ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract
RHAN 3Rhestr o gleifion: cau, etc.
Cymeradwyo cais am gau rhestr o gleifion 39
1
Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cymeradwyo cais am gau rhestr contractwr o gleifion, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
a
rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr am ei benderfyniad cyn gynted â phosibl a rhaid i’r hysbysiad (“yr hysbysiad cau”) gynnwys y manylion a bennir yn is-baragraff (2), a
b
yr un pryd ag y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi hysbysiad i’r contractwr, anfon copi o’r hysbysiad cau—
i
i’r Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract ynddi, a
ii
at unrhyw berson yr ymgynghorodd y Bwrdd Iechyd Lleol ag ef yn unol â pharagraff 38(8).
2
Rhaid i’r hysbysiad cau gynnwys—
a
y cyfnod o amser y mae rhestr y contractwr o gleifion i fod wedi ei chau, sy’n gorfod bod—
i
y cyfnod a bennir yn y cais, neu
ii
pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr wedi cytuno yn ysgrifenedig ar gyfnod gwahanol, y cyfnod gwahanol hwnnw, ac
yn y naill achos neu’r llall, ni chaiff y cyfnod fod yn llai na 12 wythnos nac yn fwy nag 1 flwyddyn,
b
y dyddiad y mae’r penderfyniad i gau’r rhestr o gleifion i gael effaith (“y dyddiad cau”), ac
c
y dyddiad y mae’r rhestr o gleifion i ailagor.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff 42, rhaid i gontractwr gau ei restr o gleifion o’r dyddiad cau ymlaen a rhaid i’r rhestr o gleifion aros ar gau drwy gydol y cyfnod cau fel y’i pennir yn yr hysbysiad cau.