ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract
RHAN 8Cofnodion, gwybodaeth, hysbysiadau a hawliau mynediad
Gwybodaeth ynglŷn â dangosyddion nad ydynt yn y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd mwyach 87
1
Rhaid i gontractwr ganiatáu i’r Bwrdd Iechyd Lleol dynnu o systemau clinigol cyfrifiadurol y contractwr yr wybodaeth a bennir yn y tabl isod (Dangosyddion sydd wedi eu symud o’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd) ar ba ysbeidiau bynnag yn ystod pob blwyddyn ariannol a hysbysir i’r contractwr gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
2
Rhaid i gontractwr—
a
sefydlu a chynnal y cofrestrau a bennir yn y dangosyddion clinigol a restrir yn y golofn “Disgrifiad y Dangosydd” yn y tabl isod (Dangosyddion sydd wedi eu symud o’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd),
b
pan fo dangosydd yn pennu ystadegyn penodol, gofnodi’r data cysylltiedig yr un pryd fel rhan o’r gwaith o reoli clefydau cronig, ac
c
pan fo’r dangosydd yn pennu gofyniad neu weithgaredd penodol, gofnodi’n barhaus fanylion cydymffurfedd y contractwr ag unrhyw ofynion neu weithgareddau o’r fath.
Rhif adnabod y Dangosydd | Disgrifiad y Dangosydd |
---|---|
AF001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â ffibriliad atrïaidd |
CHD001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â chlefyd coronaidd y galon |
HF001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â methiant y galon |
HYP001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â gorbwysedd sefydledig |
STIA001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â strôc neu bwl o isgemia dros dro |
DM001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o’r holl gleifion 17 oed neu drosodd sydd â diabetes mellitus, sy’n pennu’r math o ddiabetes pan fo diagnosis wedi ei gadarnhau |
AST001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd ag asthma, ac eithrio cleifion ag asthma sydd heb gael presgripsiwn ar gyfer unrhyw gyffuriau sy’n gysylltiedig ag asthma yn ystod y 12 mis blaenorol |
COPD001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â COPD |
DEM001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd wedi cael diagnosis dementia |
MH001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â sgitsoffrenia, anhwylder affeithiol deubegynol a seicosisau eraill a chleifion eraill ar therapi lithiwm |
CAN001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o’r holl gleifion canser a ddiffinnir fel ‘cofrestr o gleifion sydd â diagnosis o ganser ac eithrio canserau anfelanotig y croen y cafwyd diagnosis ar eu cyfer ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003’ |
EP001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion 18 oed neu drosodd sy’n cael triniaeth gyffuriau ar gyfer epilepsi |
LD001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd ag anableddau dysgu |
OST001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion— 1. 50 oed neu drosodd ac sydd heb gyrraedd 75 oed sydd â chofnod o dorasgwrn oherwydd breuder ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 a diagnosis o osteoporosis wedi ei gadarnhau ar sgan DXA, a 2. 75 oed neu drosodd sydd â chofnod o dorasgwrn oherwydd breuder ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 |
RA001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion 16 oed neu drosodd sydd ag arthritis gwynegol |
PC001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o’r holl gleifion y mae arnynt angen gofal/cymorth lliniarol ni waeth beth fo’u hoedran |
OB001 | Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion 16 oed neu drosodd sydd â BMI o 30 yn y 15 mis blaenorol. |
AF006 | Canran y cleifion â ffibriliad atrïaidd y mae’r risg o strôc wedi ei hasesu ynddynt gan ddefnyddio system sgorio pennu lefel risg CHA2DS2-VASx yn y 3 blynedd blaenorol (ac eithrio’r cleifion hynny sydd â sgôr CHADS2 neu CHA2DS2-VASc flaenorol o 2 neu ragor) ac y mae cofnod wedi ei wneud o gwnsela ynghylch risgiau a buddion therapi gwrthgeulo |
AF007 | Yn y cleifion hynny â ffibriliad atrïaidd sydd â chofnod o sgôr CHA2DS2-VASc o 2 neu ragor, canran y cleifion sy’n cael eu trin â therapi cyffuriau gwrthgeulo ar hyn o bryd |
DM002 | Canran y cleifion â diabetes, ar y gofrestr, y mae’r darlleniad diweddaraf ar gyfer pwysedd eu gwaed (wedi ei fesur yn y 15 mis blaenorol) yn 150/90 mmHg neu lai |
DM003 | Canran y cleifion â diabetes, ar y gofrestr, y mae’r darlleniad diweddaraf ar gyfer pwysedd eu gwaed (wedi ei fesur yn y 15 mis blaenorol) yn 140/80 mmHg neu lai |
DM007 | Canran y cleifion â diabetes, ar y gofrestr, lle y mae’r IFCC-HbA1c diweddaraf yn 59 mmol/mol neu lai yn y 15 mis blaenorol |
DM012 | Canran y cleifion â diabetes, ar y gofrestr, sydd â chofnod o archwiliad traed a dosbarthiad risg; 1) risg isel (teimlad normal, pwls teimladwy), 2) risg uwch (niwropathi neu bwls absennol), 3) risg uchel (niwropathi neu bwls absennol ynghyd ag anffurfiad neu newidiadau croen mewn wlser blaenorol) neu 4) troed wlseraidd o fewn y 15 mis blaenorol |
DM014 | Canran y cleifion sydd newydd gael diagnosis diabetes, ar y gofrestr, yn y cyfnod blaenorol rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth sydd â chofnod o gael eu hatgyfeirio at raglen addysg strwythuredig o fewn 9 mis ar ôl cael eu cofnodi ar y gofrestr diabetes |
COPD003 | Canran y cleifion â COPD sydd wedi cael adolygiad, a gynhaliwyd gan broffesiynolyn gofal iechyd, gan gynnwys asesiad o ddiffyg anadl gan ddefnyddio graddfa dyspnoea y Cyngor Ymchwil Feddygol yn y 15 mis blaenorol |
MH011W | Canran y cleifion â sgitsoffrenia, anhwylder affeithiol deubegynol a seicosisau eraill sydd â chofnod o bwysedd gwaed, BMI, statws ysmygu ac yfed alcohol yn y 15 mis blaenorol ac yn ychwanegol yn achos y rhai 40 oed neu drosodd, cofnod o glwcos yn y gwaed neu HbA1c yn y 15 mis blaenorol |
PC002W | Mae’r contractwr yn cael cyfarfodydd adolygu achosion amlddisgyblaeth rheolaidd (o leiaf bob 2 fis) pan fo trafodaeth ar bob claf sydd ar y gofrestr gofal lliniarol |
FLU001W | Canran y boblogaeth gofrestredig 65 oed neu drosodd sydd wedi cael imiwneiddiad rhag y ffliw yn y cyfnod blaenorol rhwng 1 Awst a 31 Mawrth |
FLU002W | Canran y cleifion o dan 65 oed a gynhwyswyd ar (unrhyw un neu ragor o’r) cofrestrau ar gyfer CHD, COPD, diabetes neu strôc sydd wedi cael imiwneiddiad rhag y ffliw yn y cyfnod blaenorol rhwng 1 Awst a 31 Mawrth |