ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract

RHAN 12Amrywiol

Llywodraethu clinigol 128

1

Rhaid i’r contractwr gael system effeithiol o lywodraethu clinigol ar waith sy’n cynnwys gweithdrefnau gweithredu safonol priodol mewn perthynas â rheoli a defnyddio cyffuriau a reolir.

2

Rhaid i’r contractwr enwebu person sydd â chyfrifoldeb am sicrhau bod y system llywodraethu clinigol yn cael ei gweithredu’n effeithiol.

3

Rhaid i’r contractwr ymgymryd â thrafodaethau ac adolygiadau gan gymheiriaid ar ddigwyddiadau clinigol sydd wedi digwydd yn y practis a’r gwasanaethau lleol.

4

Mae elfennau’r ‘system llywodraethu clinigol’ yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, fod y contractwr—

a

yn ymgymryd â’r canlynol bob blwyddyn erbyn 31 Mawrth—

i

yr Offeryn Hunanasesu Practisau ar gyfer Llywodraethu Clinigol, a

ii

y Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth,

ac yn cyflwyno tystiolaeth ei fod wedi eu cwblhau i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ar gais, a

b

yn cydymffurfio â’r Fframwaith Sicrwydd ac â defnydd y Bwrdd Iechyd Lleol o’r Fframwaith Sicrwydd hwnnw mewn perthynas â’r contractwr.

5

Rhaid i’r person a enwebir o dan is-baragraff (2) fod yn berson sy’n cyflawni gwasanaethau o dan y contract neu’n rheoli’r cyflawni hwnnw.

6

Yn y paragraff hwn—

  • mae i “cyffuriau a reolir” (“controlled drugs”) yr ystyr a roddir i “controlled drugs” yn adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno);

  • ystyr “system llywodraethu clinigol” (“system of clinical governance”) yw fframwaith y mae’r contractwr yn ymdrechu’n barhaus drwyddo i wella ansawdd ei wasanaethau ac i ddiogelu safonau gofal uchel drwy greu amgylchedd y gall rhagoriaeth glinigol ffynnu ynddo.

Cydweithredu ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru 129

Rhaid i’r contractwr gydweithredu ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru pan fo Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cyflawni swyddogaethau y mae Gweinidogion Cymru wedi ei gyfarwyddo i’w harfer—

a

sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau o dan Ran 4 o’r Ddeddf, neu

b

sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi eu cyflogi neu eu cymryd ymlaen, neu sy’n ystyried dod yn gyflogedig neu’n ystyried cael eu cymryd ymlaen, mewn unrhyw weithgaredd sy’n ymwneud neu sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau o dan Ran 4 o’r Ddeddf.

Yswiriant 130

1

Rhaid i’r contractwr gael trefniant indemniad mewn grym bob amser mewn perthynas ag ef ei hun sy’n darparu yswiriant priodol o dan y contract.

2

Ni chaiff y contractwr is-gontractio ei rwymedigaethau i ddarparu gwasanaethau clinigol o dan y contract oni bai ei fod wedi ei fodloni ei hun bod gan yr is-gontractwr drefniant indemniad ar waith mewn perthynas ag ef ei hun sy’n darparu yswiriant priodol.

3

Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn rhesymol ac i’r graddau y gellir ei ad-dalu yn unol â’r Cynllun Esgeuluster Clinigol ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd gan reoliad 3 o Reoliadau 2019, indemnio’r contractwr mewn perthynas ag atebolrwyddau cymwys y contractwr hwnnw fel y’u pennir yn rheoliad 9(4) o Reoliadau 2019, ar yr amod—

a

bod y contractwr yn cydymffurfio â phrotocol rheoli hawliadau’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer contractwyr (fel y’i diwygir o dro i dro), a

b

nad oes gan y contractwr unrhyw drefniant indemniad arall mewn grym mewn cysylltiad â gwasanaethau clinigol y mae’r contractwr yn eu darparu o dan y contract ar yr adeg y cododd yr atebolrwydd cymwys.

4

At ddibenion y paragraff hwn, bernir bod gan gontractwr drefniant indemniad ar waith mewn perthynas ag ef ei hun—

a

os oes trefniant indemniad mewn grym mewn perthynas â pherson a gyflogir neu a gymerir ymlaen ganddo mewn cysylltiad â gwasanaethau clinigol y mae’r person hwnnw’n eu darparu o dan y contract neu, yn ôl y digwydd, is-gontract, neu

b

ar gyfer ei atebolrwyddau cymwys a bennir yn rheoliad 9(4) o Reoliadau 2019, i’r graddau y darperir ar eu cyfer o dan is-baragraff (3).

5

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “Rheoliadau 2019” (“the 2019 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 201981;

  • ystyr “trefniant indemniad” (“indemnity arrangement”) yw contract yswiriant neu drefniant arall a wneir at ddiben indemnio’r contractwr;

  • ystyr “yswiriant priodol” (“appropriate cover”) yw yswiriant rhag atebolrwyddau y gall y contractwr fynd iddynt wrth gyflawni gwasanaethau clinigol o dan y contract, sy’n briodol, o roi sylw i natur a maint y risgiau wrth gyflawni’r gwasanaethau hynny.

Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus 131

Rhaid i’r contractwr bob amser ddal yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol mewn perthynas ag atebolrwyddau tuag at drydydd partïon sy’n codi o dan y contract neu mewn cysylltiad â’r contract ac nad ydynt yn dod o dan y trefniant indemniad y cyfeirir ato ym mharagraff 130.

Rhoddion 132

1

Rhaid i’r contractwr gadw cofrestr o roddion—

a

a roddir i unrhyw un neu ragor o’r personau a bennir yn is-baragraff (2) gan neu ar ran—

i

claf,

ii

perthynas i glaf, neu

iii

unrhyw berson a ddarparodd wasanaethau neu sy’n dymuno darparu gwasanaethau i’r contractwr neu ei gleifion mewn cysylltiad â’r contract, a

b

sydd â gwerth unigol o fwy na £100.00, ym marn resymol y contractwr.

2

Y personau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

a

y contractwr,

b

pan fo’r contract yn gontract gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth, unrhyw bartner,

c

pan fo’r contract yn gontract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—

i

unrhyw berson sy’n dal cyfran yn y cwmni yn gyfreithiol neu’n llesiannol, neu

ii

cyfarwyddwr neu ysgrifennydd i’r cwmni,

d

unrhyw berson a gyflogir gan y contractwr at ddibenion y contract,

e

unrhyw ymarferydd meddygol cyffredinol a gymerir ymlaen gan y contractwr at ddibenion y contract,

f

unrhyw briod neu bartner sifil i gontractwr (pan fo’r contractwr yn ymarferydd meddygol unigol) neu i berson a bennir ym mharagraffau (b) i (e), neu

g

unrhyw berson y mae gan ei berthynas â chontractwr (pan fo’r contractwr yn ymarferydd meddygol unigol) neu â pherson a bennir ym mharagraffau (b) i (e) nodweddion y berthynas rhwng dau briod.

3

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys—

a

pan fo seiliau rhesymol dros gredu nad yw’r rhodd yn gysylltiedig â gwasanaethau a ddarparwyd neu sydd i’w darparu gan y contractwr,

b

pan na fo’r contractwr yn ymwybodol o’r rhodd, neu

c

pan na fo’r contractwr yn ymwybodol bod y rhoddwr yn dymuno darparu gwasanaethau i’r contractwr neu ei gleifion.

4

Rhaid i’r contractwr gymryd camau rhesymol i sicrhau ei fod yn cael gwybod am roddion sy’n dod o fewn is-baragraff (1) ac a roddir i’r personau a bennir yn is-baragraff (2)(b) i (g).

5

Rhaid i’r gofrestr y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

a

enw’r rhoddwr,

b

mewn achos pan fo’r rhoddwr yn glaf, rhif Gwasanaeth Iechyd Gwladol y claf neu, os nad yw’r rhif yn hysbys, gyfeiriad y claf,

c

mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad y rhoddwr,

d

natur y rhodd,

e

amcangyfrif o werth y rhodd, ac

f

enw’r person neu’r personau a dderbyniodd y rhodd.

6

Rhaid i’r contractwr drefnu bod y gofrestr ar gael i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gais.

Y Ddeddf Llwgrwobrwyo 133

1

Ni chaiff y contractwr gyflawni unrhyw weithred waharddedig.

2

Os yw’r contractwr neu ei gyflogeion neu ei asiantau (neu unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran neu ar eu rhan) yn cyflawni unrhyw weithred waharddedig mewn perthynas â’r contract drwy wybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol neu yn ddiarwybod iddo, mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth—

a

i arfer ei hawl i derfynu o dan baragraff 119 ac i adennill oddi ar y contractwr swm unrhyw golled sy’n deillio o’r terfyniad,

b

i adennill swm neu werth unrhyw rodd, cydnabyddiaeth neu gomisiwn o dan sylw oddi ar y contractwr, ac

c

i adennill oddi ar y contractwr unrhyw golled neu draul a gafwyd o ganlyniad i gyflawni’r weithred waharddedig neu gyflawni’r drosedd.

Hysbysebu gwasanaethau preifat 134

Rhaid i gontractwr sy’n cynnig gwasanaethau preifat, nad ydynt ar gael i gleifion drwy’r GIG, hysbysebu’r gwasanaethau preifat hynny yn glir ac ar wahân i’r gwasanaethau sydd ar gael o dan y contract.

Cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau 135

Rhaid i’r contractwr gydymffurfio (a rhaid i’r contractwr sicrhau bod y rhai y mae’n eu cyflogi neu’n eu cymryd ymlaen yn cydymffurfio)—

a

â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, a

b

â’r holl ganllawiau a chodau ymarfer perthnasol a ddyroddir o bryd i’w gilydd gan—

i

y Bwrdd Iechyd Lleol, Gweinidogion Cymru neu awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf, neu

ii

unrhyw gorff rheoleiddio neu oruchwylio.

2

Rhaid i’r contractwr ddarparu’r gwasanaethau o dan y contract mewn modd sy’n cynorthwyo’r Bwrdd Iechyd Lleol i gydymffurfio â’r Safonau Iechyd a Gofal a’r Canllawiau ar y Ddyletswydd Ansawdd sy’n gosod y safonau hynny.

Hawliau trydydd parti 136

Ni chaiff y contract greu unrhyw hawl a all gael ei gorfodi gan unrhyw berson nad yw’n barti iddo.