RHAN 4Statws corff gwasanaeth iechyd
Statws corff gwasanaeth iechyd: dewis 10
1
Caiff person sy’n bwriadu ymrwymo i gontract gyda Bwrdd Iechyd Lleol (“contractwr arfaethedig”), drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn ymrwymo i’r contract, ddewis cael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf.
2
Mae dewis a wneir gan gontractwr arfaethedig o dan baragraff (1) yn cael effaith gan ddechrau â’r dyddiad yr ymrwymir i’r contract.
3
Os bydd contractwr arfaethedig, yn rhinwedd paragraff (1), yn dewis cael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd, mae natur unrhyw gontract arall yr ymrwymwyd iddo yn flaenorol gan y contractwr arfaethedig hwnnw gyda chorff gwasanaeth iechyd cyn dyddiad y dewis hwnnw, neu unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy’n codi odano, yn parhau heb eu heffeithio.
4
Mae paragraff (5) yn gymwys—
a
pan fo contractwr sy’n ymarferydd meddygol unigol, neu pan fo dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, yn ymrwymo i gontract gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol, a
b
pan fo’r contractwr hwnnw i’w ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd yn unol â pharagraff (1).
5
Yn ddarostyngedig i reoliad 11, mae’r contractwr i’w ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf (contractau’r GIG) cyhyd ag y mae’r contract hwnnw’n parhau ni waeth am unrhyw newid—
a
yn y partneriaid sy’n ffurfio’r bartneriaeth,
b
yn statws y contractwr o statws ymarferydd meddygol unigol i statws partneriaeth, neu
c
yn statws y contractwr o statws partneriaeth i statws ymarferydd meddygol unigol.
Statws corff gwasanaeth iechyd: amrywio contractau 11
1
Caiff contractwr ofyn yn ysgrifenedig unrhyw bryd am amrywio’r contract er mwyn cynnwys yn y contract, neu dynnu o’r contract, ddarpariaeth i’r perwyl bod y contract yn gontract GIG, ac os yw’n gwneud hynny—
a
rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gytuno i’r amrywiad, a
b
mae’r weithdrefn a bennir yn rheoliad 27 a Rhan 11 o Atodlen 3 ar gyfer amrywio contractau yn gymwys.
2
Os yw’r contractwr, yn rhinwedd cais o dan baragraff (1), i’w ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd, mae unrhyw hawliau neu rwymedigaethau o dan unrhyw gontract arall gyda chorff gwasanaeth iechyd yr ymrwymwyd iddo gan y contractwr cyn y dyddiad y caiff y contractwr ei ystyried felly, yn parhau heb eu heffeithio.
3
Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cytuno i’r amrywiad i’r contract, rhaid i’r contractwr—
a
cael ei ystyried, neu
b
yn ddarostyngedig i reoliad 12, beidio â chael ei ystyried mwyach,
yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf gan ddechrau â’r dyddiad y mae’r amrywiad i gymryd effaith yn unol â rheoliad 27 a Rhan 11 o Atodlen 3.
Rhoi’r gorau i statws corff gwasanaeth iechyd 12
1
Mae contractwr yn peidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf (contractau’r GIG) os bydd y contract yn terfynu.
2
Pan fo contractwr, yn rhinwedd paragraff (1), yn peidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd mewn perthynas â chontract (“y contract perthnasol”), mae’r contractwr i barhau i gael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion unrhyw gontract GIG arall y daeth yn barti iddo rhwng y dyddiad y daeth yn gorff gwasanaeth iechyd mewn perthynas â’r contract perthnasol a’r dyddiad y peidiwyd â’i ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion y contract hwnnw (ond mae’n peidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion unrhyw gontract GIG arall pan derfynir y contract hwnnw).
3
Pan—
a
bo contractwr yn peidio â chael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd mewn perthynas â chontract naill ai oherwydd paragraff (1) neu oherwydd amrywiad i’r contract yn rhinwedd rheoliad 11(1), a
b
bo’r contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol—
i
wedi atgyfeirio unrhyw fater at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG cyn i’r contractwr beidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd, neu
ii
yn atgyfeirio unrhyw fater a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod pan oedd y contractwr yn cael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG, yn unol â pharagraff 106 o Atodlen 3, ar ôl iddo beidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd,
mae’r contractwr i barhau i gael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd (ac yn unol â hynny mae’r contract i barhau i gael ei ystyried yn gontract GIG) at ddibenion ystyried yr anghydfod a phenderfynu arno.
4
Pan fo contractwr yn parhau i gael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd yn rhinwedd rheoliad 12(3) at ddibenion gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG, mae’r contractwr yn peidio â chael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at y dibenion hynny ar ddiwedd y weithdrefn honno.