ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract
RHAN 5Rhagnodi a gweinyddu
Archebion ar gyfer cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar 49
1
Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (4) ac i’r cyfyngiadau ar ragnodi ym mharagraffau 55 a 56, rhaid i ragnodydd archebu unrhyw gyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar y mae eu hangen ar gyfer trin unrhyw glaf sy’n cael triniaeth o dan y contract drwy—
a
dyroddi i’r claf ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig sydd wedi ei chwblhau neu wedi ei gwblhau yn unol ag is-baragraff (6), neu
b
creu a thrawsyrru presgripsiwn electronig o dan amgylchiadau y mae paragraff 50(1) yn gymwys iddynt,
ac ni chaniateir defnyddio ffurflen bresgripsiwn anelectronig, presgripsiwn amlroddadwy anelectronig na phresgripsiwn electronig sydd at ddefnydd y gwasanaeth iechyd o dan unrhyw amgylchiadau eraill.
2
Ar achlysur penodol pan fydd angen cyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar fel y crybwyllir yn is-baragraff (1)—
a
os yw’r rhagnodydd, yn ddi-oed, yn gallu archebu’r cyffur, y feddyginiaeth neu’r cyfarpar drwy gyfrwng presgripsiwn electronig,
b
os yw’r feddalwedd Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig y byddai’r rhagnodydd yn ei defnyddio at y diben hwnnw yn darparu ar gyfer creu a thrawsyrru presgripsiynau electronig heb fod angen gweinyddydd enwebedig, ac
c
os nad yw’r un o’r rhesymau dros ddyroddi ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig a roddir yn is-baragraff (3) yn gymwys,
rhaid i’r rhagnodydd greu a thrawsyrru presgripsiwn electronig ar gyfer y cyffur hwnnw, y feddyginiaeth honno neu’r cyfarpar hwnnw.
3
Y rhesymau a roddir yn yr is-baragraff hwn yw—
a
er bod y rhagnodydd yn gallu defnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, nid yw’r rhagnodydd wedi ei fodloni—
i
bod y mynediad sydd gan y rhagnodydd at y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn ddibynadwy, neu
ii
bod y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn gweithredu mewn modd dibynadwy,
b
bod y claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn rhoi gwybod i’r rhagnodydd bod y claf yn awyddus i gael yr opsiwn i’r presgripsiwn gael ei weinyddu yn rhywle arall heblaw yng Nghymru, neu
c
bod y claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn mynnu bod ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig yn cael ei dyroddi neu ei ddyroddi i’r claf ar gyfer presgripsiwn penodol ac, ym marn broffesiynol y rhagnodydd, fod lles y claf yn debygol o fod mewn perygl onid yw ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig yn cael ei dyroddi neu ei ddyroddi.
4
Rhaid i broffesiynolyn gofal iechyd archebu unrhyw wasanaethau ocsigen cartref y mae eu hangen ar gyfer trin unrhyw glaf sy’n cael triniaeth o dan y contract drwy ddyroddi ffurflen archebu ocsigen cartref.
5
Ni chaiff rhagnodydd archebu cyffuriau, meddyginiaeth na chyfarpar ar bresgripsiwn amlroddadwy ond pan fo’r cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar i’w darparu neu i’w ddarparu fwy nag unwaith.
6
Wrth ddyroddi ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig—
a
rhaid i’r rhagnodydd lofnodi’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy mewn inc yn llawysgrifen y rhagnodydd ei hun, ac nid drwy gyfrwng stamp, gyda phriflythrennau’r rhagnodydd, neu ei enwau cyntaf, a’i gyfenw, a
b
ni chaiff y rhagnodydd ond llofnodi’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy ar ôl i fanylion yr archeb gael eu mewnosod yn y ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.
7
Ni chaiff ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy gyfeirio at unrhyw ffurflen bresgripsiwn flaenorol na phresgripsiwn amlroddadwy blaenorol.
8
Rhaid defnyddio ffurflen bresgripsiwn ar wahân neu bresgripsiwn amlroddadwy ar wahân ar gyfer pob claf, ac eithrio pan ddyroddir swmp-bresgripsiwn ar gyfer ysgol neu sefydliad o dan baragraff 58.
9
Rhaid i ffurflen archebu ocsigen cartref gael ei llofnodi gan broffesiynolyn gofal iechyd.
10
Pan fo rhagnodydd yn archebu’r cyffur bwprenorffin neu deuasepam neu gyffur a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 200159 (cyffuriau a reolir y mae rheoliadau 14 i 16, 18 i 21, 23, 26 a 27 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt) i’w gyflenwi fesul rhanbresgripsiwn ar gyfer trin caethiwed i unrhyw gyffur a bennir yn yr Atodlen honno, rhaid i’r rhagnodydd—
a
defnyddio dim ond y ffurflen bresgripsiwn a ddarperir yn benodol at ddibenion cyflenwi fesul rhanbresgripsiwn,
b
pennu nifer y rhanbresgripsiynau sydd i’w gweinyddu, a’r ysbaid rhwng pob rhanbresgripsiwn, ac
c
archebu dim ond y swm hwnnw o’r cyffur a fydd yn darparu triniaeth ar gyfer cyfnod nad yw’n hwy na 14 o ddiwrnodau.
11
Ni chaniateir defnyddio’r ffurflen bresgripsiwn a ddarperir yn arbennig at ddiben cyflenwi fesul rhanbresgripsiwn at unrhyw ddiben arall heblaw archebu cyffuriau yn unol ag is-baragraff (10).
12
Mewn achos brys, ni chaiff rhagnodydd ond gofyn i fferyllydd GIG weinyddu cyffur neu feddyginiaeth cyn i ffurflen bresgripsiwn gael ei dyroddi neu ei chreu na chyn i bresgripsiwn amlroddadwy gael ei ddyroddi neu ei greu—
a
os nad yw’r cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno yn gyffur Atodlen,
b
os nad yw’r cyffur yn gyffur a reolir o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno), heblaw cyffur a bennir am y tro yn Rhan 1 o Atodlen 4 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 22, 23, 26 a 27) neu Atodlen 5 (cyffuriau a reolir sydd wedi eu heithrio o’r gwaharddiad ar fewnforio, allforio a bod ym meddiant ac sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 24 a 26) i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, ac
c
os yw’r rhagnodydd yn ymgymryd â’r canlynol—
i
darparu i’r fferyllydd GIG, o fewn 72 awr gan ddechrau â’r amser y gwneir y cais, ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig wedi ei chwblhau neu wedi ei gwblhau yn unol ag is-baragraff (6), neu
ii
trawsyrru presgripsiwn electronig drwy’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig o fewn 72 awr, gan ddechrau â’r amser y gwneir y cais.
13
Mewn achos brys, ni chaiff rhagnodydd ond gofyn i fferyllydd GIG weinyddu cyfarpar cyn i ffurflen bresgripsiwn gael ei dyroddi neu ei chreu na chyn i bresgripsiwn amlroddadwy gael ei ddyroddi neu ei greu—
a
os nad yw’r cyfarpar yn cynnwys cyffur Atodlen, na chyffur a reolir o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno), heblaw cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 (cyffuriau a reolir sydd wedi eu heithrio o’r gwaharddiad ar fewnforio, allforio a bod ym meddiant ac sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 24 a 26),
b
pan fo’r cyfarpar yn gyfarpar argaeledd cyfyngedig, os yw’r claf yn berson a bennir yn y Tariff Cyffuriau neu’r cyfarpar at ddiben a bennir yn y Tariff Cyffuriau, ac
c
os yw’r rhagnodydd yn ymgymryd â’r canlynol—
i
darparu i’r fferyllydd GIG, o fewn 72 awr, gan ddechrau â’r amser y gwneir y cais, ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig wedi ei chwblhau neu wedi ei gwblhau yn unol ag is-baragraff (6), neu
ii
trawsyrru presgripsiwn electronig drwy’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig o fewn 72 awr, gan ddechrau â’r amser y gwneir y cais.