Cynnwys yn y rhestr o gleifion: personél y lluoedd arfog
24.—(1) Oni bai bod paragraff 26(1) yn gymwys, os yw ei restr o gleifion yn agored rhaid i’r contractwr gynnwys person y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn y rhestr honno am gyfnod o hyd at 2 flynedd ac nid yw paragraff 34(1)(b) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw berson sy’n cael ei gynnwys yn rhestr y contractwr o gleifion yn rhinwedd y paragraff hwn.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson—
(a)sy’n aelod ar wasanaeth o luoedd arfog y Goron sydd wedi cael awdurdodiad ysgrifenedig gan y Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn i gael gwasanaethau meddygol sylfaenol gan bractis y contractwr, a
(b)sy’n byw neu’n gweithio o fewn ardal practis y contractwr yn ystod y cyfnod y rhoddir yr awdurdodiad ysgrifenedig hwnnw mewn cysylltiad ag ef.
(3) Pan fo’r contractwr wedi derbyn person y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo i’w restr o gleifion, rhaid i’r contractwr—
(a)sicrhau copi o gofnod meddygol y claf, neu grynodeb o’r cofnod hwnnw, gan y Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, a
(b)darparu diweddariadau rheolaidd i’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, fesul pa ysbeidiau bynnag y cytunwyd arnynt gyda’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, am unrhyw ofal a thriniaeth y mae’r contractwr wedi eu darparu i’r claf.
(4) Ar ddiwedd y cyfnod o 2 flynedd, neu ar unrhyw ddyddiad cynharach pan fydd cyfrifoldeb y contractwr am y claf wedi dod i ben, rhaid i’r contractwr—
(a)hysbysu’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn yn ysgrifenedig fod cyfrifoldeb y contractwr am y claf wedi dod i ben, a
(b)diweddaru cofnod meddygol y claf, neu grynodeb o’r cofnod hwnnw, a’i ddychwelyd i’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn.