ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract
RHAN 8Cofnodion, gwybodaeth, hysbysiadau a hawliau mynediad
Hysbysu am farwolaethau 98
1
Rhaid i’r contractwr gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol am farwolaeth unrhyw glaf yn ei fangre practis, heb fod yn hwyrach na diwedd y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y dyddiad y digwyddodd y farwolaeth.
2
Rhaid i’r adroddiad gynnwys—
a
enw llawn y claf,
b
rhif Gwasanaeth Iechyd Gwladol y claf pan fo’n hysbys,
c
dyddiad a lleoliad marwolaeth y claf,
d
disgrifiad byr o amgylchiadau marwolaeth y claf, fel y maent yn hysbys,
e
enw unrhyw ymarferydd meddygol neu berson arall a oedd yn trin y claf tra oedd y claf ar fangre practis y contractwr, ac
f
enw unrhyw berson arall, pan fo’n hysbys, a oedd yn bresennol adeg marwolaeth y claf.
3
Rhaid i’r contractwr anfon copi o’r adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) at unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall yr oedd yr ymadawedig yn preswylio yn ei ardal adeg ei farwolaeth.