gofnodi’n barhaus fanylion cydymffurfedd y contractwr ag unrhyw ofynion neu weithgareddau o’r fath.
Tabl (Dangosyddion sydd wedi eu symud o’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd)
Rhif adnabod y Dangosydd | Disgrifiad y Dangosydd |
---|---|
AF001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â ffibriliad atrïaidd |
CHD001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â chlefyd coronaidd y galon |
HF001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â methiant y galon |
HYP001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â gorbwysedd sefydledig |
STIA001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â strôc neu bwl o isgemia dros dro |
DM001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o’r holl gleifion 17 oed neu drosodd sydd â diabetes mellitus, sy’n pennu’r math o ddiabetes pan fo diagnosis wedi ei gadarnhau |
AST001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd ag asthma, ac eithrio cleifion ag asthma sydd heb gael presgripsiwn ar gyfer unrhyw gyffuriau sy’n gysylltiedig ag asthma yn ystod y 12 mis blaenorol |
COPD001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â COPD |
DEM001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd wedi cael diagnosis dementia |
MH001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â sgitsoffrenia, anhwylder affeithiol deubegynol a seicosisau eraill a chleifion eraill ar therapi lithiwm |
CAN001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o’r holl gleifion canser a ddiffinnir fel ‘cofrestr o gleifion sydd â diagnosis o ganser ac eithrio canserau anfelanotig y croen y cafwyd diagnosis ar eu cyfer ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003’ |
EP001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion 18 oed neu drosodd sy’n cael triniaeth gyffuriau ar gyfer epilepsi |
LD001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd ag anableddau dysgu |
OST001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion— 1. 50 oed neu drosodd ac sydd heb gyrraedd 75 oed sydd â chofnod o dorasgwrn oherwydd breuder ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 a diagnosis o osteoporosis wedi ei gadarnhau ar sgan DXA, a 2. 75 oed neu drosodd sydd â chofnod o dorasgwrn oherwydd breuder ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 |
RA001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion 16 oed neu drosodd sydd ag arthritis gwynegol |
PC001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o’r holl gleifion y mae arnynt angen gofal/cymorth lliniarol ni waeth beth fo’u hoedran |
OB001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion 16 oed neu drosodd sydd â BMI o 30 yn y 15 mis blaenorol. |
AF006 | Canran y cleifion â ffibriliad atrïaidd y mae’r risg o strôc wedi ei hasesu ynddynt gan ddefnyddio system sgorio pennu lefel risg CHA2DS2-VASx yn y 3 blynedd blaenorol (ac eithrio’r cleifion hynny sydd â sgôr CHADS2 neu CHA2DS2-VASc flaenorol o 2 neu ragor) ac y mae cofnod wedi ei wneud o gwnsela ynghylch risgiau a buddion therapi gwrthgeulo |
AF007 | Yn y cleifion hynny â ffibriliad atrïaidd sydd â chofnod o sgôr CHA2DS2-VASc o 2 neu ragor, canran y cleifion sy’n cael eu trin â therapi cyffuriau gwrthgeulo ar hyn o bryd |
DM002 | Canran y cleifion â diabetes, ar y gofrestr, y mae’r darlleniad diweddaraf ar gyfer pwysedd eu gwaed (wedi ei fesur yn y 15 mis blaenorol) yn 150/90 mmHg neu lai |
DM003 | Canran y cleifion â diabetes, ar y gofrestr, y mae’r darlleniad diweddaraf ar gyfer pwysedd eu gwaed (wedi ei fesur yn y 15 mis blaenorol) yn 140/80 mmHg neu lai |
DM007 | Canran y cleifion â diabetes, ar y gofrestr, lle y mae’r IFCC-HbA1c diweddaraf yn 59 mmol/mol neu lai yn y 15 mis blaenorol |
DM012 | Canran y cleifion â diabetes, ar y gofrestr, sydd â chofnod o archwiliad traed a dosbarthiad risg; 1) risg isel (teimlad normal, pwls teimladwy), 2) risg uwch (niwropathi neu bwls absennol), 3) risg uchel (niwropathi neu bwls absennol ynghyd ag anffurfiad neu newidiadau croen mewn wlser blaenorol) neu 4) troed wlseraidd o fewn y 15 mis blaenorol |
DM014 | Canran y cleifion sydd newydd gael diagnosis diabetes, ar y gofrestr, yn y cyfnod blaenorol rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth sydd â chofnod o gael eu hatgyfeirio at raglen addysg strwythuredig o fewn 9 mis ar ôl cael eu cofnodi ar y gofrestr diabetes |
COPD003 | Canran y cleifion â COPD sydd wedi cael adolygiad, a gynhaliwyd gan broffesiynolyn gofal iechyd, gan gynnwys asesiad o ddiffyg anadl gan ddefnyddio graddfa dyspnoea y Cyngor Ymchwil Feddygol yn y 15 mis blaenorol |
MH011W | Canran y cleifion â sgitsoffrenia, anhwylder affeithiol deubegynol a seicosisau eraill sydd â chofnod o bwysedd gwaed, BMI, statws ysmygu ac yfed alcohol yn y 15 mis blaenorol ac yn ychwanegol yn achos y rhai 40 oed neu drosodd, cofnod o glwcos yn y gwaed neu HbA1c yn y 15 mis blaenorol |
PC002W | Mae’r contractwr yn cael cyfarfodydd adolygu achosion amlddisgyblaeth rheolaidd (o leiaf bob 2 fis) pan fo trafodaeth ar bob claf sydd ar y gofrestr gofal lliniarol |
FLU001W | Canran y boblogaeth gofrestredig 65 oed neu drosodd sydd wedi cael imiwneiddiad rhag y ffliw yn y cyfnod blaenorol rhwng 1 Awst a 31 Mawrth |
FLU002W | Canran y cleifion o dan 65 oed a gynhwyswyd ar (unrhyw un neu ragor o’r) cofrestrau ar gyfer CHD, COPD, diabetes neu strôc sydd wedi cael imiwneiddiad rhag y ffliw yn y cyfnod blaenorol rhwng 1 Awst a 31 Mawrth |
System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru
88.—(1) Rhaid i’r contractwr ddiweddaru’r elfennau gweithlu yn System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru er mwyn cynnwys—
(a)cyfrifiad a’r niferoedd cyfwerth ag amser llawn, a
(b)cofnod o’r holl ddechreuwyr newydd ac ymadawyr.
(2) Rhaid i’r contractwr gyrchu, adolygu a diweddaru (os oes angen hynny) ei ddangosfwrdd yn System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru o leiaf unwaith y mis.
Offeryn Uwchgyfeirio Ymarfer Cyffredinol
89. Rhaid i’r contractwr nodi ei gyflwyniad uwchgyfeirio yn yr Offeryn Uwchgyfeirio Ymarfer Cyffredinol erbyn 3.30pm ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis a hefyd bob tro y mae newid sylweddol yn amgylchiadau’r practis.
System Rhybuddio Ganolog yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd
90. Rhaid i gontractwr—
(a)darparu i’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, pan ofynnir iddo, gyfeiriad post electronig sydd wedi ei gofrestru â phractis y contractwr,
(b)monitro’r cyfeiriad hwnnw,
(c)os yw’r cyfeiriad hwnnw yn peidio â bod wedi ei gofrestru i’r practis, roi gwybod i’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ar unwaith am ei gyfeiriad post electronig newydd, a
(d)darparu i’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, pan ofynnir iddo, un neu ragor o rifau ffôn symudol ar gyfer eu defnyddio os na fydd y contractwr yn gallu derbyn post electronig.
Ymholiadau ynghylch presgripsiynau ac atgyfeiriadau
91.—(1) Rhaid i’r contractwr, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), ateb mewn modd digonol unrhyw ymholiadau pa un a ydynt ar lafar neu yn ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch—
(a)unrhyw ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy a ddyroddir gan ragnodwr,
(b)yr ystyriaethau y mae’r rhagnodwyr yn rhoi’r ffurflenni hynny drwy gyfeirio atynt,
(c)atgyfeiriad unrhyw glaf gan neu ar ran y contractwr at unrhyw wasanaethau eraill a ddarperir o dan y Ddeddf, neu
(d)yr ystyriaethau y mae’r contractwr yn gwneud yr atgyfeiriadau hynny neu’n darparu iddynt gael eu gwneud ar ei ran drwyddynt.
(2) Ni chaniateir i ymholiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) gael ei wneud ond at ddiben naill ai sicrhau gwybodaeth i gynorthwyo’r Bwrdd Iechyd Lleol i gyflawni ei swyddogaethau neu gynorthwyo’r contractwr i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract.
(3) Nid yw’r contractwr o dan rwymedigaeth i ateb unrhyw ymholiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) oni bai ei fod yn cael ei wneud—
(a)yn achos is-baragraff (1)(a) neu (b), gan broffesiynolyn gofal iechyd sydd wedi cymhwyso’n briodol, neu
(b)yn achos is-baragraff (1)(c) neu (d), gan ymarferydd meddygol sydd wedi cymhwyso’n briodol.
(4) Rhaid i’r person sydd wedi cymhwyso’n briodol y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a) neu (b)—
(a)bod wedi ei benodi gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn y naill achos neu’r llall i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn, a
(b)dangos, ar gais, dystiolaeth ysgrifenedig o awdurdod y person hwnnw gan y Bwrdd Iechyd Lleol i wneud ymholiad o’r fath ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol.
Darparu gwybodaeth i swyddog meddygol etc.
92.—(1) Rhaid i’r contractwr, os yw wedi ei fodloni bod y claf yn cydsynio—
(a)cyflenwi yn ysgrifenedig i unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (3) (“person perthnasol”), o fewn unrhyw gyfnod rhesymol a bennir gan y person hwnnw, unrhyw wybodaeth glinigol y mae unrhyw un neu ragor o’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (3)(a) i (d) yn ei hystyried yn berthnasol ynghylch claf y mae’r contractwr neu berson sy’n gweithredu ar ran y contractwr wedi dyroddi neu wedi gwrthod dyroddi tystysgrif feddygol iddo, a
(b)ateb unrhyw ymholiadau gan berson perthnasol ynghylch—
(i)ffurflen bresgripsiwn neu dystysgrif feddygol a ddyroddir neu a grëir gan, neu ar ran, y contractwr, neu
(ii)unrhyw ddatganiad y mae’r contractwr neu berson sy’n gweithredu ar ran y contractwr wedi ei wneud mewn adroddiad.
(2) At ddibenion cael ei fodloni bod claf yn cydsynio, caiff contractwr ddibynnu ar sicrwydd ysgrifenedig gan berson perthnasol bod cydsyniad y claf wedi ei sicrhau, oni bai bod gan y contractwr reswm dros gredu nad yw’r claf yn cydsynio.
(3) At ddibenion is-baragraff (1) a (2), “person perthnasol” yw—
(a)swyddog meddygol,
(b)swyddog nyrsio,
(c)therapydd galwedigaethol,
(d)ffisiotherapydd, neu
(e)swyddog i’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gweithredu ar ran unrhyw berson a bennir ym mharagraffau (a) i (d) ac o dan gyfarwyddyd y person hwnnw.
(4) Yn y paragraff hwn—
ystyr “ffisiotherapydd” (“physiotherapist”) yw proffesiynolyn gofal iechyd sydd wedi ei gofrestru yn y rhan o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (sefydlu a chynnal cofrestr) sy’n ymwneud â ffisiotherapyddion ac sydd—
wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu
wedi ei ddarparu gan sefydliad o dan gontract yr ymrwymwyd iddo gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau;
ystyr “swyddog meddygol” (“medical officer”) yw ymarferydd meddygol sydd—
wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu
wedi ei ddarparu gan sefydliad o dan gontract yr ymrwymwyd iddo gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau;
ystyr “therapydd galwedigaethol” (“occupational therapist”) yw proffesiynolyn gofal iechyd sydd wedi ei gofrestru yn y rhan o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (sefydlu a chynnal cofrestr) sy’n ymwneud â therapyddion galwedigaethol ac sydd—
wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu
wedi ei ddarparu gan sefydliad o dan gontract yr ymrwymwyd iddo gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau.
Datganiad ac adolygiad blynyddol
93.—(1) Rhaid i’r contractwr gyflwyno datganiad blynyddol ynglŷn â’r contract i’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n ei gwneud yn ofynnol cael yr un categorïau o wybodaeth gan bob person sydd â chontractau gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw.
(2) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ofyn am ddatganiad ynglŷn â’r contract unrhyw bryd yn ystod pob blwyddyn ariannol mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw (heb gynnwys unrhyw gyfnod a gynhwyswyd mewn datganiad blynyddol blaenorol) a bennir yn y cais.
(3) Rhaid i’r contractwr gyflwyno’r datganiad wedi ei gwblhau i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)erbyn dyddiad y cytunwyd ei fod yn rhesymol rhwng y contractwr a’r Bwrdd Iechyd Lleol, neu
(b)yn absenoldeb cytundeb o’r fath, cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y cais.
(4) Ar ôl cael y datganiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol drefnu gyda’r contractwr adolygiad blynyddol o’i gyflawniad mewn perthynas â’r contract.
(5) Caiff y contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol, os dymunir, wahodd y Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract ynddi i gymryd rhan yn yr adolygiad blynyddol.
(6) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol baratoi cofnod drafft o’r adolygiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (4) i’r contractwr gyflwyno sylwadau arno a, gan roi sylw i’r sylwadau hynny, lunio cofnod ysgrifenedig terfynol o’r adolygiad.
(7) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon copi o’r cofnod terfynol o’r adolygiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) at y contractwr.
Hysbysiadau i’r Bwrdd Iechyd Lleol
94.—(1) Yn ychwanegol at unrhyw ofynion ynglŷn â hysbysu mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn, rhaid i’r contractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, am y canlynol—
(a)unrhyw ddigwyddiad difrifol sydd, ym marn resymol y contractwr, yn effeithio ar y modd y mae’r contractwr yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract neu’n debygol o effeithio arno;
(b)unrhyw amgylchiadau sy’n arwain at hawl y Bwrdd Iechyd Lleol i derfynu’r contract o dan Ran 11;
(c)unrhyw system apwyntiadau y mae’n bwriadu ei gweithredu a’r bwriad i roi’r gorau i unrhyw system o’r fath;
(d)unrhyw newid y mae’r contractwr yn ymwybodol ohono yng nghyfeiriad claf cofrestredig;
(e)marwolaeth unrhyw glaf y mae’r contractwr yn ymwybodol ohoni.
(2) Oni bai ei bod yn anymarferol iddo wneud hynny, rhaid i’r contractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl unrhyw ddigwyddiad sy’n gofyn am newid yn yr wybodaeth amdano a gyhoeddir gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 41 o’r Ddeddf (gwasanaethau meddygol sylfaenol).
(3) Rhaid i’r contractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig am unrhyw berson heblaw claf cofrestredig neu berson y mae wedi ei dderbyn yn breswylydd dros dro ac y mae wedi darparu’r gwasanaethau unedig a ddisgrifir yn rheoliad 17(7) neu (9) iddo o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod y darparwyd y gwasanaethau.
Cydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol
95. Rhaid i’r Contractwr gydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau’r Bwrdd Iechyd Lleol, neu rwymedigaethau swyddogion atebol y Bwrdd Iechyd Lleol, o dan Reoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008(66).
Darpariaethau ynglŷn â hysbysiadau sy’n benodol i gontract gyda chwmni cyfyngedig drwy gyfrannau
96.—(1) Pan fo contractwr yn gwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, rhaid i’r contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo—
(a)y contractwr yn ymwybodol o unrhyw gynnig—
(i)i drosi neu drosglwyddo unrhyw gyfran yn y cwmni (pa un ai’n gyfreithiol ynteu’n llesiannol) i berson arall, neu
(ii)i benodi cyfarwyddwr neu ysgrifennydd newydd i’r cwmni,
(b)amgylchiadau’n codi a allai roi hawlogaeth i gredydwr neu lys benodi derbynnydd, gweinyddwr neu dderbynnydd gweinyddol mewn perthynas â’r cwmni,
(c)amgylchiadau’n codi a fyddai’n galluogi’r llys i wneud gorchymyn dirwyn i ben mewn perthynas â’r cwmni,
(d)penderfyniad cwmni yn cael ei basio, neu fod llys ag awdurdodaeth gymwys yn gwneud gorchymyn, fod y cwmni i gael ei ddirwyn i ben, neu
(e)nad yw’r cwmni’n gallu talu ei ddyledion o fewn ystyr adran 123 o Ddeddf Ansolfedd 1986(67) (diffiniad o fethu talu dyledion).
(2) Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1)(a) gadarnhau bod unrhyw gyfranddaliwr newydd arfaethedig neu, yn ôl y digwydd, gynrychiolydd personol cyfranddaliwr sydd wedi marw—
(a)naill ai—
(i)yn ymarferydd meddygol, neu
(ii)yn berson sy’n bodloni’r amodau a bennir yn adran 44(2)(b)(i) i (iv) o’r Ddeddf (personau sy’n gymwys i ymrwymo i gontractau GMC), a
(b)yn bodloni’r amodau pellach a osodir ar gyfranddalwyr yn rhinwedd rheoliadau 5 a 6.
(3) Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1)(a) gadarnhau bod unrhyw gyfarwyddwr newydd arfaethedig neu, yn ôl y digwydd, unrhyw ysgrifennydd newydd arfaethedig yn bodloni’r amodau a osodir ar gyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion yn rhinwedd rheoliad 6.
Darpariaethau ynglŷn â hysbysiadau sy’n benodol i gontract gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth
97.—(1) Pan fo contractwr yn bartneriaeth, rhaid i’r contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo—
(a)unrhyw bartner yn y bartneriaeth—
(i)yn ymadael â’r bartneriaeth, neu
(ii)yn hysbysu’r partneriaid eraill yn y bartneriaeth ei fod yn bwriadu ymadael â’r bartneriaeth, neu
(b)bod partner newydd yn ymuno â’r bartneriaeth.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1)(a) gadarnhau’r dyddiad yr ymadawodd y partner â’r bartneriaeth neu y mae’n bwriadu ymadael â hi.
(3) Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1)(b)—
(a)nodi’r dyddiad yr ymunodd y partner newydd â’r bartneriaeth,
(b)cadarnhau bod y partner newydd—
(i)yn ymarferydd meddygol, neu
(ii)yn berson sy’n bodloni’r amodau a bennir yn adran 44(2)(b)(i) i (iv) o’r Ddeddf (personau sy’n gymwys i ymrwymo i gontractau GMC),
(c)cadarnhau bod y partner newydd yn bodloni’r amodau a osodir gan reoliadau 5 a 6, a
(d)nodi a yw’r partner newydd yn bartner cyffredinol ynteu’n bartner cyfyngedig yn y bartneriaeth.
Hysbysu am farwolaethau
98.—(1) Rhaid i’r contractwr gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol am farwolaeth unrhyw glaf yn ei fangre practis, heb fod yn hwyrach na diwedd y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y dyddiad y digwyddodd y farwolaeth.
(2) Rhaid i’r adroddiad gynnwys—
(a)enw llawn y claf,
(b)rhif Gwasanaeth Iechyd Gwladol y claf pan fo’n hysbys,
(c)dyddiad a lleoliad marwolaeth y claf,
(d)disgrifiad byr o amgylchiadau marwolaeth y claf, fel y maent yn hysbys,
(e)enw unrhyw ymarferydd meddygol neu berson arall a oedd yn trin y claf tra oedd y claf ar fangre practis y contractwr, ac
(f)enw unrhyw berson arall, pan fo’n hysbys, a oedd yn bresennol adeg marwolaeth y claf.
(3) Rhaid i’r contractwr anfon copi o’r adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) at unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall yr oedd yr ymadawedig yn preswylio yn ei ardal adeg ei farwolaeth.
Hysbysiadau i gleifion ar ôl amrywio’r contract
99.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo contract yn cael ei amrywio yn unol â Rhan 11 o’r Atodlen hon ac, o ganlyniad i’r amrywiad hwnnw—
(a)bod newid i fod yn yr ystod o wasanaethau a ddarperir i gleifion cofrestredig y contractwr, neu
(b)bod cleifion sydd ar restr y contractwr o gleifion i gael eu tynnu oddi ar y rhestr honno.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r cleifion hynny o’r amrywiad a’i effaith, a
(b)hysbysu’r cleifion hynny o’r camau y cânt eu cymryd er mwyn—
(i)sicrhau’r gwasanaethau o dan sylw yn rhywle arall, neu
(ii)cofrestru rywle arall er mwyn i wasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) gael eu darparu iddynt.
Mynediad ac Archwiliadau gan y Bwrdd Iechyd Lleol
100.—(1) Yn ddarostyngedig i’r amodau yn is-baragraff (2), rhaid i’r contractwr ganiatáu i unrhyw bersonau sydd wedi eu hawdurdodi’n ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol i fynd i mewn i fangre practis y contractwr ar unrhyw adeg resymol a’i harchwilio.
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—
(a)bod hysbysiad rhesymol o’r bwriad i fynd i mewn wedi ei roi,
(b)bod tystiolaeth ysgrifenedig o awdurdod y person sy’n ceisio mynd i mewn yn cael ei chyflwyno i’r contractwr pan ofynnir amdani, ac
(c)nad eir i mewn i unrhyw fangre na rhan o’r fangre a ddefnyddir fel llety preswyl heb gydsyniad y preswylydd.
(3) Caiff y contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol wahodd y Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract ynddi i fod yn bresennol mewn unrhyw archwiliad o fangre’r contractwr sy’n digwydd o dan y paragraff hwn.
RHAN 9Pryderon, cwynion ac ymchwiliadau
Pryderon a chwynion
101. Rhaid i’r contractwr sefydlu a gweithredu trefniadau sy’n bodloni gofynion Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011(68) i ymdrin ag unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch unrhyw fater sy’n gysylltiedig yn rhesymol â darparu gwasanaethau o dan y contract.
Cydweithredu ag ymchwiliadau
102.—(1) Rhaid i’r contractwr gydweithredu—
(a)ag unrhyw ymchwiliad i gŵyn neu bryder a hysbysir yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig yn rhesymol â darparu gwasanaethau o dan y contract yr ymgymerir ag ef gan—
(i)y Bwrdd Iechyd Lleol,
(ii)Gweinidogion Cymru,
(iii)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a
(b)ag unrhyw ymchwiliad i gŵyn neu bryder a hysbysir yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 gan gorff GIG neu awdurdod lleol sy’n ymwneud â chlaf neu gyn-glaf i’r contractwr.
(2) Mae’r cydweithredu sy’n ofynnol o dan is-baragraff (1) yn cynnwys—
(a)ateb cwestiynau a ofynnir yn rhesymol i’r contractwr gan y Bwrdd Iechyd Lleol,
(b)darparu unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r gŵyn neu’r pryder a hysbysir yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ac
(c)mynd i unrhyw gyfarfod i ystyried y gŵyn neu bryder a hysbysir yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (os caiff ei gynnal mewn lle sy’n rhesymol hygyrch ac ar adeg resymol, ac os oes hysbysiad dyladwy wedi ei roi) os yw presenoldeb y contractwr yn y cyfarfod yn ofynnol yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
(3) Yn y paragraff hwn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—
unrhyw un neu ragor o’r cyrff a restrir yn adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol 1970(69) (awdurdodau lleol) (cyfansoddiad cynghorau),
Cyngor Ynysoedd Scilly,
cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc (Yr Alban) 1994 (cyfansoddiad cynghorau), neu
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “corff GIG” (“NHS body”) yw Bwrdd Iechyd Lleol, (yng Nghymru a Lloegr a’r Alban) ymddiriedolaeth GIG, ymddiriedolaeth sefydledig y GIG, Bwrdd Gofal Integredig, GIG Lloegr, Bwrdd Iechyd, Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Darparu gwybodaeth am gwynion
103. Rhaid i’r contractwr roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol, fesul pa ysbeidiau bynnag sy’n ofynnol, am nifer y cwynion y mae wedi eu cael o dan y weithdrefn a sefydlir yn unol â’r Rhan hon.
RHAN 10Datrys anghydfodau
Datrys anghydfodau contract yn lleol
104.—(1) Rhaid i’r contractwr a’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud ymdrechion rhesymol i gyfathrebu a chydweithredu â’i gilydd gyda’r bwriad o ddatrys unrhyw anghydfod sy’n codi o’r contract neu mewn cysylltiad ag ef cyn atgyfeirio’r anghydfod i gael ei benderfynu yn unol â gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG (neu, pan fo’n gymwys, cyn dechrau achos llys).
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i anghydfod yn ymwneud â neilltuo cleifion i restr wedi ei chau sydd i’w benderfynu o dan weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG yn rhinwedd paragraff 46(1) pan na fo’n ymarferol i’r partïon geisio ei ddatrys yn lleol cyn i’r cyfnod o 7 diwrnod a bennir ym mharagraff 46(4) ddod i ben.
(3) Caiff y contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol wahodd y Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract ynddi i gymryd rhan mewn trafodaethau sy’n digwydd yn rhinwedd is-baragraff (1).
Datrys anghydfodau: contractau nad ydynt yn gontractau GIG
105.—(1) Yn achos contract nad yw’n gontract GIG, caniateir i unrhyw anghydfod sy’n codi o’r contract neu mewn cysylltiad ag ef, ac eithrio materion yr ymdrinnir â hwy o dan y gweithdrefnau ar gyfer hysbysu am bryderon neu gwynion yn unol â Rhan 9 o’r Atodlen hon, gael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei ystyried a’i benderfynu—
(a)os yw’n ymwneud â chyfnod pan oedd y contractwr yn cael ei drin fel corff gwasanaeth iechyd, gan y contractwr neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu
(b)mewn unrhyw achos arall, gan y contractwr neu, os yw’r contractwr yn cytuno yn ysgrifenedig, gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Yn achos anghydfod a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (1)—
(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn yw gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG, a
(b)mae’r partïon yn cytuno i gael eu rhwymo gan unrhyw benderfyniad a wneir gan y dyfarnwr.
Gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG
106.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae’r weithdrefn a bennir yn yr is-baragraffau a ganlyn ac ym mharagraff 107 yn gymwys yn achos unrhyw anghydfod sy’n codi o’r contract neu mewn cysylltiad ag ef a atgyfeirir at Weinidogion Cymru—
(a)yn unol ag adran 7(6) o’r Ddeddf (pan fo’r contract yn gontract GIG), neu
(b)yn unol â pharagraff 105(1) (pan na fo’r contract yn gontract GIG).
(2) Nid yw’r weithdrefn a bennir yn y paragraff hwn yn gymwys pan fo contractwr yn atgyfeirio mater i gael ei benderfynu yn unol â pharagraff 46, ac mewn achos o’r fath mae’r weithdrefn a bennir yn y paragraff hwnnw yn gymwys yn lle hynny.
(3) Rhaid i unrhyw barti sy’n dymuno atgyfeirio anghydfod fel y crybwyllir yn is-baragraff (1) anfon at Weinidogion Cymru gais ysgrifenedig am ddatrys anghydfod y mae rhaid iddo gynnwys neu y mae rhaid anfon gydag ef—
(a)enwau a chyfeiriadau’r partïon i’r anghydfod,
(b)copi o’r contract, ac
(c)datganiad byr yn disgrifio natur yr anghydfod, a’r amgylchiadau sy’n arwain at yr anghydfod.
(4) Rhaid i unrhyw barti sy’n dymuno atgyfeirio anghydfod fel y crybwyllir yn is-baragraff (1) anfon y cais o dan is-baragraff (3) o fewn cyfnod o 3 blynedd gan ddechrau â’r dyddiad y digwyddodd y mater a arweiniodd at yr anghydfod neu y dylai’n rhesymol fod wedi dod i sylw’r parti sy’n dymuno atgyfeirio’r anghydfod.
(5) Pan fo’r anghydfod yn ymwneud â chontract nad yw’n gontract GIG, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y mater eu hunain neu, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol, benodi person neu bersonau i’w ystyried a phenderfynu arno.
(6) Cyn penderfynu pwy a ddylai benderfynu ar yr anghydfod, naill ai o dan is-baragraff (5) neu o dan adran 7(8) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad yr atgyfeiriwyd mater sy’n destun anghydfod atynt, anfon cais ysgrifenedig at y partïon i gyflwyno yn ysgrifenedig, o fewn cyfnod penodedig, unrhyw sylwadau yr hoffent eu cyflwyno ynghylch y mater sy’n destun anghydfod.
(7) Gyda’r hysbysiad a roddir o dan is-baragraff (6), rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r parti heblaw’r un a atgyfeiriodd y mater at y weithdrefn datrys anghydfodau gopi o unrhyw ddogfen yr atgyfeiriwyd y mater at y weithdrefn datrys anghydfodau drwyddi.
(8) Rhaid i Weinidogion Cymru roi copi o unrhyw sylwadau sy’n dod i law oddi wrth barti i’r parti arall a rhaid iddynt ofyn (yn ysgrifenedig) ym mhob achos i barti y rhoddir copi o’r sylwadau iddo gyflwyno o fewn cyfnod penodedig unrhyw arsylwadau ysgrifenedig y mae’n dymuno eu gwneud am y sylwadau hynny.
(9) Ar ôl cael unrhyw sylwadau gan y partïon neu, os yw hynny’n gynharach, ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o’r fath a bennir yn y cais a anfonir o dan is-baragraff (6) neu (8), rhaid i Weinidogion Cymru, os ydynt yn penderfynu penodi person neu bersonau i wrando’r anghydfod—
(a)hysbysu’r partïon yn ysgrifenedig am enw’r person neu’r personau y mae’n eu penodi, a
(b)trosglwyddo i’r person neu’r personau a benodir felly unrhyw ddogfennau a ddaeth i law oddi wrth y partïon o dan is-baragraff (3), (6) neu (8).
(10) Er mwyn cynorthwyo’r dyfarnwr i ystyried y mater, caiff y dyfarnwr—
(a)gwahodd cynrychiolwyr i’r partïon i ymddangos gerbron y dyfarnwr i gyflwyno sylwadau ar lafar naill ai gyda’i gilydd neu, gyda chytundeb y partïon, ar wahân, a chaiff ddarparu rhestr o faterion neu gwestiynau ymlaen llaw i’r partïon y mae’r dyfarnwr yn dymuno iddynt roi ystyriaeth arbennig iddynt, neu
(b)ymgynghori â phersonau eraill y mae’r dyfarnwr yn ystyried y gall eu harbenigedd gynorthwyo i ystyried y mater.
(11) Pan fo’r dyfarnwr yn ymgynghori â pherson arall o dan is-baragraff (10)(b), rhaid i’r dyfarnwr hysbysu’r partïon yn unol â hynny yn ysgrifenedig ac, os yw’r dyfarnwr yn ystyried y gallai canlyniad yr ymgynghoriad effeithio’n sylweddol ar fuddiannau unrhyw barti, rhaid i’r dyfarnwr roi i’r partïon unrhyw gyfle y mae’r dyfarnwr yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau i gyflwyno arsylwadau ar y canlyniadau hynny.
(12) Wrth ystyried y mater, rhaid i’r dyfarnwr ystyried—
(a)unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynir mewn ymateb i gais o dan is-baragraff (6), ond dim ond os cânt eu cyflwyno o fewn y cyfnod penodedig,
(b)unrhyw arsylwadau ysgrifenedig a gyflwynir mewn ymateb i gais o dan is-baragraff (8), ond dim ond os cânt eu cyflwyno o fewn y cyfnod penodedig,
(c)unrhyw sylwadau ar lafar a gyflwynir mewn ymateb i wahoddiad o dan is-baragraff (10)(a),
(d)canlyniadau unrhyw ymgynghori o dan is-baragraff (10)(b), ac
(e)unrhyw arsylwadau a gyflwynir yn unol â chyfle a roddir o dan is-baragraff (11).
(13) Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfnod penodedig” yw unrhyw gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru yn y cais, nad yw’n llai na 2 wythnos, nac yn fwy na 4 wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato, ond caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried bod rheswm da dros wneud hynny, estyn unrhyw gyfnod o’r fath (hyd yn oed ar ôl iddo ddod i ben), a phan fyddant yn gwneud hynny, mae cyfeiriad yn y paragraff hwn at y cyfnod penodedig yn gyfeiriad at y cyfnod fel y’i hestynnwyd
(14) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y paragraff hwn a pharagraff 107 ac i unrhyw gytundeb gan y partïon, mae gan y dyfarnwr ddisgresiwn eang i benderfynu ar y weithdrefn ar gyfer datrys yr anghydfod i sicrhau bod penderfyniad cyfiawn, diymdroi, darbodus a therfynol yn cael ei wneud ar yr anghydfod.
Penderfynu ar yr anghydfod
107.—(1) Rhaid i benderfyniad y dyfarnwr, a’r rhesymau drosto, gael eu cofnodi’n ysgrifenedig a rhaid i’r dyfarnwr roi hysbysiad o’r dyfarniad (gan gynnwys cofnod o’r rhesymau) i’r partïon.
(2) Pan atgyfeirir anghydfod mewn perthynas â chontract i’w benderfynu yn unol â pharagraff 106(1)—
(a)mae adran 7(12) a (13) o’r Ddeddf yn gymwys yn yr un modd ag y mae’r is-adrannau hynny yn gymwys i anghydfod a atgyfeirir i’w benderfynu yn unol ag adran 7(6) neu (7) o’r Ddeddf, a
(b)mae adran 48(5) o’r Ddeddf yn gymwys i unrhyw anghydfod a atgyfeirir i’w benderfynu mewn perthynas â chontract nad yw’n gontract GIG fel pe bai wedi ei atgyfeirio i’w benderfynu yn unol ag adran 7(6) o’r Ddeddf.
Dehongli’r Rhan hon
108.—(1) Yn y Rhan hon, mae “unrhyw anghydfod sy’n codi o’r contract neu mewn cysylltiad ag ef” yn cynnwys unrhyw anghydfod sy’n codi o derfynu’r contract neu mewn cysylltiad â hynny.
(2) Mae unrhyw un neu ragor o delerau’r contract sy’n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r gofynion yn y Rhan hon i oroesi hyd yn oed pan fo’r contract wedi ei derfynu.
RHAN 11Amrywio a therfynu contractau
Amrywio contract: cyffredinol
109.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau 76(8), 110, 111 a 124 o’r Atodlen hon, nid yw unrhyw ddiwygiad nac amrywiad yn cael effaith oni bai ei fod yn ysgrifenedig ac wedi ei lofnodi gan neu ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr.
(2) Yn ychwanegol at y ddarpariaeth benodol a wneir ym mharagraffau 110(6), 111(11) a 124 caiff y Bwrdd Iechyd Lleol amrywio’r contract heb gydsyniad y contractwr—
(a)pan fo wedi ei fodloni’n rhesymol ei bod yn angenrheidiol amrywio’r contract er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf, ag unrhyw reoliadau a wnaed yn unol â’r Ddeddf honno, neu ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru yn unol â’r Ddeddf honno, a
(b)pan fo’n hysbysu’r contractwr yn ysgrifenedig am eiriad yr amrywiad arfaethedig a’r dyddiad y mae’r amrywiad hwnnw i gymryd effaith, a
pan fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ni chaiff y dyddiad y mae’r amrywiad arfaethedig i ddod i rym fod yn llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad o dan baragraff (b) i’r contractwr.
Darpariaethau ynglŷn ag amrywiad sy’n benodol i gontract gydag ymarferydd meddygol unigol
110.—(1) Os yw contractwr sy’n ymarferydd meddygol unigol yn bwriadu ymarfer mewn partneriaeth ag un neu ragor o bobl yn ystod bodolaeth y contract, rhaid i’r contractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig am y canlynol—
(a)enw’r person neu’r personau y mae’n bwriadu ymarfer mewn partneriaeth ag ef neu â hwy, a
(b)y dyddiad y mae’r contractwr yn dymuno newid ei statws fel contractwr o ymarferydd meddygol unigol i bartneriaeth, na chaiff fod lai nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynodd yr hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â’r is-baragraff hwn.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â’r person neu bob un o’r personau y mae’r contractwr yn bwriadu ymarfer ag ef neu â hwy mewn partneriaeth, a hefyd mewn cysylltiad ag ef ei hun o ran y materion a bennir ym mharagraff (c)—
(a)cadarnhau bod y person naill ai—
(i)yn ymarferydd meddygol, neu
(ii)yn berson sy’n bodloni’r amodau a bennir yn adran 44(2)(b)(i) i (iv) o’r Ddeddf,
(b)cadarnhau bod y person yn bodloni’r amodau a osodir gan reoliadau 5 a 6,
(c)nodi pa un a yw’r bartneriaeth i fod yn bartneriaeth gyffredinol ynteu’n bartneriaeth gyfyngedig a rhoi enwau’r partneriaid cyfyngedig a’r partneriaid cyffredinol yn y bartneriaeth, a
rhaid i’r hysbysiad gael ei lofnodi gan yr ymarferydd meddygol unigol a chan y person, neu bob un o’r personau (yn ôl y digwydd), y mae’r ymarferydd meddygol yn bwriadu ymarfer mewn partneriaeth â hwy.
(3) Rhaid i’r contractwr sicrhau bod unrhyw berson sydd i ymarfer mewn partneriaeth gydag ef wedi ei rwymo gan y contract, pa un ai yn rhinwedd cytundeb partneriaeth neu fel arall.
(4) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni ynghylch cywirdeb y materion a bennir yn is-baragraff (2) sydd wedi eu cynnwys yn yr hysbysiad, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn cadarnhau bod y contract yn parhau â’r bartneriaeth yr ymrwymwyd iddi gan y contractwr a’i bartneriaid, o ddyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ei bennu yn yr hysbysiad hwnnw.
(5) Pan fo’n rhesymol ymarferol, y dyddiad a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag is-baragraff (4) yw’r dyddiad y gofynnir amdano yn yr hysbysiad a gyflwynir gan y contractwr yn unol ag is-baragraff (1), neu, pan na fo’r dyddiad hwnnw’n rhesymol ymarferol, mae’r dyddiad a bennir i fod yn ddyddiad ar ôl y dyddiad y gofynnwyd amdano sydd mor agos at y dyddiad y gofynnwyd amdano ag sy’n rhesymol ymarferol.
(6) Pan fo contractwr wedi rhoi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag is-baragraff (1), o ran y Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)caiff amrywio’r contract ond dim ond i’r graddau y mae wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol adlewyrchu’r newid yn statws y contractwr o ymarferydd meddygol unigol i bartneriaeth, a
(b)os yw’n bwriadu amrywio’r contract felly, rhaid iddo gynnwys yn yr hysbysiad a gyflwynir i’r contractwr yn unol ag is-baragraff (4) eiriad yr amrywiad arfaethedig a’r dyddiad y mae’r amrywiad hwnnw i gael effaith.
Darpariaethau ynglŷn ag amrywiad sy’n benodol i gontract gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth
111.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), pan fo contractwr yn cynnwys dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth, os bydd y bartneriaeth yn cael ei therfynu neu ei diddymu, mae’r contract yn parhau gyda’r bartneriaeth honno oni chaiff y contract ei derfynu gan y contractwr neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan ddarpariaethau’r Rhan hon ac ni chaiff y contract ond parhau gydag un yn unig o’r cyn-bartneriaid os yw’r partner hwnnw—
(a)wedi ei enwebu yn unol ag is-baragraff (3), a
(b)yn ymarferydd meddygol sy’n bodloni’r amod yn rheoliad 5(1)(a),
ac ar yr amod bod y gofynion yn is-baragraffau (2) a (3) wedi eu bodloni.
(2) Rhaid i gontractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad y mae’r contractwr yn bwriadu newid ei statws o bartneriaeth i ymarferydd meddygol unigol yn unol ag is-baragraff (1).
(3) Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (2)—
(a)pennu’r dyddiad y mae’r contractwr yn bwriadu newid ei statws o bartneriaeth i ymarferydd meddygol unigol,
(b)pennu enw’r ymarferydd meddygol y mae’r contract i barhau gydag ef, y mae’n rhaid iddo fod yn un o’r partneriaid, ac
(c)cael ei lofnodi gan bob un o’r personau sy’n ymarfer mewn partneriaeth.
(4) Pan fo contractwr yn cynnwys dau berson yn ymarfer mewn partneriaeth a bod y bartneriaeth yn cael ei therfynu neu ei diddymu am fod un o’r partneriaid wedi marw, rhaid i’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol o’r farwolaeth honno cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ac yn yr achos hwnnw, mae is-baragraffau (5) a (6) yn gymwys.
(5) Os yw’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth yn ymarferydd meddygol cyffredinol, mae’r contract i barhau gyda’r ymarferydd meddygol cyffredinol hwnnw.
(6) Os nad yw’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth yn ymarferydd meddygol cyffredinol, o ran y Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)rhaid iddo ddechrau trafodaethau â’r partner hwnnw a defnyddio ymdrechion rhesymol i ddod i gytundeb i alluogi gwasanaethau clinigol i barhau i gael eu darparu o dan y contract,
(b)os yw’n ystyried bod hynny’n briodol, caiff ymgynghori â’r Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal yr oedd y bartneriaeth yn darparu gwasanaethau clinigol o dan y contract ynddi, neu ag unrhyw berson arall y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ei ystyried yn angenrheidiol,
(c)os yw o’r farn bod hynny’n briodol i alluogi gwasanaethau clinigol i barhau i gael eu darparu o dan y contract, caiff gynnig cymorth rhesymol i’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth, a
(d)rhaid iddo roi hysbysiad i’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth os daethpwyd i gytundeb yn unol ag is-baragraff (7) neu, os na ellir dod i gytundeb, yn unol ag is-baragraff (8).
(7) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn dod i gytundeb, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth yn cadarnhau—
(a)y telerau y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cytuno i’r contract barhau â’r partner hwnnw arnynt gan gynnwys y cyfnod, fel y’i pennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, pryd y mae’r contract i barhau ynddo (“y cyfnod interim”) ac ni chaiff cyfnod o’r fath fod yn fwy na 6 mis,
(b)bod y partner yn cytuno i gyflogi neu i gymryd ymlaen ymarferydd meddygol cyffredinol am y cyfnod interim i gynorthwyo wrth ddarparu gwasanaethau clinigol o dan y contract, ac
(c)y cymorth, os oes cymorth o gwbl, y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol i’w ddarparu i alluogi gwasanaethau clinigol i barhau i gael eu darparu o dan y contract yn ystod y cyfnod interim.
(8) Os—
(a)nad yw’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth yn dymuno cyflogi na chymryd ymlaen ymarferydd meddygol,
(b)na ellir dod i gytundeb yn unol ag is-baragraff (6), neu
(c)hoffai’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth dynnu’n ôl o’r trefniadau y cytunwyd arnynt ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod interim,
rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r partner hwnnw yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith.
(9) Os nad yw’r contractwr, ar ddiwedd y cyfnod interim, wedi ymrwymo i bartneriaeth gydag ymarferydd meddygol cyffredinol nad yw’n bartner cyfyngedig yn y bartneriaeth, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith.
(10) Pan fo contractwr yn rhoi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan is-baragraff (2) neu (4), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)cydnabod yn ysgrifenedig fod yr hysbysiad wedi dod i law, a
(b)mewn perthynas â hysbysiad a roddir o dan is-baragraff (2), cydnabod bod yr hysbysiad wedi dod i law cyn y dyddiad a bennir yn unol ag is-baragraff (3)(a).
(11) Pan fo contractwr yn rhoi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan is-baragraff (2) neu (4), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol amrywio’r contract ond dim ond i’r graddau y mae wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol er mwyn adlewyrchu newid statws y contractwr o bartneriaeth i ymarferydd meddygol unigol.
(12) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn amrywio’r contract o dan is-baragraff (11), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr am eiriad yr amrywiad arfaethedig a’r dyddiad y bydd yr amrywiad hwnnw yn cael effaith.
(13) Yn y paragraff hwn, mae i “ymarferydd meddygol cyffredinol” yr un ystyr ag yn rheoliad 5(1).
(14) Nid yw is-baragraffau (5) i (9) yn effeithio ar unrhyw hawl arall sydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan y contract i amrywio neu derfynu’r contract.
Terfynu drwy gytundeb
112. Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr gytuno yn ysgrifenedig i derfynu’r contract, ac os yw’r partïon yn cytuno felly, rhaid iddynt gytuno ar y dyddiad y bydd y terfyniad hwnnw yn cael effaith ac unrhyw delerau pellach y dylid terfynu’r contract arnynt.
Terfynu yn sgil marwolaeth ymarferydd meddygol unigol
113.—(1) Pan fo’r contractwr yn ymarferydd meddygol unigol a bod y contractwr yn marw, mae’r contract yn terfynu ar ddiwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y bu’r contractwr farw oni bai, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, fod is-baragraff (2) yn gymwys.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cytuno’n ysgrifenedig gyda chynrychiolwyr personol y contractwr fod y contract i barhau am gyfnod ychwanegol, nad yw’n hwy na 28 o ddiwrnodau, o ddiwedd y cyfnod o 7 niwrnod ymlaen, a
(b)pan fo cynrychiolwyr personol y contractwr yn cadarnhau yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol eu bod yn dymuno cyflogi neu gymryd ymlaen un neu ragor o ymarferwyr meddygol cyffredinol i gynorthwyo â pharhau â’r ddarpariaeth o wasanaethau clinigol o dan y contract ac, ar ôl trafod â’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(i)bo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cytuno i ddarparu cymorth rhesymol a fyddai’n galluogi gwasanaethau o dan y contract i barhau,
(ii)bo’r Bwrdd Iechyd Lleol a chynrychiolwyr personol y contractwr yn cytuno ar y telerau y caiff y gwasanaethau clinigol barhau odanynt; a
(iii)bo’r Bwrdd Iechyd Lleol a chynrychiolwyr personol y contractwr yn cytuno ar y cyfnod y bydd rhaid darparu gwasanaethau clinigol ynddo, sy’n gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 7 niwrnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1).
(3) Nid yw’r paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawliau eraill i derfynu’r contract a all fod gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r contractwr.
Terfynu gan y contractwr
114.—(1) Caiff contractwr derfynu’r contract drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar unrhyw bryd.
(2) Pan fo contractwr yn cyflwyno hysbysiad yn unol ag is-baragraff (1), rhaid i’r contract, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), derfynu 6 mis ar ôl y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad (“y dyddiad terfynu”), heblaw bod rhaid i’r contract, os nad yw’r dyddiad terfynu ar ddiwrnod calendr olaf mis, derfynu yn lle hynny ar ddiwrnod calendr olaf y mis y mae’r dyddiad terfynu yn syrthio ynddo.
(3) Pan fo’r contractwr yn ymarferydd meddygol unigol a bo is-baragraff (2) yn gymwys i’r contractwr, mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol ddisgresiwn i gytuno ar ddyddiad terfynu cynharach os ceir amgylchiadau eithriadol sy’n ei gwneud yn rhesymol i’r dyddiad terfynu gael ei ddwyn ymlaen. Os yw’r dyddiad terfynu i gael ei ddwyn ymlaen, mae’r dyddiad hwn i’w gytuno gan y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr.
(4) Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw hawliau eraill i derfynu’r contract a all fod gan y contractwr.
Hysbysiadau talu hwyr
115.—(1) Caiff y contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad talu hwyr”) i’r Bwrdd Iechyd Lleol os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi methu â gwneud unrhyw daliadau sy’n ddyledus i’r contractwr yn unol ag unrhyw un neu ragor o delerau’r contract ynghylch talu’n brydlon sy’n cael yr effaith a bennir yn rheoliad 20(1) a rhaid i’r contractwr bennu yn yr hysbysiad talu hwyr y taliadau y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi methu â’u gwneud yn unol â’r rheoliad hwnnw.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), caiff y contractwr, o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno hysbysiad talu hwyr, derfynu’r contract drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn dal heb allu gwneud y taliadau sy’n ddyledus i’r contractwr, ac a bennwyd yn yr hysbysiad talu hwyr a gyflwynwyd i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag is-baragraff (1).
(3) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, ar ôl cael hysbysiad talu hwyr, yn atgyfeirio’r mater at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad talu hwyr iddo, a’i fod yn hysbysu’r contractwr yn ysgrifenedig ei fod wedi gwneud hynny o fewn y cyfnod amser hwnnw, ni chaiff y contractwr derfynu’r contract yn unol ag is-baragraff (2)—
(a)hyd nes y penderfynir ar yr anghydfod yn unol â pharagraff 106 a bod y penderfyniad hwnnw’n caniatáu i’r contractwr derfynu’r contract, neu
(b)hyd nes y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi’r gorau i ddilyn gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG,
pa un bynnag sydd gyntaf.
(4) Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw hawliau eraill i derfynu’r contract a all fod gan y contractwr.
Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol: cyffredinol
116. Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ond terfynu’r contract yn unol â’r canlynol—
(a)y darpariaethau yn y Rhan hon, neu
(b)unrhyw ddarpariaethau eraill ynglŷn â therfynu y mae’r contractwr a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn eu cynnwys yn y contract.
Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol oherwydd torri amodau yn rheoliad 5
117.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith pan fo contractwr sy’n ymarferydd meddygol unigol wedi peidio â bod yn ymarferydd meddygol cyffredinol mewn unrhyw achos.
(2) Pan fo’r contractwr y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) wedi peidio â bodloni’r amod a bennir yn rheoliad 5(1)(a) o ganlyniad i ataliad dros dro a bennir yn is-baragraff (6), nid yw is-baragraff (1) yn gymwys oni bai—
(a)nad yw’r contractwr yn gallu bodloni’r Bwrdd Iechyd Lleol fod ganddo drefniadau digonol ar waith i ddarparu gwasanaethau clinigol o dan y contract cyhyd ag y bydd yr ataliad dros dro yn parhau, neu
(b)bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r ataliad dros dro yn golygu, os na chaiff y contract ei derfynu ar unwaith—
(i)bod diogelwch cleifion y contractwr yn wynebu risg ddifrifol, neu
(ii)bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn wynebu risg o gael colled ariannol sylweddol.
(3) Ac eithrio mewn achos y mae paragraff 111(4) yn gymwys iddo, pan fo’r contractwr—
(a)yn ddau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, ac nad yw’r amod a bennir yn rheoliad 5(1)(b) wedi ei fodloni mwyach, neu
(b)yn gwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, ac nad yw’r amod a bennir yn rheoliad 5(1)(c) wedi ei fodloni mwyach,
mae is-baragraff (4) yn gymwys.
(4) Pan fo is-baragraff (3)(a) neu (b) yn gymwys, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (8)—
(a)cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract ar unwaith, neu
(b)cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn cadarnhau y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn caniatáu i’r contract barhau, am gyfnod a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff (5) (y “cyfnod interim”), yn ystod y cyfryw gyfnod y mae rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, gyda chydsyniad y contractwr, gyflogi neu gyflenwi un neu ragor o ymarferwyr meddygol cyffredinol i’r contractwr am y cyfnod interim i gynorthwyo’r contractwr wrth ddarparu gwasanaethau clinigol o dan y contract.
(5) Ni chaiff y cyfnod a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan is-baragraff (4)(b) fod yn fwy na—
(a)6 mis, neu
(b)mewn achos pan fo methiant y contractwr i barhau i fodloni’r amod yn rheoliad 5(1)(b) neu, yn ôl y digwydd, 5(1)(c), yn deillio o ganlyniad i ataliad dros dro y cyfeirir ato yn is-baragraff (6), y cyfnod y mae’r ataliad hwnnw’n parhau.
(6) Yr ataliadau dros dro y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (2) a (5)(b) yw ataliad dros dro—
(a)gan Banel Addasrwydd i Ymarfer o dan—
(i)adran 35D (swyddogaethau panel addasrwydd i ymarfer) o Ddeddf Meddygaeth 1983 mewn achos iechyd, heblaw ataliad dros dro am gyfnod amhenodol o dan adran 35D(6), neu
(ii)adran 38(1) (pŵer i orchymyn ataliad dros dro ar unwaith etc ar ôl canfod amhariad ar addasrwydd i ymarfer) o’r Ddeddf honno, neu
(b)gan Banel Addasrwydd i Ymarfer neu Banel Gorchmynion Interim o dan adran 41A (gorchmynion interim) o’r Ddeddf honno.
(7) Ym mharagraff (6), mae i “achos iechyd” yr ystyr a roddir i “health case” yn adran 35E(4) o Ddeddf Meddygaeth 1983.
(8) Cyn penderfynu pa un o’r opsiynau yn is-baragraff (4) i’w ddilyn, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, pryd bynnag y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ymgynghori â’r Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer ei ardal.
(9) Os nad yw’r contractwr, yn unol ag is-baragraff (4)(b), yn cydsynio i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflogi neu gyflenwi ymarferydd meddygol cyffredinol yn ystod y cyfnod interim, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith.
(10) Os yw’r contractwr, ar ddiwedd y cyfnod interim, yn dal i syrthio o fewn is-baragraff (3)(a) neu (b), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith.
(11) Yn y paragraff hwn, mae i “ymarferydd meddygol cyffredinol” yr un ystyr ag yn rheoliad 5(2).
Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol am ddarparu gwybodaeth anwir etc.
118. Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith, neu o unrhyw ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad os daw y Bwrdd Iechyd Lleol i wybod, ar ôl i’r contract gael ei ymrwymo iddo, fod gwybodaeth ysgrifenedig a ddarparwyd i’r Bwrdd Iechyd Lleol gan y contractwr—
(a)cyn i’r contract gael ei ymrwymo iddo, neu
(b)yn unol â pharagraff 96(1)(a) neu 97(1)(b),
mewn perthynas â’r amodau a nodir yn rheoliadau 5 a 6 (ac â chydymffurfio â’r amodau hynny) yn anwir neu’n anghywir mewn ffordd berthnasol pan gafodd ei rhoi.
Seiliau eraill dros derfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol
119.—(1) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i gontractwr yn terfynu’r contract ar unwaith, neu o unrhyw ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, os yw is-baragraff (3) yn gymwys i’r contractwr—
(a)yn ystod bodolaeth contract, neu
(b)os yw’n ddiweddarach, ar neu ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad mewn cysylltiad â chydymffurfedd y contractwr â’r amod yn rheoliadau 5 a 6 o dan baragraff 96(1)(a) neu 97(1).
(2) Mae is-baragraff (3) yn gymwys—
(a)pan fo’r contract yn gontract gydag ymarferydd meddygol cyffredinol, i’r ymarferydd meddygol cyffredinol hwnnw,
(b)pan fo’r contract yn gontract gyda dau berson neu ragor yn ymarfer mewn partneriaeth, i’r bartneriaeth neu i unrhyw bartner yn y bartneriaeth, ac
(c)pan fo’r contract yn gontract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—
(i)i’r cwmni,
(ii)i unrhyw berson sy’n berchennog cyfreithiol neu lesiannol ar gyfran yn y cwmni, neu
(iii)i unrhyw gyfarwyddwr neu ysgrifennydd i’r cwmni.
(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)os nad yw’r contractwr yn bodloni’r amodau a ragnodir yn adrannau 44(2) neu (3) o’r Ddeddf (personau sy’n gymwys i ymrwymo i gontractau GMC);
(b)os yw’r contractwr yn destun anghymhwysiad cenedlaethol;
(c)os yw’r contractwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), wedi ei anghymhwyso neu wedi ei atal dros dro (heblaw drwy orchymyn atal dros dro interim neu gyfarwyddyd wrth aros am ymchwiliad neu atal dros dro ar sail afiechyd) rhag ymarfer gan gorff trwyddedu mewn unrhyw le yn y byd;
(d)os yw’r contractwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), wedi ei ddiswyddo (heblaw oherwydd dileu swydd) o gyflogaeth gan gorff gwasanaeth iechyd oni bai bod y contractwr, cyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad i’r contractwr yn terfynu’r contract o dan y paragraff hwn, yn cael ei gyflogi gan y corff gwasanaeth iechyd y diswyddwyd y contractwr ohono neu gan gorff gwasanaeth iechyd arall;
(e)os yw’r contractwr wedi ei ddileu o restr gofal sylfaenol, neu os gwrthodwyd ei dderbyn i restr o’r fath, oherwydd aneffeithlonrwydd, twyll neu anaddasrwydd (o fewn ystyr adran 107(2), (3) a (4) o’r Ddeddf yn y drefn honno) oni bai bod enw’r contractwr wedi ei gynnwys ar restr o’r fath wedyn;
(f)os yw’r contractwr wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth;
(g)os yw’r contractwr wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd heblaw llofruddiaeth ac wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar;
(h)os yw’r contractwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), wedi ei euogfarnu mewn man arall o drosedd a fyddai, pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr, yn llofruddiaeth, ac—
(i)bod y drosedd wedi ei chyflawni ar neu ar ôl 26 Awst 2002, a
(ii)bod y contractwr wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar;
(i)os yw’r contractwr wedi ei euogfarnu o drosedd, y cyfeirir ati yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933(70) (troseddau yn erbyn plant a phobl ifanc y mae darpariaethau arbennig yn y Ddeddf hon yn gymwys iddynt), neu yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(71) (troseddau yn erbyn plant o dan 17 oed y mae darpariaethau arbennig yn gymwys iddynt);
(j)os yw’r contractwr ar unrhyw adeg wedi ei gynnwys—
(i)mewn unrhyw restr wahardd o fewn ystyr Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(72), neu
(ii)mewn unrhyw restr wahardd o fewn ystyr Gorchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007(73) (rhestrau gwahardd),
oni bai bod y contractwr wedi ei ddileu o’r rhestr naill ai ar y sail nad oedd yn briodol i’r contractwr fod wedi ei gynnwys ynddi neu o ganlyniad i apêl lwyddiannus;
(k)os yw’r contractwr, o fewn y cyfnod o 5 mlynedd cyn llofnodi’r contract, wedi ei ddiswyddo o swydd ymddiriedolwr elusen neu ymddiriedolwr ar gyfer elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiwn Elusennau, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon neu’r Uchel Lys, a bod y gorchymyn hwnnw wedi ei wneud ar sail camymddwyn neu gamreoli wrth weinyddu elusen y bu’r contractwr yn gyfrifol amdano neu y bu’r contractwr yn gyfrannog iddo, neu y cyfrannwyd ato gan ymddygiad y contractwr, neu a hwyluswyd gan ymddygiad y contractwr;
(l)os yw’r contractwr, o fewn y cyfnod o 5 mlynedd cyn llofnodi’r contract neu gychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar gorff mewn unrhyw achos pan fo’r diswyddo yn rhinwedd adran 34(5)(e) o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005(74) (pwerau’r Llys Sesiwn); neu
(m)os —
(i)yw’r contractwr wedi ei wneud yn fethdalwr ac nad yw wedi ei ryddhau o’r methdaliad neu nad yw’r gorchymyn methdaliad wedi ei ddirymu, neu
(ii)dyfarnwyd i ystad y contractwr gael ei secwestru ac nad yw’r contractwr wedi ei ryddhau o’r secwestru;
(n)os yw’r contractwr yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim o dan Atodlen 4A i Ddeddf Ansolfedd 1986(75) (gorchymyn cyfyngu methdaliad ac ymgymeriad), neu Atodlen 2A i Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989(76) (gorchymyn cyfyngu methdaliad ac ymgymeriad) neu Ran 13 o Ddeddf Methdaliad (Yr Alban) 2016(77) (gorchmynion cyfyngu methdaliad a gorchmynion cyfyngu methdaliad interim), oni bai bod y contractwr wedi ei ryddhau o’r gorchymyn hwnnw neu fod y gorchymyn hwnnw wedi ei ddirymu;
(o)os yw’r contractwr—
(i)yn ddarostyngedig i gyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled o dan Ran VIIA o Ddeddf Ansolfedd 1986(78) (gorchmynion rhyddhau o ddyled), neu
(ii)yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled neu orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled interim o dan Atodlen 4ZB i’r Ddeddf honno (gorchmynion ac ymgymeriadau cyfyngiadau rhyddhau o ddyled), oni bai bod y gorchymyn hwnnw wedi peidio â chael effaith neu wedi ei ddirymu;
(p)os yw’r contractwr wedi gwneud cytundeb neu drefniant cyfansoddi gyda chredydwyr y contractwr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth ar eu cyfer, ac nad yw’r contractwr wedi ei ryddhau mewn perthynas â’r cytundeb neu â’r trefniant;
(q)os yw’r contractwr yn gwmni sydd wedi ei ddirwyn i ben o dan Ran IV o Ddeddf Ansolfedd 1986 (dirwyn cwmnïau sydd wedi eu cofrestru o dan y Deddfau Cwmnïau i ben);
(r)os oes gweinyddwr, derbynnydd gweinyddol neu dderbynnydd wedi ei benodi mewn cysylltiad â’r contractwr;
(s)os oes gorchymyn gweinyddu wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r contractwr o dan Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 (gweinyddiaeth);
(t)os yw’r contractwr yn bartneriaeth ac—
(i)bod y bartneriaeth yn cael ei diddymu gan un o’r partneriaid, neu fod unrhyw lys, tribiwnlys neu gymrodeddwr cymwys yn gorchymyn diddymu’r bartneriaeth, neu
(ii)bod digwyddiad yn digwydd sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i fusnes y bartneriaeth barhau, neu i aelodau’r bartneriaeth barhau mewn partneriaeth;
(u)os yw’r contractwr yn ddarostyngedig i—
(i)gorchymyn anghymhwyso o dan adran 1 o Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(79) (gorchmynion anghymhwyso: cyffredinol) neu ymgymeriad anghymhwyso o dan adran 1A o’r Ddeddf honno (ymgymeriadau anghymhwyso: cyffredinol),
(ii)gorchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan erthygl 3 (gorchmynion anghymhwyso: cyffredinol) neu erthygl 4 (ymgymeriadau anghymhwyso: cyffredinol) o Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(80), neu
(iii)gorchymyn anghymhwyso o dan adran 429(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986 (anableddau wrth ddirymu gorchymyn gweinyddu yn erbyn unigolyn);
(v)os yw’r contractwr wedi gwrthod cydymffurfio â chais gan y Bwrdd Iechyd Lleol i’r contractwr gael ei archwilio’n feddygol am fod y Bwrdd Iechyd Lleol yn pryderu nad yw’r contractwr yn gallu darparu gwasanaethau yn ddigonol o dan y contract ac, mewn achos pan fo’r contract gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth neu gyda chwmni, bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod y contractwr yn cymryd camau digonol i ddelio â’r mater; neu
(w)os yw’r contractwr neu ei gyflogeion neu ei asiantau (neu unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran neu ar eu rhan) yn cyflawni unrhyw weithred waharddedig mewn perthynas â’r contract drwy wybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol neu yn ddiarwybod iddo.
(4) Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol derfynu’r contract o dan is-baragraff (3)(c) pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni nad yw’r anghymhwysiad neu’r ataliad dros dro a osodwyd gan gorff trwyddedu y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn gwneud y person yn anaddas i fod—
(a)yn gontractwr,
(b)yn bartner, yn achos contract gyda dau berson neu ragor yn ymarfer mewn partneriaeth, neu
(c)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—
(i)yn berson y mae cyfran yn y cwmni yn eiddo cyfreithiol neu lesiannol iddo, neu
(ii)yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd i’r cwmni,
yn ôl y digwydd.
(5) Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol derfynu’r contract o dan is-baragraff (3)(d)—
(a)hyd nes bod cyfnod o 12 wythnos o leiaf wedi mynd heibio ers dyddiad diswyddo’r person o dan sylw, neu
(b)os bydd y person o dan sylw, yn ystod y cyfnod a bennir ym mharagraff (a), yn dwyn achos mewn unrhyw dribiwnlys neu lys cymwys mewn cysylltiad â diswyddo’r person, hyd nes bod yr achos gerbron y tribiwnlys neu’r llys hwnnw wedi dod i ben,
ac ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ond terfynu’r contract ar ddiwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (b) os na cheir dyfarniad o ddiswyddo annheg ar ddiwedd yr achos hwnnw.
(6) Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol derfynu’r contract o dan is-baragraff (3)(h) pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni nad yw’r euogfarn yn gwneud y person yn anaddas i fod—
(a)yn gontractwr,
(b)yn bartner, yn achos contract gyda dau berson neu ragor yn ymarfer mewn partneriaeth, neu
(c)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—
(i)yn berson y mae cyfran yn y cwmni yn eiddo cyfreithiol neu lesiannol iddo, neu
(ii)yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd i’r cwmni,
yn ôl y digwydd.
Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol pan fo risg ddifrifol i ddiogelwch cleifion neu pan fo risg o golled ariannol sylweddol i’r Bwrdd Iechyd Lleol
120. Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith neu o unrhyw ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad—
(a)os yw’r contractwr wedi torri’r contract a bod risg ddifrifol i ddiogelwch cleifion y contractwr o ganlyniad i’r toriad hwnnw os na therfynir y contract, neu
(b)os yw sefyllfa ariannol y contractwr yn golygu bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn wynebu risg o gael colled ariannol sylweddol.
Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol am is-gontractio anghyfreithlon
121. Os yw’r contractwr yn torri’r amod a bennir ym mharagraff 76(11) a bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn cael gwybod bod y contractwr wedi gwneud hynny, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr—
(a)yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith, neu
(b)yn cyfarwyddo’r contractwr i derfynu’r trefniadau is-gontractio sy’n arwain at y toriad gydag effaith ar unwaith, ac os yw’n methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddiad, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract ar unwaith.
Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol: hysbysiadau adfer a hysbysiadau torri
122.—(1) Pan fo contractwr wedi torri’r contract heblaw fel y pennir ym mharagraffau 117 i 121 a bod modd unioni’r toriad, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn cymryd unrhyw gamau y mae ganddo hawlogaeth i’w cymryd fel arall yn rhinwedd y contract, gyflwyno hysbysiad i’r contractwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo unioni’r toriad (“hysbysiad adfer”).
(2) Rhaid i hysbysiad adfer bennu—
(a)manylion y toriad,
(b)y camau y mae rhaid i’r contractwr eu cymryd er boddhad y Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn unioni’r toriad, ac
(c)y cyfnod y mae rhaid cymryd y camau o’i fewn (“cyfnod yr hysbysiad”).
(3) Oni bai bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod cyfnod byrrach yn angenrheidiol er mwyn—
(a)amddiffyn diogelwch cleifion y contractwr, neu
(b)ei amddiffyn ei hun rhag colled ariannol sylweddol,
ni chaiff cyfnod yr hysbysiad fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
(4) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni nad yw’r contractwr wedi cymryd y camau gofynnol i unioni’r toriad erbyn diwedd cyfnod yr hysbysiad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol derfynu’r contract gydag effaith o unrhyw ddyddiad a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol mewn hysbysiad pellach i’r contractwr.
(5) Pan fo contractwr wedi torri’r contract heblaw fel y pennir ym mharagraffau 117 i 121 ac na ellir unioni’r toriad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad i’r contractwr yn ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr beidio ag ailadrodd y toriad (“hysbysiad torri”).
(6) Os bydd y contractwr, yn dilyn hysbysiad torri neu hysbysiad adfer—
(a)yn ailadrodd y toriad a oedd yn destun yr hysbysiad torri neu’r hysbysiad adfer, neu
(b)fel arall yn torri’r contract gan arwain naill ai at hysbysiad adfer neu at hysbysiad torri pellach,
caiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith o unrhyw ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.
(7) Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol arfer ei hawl i derfynu’r contract o dan is-baragraff (6) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod effaith gronnol y toriadau yn golygu bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried y byddai caniatáu i’r contract barhau yn niweidiol i effeithlonrwydd y gwasanaethau sydd i’w darparu o dan y contract.
(8) Os yw’r contractwr wedi torri unrhyw rwymedigaeth a bod hysbysiad torri neu hysbysiad adfer mewn cysylltiad â’r diffyg hwnnw wedi ei roi i’r contractwr, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol gadw’n ôl neu ddidynnu arian a fyddai fel arall yn daladwy o dan y contract mewn cysylltiad â’r rhwymedigaeth honno sy’n destun y diffyg.
Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol: darpariaethau ychwanegol sy’n benodol i gontractau gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth a chwmnïau cyfyngedig drwy gyfrannau
123.—(1) Pan fo’r contractwr yn gwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, os caiff y Bwrdd Iechyd Lleol wybod bod y contractwr yn cynnal unrhyw fusnes y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried ei fod yn niweidiol i’r modd y mae’r contractwr yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract—
(a)mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i roi hysbysiad i’r contractwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi’r gorau i gynnal y busnes hwnnw cyn diwedd cyfnod o ddim llai nag 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad (“cyfnod yr hysbysiad”), a
(b)os nad yw’r contractwr wedi bodloni’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod wedi rhoi’r gorau i gynnal y busnes hwnnw erbyn diwedd cyfnod yr hysbysiad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach, derfynu’r contract ar unwaith neu o unrhyw ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Pan fo’r contractwr yn ddau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i derfynu’r contract drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw pan fo un neu ragor o’r partneriaid wedi ymadael â’r practis yn ystod bodolaeth y contract os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn ei farn resymol, yn ystyried bod y newid yn aelodaeth y bartneriaeth yn debygol o gael effaith andwyol ddifrifol ar allu’r contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract.
(3) Rhaid i hysbysiad a roddir i’r contractwr yn unol ag is-baragraff (2) bennu—
(a)y dyddiad y mae’r contract i gael ei derfynu, a
(b)rhesymau’r Bwrdd Iechyd Lleol dros ystyried bod y newid yn aelodaeth y bartneriaeth yn debygol o gael effaith andwyol ddifrifol ar allu’r contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract.
Sancsiynau’r contract
124.—(1) Yn y paragraff hwn a pharagraff 125, ystyr “sancsiynau’r contract” yw—
(a)terfynu neu atal cydrwymedigaethau penodedig o dan y contract, a/neu
(b)cadw’n ôl neu ddidynnu arian sy’n daladwy fel arall o dan y contract.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), pan fo gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i derfynu’r contract o dan baragraffau 118, 119, 120, 122(4) neu 122(6) neu 123, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol yn hytrach osod unrhyw un neu ragor o sancsiynau’r contract os yw wedi ei fodloni’n rhesymol fod y sancsiwn contract sydd i’w osod yn briodol ac yn gymesur â’r amgylchiadau sy’n arwain at hawlogaeth y Bwrdd Iechyd Lleol i derfynu’r contract.
(3) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu gosod sancsiwn contract, rhaid iddo hysbysu’r contractwr yn ysgrifenedig am y sancsiwn contract y mae’n bwriadu ei osod, y dyddiad y mae’r sancsiwn hwnnw i’w osod a darparu esboniad yn yr hysbysiad hwnnw o effaith gosod y sancsiwn hwnnw.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff 125, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol osod y sancsiwn contract hyd nes bod o leiaf 28 o ddiwrnodau wedi mynd heibio, gan ddechrau â’r dyddiad y cyflwynodd hysbysiad i’r contractwr yn unol ag is-baragraff (5) oni bai bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn—
(a)amddiffyn diogelwch cleifion y contractwr,
(b)sicrhau parhad gofal cleifion y contractwr, neu
(c)ei amddiffyn ei hun rhag colled ariannol sylweddol.
(5) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gosod sancsiwn contract, rhaid i’r contractwr ddarparu pob gwybodaeth a chymorth i’r Bwrdd Iechyd Lleol, drwy gydol y cyfnod y mae’r sancsiwn contract yn gymwys, yn unol â gofynion rhesymol y Bwrdd Iechyd Lleol.
(6) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gosod sancsiwn contract, mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i godi ar y contractwr y costau rhesymol y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi mynd iddynt er mwyn gosod y sancsiwn contract, neu o ganlyniad i osod y sancsiwn contract.
Sancsiynau’r contract a gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG
125.—(1) Os ceir anghydfod rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr mewn perthynas â sancsiwn contract y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu ei osod, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), osod y sancsiwn contract arfaethedig ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir yn is-baragraff (2)(a) neu (b).
(2) Os yw’r contractwr yn atgyfeirio’r anghydfod ynglŷn â’r sancsiwn contract at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y cyflwynodd y Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad i’r contractwr yn unol â pharagraff 124(3) (neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno’n ysgrifenedig gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol), a’i fod yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig ei fod wedi gwneud hynny, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol osod y sancsiwn contract oni bai—
(a)bod penderfyniad wedi ei wneud ar yr anghydfod yn unol â pharagraff 106 a bod y penderfyniad hwnnw’n caniatáu i’r Bwrdd Iechyd Lleol osod y sancsiwn contract, neu
(b)bod y contractwr yn rhoi’r gorau i ddilyn gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG,
pa un bynnag sydd gyntaf.
(3) Os nad yw’r contractwr yn troi at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG o fewn yr amser a bennir yn is-baragraff (2), mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i osod y sancsiwn contract ar unwaith.
(4) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn fodlon ei bod yn angenrheidiol gosod y sancsiwn contract cyn i weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG ddod i ben er mwyn—
(a)amddiffyn diogelwch cleifion y contractwr, neu
(b)ei amddiffyn ei hun rhag colled ariannol sylweddol,
mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i osod y sancsiwn contract ar unwaith, wrth aros canlyniad y weithdrefn honno.
Terfynu a gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG
126.—(1) Pan fo gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract yn unol â pharagraff 118, 119, 120, 122(4) neu 122(6) neu 123, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn yr hysbysiad a gyflwynir i’r contractwr yn unol â’r darpariaethau hynny, bennu dyddiad y mae’r contract yn terfynu arno nad yw’n llai nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cyflwyno’r hysbysiad hwnnw i’r contractwr oni bai bod is-baragraff (2) yn gymwys.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod angen cyfnod o lai nag 28 o ddiwrnodau er mwyn—
(a)amddiffyn diogelwch cleifion y contractwr, neu
(b)ei amddiffyn ei hun rhag colled ariannol sylweddol.
(3) Mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (1) pan na fo’r eithriad yn is-baragraff (2) yn gymwys, pan fo’r contractwr yn troi at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG cyn diwedd cyfnod yr hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), a’i fod yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig ei fod wedi gwneud hynny, nid yw’r contract yn terfynu ar ddiwedd cyfnod yr hysbysiad ond yn hytrach mae’n terfynu o dan yr amgylchiadau a bennir yn is-baragraff (4) yn unig.
(4) Nid yw’r contract yn terfynu ond—
(a)os oes penderfyniad wedi ei wneud a phan fo penderfyniad wedi ei wneud ar yr anghydfod yn unol â pharagraff 106 a bod y penderfyniad hwnnw’n caniatáu i’r Bwrdd Iechyd Lleol derfynu’r contract, neu
(b)os bydd y contractwr yn rhoi’r gorau a phan fydd y contractwr yn rhoi’r gorau i ddilyn gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG,
pa un bynnag sydd gyntaf.
(5) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol terfynu’r contract cyn i weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG ddod i ben er mwyn—
(a)amddiffyn diogelwch cleifion y contractwr, neu
(b)ei amddiffyn ei hun rhag colled ariannol sylweddol,
nid yw is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys ac mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i gadarnhau, drwy hysbysiad ysgrifenedig sydd i’w gyflwyno i’r contractwr, fod y contract i derfynu serch hynny ar ddiwedd cyfnod yr hysbysiad a gyflwynwyd ganddo yn unol â pharagraff 118, 119, 120, 122(4) neu 122(6) neu 123(2).
Ymgynghori â’r Pwyllgor Meddygol Lleol
127.—(1) Pryd bynnag y bo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried—
(a)terfynu’r contract yn unol â pharagraffau 118, 119, 120, 122(4) neu 122(6) neu 123,
(b)pa un o blith yr hysbysiadau ysgrifenedig eraill sydd ar gael o dan ddarpariaethau paragraff 121 y bydd yn ei gyflwyno, neu
(c)gosod sancsiwn contract,
rhaid iddo, pryd bynnag y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ymgynghori â’r Pwyllgor Meddygol Lleol ar gyfer ei ardal cyn iddo derfynu’r contract, cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig neu osod sancsiwn contract.
(2) Pa un a ymgynghorwyd â’r Pwyllgor Meddygol Lleol yn unol ag is-baragraff (1) ai peidio, pryd bynnag y bo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gosod sancsiwn contract ar gontractwr neu’n terfynu contract yn unol â’r Rhan hon, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r Pwyllgor Meddygol Lleol yn ysgrifenedig am y sancsiwn contract a osodir neu ei hysbysu bod y contract wedi ei derfynu (yn ôl y digwydd).
RHAN 12Amrywiol
Llywodraethu clinigol
128.—(1) Rhaid i’r contractwr gael system effeithiol o lywodraethu clinigol ar waith sy’n cynnwys gweithdrefnau gweithredu safonol priodol mewn perthynas â rheoli a defnyddio cyffuriau a reolir.
(2) Rhaid i’r contractwr enwebu person sydd â chyfrifoldeb am sicrhau bod y system llywodraethu clinigol yn cael ei gweithredu’n effeithiol.
(3) Rhaid i’r contractwr ymgymryd â thrafodaethau ac adolygiadau gan gymheiriaid ar ddigwyddiadau clinigol sydd wedi digwydd yn y practis a’r gwasanaethau lleol.
(4) Mae elfennau’r ‘system llywodraethu clinigol’ yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, fod y contractwr—
(a)yn ymgymryd â’r canlynol bob blwyddyn erbyn 31 Mawrth—
(i)yr Offeryn Hunanasesu Practisau ar gyfer Llywodraethu Clinigol, a
(ii)y Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth,
ac yn cyflwyno tystiolaeth ei fod wedi eu cwblhau i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ar gais, a
(b)yn cydymffurfio â’r Fframwaith Sicrwydd ac â defnydd y Bwrdd Iechyd Lleol o’r Fframwaith Sicrwydd hwnnw mewn perthynas â’r contractwr.
(5) Rhaid i’r person a enwebir o dan is-baragraff (2) fod yn berson sy’n cyflawni gwasanaethau o dan y contract neu’n rheoli’r cyflawni hwnnw.
(6) Yn y paragraff hwn—
mae i “cyffuriau a reolir” (“controlled drugs”) yr ystyr a roddir i “controlled drugs” yn adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno);
ystyr “system llywodraethu clinigol” (“system of clinical governance”) yw fframwaith y mae’r contractwr yn ymdrechu’n barhaus drwyddo i wella ansawdd ei wasanaethau ac i ddiogelu safonau gofal uchel drwy greu amgylchedd y gall rhagoriaeth glinigol ffynnu ynddo.
Cydweithredu ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru
129. Rhaid i’r contractwr gydweithredu ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru pan fo Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cyflawni swyddogaethau y mae Gweinidogion Cymru wedi ei gyfarwyddo i’w harfer—
(a)sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau o dan Ran 4 o’r Ddeddf, neu
(b)sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi eu cyflogi neu eu cymryd ymlaen, neu sy’n ystyried dod yn gyflogedig neu’n ystyried cael eu cymryd ymlaen, mewn unrhyw weithgaredd sy’n ymwneud neu sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau o dan Ran 4 o’r Ddeddf.
Yswiriant
130.—(1) Rhaid i’r contractwr gael trefniant indemniad mewn grym bob amser mewn perthynas ag ef ei hun sy’n darparu yswiriant priodol o dan y contract.
(2) Ni chaiff y contractwr is-gontractio ei rwymedigaethau i ddarparu gwasanaethau clinigol o dan y contract oni bai ei fod wedi ei fodloni ei hun bod gan yr is-gontractwr drefniant indemniad ar waith mewn perthynas ag ef ei hun sy’n darparu yswiriant priodol.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn rhesymol ac i’r graddau y gellir ei ad-dalu yn unol â’r Cynllun Esgeuluster Clinigol ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd gan reoliad 3 o Reoliadau 2019, indemnio’r contractwr mewn perthynas ag atebolrwyddau cymwys y contractwr hwnnw fel y’u pennir yn rheoliad 9(4) o Reoliadau 2019, ar yr amod—
(a)bod y contractwr yn cydymffurfio â phrotocol rheoli hawliadau’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer contractwyr (fel y’i diwygir o dro i dro), a
(b)nad oes gan y contractwr unrhyw drefniant indemniad arall mewn grym mewn cysylltiad â gwasanaethau clinigol y mae’r contractwr yn eu darparu o dan y contract ar yr adeg y cododd yr atebolrwydd cymwys.
(4) At ddibenion y paragraff hwn, bernir bod gan gontractwr drefniant indemniad ar waith mewn perthynas ag ef ei hun—
(a)os oes trefniant indemniad mewn grym mewn perthynas â pherson a gyflogir neu a gymerir ymlaen ganddo mewn cysylltiad â gwasanaethau clinigol y mae’r person hwnnw’n eu darparu o dan y contract neu, yn ôl y digwydd, is-gontract, neu
(b)ar gyfer ei atebolrwyddau cymwys a bennir yn rheoliad 9(4) o Reoliadau 2019, i’r graddau y darperir ar eu cyfer o dan is-baragraff (3).
(5) Yn y paragraff hwn—
ystyr “Rheoliadau 2019” (“the 2019 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019(81);
ystyr “trefniant indemniad” (“indemnity arrangement”) yw contract yswiriant neu drefniant arall a wneir at ddiben indemnio’r contractwr;
ystyr “yswiriant priodol” (“appropriate cover”) yw yswiriant rhag atebolrwyddau y gall y contractwr fynd iddynt wrth gyflawni gwasanaethau clinigol o dan y contract, sy’n briodol, o roi sylw i natur a maint y risgiau wrth gyflawni’r gwasanaethau hynny.
Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
131. Rhaid i’r contractwr bob amser ddal yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol mewn perthynas ag atebolrwyddau tuag at drydydd partïon sy’n codi o dan y contract neu mewn cysylltiad â’r contract ac nad ydynt yn dod o dan y trefniant indemniad y cyfeirir ato ym mharagraff 130.
Rhoddion
132.—(1) Rhaid i’r contractwr gadw cofrestr o roddion—
(a)a roddir i unrhyw un neu ragor o’r personau a bennir yn is-baragraff (2) gan neu ar ran—
(i)claf,
(ii)perthynas i glaf, neu
(iii)unrhyw berson a ddarparodd wasanaethau neu sy’n dymuno darparu gwasanaethau i’r contractwr neu ei gleifion mewn cysylltiad â’r contract, a
(b)sydd â gwerth unigol o fwy na £100.00, ym marn resymol y contractwr.
(2) Y personau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—
(a)y contractwr,
(b)pan fo’r contract yn gontract gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth, unrhyw bartner,
(c)pan fo’r contract yn gontract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—
(i)unrhyw berson sy’n dal cyfran yn y cwmni yn gyfreithiol neu’n llesiannol, neu
(ii)cyfarwyddwr neu ysgrifennydd i’r cwmni,
(d)unrhyw berson a gyflogir gan y contractwr at ddibenion y contract,
(e)unrhyw ymarferydd meddygol cyffredinol a gymerir ymlaen gan y contractwr at ddibenion y contract,
(f)unrhyw briod neu bartner sifil i gontractwr (pan fo’r contractwr yn ymarferydd meddygol unigol) neu i berson a bennir ym mharagraffau (b) i (e), neu
(g)unrhyw berson y mae gan ei berthynas â chontractwr (pan fo’r contractwr yn ymarferydd meddygol unigol) neu â pherson a bennir ym mharagraffau (b) i (e) nodweddion y berthynas rhwng dau briod.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys—
(a)pan fo seiliau rhesymol dros gredu nad yw’r rhodd yn gysylltiedig â gwasanaethau a ddarparwyd neu sydd i’w darparu gan y contractwr,
(b)pan na fo’r contractwr yn ymwybodol o’r rhodd, neu
(c)pan na fo’r contractwr yn ymwybodol bod y rhoddwr yn dymuno darparu gwasanaethau i’r contractwr neu ei gleifion.
(4) Rhaid i’r contractwr gymryd camau rhesymol i sicrhau ei fod yn cael gwybod am roddion sy’n dod o fewn is-baragraff (1) ac a roddir i’r personau a bennir yn is-baragraff (2)(b) i (g).
(5) Rhaid i’r gofrestr y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw’r rhoddwr,
(b)mewn achos pan fo’r rhoddwr yn glaf, rhif Gwasanaeth Iechyd Gwladol y claf neu, os nad yw’r rhif yn hysbys, gyfeiriad y claf,
(c)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad y rhoddwr,
(d)natur y rhodd,
(e)amcangyfrif o werth y rhodd, ac
(f)enw’r person neu’r personau a dderbyniodd y rhodd.
(6) Rhaid i’r contractwr drefnu bod y gofrestr ar gael i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gais.
Y Ddeddf Llwgrwobrwyo
133.—(1) Ni chaiff y contractwr gyflawni unrhyw weithred waharddedig.
(2) Os yw’r contractwr neu ei gyflogeion neu ei asiantau (neu unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran neu ar eu rhan) yn cyflawni unrhyw weithred waharddedig mewn perthynas â’r contract drwy wybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol neu yn ddiarwybod iddo, mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth—
(a)i arfer ei hawl i derfynu o dan baragraff 119 ac i adennill oddi ar y contractwr swm unrhyw golled sy’n deillio o’r terfyniad,
(b)i adennill swm neu werth unrhyw rodd, cydnabyddiaeth neu gomisiwn o dan sylw oddi ar y contractwr, ac
(c)i adennill oddi ar y contractwr unrhyw golled neu draul a gafwyd o ganlyniad i gyflawni’r weithred waharddedig neu gyflawni’r drosedd.
Hysbysebu gwasanaethau preifat
134. Rhaid i gontractwr sy’n cynnig gwasanaethau preifat, nad ydynt ar gael i gleifion drwy’r GIG, hysbysebu’r gwasanaethau preifat hynny yn glir ac ar wahân i’r gwasanaethau sydd ar gael o dan y contract.
Cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau
135. Rhaid i’r contractwr gydymffurfio (a rhaid i’r contractwr sicrhau bod y rhai y mae’n eu cyflogi neu’n eu cymryd ymlaen yn cydymffurfio)—
(a)â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, a
(b)â’r holl ganllawiau a chodau ymarfer perthnasol a ddyroddir o bryd i’w gilydd gan—
(i)y Bwrdd Iechyd Lleol, Gweinidogion Cymru neu awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf, neu
(ii)unrhyw gorff rheoleiddio neu oruchwylio.
(2) Rhaid i’r contractwr ddarparu’r gwasanaethau o dan y contract mewn modd sy’n cynorthwyo’r Bwrdd Iechyd Lleol i gydymffurfio â’r Safonau Iechyd a Gofal a’r Canllawiau ar y Ddyletswydd Ansawdd sy’n gosod y safonau hynny.
Hawliau trydydd parti
136. Ni chaiff y contract greu unrhyw hawl a all gael ei gorfodi gan unrhyw berson nad yw’n barti iddo.
Atodlen 3 paragraff 84(1)
ATODLEN 4Darparu gwybodaeth i gleifion
Gwybodaeth sydd i’w chynnwys ar adnodd ar-lein y practis ac ar daflen ysgrifenedig y practis
1. Rhaid i adnodd ar-lein contractwr a thaflen ysgrifenedig y practis gynnwys—
(a)enw’r contractwr;
(b)yn achos contract gyda phartneriaeth—
(i)pa un a yw’n bartneriaeth gyfyngedig ai peidio, a
(ii)enwau’r holl bartneriaid ac, yn achos partneriaeth gyfyngedig, eu statws fel partner cyffredinol neu bartner cyfyngedig;
(c)yn achos contract gyda chwmni—
(i)enwau’r cyfarwyddwyr, ysgrifennydd y cwmni, a chyfranddalwyr y cwmni hwnnw, a
(ii)cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni;
(d)enw llawn pob person sy’n cyflawni gwasanaethau o dan y contract;
(e)yn achos pob proffesiynolyn gofal iechyd sy’n cyflawni gwasanaethau o dan y contract, cymwysterau proffesiynol y proffesiynolyn gofal iechyd;
(f)pa un a yw’r contractwr yn ymgymryd ag addysgu neu hyfforddi proffesiynolion gofal iechyd neu bersonau sy’n bwriadu dod yn broffesiynolion gofal iechyd;
(g)ardal practis y contractwr, drwy gyfeirio at fraslun, plan neu god post;
(h)cyfeiriad pob un o’r mangreoedd practis.;
(i)rhifau ffôn a ffacs y contractwr a chyfeiriad ei adnodd ar-lein;
(j)pa un a yw’r mynediad i’r mangreoedd practis yn addas ar gyfer cleifion anabl ac, os nad yw, y trefniadau amgen ar gyfer darparu gwasanaethau i gleifion o’r fath;
(k)sut i gofrestru fel claf;
(l)hawl cleifion i fynegi hoff ddewis am ymarferydd yn unol â pharagraff 27 o Atodlen 3 a’r dull o fynegi hoff ddewis o’r fath;
(m)y gwasanaethau sydd ar gael o dan y contract;
(n)oriau agor mangreoedd practis a’r dull o gael mynediad at wasanaethau drwy gydol yr oriau craidd;
(o)y meini prawf ar gyfer ymweliadau cartref a’r dull o gael ymweliad o’r fath;
(p)yr ymgyngoriadau sydd ar gael i gleifion o dan reoliad 17 a Rhan 1 o Atodlen 3;
(q)y trefniadau ar gyfer gwasanaethau yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau (pa un a yw’r contractwr yn eu darparu ai peidio) a sut y gall y claf gysylltu â gwasanaethau o’r fath;
(r)os nad yw’r gwasanaethau yn is-baragraff (q) yn cael eu darparu gan y contractwr, y ffaith bod y Bwrdd Iechyd Lleol y cyfeirir ato ym mharagraff (bb) yn gyfrifol am gomisiynu’r gwasanaethau;
(s)enw a chyfeiriad unrhyw ganolfan galw i mewn leol;
(t)rhif ffôn GIG 111 Cymru a manylion GIG 111 Cymru ar-lein;
(u)y dull y mae cleifion i’w ddilyn i gael presgripsiynau amlroddadwy;
(v)os yw’r contractwr yn cynnig gwasanaethau amlragnodi, y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau o’r fath;
(w)os yw’r contractwr yn gontractwr gweinyddu, y trefniadau ar gyfer gweinyddu presgripsiynau yn ddarostyngedig i baragraff 60(2)(b);
(x)sut y gall cleifion nodi pryder neu wneud cwyn yn unol â’r darpariaethau yn Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011, neu wneud sylwadau ar ddarpariaeth gwasanaethau’r contractwr;
(y)hawliau a chyfrifoldebau’r claf, gan gynnwys cadw apwyntiadau;
(z)y camau y caniateir eu cymryd pan fo claf yn ymddwyn yn dreisgar neu’n gamdriniol tuag at y contractwr neu ei staff neu bersonau eraill yn y fangre practis neu yn y man lle y darperir triniaeth o dan y contract neu bersonau eraill a bennir ym mharagraff 30 o Atodlen 3;
(aa)manylion pwy sydd â mynediad at wybodaeth am gleifion (gan gynnwys gwybodaeth y gellir canfod pwy yw’r unigolyn ohoni), hawliau’r claf mewn perthynas â datgelu gwybodaeth o’r fath a sut y gall cleifion gyrchu hysbysiad preifatrwydd neu bolisi preifatrwydd y contractwr;
(bb)enw, cyfeiriad a rhif ffôn y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n barti i’r contract ac y gellir cael manylion gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal oddi wrtho; ac
(cc)y ffioedd a godir ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn wasanaethau’r GIG nad ydynt yn wasanaethau preifat.
Rheoliad 32
ATODLEN 5Diwygiadau canlyniadol
1.—(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004(82) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli ac addasu), yn y diffiniad o “Medical Regulations”, yn lle “Regulations 1992” rhodder “(Wales) Regulations 2023”.
(3) Yn rheoliad 23(2)(a) (cais am gynnwys person mewn rhestr o gyflawnwyr meddygol), yn lle “7(2) or (11)” rhodder “10(6)”.
2.—(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020(83) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)ym mharagraff (1) yn y diffiniad o—
(i)“enw amherchnogol priodol”—
(aa)yn lle “42(2)” rhodder “56(2)”, a
(bb)yn lle “6” rhodder “3”;
(ii)“Rheoliadau GMC”, yn lle “2004” rhodder “2023”;
(iii)“rhestr cleifion”—
(aa)yn lle “14” rhodder “22”, a
(bb)yn lle “6” rhodder “3”;
(iv)“rhagnodydd amlroddadwy”, ym mhob lle y mae’n digwydd—
(aa)yn lle “40” rhodder “53”, a
(bb)yn lle “6” rhodder “3”;
(b)ym mharagraff (3)(b)—
(i)yn lle “47 i 51” rhodder “60 a 61”, a
(ii)yn lle “6” rhodder “3”.
(3) Yn Atodlen 7—
(a)ym mharagraff 5 (gweinyddu cyffuriau a chyfarpar a archebwyd gan y meddyg fferyllol)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “baragraff 39 o Atodlen 6” rhodder “baragraffau 49 a 50 o Atodlen 3”, a
(ii)yn is-baragraff (c), yn lle “42(2) o Atodlen 6” rhodder “56 o Atodlen 3”;
(b)ym mharagraff 9(1) (ffioedd a chodi tâl), yn lle “reoliad 24 oʼr Rheoliadau GMC ac Atodlen 5 iʼr Rheoliadau hynny” rhodder “reoliadau 21 a 22 o’r Rheoliadau GMC”;
(c)ym mharagraff 10 (cwynion a phryderon)—
(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “baragraffau 89A a 90 o Atodlen 6” rhodder “baragraff 102 o Atodlen 3”, a
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “95 o Atodlen 6” rhodder “103 o Atodlen 3”.
Rheoliad 33
ATODLEN 6Dirymiadau
1. Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 wedi eu dirymu.
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi, ar gyfer Cymru, y fframwaith ar gyfer contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”).
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn rhagnodi’r amodau y mae rhaid i gontractwr, yn unol ag adran 44 o’r Ddeddf, eu bodloni cyn y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol gydag ef.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn rhagnodi’r weithdrefn ar gyfer datrys anghydfodau cyn contract, yn unol ag adran 48(2) o’r Ddeddf. Mae Rhan 3 yn gymwys i achosion pan na fo’r contractwr yn gorff gwasanaeth iechyd. Mewn achosion pan fo’r contractwr yn gorff o’r fath, mae’r weithdrefn ar gyfer ymdrin ag anghydfodau cyn contract wedi ei nodi yn adran 7 o’r Ddeddf.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau yn nodi’r gweithdrefnau, yn unol ag adran 48(3) o’r Ddeddf, y caniateir i’r contractwr gael statws corff gwasanaeth iechyd drwyddynt.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau (ac Atodlenni 1 i 4 iddynt) yn rhagnodi’r telerau y mae rhaid, yn unol ag adrannau 47 ac 48 o’r Ddeddf, eu cynnwys mewn contract gwasanaethau meddygol cyffredinol (yn ogystal â’r rhai sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf). Mae’n cynnwys, yn rheoliad 17, ddisgrifiad o’r gwasanaethau y mae rhaid eu darparu i gleifion o dan gontractau gwasanaethau meddygol cyffredinol yn unol ag adran 43 o’r Ddeddf.
Mae’r telerau rhagnodedig yn cynnwys telerau sy’n ymwneud ag—
(a)math a hyd y contract (rheoliadau 14 i 16);
(b)y gwasanaethau i’w darparu (rheoliadau 17 a 18 ac Atodlen 2) a’r modd y maent i gael eu darparu (Atodlen 3);
(c)dyroddi tystysgrifau meddygol (rheoliad 19 ac Atodlen 1);
(d)cyllid, ffioedd a thaliadau (rheoliadau 20 i 22);
(e)cofrestru cleifion a’u dileu o restrau, cau rhestrau a neilltuo cleifion (Rhannau 2 i 4 o Atodlen 3);
(f)rhagnodi a gweinyddu (Rhan 5 o Atodlen 3);
(g)yr amodau i’w bodloni gan y rhai sy’n cyflawni gwasanaethau neu sydd wedi eu cyflogi neu eu cymryd ymlaen gan y contractwr (Rhan 6 o Atodlen 3);
(h)is-gontractio (Rhan 7 o Atodlen 3);
(i)cofnodion cleifion, darparu gwybodaeth a hawliau mynediad (Rhan 8 o Atodlen 3, ac Atodlen 4);
(j)pryderon, cwynion ac ymchwiliadau (Rhan 9 o Atodlen 3);
(k)gweithdrefnau ar gyfer datrys anghydfodau (Rhan 10 o Atodlen 3);
(l)gweithdrefnau ar gyfer amrywio a therfynu contractau (Rhan 11 o Atodlen 3).
Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau yn rhagnodi swyddogaethau ar gyfer Pwyllgorau Meddygol Lleol.
Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau ac Atodlenni 5 a 6 yn gwneud darpariaethau trosiannol a darpariaeth ar gyfer arbediad, diwygiadau canlyniadol a dirymiadau.
2006 p. 42. Mae adran 44 fel y’i gwnaed yn arferadwy gan reoliad 4 o O.S. 2009/1511, a chymhwysir adran 203(9)(10) gan Ddeddf 2006 (p. 28), adran 70(3).
Diwygiwyd O.S. 2004/478 (Cy. 48) gan adran 6(4) a (5) o Ddeddf Elusennau 2006 (p. 50), ac O.S. 2004/1016, O.S. 2004/477.
O.S. 2012/1916. Diwygiwyd rheoliad 6 gan reoliad 3 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol (Diwygiadau yn Ymwneud â’r Cynllun Mynediad Cynnar at Feddyginiaethau) 2022 (O.S. 2022/352).
1978 p. 29. Diwygiwyd adran 2 gan baragraff 1 o Atodlen 7 i O.S. 1991/194) (G.I. 1); adran 14(2) o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p. 41), a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi; paragraff 1(2)(a) a (b) o Atodlen 1 i Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 2004 (dsa 7); adrannau 2(1)(a) a 28(a)(ii), (b), ac (c) o Atodlen 1, a pharagraff 19(1) o Atodlen 9 a pharagraff 1 o Atodlen 10 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19); paragraff (2)(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Ysmygu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Yr Alban) 2005 (dsa 13); ac adrannau 2(1), 4, 6(2) a (3), 7 ac 11(1) o Ddeddf Byrddau Iechyd (Aelodaeth ac Etholiadau) (Yr Alban) 2009 (dsa 5).
2009 p. 1. Mewnosodwyd adran 15B yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009 gan adran 4(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2022 (p. 3).
2016 anaw 2. Mae paragraff 1(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn rhagnodi mannau nad ydynt yn wasanaethau cartrefi gofal. Mae’r mannau hynny wedi eu heithrio o’r diffiniad o gartrefi gofal at ddibenion y Rheoliadau hyn.
O.S. 2010/231, fel y’i diwygiwyd gan baragraff 9(a), 9(b), 9(c), 9(d) a 9(e) o Atodlen 2(1) i O.S. 2019/593.
O.S. 1976/1213, fel y’i diwygiwyd gan reoliad 5 o Rh.S. 2008/192, a pharagraff 6(a), 6(b) a 6(c) o Ran 1 o’r Atodlen i O.S. 2020/1394.
Adran 7(a) fel y’i diwygiwyd gan erthygl 7(1)(b) o O.S. 2005/848.
Diwygiwyd adran 2 gan O.S. 2002/3135, O.S. 2006/1914, O.S. 2007/3101, O.S. 2008/1774 ac O.S. 2014/1101.
O.S. 2002/253, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/1182 ac O.S. 2018/838.
Mewnosodwyd adran 34I gan O.S. 2010/234.
Diwygiwyd adran 7(4) gan adran 306(4) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7) a pharagraff 21 o Atodlen 7, paragraff 11 o Atodlen 17 a pharagraffau 13(a), (b), (c), (d), (e), (f) o Atodlen 21 iddi, adran 186(6) o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022 (p. 31) a pharagraff 1(1) o Atodlen 1 a pharagraff 140 o Atodlen 4 iddi, adrannau 95 a 170 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14), a pharagraff 87 o Atodlen 5 iddi, O.S. 2022/1174 ac O.S. 2023/98.
2000 p. 7. Diwygiwyd y diffiniad o “electronic communication” gan baragraff 158 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21).
O.S. 2004/1022, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/366 (Cy. 32), O.S. 2009/1838 (Cy. 166), O.S. 2009/1977 (Cy. 176), O.S. 2012/1916, O.S. 2013/683 (Cy. 81), O.S. 2014/109 (Cy. 09), O.S. 2016/90 (Cy. 43) ac O.S. 2020/1396 (Cy. 309).
1984 p. 24. Diwygiwyd adran 14 gan O.S. 2005/2011, O.S. 2006/1671, O.S. 2007/3101, O.S. 2019/593 ac O.S. 2020/1394.
O.S. 2002/254, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/1182.
O.S. 2010/473, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/593.
O.S. 2009/177, a ddiwygiwyd gan O.S. 2022/251.
2006 p. 52. Gwnaed diwygiad perthnasol i adran 374 gan adran 44(3) a (4) o Ddeddf Diwygio Amddiffyn 2014 (p. 20).
1989 p. 44. Diwygiwyd adran 7 gan O.S. 2005/848.
1907 p. 24. Diwygiwyd adran 5 gan adran 5 o Orchymyn Diwygio Deddfwriaeth (Partneriaethau Cyfyngedig) 2009 (O.S. 2009/1940).
2002 p. 17. Diwygiwyd adran 25(3) gan baragraff 10(2) o Atodlen 4 i O.S. 2010/231, paragraff 17(2) a (3) o Atodlen 10 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14), paragraff 56(b) o Atodlen 15 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), a pharagraff 2(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017 (p. 16).
O.S. 2004/1020 (Cy. 117), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/945 (Cy. 94).
1983 p. 54. Mewnosodwyd adran 34L gan O.S. 2010/234.
Diwygiwyd adran 2 gan O.S. 2002/3135, O.S. 2006/1914, O.S. 2007/3101, O.S. 2008/1774 ac O.S. 2014/1101.
O.S. 1991/194 (G.I. 1). Diwygiwyd erthygl 10 gan adrannau 43 a 44 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 2001 (p. 3), ac adran 11 o Ddeddf Diwygio Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009 (p. 1) (G.I.), a pharagraffau 1 a 13 o Atodlen 6 iddi ac O.S. 1997/1177.
O.S. 1997/2817, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1998/669 ac fel y’i dirymwyd gan O.S. 2003/1250.
O.S. 1998/5, fel y’i diwygiwyd gan O.S.1998/669 ac O.S.A. 2000/23 ac fel y’i dirymwyd gan O.S. 2003/1250.
Rh. St. 1998/13, a ddirymwyd gan O.S. 2003/1250.
Nid yw Awdurdodau Gwasanaethau Iechyd Teuluol yn bodoli mwyach. Fe’u hunwyd ag Awdurdodau Iechyd yn 1994. Mae Awdurdodau Iechyd wedi eu diddymu erbyn hyn.
1933 p. 12. Diwygiwyd Atodlen 1 gan adran 51 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956 (p. 99) ac Atodlen 4 iddi; paragraff 8 o Atodlen 15 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) ac adran 170(2) ohoni, ac Atodlen 16 iddi; adran 139 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (p. 42) a pharagraff 7 o Atodlen 6 iddi; adran 58(1) o Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 (p. 28), ac Atodlen 10 iddi; paragraff 53 o Atodlen 21 i Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 (p. 25); adran 115(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9) a pharagraff 136(a) a (b) o Atodlen 9 iddi; ac adran 57(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 (p. 30) a pharagraff 1 o Atodlen 5 iddi.
1995 p. 46. Diwygiwyd Atodlen 1 gan baragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Plant ac Atal Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2005 (dsa 9), paragraff 2(8)(a) o Atodlen 5 i Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009 (dsa 9) ac adran 41(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 (dsa 13).
2006 p. 47. Diwygiwyd adran 2 gan erthyglau 3(a) a 4 o O.S. 2012/3006.
O.S. 2007/1351 (G.I. 11), fel y’i diwygiwyd gan adran 81(2) a (3)(o)(i) o Ddeddf Plismona a Throseddu 2009 (p. 26).
2005 dsa 10. Diwygiwyd adran 34 gan adran 122 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 (dsa 8).
1986 p. 45. Mewnosodwyd Atodlen 4A gan Atodlen 20 i Ddeddf Menter 2002 (p. 40), ac fe’i diwygiwyd gan adran 71(3) o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24), a pharagraff 63(1), (3)(a), (2)(a) a (b) iddi.
O.S. 1989/2405 (G.I. 19). Mewnosodwyd Atodlen 2A gan Erthygl 13(2) o O.S. 2005/1455 (G.I. 10) ac Atodlen 5 iddo.
1985 p. 66. Mewnosodwyd adrannau 56A i 56K gan adran 2(1) o Deddf Methdaliad a Diwydrwydd etc. (Yr Alban) 2007 (asp 3).
Mewnosodwyd Rhan VIIA gan adran 108(1) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15), ac Atodlen 17 iddi.
Mewnosodwyd Atodlen 4ZB gan 108(2) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, ac Atodlen 19 iddi.
1986 p. 46. Diwygiwyd adran 1 gan adrannau 5(1) a (2) ac 8 o Ddeddf Ansolfedd 2000 (p. 40), adran 204(1) a (3) o Ddeddf Menter 2002 (p. 40), ac adrannau 111 a 164(1) o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (p. 26) a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 7 iddi.
Mewnosodwyd adran 1A gan adran 6(1) a (2) o Ddeddf Ansolfedd 2000 (p. 39), ac fe’i diwygiwyd gan adran 111 o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (p. 26), a pharagraffau 1, 3(1) a (2) o Atodlen 7 iddi.
Diwygiwyd adran 429 gan adran 269 o Ddeddf Menter 2002, ac Atodlen 23 iddi, a chan adran 106 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15), ac Atodlen 16 iddi.
Mewnosodwyd Atodlen B1 gan adran 248(2) o Ddeddf Menter 2002, ac Atodlen 16 iddi.
O.S. 1976/615. Amnewidiwyd rheoliad 2(1) gan O.S. 2010/137.
O.S. 1985/1604. Amnewidiwyd rheoliad 2(1) gan O.S. 2010/137.
Diwygiwyd Atodlen 2 gan O.S. 2003/1432, O.S. 2009/3136, O.S. 2011/448, O.S. 2014/1275 a 3277, O.S. 2015/891, O.S. 2018/1055 ac O.S. 2018/1383.
O.S. 2012/1916. Nid oes unrhyw ddiwygiadau i reoliad 215.
Fe’i sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41).
Fe’i sefydlwyd o dan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41).
Mae’r ddogfen hon ar gael yn: https://www.nhsemployers.org/system/files/2021-06/TCS-GP-GMS-150409.pdf. Gellir gofyn am gopïau caled oddi wrth: The British Medical Association, BMA House, Tavistock Square, London WC1H 9JP.
Mae’r canllaw hwn, a gafodd ei gyhoeddi ddiwethaf ym mis Awst 2022, ar gael ar gais oddi wrth Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ar ffurf copi caled, drwy ysgrifennu i: AaGIC, Tŷ Dysgu, Cefn Coed, Nantgarw, CF15 7QQ neu drwy anfon e-bost i heiw@wales.nhs.uk.
O.S. 2011/704 (Cy. 108) a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1706 (Cy. 192).
O.S. 2004/1020 (Cy. 117), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/358 (Cy. 46), O.S. 2006/945, O.S. 2008/1425 (Cy. 147), O.S. 2010/22, O.S. 2013/235, O.S. 2016/101 (Cy. 49). Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Diddymwyd adran 8B(1)(a) o’r Ddeddf gan Reoliadau Cymwysterau Ewropeaidd (Y Proffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol) (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/593). Mae paragraff 26 o Atodlen 5 i’r rheoliadau hynny yn arbed y ddarpariaeth am gyfnod amhenodol ond gyda’r amod nad yw’r person o dan sylw yn ymarfer am fwy na 90 o ddiwrnodau mewn blwyddyn galendr.