RHAN 3Datrys anghydfodau cyn contract

Anghydfodau cyn contract 9

1

Ac eithrio pan fo’r ddau barti i’r darpar gontract yn gyrff gwasanaeth iechyd (ac yn yr achos hwnnw mae adran 7 o’r Ddeddf (contractau’r GIG) yn gymwys), os na all y darpar bartïon i’r contract hwnnw, yn ystod y trafodaethau y bwriedir iddynt arwain at gontract, gytuno ar un o delerau penodol y contract, caiff y naill barti neu’r llall atgyfeirio’r anghydfod at Weinidogion Cymru i ystyried y mater a phenderfynu arno.

2

Rhaid i anghydfodau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1) neu adran 7 o’r Ddeddf gael eu hystyried a’u penderfynu yn unol â darpariaethau paragraffau 106(3) i (14) a 107(1) o Atodlen 3, a pharagraff (3) (pan fo’n gymwys) o’r rheoliad hwn.

3

Yn achos anghydfod a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan baragraff (1), mae’r penderfyniad—

a

yn cael pennu’r telerau sydd i’w cynnwys yn y contract arfaethedig,

b

yn cael ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol fwrw ymlaen â’r contract arfaethedig, ond ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr arfaethedig fwrw ymlaen â’r contract arfaethedig, ac

c

yn rhwymo darpar bartïon y contract.