Darpariaeth drosiannol gyffredinol ac arbediad
31.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
(a)arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan Reoliadau 2004 cyn y dyddiad cychwyn, a
(b)unrhyw hawliau neu atebolrwyddau sydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Reoliadau 2004.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae unrhyw weithred neu anweithred ynglŷn â chontract yr oedd Rheoliadau 2004 yn gymwys iddo yn union cyn y dyddiad cychwyn mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a bennir ym mharagraff (1), i’w thrin fel gweithred neu anweithred ynglŷn â chontract y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae unrhyw beth sydd, cyn y dyddiad cychwyn, wedi ei wneud neu wrthi’n cael ei wneud o dan Reoliadau 2004 ynglŷn â chontract yr oedd Rheoliadau 2004 yn gymwys iddo yn union cyn y dyddiad hwnnw mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a bennir ym mharagraff (1), i’w drin fel pe bai wedi ei wneud neu wrthi’n cael ei wneud o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Er gwaethaf paragraffau (2) a (3) a’r dirymiadau y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 6, pan fo Rheoliadau 2004 yn cynnwys darpariaeth nad oes darpariaeth gyfatebol ar ei chyfer yn y Rheoliadau hyn (“y ddarpariaeth berthnasol”), mae Rheoliadau 2004, fel yr oeddent mewn grym yn union cyn y dyddiad cychwyn, i barhau i fod yn gymwys i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddibenion—
(a)cadw unrhyw hawliau a roddwyd neu atebolrwyddau a gronnwyd gan neu o dan y ddarpariaeth berthnasol, neu
(b)asesu neu benderfynu ar unrhyw hawliau neu atebolrwyddau sy’n codi o dan y ddarpariaeth berthnasol neu yn unol â’r ddarpariaeth berthnasol.
(5) Yn y rheoliad hwn—
mae “contract” (“contract”) yn cynnwys unrhyw gontract yr oedd Rheoliadau 2004 yn gymwys iddo yn union cyn y dyddiad cychwyn y darparwyd gwasanaethau meddygol odano cyn y dyddiad cychwyn (pa un a oedd y gwasanaethau hynny’n parhau i gael eu darparu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio);
ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.