RHAN 2Contractwyr: amodau a chymhwystra

Amodau: cyffredinol 4

Dim ond os yw’r amodau a bennir yn rheoliadau 5 a 6 wedi eu bodloni y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ymrwymo i gontract.

Amodau sy’n ymwneud ag ymarferwyr meddygol yn unig 5

1

Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ymrwymo i gontract, neu’n bwriadu ymrwymo i gontract—

a

gydag ymarferydd meddygol, mae rhaid i’r ymarferydd meddygol hwnnw fod yn ymarferydd meddygol cyffredinol,

b

gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth—

i

rhaid i un partner o leiaf (na chaiff fod yn bartner cyfyngedig) fod yn ymarferydd meddygol cyffredinol, a

ii

rhaid i unrhyw bartner arall sy’n ymarferydd cyffredinol fod—

aa

yn ymarferydd meddygol cyffredinol, neu

bb

wedi ei gyflogi gan Fwrdd Iechyd Lleol, (yng Nghymru a Lloegr a’r Alban) Ymddiriedolaeth GIG, ymddiriedolaeth sefydledig y GIG, (yn yr Alban) Bwrdd Iechyd, neu (yng Ngogledd Iwerddon) Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu

c

gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—

i

rhaid i un gyfran o leiaf yn y cwmni fod yn eiddo cyfreithiol a llesiannol i ymarferydd meddygol cyffredinol, a

ii

rhaid i unrhyw gyfran arall neu unrhyw gyfrannau eraill yn y cwmni sy’n eiddo cyfreithiol a llesiannol i ymarferydd cyffredinol fod yn eiddo felly—

aa

i ymarferydd meddygol cyffredinol, neu

bb

i ymarferydd meddygol sydd wedi ei gyflogi gan Fwrdd Iechyd Lleol, (yng Nghymru a Lloegr a’r Alban) Ymddiriedolaeth GIG, ymddiriedolaeth sefydledig y GIG, (yn yr Alban) Bwrdd Iechyd neu, (yng Ngogledd Iwerddon) Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

2

Ym mharagraff (1)(a), (b)(i) ac (c)(i) nid yw “ymarferydd meddygol cyffredinol” yn cynnwys ymarferydd meddygol y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ymarferydd meddygol y mae paragraff (3), (4) neu (5) yn gymwys iddo.

3

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ymarferydd meddygol y cyfeirir ato yn erthygl 4(3) o Orchymyn 2010 (ymarferwyr cyffredinol sy’n gymwys i’w cofnodi yn y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol) a oedd wedi ei esemptio o’r gofyniad i fod â’r profiad rhagnodedig o dan—

a

rheoliad 5(1)(d) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol ar gyfer Ymarfer Meddygol Cyffredinol) 199736,

b

rheoliad 5(1)(d) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol ar gyfer Ymarfer Meddygol Cyffredinol) (Yr Alban) 199837, neu

c

rheoliad 5(1)(d) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol) (Gogledd Iwerddon) 199838.

4

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ymarferydd meddygol sydd â hawl gaffaeledig at ddibenion erthygl 6(2) o Orchymyn 2010 (personau â hawliau caffaeledig) yn rhinwedd y ffaith—

a

ei fod wedi bod yn brif ymarferydd gwasanaethau cyfyngedig, a

b

bod enw’r ymarferydd meddygol hwnnw wedi ei gynnwys, fel yr oedd ar 31 Mawrth 1994—

i

mewn rhestr feddygol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Awdurdod Gwasanaethau Iechyd Teuluol39, neu

ii

mewn unrhyw restr gyfatebol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Fwrdd Iechyd neu gan Asiantaeth Gwasanaethau Canolog Gogledd Iwerddon ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.

5

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ymarferydd meddygol sydd â hawl gaffaeledig at ddibenion erthygl 6(6) o Orchymyn 2010 (sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi eu cymryd ymlaen neu wedi eu darparu fel dirprwy neu wedi eu cyflogi fel cynorthwyydd) oherwydd bod yr ymarferydd meddygol hwnnw, ar o leiaf 10 diwrnod yn y 4 blynedd sy’n gorffen â 31 Mawrth 1994, neu ar o leiaf 40 diwrnod yn y 10 mlynedd sy’n gorffen â’r dyddiad hwnnw—

a

wedi ei gymryd ymlaen fel dirprwy gan ymarferydd meddygol, neu wedi ei ddarparu fel dirprwy i ymarferydd meddygol, y cynhwyswyd ei enw—

i

yn y rhestr feddygol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Awdurdod Gwasanaethau Iechyd Teuluol, neu

ii

mewn unrhyw restr gyfatebol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Fwrdd Iechyd neu gan Asiantaeth Gwasanaethau Canolog Gogledd Iwerddon ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon, neu

b

wedi ei gyflogi fel cynorthwyydd (heblaw fel ymarferydd cyffredinol o dan hyfforddiant) gan ymarferydd meddygol o’r fath.

6

Ym mharagraff (4)(a), ystyr “prif ymarferydd gwasanaethau cyfyngedig” yw ymarferydd meddygol a ddarparodd wasanaethau meddygol cyffredinol a oedd yn gyfyngedig i wyliadwriaeth iechyd plant, gwasanaethau atal cenhedlu, gwasanaethau meddygol mamolaeth neu fân lawdriniaeth.

Amod cyffredinol yn ymwneud â phob contract 6

1

Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ymrwymo i gontract—

a

gydag ymarferydd meddygol y mae paragraff (2) yn gymwys iddo,

b

gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, pan fo paragraff (2) yn gymwys i unrhyw berson sy’n bartner yn y bartneriaeth, neu

c

gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau pan fo paragraff (2) yn gymwys—

i

i’r cwmni,

ii

i unrhyw berson y mae cyfran yn y cwmni yn eiddo cyfreithiol neu lesiannol iddo, neu

iii

i unrhyw gyfarwyddwr neu ysgrifennydd i’r cwmni.

2

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

os yw’r person yn destun anghymhwysiad cenedlaethol;

b

os yw’r person, yn ddarostyngedig i baragraff (3), wedi ei anghymhwyso neu wedi ei atal dros dro (heblaw drwy orchymyn atal dros dro interim neu gyfarwyddyd wrth aros am ymchwiliad) rhag ymarfer gan unrhyw gorff trwyddedu unrhyw le yn y byd;

c

os yw’r person, o fewn y 5 mlynedd naill ai cyn llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo (heblaw oherwydd dileu swydd) o unrhyw gyflogaeth gan gorff gwasanaeth iechyd, oni bai—

i

bod y person, os oedd yn cael ei gyflogi fel aelod o broffesiwn gofal iechyd adeg y diswyddo, wedi cael ei gyflogi wedyn gan y corff gwasanaeth iechyd hwnnw neu gan gorff gwasanaeth iechyd arall, a

ii

bod unrhyw dribiwnlys neu lys cymwys wedi dyfarnu bod y diswyddiad yn ddiswyddiad annheg;

d

os yw’r person, o fewn y 5 mlynedd naill ai cyn llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddileu o restr gofal sylfaenol, neu os gwrthodwyd ei gynnwys ynddi, oherwydd aneffeithlonrwydd, twyll neu anaddasrwydd (o fewn ystyr adran 107(2), (3) neu (4) o’r Ddeddf (anghymhwyso ymarferwyr)), neu os yw wedi ei ddileu o restr cyflawnwyr a gedwir gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd rheoliad a wnaed o dan adran 49(3) (personau sy’n cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol) o’r Ddeddf neu os gwrthodwyd ei gynnwys ynddi, oni bai bod enw’r person wedi ei gynnwys wedyn yn y rhestr honno;

e

os yw’r person wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth;

f

os yw’r person wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd heblaw llofruddiaeth a gyflawnwyd ar neu ar ôl 14 Mawrth 2001 a’i fod wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar;

g

os yw’r person, yn ddarostyngedig i baragraff (3), wedi ei euogfarnu y tu allan i’r Deyrnas Unedig o drosedd a fyddai’n llofruddiaeth pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr, ac—

i

bod y drosedd wedi ei chyflawni ar neu ar ôl 26 Mawrth 2002, a

ii

bod y person wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar;

h

os yw’r person wedi ei euogfarnu o drosedd, y cyfeirir ati yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 193340 (troseddau yn erbyn plant a phobl ifanc y mae darpariaethau arbennig o’r Ddeddf hon yn gymwys iddynt), neu yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 199541 (troseddau yn erbyn plant o dan 17 oed y mae darpariaethau arbennig yn gymwys iddynt), a gyflawnwyd ar neu ar ôl 1 Mawrth 2004;

i

os yw’r person ar unrhyw adeg wedi ei gynnwys—

i

mewn unrhyw restr wahardd o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200642 (rhestrau gwahardd), neu

ii

mewn unrhyw restr wahardd o fewn ystyr Erthygl 6 o Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 200743 (rhestrau gwahardd),

oni bai bod y person wedi ei ddileu o’r rhestr naill ai ar y sail nad oedd yn briodol i’r person fod wedi ei gynnwys ynddi neu o ganlyniad i apêl lwyddiannus;

j

os yw’r person, o fewn y cyfnod o 5 mlynedd naill ai cyn llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo o swydd ymddiriedolwr elusen neu ymddiriedolwr ar gyfer elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiwn Elusennau, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon neu’r Uchel Lys, a bod y gorchymyn hwnnw wedi ei wneud ar sail camymddwyn neu gamreoli wrth weinyddu elusen y bu’r person yn gyfrifol amdano neu yr oedd y person yn ymwybodol ohono, neu y cyfrannodd ymddygiad y person hwnnw ato, neu a hwyluswyd gan ymddygiad y person;

k

os yw’r person, o fewn y 5 mlynedd naill ai cyn dyddiad llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff mewn achos pan fo’r diswyddo yn rhinwedd adran 34(5)(e) o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 200544 (pwerau’r Llys Sesiwn);

l

os —

i

yw’r person wedi ei wneud yn fethdalwr ac nad yw wedi ei ryddhau o’r methdaliad neu nad yw’r gorchymyn methdaliad wedi ei ddirymu, neu

ii

dyfarnwyd i ystad y person gael ei secwestru ac nad yw’r person wedi ei ryddhau o’r secwestru;

m

os yw’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim o dan Atodlen 4A i Ddeddf Ansolfedd 198645 (gorchymyn cyfyngu methdaliad ac ymgymeriad), Atodlen 2A i Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 198946 (gorchymyn cyfyngu methdaliad ac ymgymeriad), neu adrannau 56A i 56K o Ddeddf Methdaliad (Yr Alban) 198547 (gorchymyn cyfyngu methdaliad, gorchymyn cyfyngu methdaliad interim ac ymgymeriad cyfyngu methdaliad), oni bai bod y person wedi ei ryddhau o’r gorchymyn hwnnw neu fod y gorchymyn hwnnw wedi ei ddirymu;

n

os yw’r person—

i

yn ddarostyngedig i gyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled o dan Ran VIIA o Ddeddf Ansolfedd 198648 (gorchmynion rhyddhau o ddyled), neu

ii

yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled neu orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled interim o dan Atodlen 4ZB i Ddeddf Ansolfedd 198649 (gorchmynion cyfyngu rhyddhau o ddyled ac ymgymeriadau);

o

os yw’r person wedi gwneud cytundeb neu drefniant cyfansoddi gyda chredydwyr y person, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth ar eu cyfer, ac nad yw’r person wedi ei ryddhau mewn perthynas â’r cytundeb neu â’r trefniant;

p

os yw’r person yn ddarostyngedig—

i

i orchymyn anghymhwyso o dan adran 1 o Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 198650 (gorchmynion anghymhwyso: cyffredinol) neu ymgymeriad anghymhwyso o dan adran 1A o’r Ddeddf honno51 (ymgymeriadau anghymhwyso: cyffredinol),

ii

i orchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Erthygl 3 (gorchmynion anghymhwyso: cyffredinol) neu Erthygl 4 (ymgymeriadau anghymhwyso: cyffredinol) o Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 200252, neu

iii

gorchymyn anghymhwyso o dan adran 429(2) o Ddeddf Ansolfedd 198653 (anableddau pan ddirymir gorchymyn gweinyddu yn erbyn unigolyn);

q

os oes gweinyddydd, derbynnydd gweinyddol neu dderbynnydd wedi ei benodi mewn cysylltiad â’r person;

r

os yw’r person wedi peri i orchymyn gweinyddu gael ei wneud mewn perthynas â’r contractwr o dan Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 198654 (gweinyddu); neu

s

os yw’r contractwr yn bartneriaeth ac—

i

bod unrhyw lys, tribiwnlys neu gyflafareddwr cymwys yn gorchymyn diddymu’r bartneriaeth, neu

ii

bod digwyddiad yn digwydd sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i fusnes y bartneriaeth barhau, neu i aelodau o’r bartneriaeth barhau mewn partneriaeth.

3

Nid yw paragraff (2)(b) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (2)(g), yn gymwys i berson—

a

pan fo’r person hwnnw—

i

wedi ei anghymhwyso neu wedi ei atal dros dro rhag ymarfer gan gorff trwyddedu y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu

ii

wedi ei euogfarnu o drosedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a

b

pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni nad yw’r anghymhwysiad, yr atal dros dro neu, yn ôl y digwydd, yr euogfarn yn gwneud y person hwnnw’n anaddas i fod—

i

yn gontractwr,

ii

yn bartner, yn achos contract â dau berson neu ragor yn ymarfer mewn partneriaeth, neu

iii

yn achos cwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—

aa

yn berson y mae cyfran yn y cwmni yn eiddo iddo yn gyfreithiol neu’n llesiannol, neu

bb

yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd i’r cwmni.

4

At ddibenion paragraff (2)(c), pan fo person wedi ei gyflogi fel aelod o broffesiwn gofal iechyd, rhaid i unrhyw gyflogaeth ddilynol hefyd fod fel aelod o’r proffesiwn hwnnw.

5

Yn y rheoliad hwn, mae “contractwr” yn cynnwys person y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu ymrwymo i gontract gydag ef.

Hysbysiad bod amodau heb eu bodloni a rhesymau 7

1

Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried nad yw’r amodau a bennir yn rheoliadau 5 a 6 ar gyfer ymrwymo i gontract wedi eu bodloni, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person neu’r personau sy’n bwriadu ymrwymo i’r contract am y canlynol—

a

ei farn a’r rhesymau dros y farn honno, a

b

yr hawl i apelio o dan reoliad 8.

2

Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hefyd roi hysbysiad ysgrifenedig o’i farn a’r rhesymau dros y farn honno i unrhyw berson sy’n berchen yn gyfreithiol ac yn llesiannol ar gyfran o gwmni, neu sy’n gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd i gwmni, sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (1) mewn unrhyw achos pan fo ei reswm dros y penderfyniad yn ymwneud â’r person hwnnw.

Hawl i apelio 8

Caiff person sydd wedi cael hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 7(1) apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol nad yw’r amodau yn rheoliadau 5 neu 6 wedi eu bodloni.