ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract

RHAN 5Rhagnodi a gweinyddu

Rhagnodi ar gyfer amlweinyddu’n electronig 54

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau 49, 50, 52, a 53(2)(b) i (4), pan fo rhagnodydd yn archebu cyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar drwy gyfrwng presgripsiwn amlroddadwy electronig, rhaid i’r rhagnodydd ddyroddi’r presgripsiwn mewn fformat sy’n briodol ar gyfer amlweinyddu’n electronig pan fo’n briodol yn glinigol i wneud hynny ar gyfer y claf hwnnw ar yr achlysur hwnnw.

2

Yn y rheoliad hwn, ystyr “amlweinyddu’n electronig” yw gweinyddu fel rhan o wasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol sy’n ymwneud â darparu cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy electronig.