Rheoliad 17
ATODLEN 2Manylion pellach ynghylch Gwasanaethau Unedig penodol
Sgrinio serfigol
1.—(1) Rhaid i gontractwr—
(a)darparu’r holl wasanaethau a ddisgrifir yn is-baragraff (2), a
(b)gwneud y cofnodion a bennir yn is-baragraff (4) yng nghofnod y claf a gedwir yn unol â pharagraff 79 o Atodlen 3.
(2) Y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) yw—
(a)darparu unrhyw wybodaeth a chyngor angenrheidiol i gynorthwyo cleifion perthnasol i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch cymryd rhan yn Rhaglen Sgrinio Serfigol Cymru a gynhelir gan Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (y “Rhaglen”),
(b)cyflawni profion sgrinio serfigol ar bobl sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn y Rhaglen honno,
(c)trefnu i bobl gael gwybod am ganlyniadau eu prawf, a
(d)sicrhau bod canlyniadau profion yn cael eu dilyn fel y bo’n glinigol briodol.
(3) At ddibenion is-baragraff (2)(a) ystyr “cleifion perthnasol” yw cleifion ar restr y contractwr o gleifion sydd wedi eu dynodi gan Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru fel ymgeiswyr addas i gael prawf sgrinio serfigol.
(4) Y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—
(a)cofnod manwl gywir o’r prawf sgrinio serfigol a gynhelir, a
(b)canlyniad unrhyw brawf a gynhelir, ac
(c)unrhyw ofynion clinigol dilynol.
Gwyliadwriaeth iechyd plant
2.—(1) Mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn o dan 5 oed y mae ganddo gyfrifoldeb amdano o dan y contract, rhaid i gontractwr—
(a)darparu’r holl wasanaethau a ddisgrifir yn is-baragraff (2), heblaw unrhyw archwiliad a ddisgrifir felly y mae rhiant yn gwrthod caniatáu i’w blentyn ei gael, tan y dyddiad y mae’r plentyn yn cyrraedd 5 oed, a
(b)cynnal y cofnodion a bennir yn is-baragraff (3).
(2) Y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) yw—
(a)monitro iechyd, llesiant a datblygiad corfforol, meddyliol a chymdeithasol (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd yn y paragraff hwn fel “datblygiad”) plentyn o dan 5 oed gyda’r bwriad o ganfod unrhyw wyriadau oddi wrth ddatblygiad arferol—
(i)drwy ystyried unrhyw wybodaeth ynghylch y plentyn sy’n dod i law’r contractwr neu sy’n dod i law ar ei ran, a
(ii)ar unrhyw achlysur pan archwilir y plentyn neu pan arsylwir ar y plentyn gan y contractwr neu ar ei ran (boed yn unol â pharagraff (b) neu fel arall);
(b)archwilio plentyn mor aml ag y cytunir gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â’r rhaglen seiliedig ar dystiolaeth y cytunwyd arni’n genedlaethol ac a nodwyd yn y canllawiau clinigol diweddaraf mewn perthynas ag Archwiliadau Corfforol ar gyfer Babanod a Babanod Newydd-anedig Cymru, a chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r contractwr ofyn barn y Pwyllgor Meddygol Lleol perthnasol cyn dod i gytundeb ar amlder priodol yr archwiliadau hyn.
(3) Rhaid i’r cofnodion a bennir at ddibenion is-baragraff (1)(b) fod yn gofnod manwl gywir o’r canlynol—
(a)datblygiad y plentyn tra bo o dan 5 mlwydd oed, wedi ei lunio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn archwiliad cyntaf y plentyn hwnnw a, pan fo’n briodol, wedi ei ddiwygio yn dilyn pob archwiliad dilynol, a
(b)yr ymatebion (os oes ymatebion o gwbl) i gynigion a wnaed i riant y plentyn i’r plentyn gael unrhyw archwiliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)(b).
Brechu ac imiwneiddio yn ystod plentyndod
3.—(1) Rhaid i gontractwr gydymffurfio â’r gofynion yn is-baragraffau (2) a (3).
(2) Rhaid i’r contractwr—
(a)cynnig darparu i blant bob brechiad ac imiwneiddiad o fath ac o dan yr amgylchiadau a bennir yn yr Atodiad perthnasol i Ddatganiad ar Hawlogaethau Ariannol y GMC;
(b)darparu gwybodaeth a chyngor priodol i gleifion a, pan fo’n briodol, i’w rhieni, am y brechiadau a’r imiwneiddiadau hynny;
(c)cofnodi yng nghofnod y claf a gedwir yn unol â pharagraff 78 o Atodlen 3 unrhyw benderfyniad i wrthod y cynnig y cyfeirir ato ym mharagraff (a);
(d)pan dderbynnir y cynnig, rhoi’r brechiadau a’r imiwneiddiadau a chynnwys yng nghofnod y claf a gedwir yn unol â pharagraff 78 o Atodlen 3—
(i)enw’r person a roddodd gydsyniad i’r brechiad neu’r imiwneiddiad a pherthynas y person hwnnw â’r claf,
(ii)rhifau’r sypiau, y dyddiad dod i ben ac enw’r brechlyn,
(iii)dyddiad rhoi’r brechiadau a’r imiwneiddiadau,
(iv)mewn achos pan fo dau frechlyn yn cael eu rhoi y naill yn fuan ar ôl y llall, llwybr rhoi’r brechlynnau a safle pigiad y naill frechlyn a’r llall,
(v)unrhyw wrtharwyddion yn erbyn y brechiad neu’r imiwneiddiad, a
(vi)unrhyw adweithiau niweidiol i’r brechiad neu’r imiwneiddiad.
(3) Rhaid i’r contractwr sicrhau bod yr holl staff sy’n rhan o roi brechlynnau wedi eu hyfforddi i adnabod anaffylacsis a rhoi’r driniaeth gychwynnol ar ei gyfer a bod eu gwybodaeth yn cael ei chadw’n gyfredol.
Gwasanaethau atal cenhedlu
4. Rhaid i gontractwr roi’r gwasanaethau hynny a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (g) ar gael i bob un o’i gleifion sy’n gofyn amdanynt—
(a)rhoi cyngor ynghylch yr ystod lawn o ddulliau atal cenhedlu,
(b)pan fo’n briodol, archwiliad meddygol i gleifion sy’n gofyn am gyngor o’r fath,
(c)trin cleifion o’r fath at ddibenion atal cenhedlu a rhagnodi sylweddau a chyfarpar atal cenhedlu (ac eithrio gosod a mewnblannu dyfeisiau a mewnblaniadau yn y groth),
(d)rhoi cyngor am atal cenhedlu brys a phan fo’n briodol, cyflenwi neu ragnodi dulliau atal cenhedlu hormonaidd brys neu, pan fo gan y contractwr wrthwynebiad cydwybodol i ddulliau atal cenhedlu brys, atgyfeirio’n brydlon at ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol nad oes ganddo wrthwynebiad cydwybodol o’r fath,
(e)darparu cyngor ac atgyfeiriad mewn achosion lle y ceir beichiogrwydd heb ei gynllunio neu feichiogrwydd digroeso, gan gynnwys cyngor bod profion beichiogrwydd am ddim ar gael yn yr ardal practis a, pan fo’n briodol, pan fo gan y contractwr wrthwynebiad cydwybodol i derfynu beichiogrwydd, atgyfeirio’n brydlon at ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol nad oes ganddo wrthwynebiad cydwybodol o’r fath,
(f)rhoi cyngor cychwynnol am hybu iechyd rhywiol ac am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac
(g)atgyfeirio yn ôl yr angen ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol arbenigol, gan gynnwys pecynnau profi gartref neu becynnau hunan-brofi ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
Gwasanaethau meddygol mamolaeth
5.—(1) Rhaid i gontractwr ddarparu’r holl wasanaethau meddygol mamolaeth angenrheidiol i’r canlynol—
(a)cleifion sydd wedi cael diagnosis o feichiogrwydd drwy gydol y cyfnod cynenedigol;
(b)cleifion a’u babanod drwy gydol y cyfnod ôl-enedigol, heblaw gwiriadau newydd-anedig;
(c)cleifion y mae eu beichiogrwydd wedi terfynu o ganlyniad i gamesgoriad neu erthyliad neu, pan fo gan y contractwr wrthwynebiad cydwybodol i derfynu beichiogrwydd, rhaid i’r contractwr atgyfeirio’r claf yn brydlon at ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol nad oes ganddo wrthwynebiad cydwybodol o’r fath.
(2) Yn y paragraff hwn—
ystyr “cyfnod cynenedigol” (“antenatal period”) yw’r cyfnod rhwng dechrau’r beichiogrwydd a dechrau esgor;
ystyr “cyfnod ôl-enedigol” (“postnatalperiod”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â diwedd esgoriad y babi neu ryddhau’r claf o’r gwasanaethau gofal eilaidd, pa un bynnag yw’r olaf, ac sy’n gorffen gyda’r 14eg diwrnod ar ôl yr enedigaeth;
ystyr “gwasanaethau meddygol mamolaeth” (“maternity medical services”) yw—
mewn perthynas â chleifion (heblaw babanod) yr holl wasanaethau meddygol sylfaenol sy’n ymwneud â beichiogrwydd, ac eithrio gofal yn ystod yr esgor, a
mewn perthynas â babanod, unrhyw wasanaethau meddygol sylfaenol sy’n angenrheidiol i’w 14 o ddiwrnodau cyntaf o fywyd;
ystyr “gwiriad newydd-anedig” (“neonatal check”) yw archwilio’r babi yn y mis cyntaf ar ôl ei eni.
Mân lawdriniaeth
6. Rhaid i gontractwr—
(a)trefnu bod rhew-serio, ciwretio a serio dafadennau, ferwcau a briwiau eraill y croen, pan fo’n glinigol briodol, ar gael i gleifion, a
(b)sicrhau bod ei gofnod o unrhyw driniaeth a ddarperir o dan y paragraff hwn yn cynnwys—
(i)manylion y fân lawdriniaeth a ddarparwyd i’r claf, a
(ii)cydsyniad y claf i’r driniaeth honno.
Brechu ac imiwneiddio
7.—(1) Rhaid i gontractwr—
(a)cynnig rhoi neu ddarparu i gleifion bob brechiad ac imiwneiddiad o fath ac o dan yr amgylchiadau a bennir yn yr Atodiad perthnasol i Ddatganiad ar Hawlogaethau Ariannol y GMC ac a gyllidir o dan y swm craidd;
(b)darparu gwybodaeth a chyngor priodol i gleifion a, pan fo’n briodol, i rieni cleifion, am y brechiadau a’r imiwneiddiadau hyn;
(c)mewn perthynas â chleifion heblaw plant a chan gymryd i ystyriaeth amgylchiadau unigol y claf, ystyried—
(i)pa un a ddylai’r imiwneiddiad gael ei roi gan y contractwr ynteu gan broffesiynolyn gofal iechyd sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan y contractwr, neu
(ii)pa un a ddylid darparu ffurflen bresgripsiwn er mwyn i’r claf roi’r imiwneiddiad iddo’i hun;
(d)cofnodi yng nghofnod y claf unrhyw benderfyniad i wrthod y cynnig a grybwyllir ym mharagraff (a);
(e)pan—
(i)bo’r cynnig a grybwyllir ym mharagraff (a) yn cael ei dderbyn, a
(ii)bo’r imiwneiddiad, yn achos claf nad yw’n blentyn, i’w roi gan y contractwr neu broffesiynolyn gofal iechyd arall,
rhoi’r imiwneiddiad a chofnodi’r wybodaeth am yr imiwneiddiad yng nghofnod y claf, gan ddefnyddio codau y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn;
(f)pan—
(i)bo’r cynnig a grybwyllir ym mharagraff (a) yn cael ei dderbyn, a
(ii)nad yw’r imiwneiddiad, yn achos claf nad yw’n blentyn, i’w roi gan y contractwr neu broffesiynolyn gofal iechyd arall,
dyroddi ffurflen bresgripsiwn er mwyn i’r claf roi’r imiwneiddiad iddo’i hun.
(2) At ddibenion y paragraff hwn—
ystyr “gwybodaeth am yr imiwneiddiad” yw—
naill ai—
cydsyniad y claf i’r imiwneiddiad, neu
pan fo person arall yn cydsynio i’r imiwneiddiad ar ran y claf, enw’r person a roddodd y cydsyniad hwnnw a’i berthynas â’r claf;
rhif y swp, y dyddiad dod i ben ac enw’r brechlyn,
dyddiad rhoi’r brechlyn,
pan fo dau frechlyn yn cael eu rhoi drwy bigiadau, y naill yn fuan ar ôl y llall, llwybr rhoi’r brechlynnau a safle pigiad y naill frechlyn a’r llall,
unrhyw wrtharwyddion yn erbyn y brechlyn, ac
unrhyw adweithiau niweidiol i’r brechlyn.
(3) Rhaid i’r contractwr sicrhau bod yr holl staff sy’n rhan o roi brechlynnau wedi eu hyfforddi i adnabod anaffylacsis a rhoi’r driniaeth gychwynnol ar ei gyfer a bod eu gwybodaeth yn cael ei chadw’n gyfredol.
8. At ddibenion paragraffau 1 i 7 ystyr “cofnod claf” yw’r cofnod a gedwir mewn perthynas â chlaf yn unol â pharagraff 78 o Atodlen 3.