ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract
RHAN 1Darparu gwasanaethau
Mynediad 4
1
Rhaid i’r contractwr—
a
bod â system ffonau ac iddi swyddogaeth recordio ar gyfer llinellau sy’n dod i mewn ac yn mynd allan, sy’n pentyrru galwadau ac sy’n caniatáu i ddata galwadau gael ei ddadansoddi,
b
bod â neges gyflwyno dros y ffôn wedi ei recordio’n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg nad yw’n para’n hwy na chyfanswm o 2 funud,
c
sicrhau bod cleifion a chartrefi gofal yn gallu archebu presgripsiynau amlroddadwy yn ddigidol,
d
drwy gydol yr oriau craidd, sicrhau bod cleifion yn gallu gofyn yn ddigidol am apwyntiad nad yw’n fater brys neu alwad yn ôl, a bod y trefniadau llywodraethu angenrheidiol yn eu lle ar gyfer y broses hon,
e
rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth, drwy adnodd ar-lein y practis, am—
i
y gofynion mynediad a bennir ym mharagraff 4 (y paragraff hwn), a
ii
y modd y gall cleifion—
aa
cael mynediad at wasanaethau’r contractwr, a
bb
gofyn am ymgynghoriad brys, ymgynghoriad rheolaidd ac ymgynghoriad pellach,
f
cynnig ymgynghoriad yr un diwrnod i—
i
plant o dan 16 oed sy’n ymgyflwyno â materion acíwt, a
ii
cleifion sydd wedi eu brysbennu’n glinigol fel rhai y mae arnynt angen asesiad brys,
g
cynnig apwyntiadau y gellir eu trefnu ymlaen llaw i ddigwydd yn ystod oriau craidd, ac
h
mynd ati’n weithredol i gyfeirio cleifion at wasanaethau priodol—
i
sydd ar gael oddi wrth aelodau clwstwr y contractwr,
ii
sydd wedi eu darparu neu eu comisiynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu
iii
sydd ar gael yn lleol neu’n genedlaethol.
2
Rhaid i’r contractwr hunanddatgan yn chwarterol fod y gofynion yn is-baragraff (1) wedi eu bodloni a bod yn barod, os gofynnir am hynny, i ddarparu’r dystiolaeth i’r Bwrdd Iechyd Lleol fel sy’n ofynnol.