ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract

RHAN 5Rhagnodi a gweinyddu

Darparu gwasanaethau gweinyddu 60

1

Ni chaiff y contractwr ond darparu, a rhaid iddo sicrhau nad yw’r rhai sydd wedi eu cyflogi neu eu cymryd ymlaen ganddo ond yn darparu, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliadau Fferyllol.

2

Pan fo’r contractwr, neu berson sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan y contractwr, wedi ei gynnwys yn rhestr meddygon fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r contractwr sicrhau wrth ddarparu unrhyw wasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu fod y contractwr, a’r meddyg fferyllol (ac unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weinyddu ar ei ran o dan y Rheoliadau Fferyllol)—

a

yn cydymffurfio â’r telerau gwasanaeth sy’n gymwys i’r person sy’n darparu’r gwasanaethau fferyllol neu’r gwasanaethau gweinyddu hynny yn rhinwedd rheoliad 12(2) o’r Rheoliadau Fferyllol, a

b

yn sicrhau bod y claf y mae’n bwriadu darparu’r gwasanaethau hynny iddo yn ymwybodol nad oddi wrtho ef yn unig (neu oddi wrth berson y mae’r contractwr yn gysylltiedig ag ef) y mae’r cyffuriau neu’r cyfarpar perthnasol ar gael a bod gan y claf yr opsiwn i gael y cyffuriau neu’r cyfarpar hynny oddi wrth unrhyw fferyllydd GIG.