ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract

RHAN 5Rhagnodi a gweinyddu

Presgripsiynau amlroddadwy

53.—(1Rhaid i ragnodydd sy’n dyroddi presgripsiwn amlroddadwy anelectronig ddyroddi’r nifer priodol o swpddyroddiadau yr un pryd.

(2Pan fo rhagnodydd am wneud newid i fath, swm, cryfder neu ddogn cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar a archebir ar bresgripsiwn amlroddadwy person, rhaid i’r rhagnodydd—

(a)yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig—

(i)rhoi hysbysiad i’r person, a

(ii)gwneud ymdrechion rhesymol i roi hysbysiad i’r fferyllydd GIG sy’n darparu gwasanaethau amlweinyddu i’r person hwnnw,

nad yw’r presgripsiwn amlroddadwy gwreiddiol i’w ddefnyddio mwyach i gael nac i ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, a gwneud trefniadau ar gyfer dyroddi presgripsiwn amlroddadwy newydd i’r person yn ei le, neu

(b)yn achos presgripsiwn amlroddadwy electronig—

(i)trefnu gyda’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig i ddileu’r presgripsiwn amlroddadwy gwreiddiol, a

(ii)creu presgripsiwn amlroddadwy newydd mewn cysylltiad â’r person yn ei le, a rhoi hysbysiad i’r person fod hyn wedi ei wneud.

(3Pan fo rhagnodydd wedi creu presgripsiwn amlroddadwy electronig ar gyfer person, rhaid i’r rhagnodydd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, drefnu gyda’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig i’w ganslo os yw’r rhagnodydd, cyn i’r presgripsiwn hwnnw ddod i ben—

(a)yn ystyried nad yw’n ddiogel neu’n briodol mwyach i’r person—

(i)cael y cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar sydd wedi eu harchebu neu wedi ei archebu ar bresgripsiwn amlroddadwy electronig y person, neu

(ii)parhau i gael gwasanaethau amlragnodi,

(b)wedi dyroddi presgripsiwn amlroddadwy anelectronig i’r person yn lle’r presgripsiwn amlroddadwy electronig, neu

(c)yn cael ei hysbysu bod y person y cafodd y presgripsiwn ei ddyroddi ar ei ran wedi cael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion.

(4Pan fo rhagnodydd wedi canslo presgripsiwn amlroddadwy electronig mewn cysylltiad â pherson yn unol ag is-baragraff (3), rhaid i’r rhagnodydd roi hysbysiad o’r canslo i’r person cyn gynted ag y bo modd.

(5Rhaid i ragnodydd sydd wedi dyroddi presgripsiwn amlroddadwy anelectronig mewn cysylltiad â pherson, cyn gynted ag y bo modd, wneud ymdrechion rhesymol i roi hysbysiad i’r fferyllydd GIG na chaniateir defnyddio’r presgripsiwn amlroddadwy hwnnw mwyach i ddarparu gwasanaethau amlweinyddu i’r person hwnnw os yw’r rhagnodydd, cyn i’r presgripsiwn amlroddadwy hwnnw ddod i ben,—

(a)yn ystyried nad yw’n ddiogel neu’n briodol mwyach i’r person—

(i)cael y cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar sydd wedi eu harchebu neu wedi ei archebu ar bresgripsiwn amlroddadwy y person, neu

(ii)parhau i gael gwasanaethau amlragnodi,

(b)yn dyroddi neu’n creu presgripsiwn amlroddadwy ychwanegol mewn cysylltiad â’r person i ddisodli’r presgripsiwn amlroddadwy gwreiddiol, ac eithrio o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff 2(a) (er enghraifft, oherwydd bod y person yn awyddus i gael y cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar gan fferyllydd GIG gwahanol), neu

(c)yn cael ei hysbysu bod y person y cafodd y presgripsiwn ei ddyroddi ar ei ran wedi cael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion.

(6Pan fo’r amgylchiadau yn is-baragraff 5(a) i (c) yn gymwys mewn cysylltiad â pherson, rhaid i’r rhagnodydd, cyn gynted ag y bo modd, roi hysbysiad i’r person hwnnw na chaniateir defnyddio ei bresgripsiwn amlroddadwy mwyach i gael gwasanaethau amlweinyddu.