ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract

RHAN 1Darparu gwasanaethau

Cyfrannu at glystyrau a Chydweithredfeydd Ymarfer Cyffredinol

18.

Rhaid i gontractwr—

(a)

cyfrannu gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys cynlluniau galw a chapasiti, i Gynllun Tymor Canolig Integredig y clwstwr drwy’r Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol, a rhaid i’r cyfraniad gynnwys gwybodaeth am gynlluniau galw a chapasiti,

(b)

dangos sut y maent wedi ymwneud â’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau lleol y cytunwyd arnynt yng nghyfraniad y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol at gynllun y clwstwr, gan gynnwys tystiolaeth o waith partneriaeth eang, gweithio amlbroffesiwn/amlasiantaeth, a datblygu gwasanaethau integredig, ac

(c)

cyfrannu at gyflawni canlyniadau penodol a bennir gan y clwstwr, gan gynnwys ymwneud â chynllunio mentrau lleol drwy ymwneud â’r clwstwr drwy gyfrwng arweinydd y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol.