ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract

RHAN 6Personau sy’n cyflawni gwasanaethau

Lefel sgiliau a chydymffurfedd â llwybrau

74.  Rhaid i’r contractwr wneud y canlynol, a rhaid iddo sicrhau bod y rhai y mae’n eu cyflogi neu’n eu cymryd ymlaen yn gwneud y canlynol—

(a)cyflawni rhwymedigaethau’r contractwr o dan y contract â gofal a sgìl rhesymol, a

(b)ystyried cymhwyso llwybrau cyflwr cenedlaethol sy’n berthnasol ar gyfer pob claf.