Search Legislation

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 8Cofnodion, gwybodaeth, hysbysiadau a hawliau mynediad

Cofnodion cleifion

78.—(1Rhaid i’r contractwr gadw cofnodion digonol o’r sylw a rydd i’w gleifion a’i driniaeth o’i gleifion a rhaid iddo wneud hynny—

(a)ar ffurflenni a gyflenwir iddo at y diben gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu

(b)gyda chydsyniad ysgrifenedig y Bwrdd Iechyd Lleol, drwy gyfrwng cofnodion cyfrifiadur,

neu mewn cyfuniad o’r ddwy ffordd hyn.

(2Rhaid i’r contractwr gynnwys yn y cofnodion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) adroddiadau clinigol a anfonir yn unol â pharagraff 10 neu oddi wrth unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd arall sydd wedi darparu gwasanaethau clinigol i berson ar ei restr o gleifion.

(3Ni chaniateir i gydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n ofynnol o dan is-baragraff (1)(b) gael ei gadw’n ôl na’i dynnu’n ôl ar yr amod bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni, ac yn parhau i fod wedi ei fodloni—

(a)bod y gwasanaethau digidol Meddygon Teulu y mae’r contractwr yn bwriadu cadw’r cofnodion arnynt yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Cytundeb Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Systemau a Gwasanaethau Clinigol Meddygon Teulu yng Nghymru,

(b)bod y mesurau diogelwch a’r swyddogaethau archwilio a rheoli systemau sydd wedi eu hymgorffori yn y gwasanaethau digidol Meddygon Teulu yn cydymffurfio â’r Cytundeb Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Systemau a Gwasanaethau Clinigol Meddygon Teulu yng Nghymru ac wedi eu galluogi, ac

(c)bod y contractwr yn ymwybodol o’r canllawiau sydd wedi eu cynnwys yn “The Good Practice Guidelines for GP electronic patient records (Version 4)” a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2011 ac wedi llofnodi ymgymeriad bod rhaid iddo roi sylw i’r canllawiau hynny.

(4Pan fo cofnodion cleifion y contractwr yn gofnodion cyfrifiadurol, rhaid i’r contractwr, cyn gynted â phosibl yn dilyn cais gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ganiatáu i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyrchu’r wybodaeth a gofnodwyd ar y system gyfrifiadur y cedwir y cofnodion hynny arni drwy’r swyddogaeth archwilio y cyfeirir ati yn is-baragraff (3)(b) i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol gadarnhau bod y swyddogaeth archwilio wedi ei galluogi ac yn gweithredu’n gywir.

(5Pan fo claf ar restr y contractwr o gleifion yn marw, rhaid i’r contractwr anfon y cofnodion cyflawn sy’n ymwneud â’r claf hwnnw i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)mewn achos pan hysbyswyd y contractwr gan y Bwrdd Iechyd Lleol am farwolaeth y claf hwnnw, cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y contractwr ei hysbysu felly, neu

(b)mewn unrhyw achos arall, cyn diwedd y cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y contractwr wybod am farwolaeth y claf hwnnw.

(6Pan fo claf ar restr contractwr o gleifion wedi cofrestru gyda darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol arall a bod y contractwr yn cael cais gan y darparwr hwnnw am y cofnodion cyflawn sy’n ymwneud â’r claf hwnnw, rhaid i’r contractwr, cyn gynted ag y bo modd, a pha un bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cael y cais oddi wrth y darparwr, anfon at y darparwr hwnnw y cofnodion cyflawn (heblaw unrhyw ran a ddelir ar bapur yn unig), drwy’r cyfleuster GP2GP yn unol â pharagraff 80 ac anfon i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)y cofnodion cyflawn, neu unrhyw ran o’r cofnodion, a anfonwyd drwy’r cyfleuster GP2GP yn unol â pharagraff 80 nad yw’r contractwr yn cael cadarnhad eu bod wedi eu trosglwyddo’n ddiogel ac effeithiol trwy’r cyfleuster hwnnw, a

(b)unrhyw ran o’r cofnodion a gedwir gan y contractwr ar bapur yn unig.

(7O ran claf ar restr contractwr o gleifion—

(a)pan fo’r claf yn cael ei ddileu o’r rhestr honno ar gais y claf hwnnw o dan baragraff 28, neu am fod unrhyw un neu ragor o baragraffau 29 i 36 wedi eu cymhwyso, a

(b)pan nad yw’r contractwr wedi cael cais gan ddarparwr arall gwasanaethau meddygol y mae’r claf hwnnw wedi cofrestru gydag ef am drosglwyddo’r cofnodion cyflawn sy’n ymwneud â’r claf hwnnw,

rhaid i’r contractwr anfon copi o’r cofnodion hynny i’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(8Pan fo cyfrifoldeb contractwr am glaf yn terfynu yn unol â pharagraff 37, rhaid i’r contractwr anfon unrhyw gofnodion yn ymwneud â’r claf hwnnw sydd ganddo—

(a)os yw’n hysbys, at y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf hwnnw wedi cofrestru gydag ef, neu

(b)ym mhob achos arall, i’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(9At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “cyfleuster GP2GP” yr un ystyr ag yn is-baragraff (2) o baragraff 80.

(10I’r graddau y mae cofnodion claf yn gofnodion cyfrifiadurol, mae’r contractwr yn cydymffurfio ag is-baragraffau (5), (7) neu (8) os yw’n anfon copi o’r cofnodion hynny i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)ar ffurf ysgrifenedig, neu

(b)gyda chydsyniad ysgrifenedig y Bwrdd Iechyd Lleol ar unrhyw ffurf arall.

(11Ni chaniateir i gydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i drawsyrru gwybodaeth heblaw ar ffurf ysgrifenedig at ddibenion is-baragraff (10)(b) gael ei gadw’n ôl na’i dynnu’n ôl ar yr amod ei fod wedi ei fodloni, ac yn parhau i fod wedi ei fodloni, ynglŷn â’r materion a ganlyn—

(a)cynigion y contractwr ynghylch sut y mae’r cofnod i gael ei drawsyrru,

(b)cynigion y contractwr ynghylch fformat y cofnod a drawsyrrir,

(c)sut y mae’r contractwr i sicrhau bod y cofnod sy’n dod i law’r Bwrdd Iechyd Lleol yn union yr un fath â’r hyn a drawsyrrir, a

(d)sut y gall copi ysgrifenedig o’r cofnod gael ei lunio gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(12Ni chaiff contractwr y mae ei gofnodion cleifion yn gofnodion cyfrifiadurol analluogi, na cheisio analluogi, naill ai’r mesurau diogelwch na’r swyddogaethau archwilio a rheoli systemau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b).

(13Yn y rheoliad hwn, ystyr “cofnodion cyfrifiadurol” yw cofnodion a grëir drwy gyfrwng eitemau ar gyfrifiadur.

Cofnod Meddyg Teulu Cymru

79.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gontractwr, mewn unrhyw achos pan fo newid yn yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yng nghofnod meddygol claf, alluogi gwybodaeth gryno i gael ei hadalw yn awtomatig o Gofnod Meddyg Teulu Cymru ac Ap GIG Cymru, pan fydd y newid yn digwydd, gan ddefnyddio systemau a gymeradwywyd a ddarperir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Rhaid bod galluogi gwybodaeth gryno i gael ei hadalw yn awtomatig o Gofnod Meddyg Teulu Cymru at ddefnydd clinigol.

(3Yn y rheoliad hwn—

ystyr “Ap GIG Cymru” (“NHS Wales App”) yw’r system a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar gyfer cyrchu a rheoli apwyntiadau iechyd, presgripsiynau a manylion personol;

ystyr “Cofnod Meddyg Teulu Cymru” (“Welsh GP Record”) yw’r system a gymeradwywyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer adalw, storio ac arddangos yn awtomataidd ddata cleifion sy’n ymwneud â meddyginiaethau, alergeddau, adweithiau niweidiol a, pan gytunir â’r contractwr ac yn ddarostyngedig i gydsyniad y claf, unrhyw ddata arall a gymerir o gofnod electronig y claf;

ystyr “gwybodaeth gryno” (“summary information”) yw eitemau o ddata cleifion sy’n ffurfio Cofnod Meddyg Teulu Cymru.

Trosglwyddo cofnodion cleifion yn electronig rhwng practisau ymarfer cyffredinol

80.—(1Rhaid i gontractwr ddefnyddio’r cyfleuster o’r enw “GP2GP” i drosglwyddo unrhyw gofnodion cleifion yn ddiogel ac yn effeithiol—

(a)mewn achos pan fo claf newydd yn cofrestru gyda phractis y contractwr, i bractis y contractwr o bractis darparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol (os oes un) y cofrestrwyd y claf gydag ef o’r blaen, neu

(b)mewn achos pan fo’r contractwr yn cael cais gan ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf wedi cofrestru gydag ef, er mwyn ymateb i’r cais hwnnw.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfleuster GP2GP” yw’r cyfleuster a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol i bractis contractwr sy’n galluogi cofnodion iechyd electronig claf cofrestredig a ddelir ar systemau clinigol cyfrifiadurol practis contractwr i gael eu trosglwyddo’n electronig yn ddiogel ac yn uniongyrchol i ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf wedi cofrestru gydag ef.

(3Nid yw gofynion y paragraff hwn yn gymwys yn achos preswylydd dros dro.

Gohebiaeth glinigol: gofyniad bod rhaid cael rhif GIG

81.—(1Rhaid i gontractwr gynnwys rhif GIG claf cofrestredig fel y prif ddynodydd ym mhob gohebiaeth glinigol sy’n ymwneud â’r claf hwnnw a ddyroddir gan y contractwr .

(2Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan na fo’n bosibl i’r contractwr, o dan amgylchiadau eithriadol y tu hwnt i reolaeth y contractwr, ganfod rhif GIG y claf.

(3Yn y paragraff hwn—

ystyr “gohebiaeth glinigol” (“clinical correspondence”) yw pob gohebiaeth ysgrifenedig, pa un ai ar ffurf electronig neu fel arall, rhwng y contractwr a darparwyr gwasanaethau iechyd eraill ynghylch sylw i gleifion a thrin cleifion ym mangre practis neu yn deillio o hynny, gan gynnwys atgyfeiriadau a wneir drwy lythyr neu drwy unrhyw ddull arall;

ystyr “rhif GIG” (“NHS number”), mewn perthynas â chlaf cofrestredig, yw’r rhif, a ffurfir o ddeg digid rhifol, sy’n gwasanaethu fel y dynodydd unigryw gwladol a ddefnyddir at ddiben rhannu gwybodaeth yn ddiogel, yn gywir ac yn effeithlon ynglŷn â’r claf hwnnw ar draws y gwasanaeth iechyd cyfan yng Nghymru.

Defnyddio peiriannau ffacs

82.—(1Pan fo contractwr yn gallu trawsyrru gwybodaeth yn ddiogel ac yn uniongyrchol drwy ddulliau electronig heblaw trawsyriad ffacsimili, ni chaiff y contractwr—

(a)trawsyrru gwybodaeth i berson perthnasol drwy drawsyriad ffacsimili, na

(b)cytuno i dderbyn unrhyw wybodaeth oddi wrth berson perthnasol drwy drawsyriad ffacsimili.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i wybodaeth sy’n ymwneud yn unig â chlaf o dan drefniant preifat i ddarparu gwasanaethau clinigol neu driniaeth glinigol.

(3Yn y paragraff hwn ystyr “person perthnasol” yw—

(a)corff GIG,

(b)darparwr arall gwasanaethau iechyd,

(c)claf, neu

(d)person yn gweithredu ar ran claf.

Cyfrinachedd data personol: person a enwebir

83.  Rhaid i’r contractwr enwebu person sydd â chyfrifoldeb am arferion a gweithdrefnau ynglŷn â chyfrinachedd data personol a ddelir ganddo.

Darparu gwybodaeth i gleifion

84.—(1Rhaid i’r contractwr—

(a)bod ag adnodd ar-lein,

(b)darparu’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 4 yn ddigidol ar adnodd ar-lein y practis a sicrhau bod taflen ysgrifenedig y practis ar gael hefyd, sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 4,

(c)adolygu’r wybodaeth a ddarperir ym mharagraffau (a) a (b) o leiaf unwaith y flwyddyn, a

(d)gwneud ei gleifion a’i ddarpar gleifion yn ymwybodol o’r wybodaeth a gynhwysir ar adnodd ar-lein ei bractis neu sut y gallant gyrchu’r wybodaeth hon ar daflen ysgrifenedig y practis.

(2Rhaid i’r contractwr wneud unrhyw ddiwygiadau sy’n angenrheidiol i gynnal cywirdeb yr wybodaeth ar ei adnodd ar-lein yn dilyn—

(a)adolygiad o dan is-baragraff (1)(c),

(b)newid—

(i)yng nghyfeiriad unrhyw un neu ragor o fangreoedd practis y contractwr,

(ii)yn rhif ffôn y contractwr,

(iii)yng nghyfeiriad post electronig y contractwr (os trefnir bod hwnnw ar gael ar ei adnodd ar-lein), neu

(iv)mewn unrhyw ddull arall y dywedir y caiff claf gysylltu â’r contractwr drwyddo er mwyn trefnu neu ddiwygio apwyntiad, neu er mwyn archebu presgripsiynau amlroddadwy ar gyfer cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar.

Darparu gwybodaeth (neu fynediad at wybodaeth) ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol

85.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i’r contractwr, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol, ddangos i’r Bwrdd Iechyd Lleol neu i berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu ganiatáu i’r Bwrdd Iechyd Lleol neu i berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig ganddo, gael mynediad at—

(a)unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddibenion y contract neu mewn cysylltiad ag ef, a

(b)unrhyw wybodaeth arall sy’n rhesymol ofynnol mewn cysylltiad â swyddogaethau’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Nid yw’n ofynnol i’r contractwr gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir yn unol ag is-baragraff (1) oni bai ei fod wedi ei wneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â chyfarwyddydau sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth gan gontractwyr a roddir iddo gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o’r Ddeddf.

(3Rhaid i’r contractwr ddangos yr wybodaeth y gofynnwyd amdani, neu, yn ôl y digwydd, ganiatáu mynediad i’r Bwrdd Iechyd Lleol at yr wybodaeth honno—

(a)erbyn dyddiad y cytunir arno fel dyddiad rhesymol rhwng y contractwr a’r Bwrdd Iechyd Lleol, neu

(b)yn absenoldeb cytundeb o’r fath, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y gwneir y cais.

Archwiliadau clinigol a’r Adnodd Data Cenedlaethol

86.—(1Rhaid i gontractwr gofnodi a chaniatáu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gael mynediad at unrhyw ddata sy’n ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddibenion Rhaglen Archwiliadau Clinigol Cenedlaethol ac Adolygu Canlyniadau Clinigol GIG Cymru yn unol â pharagraff (2).

(2Rhaid i’r data y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) gael eu codio’n briodol gan y contractwr gan ddefnyddio codio safonedig a’u huwchlwytho i systemau clinigol cyfrifiadurol y contractwr yn unol â gofynion canllawiau a gyhoeddir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru at y dibenion hyn.

(3Rhaid i’r contractwr ganiatáu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru dynnu data ar lefel cleifion at ddiben cynnal archwiliadau clinigol a gynhwysir yn y Rhaglen Archwiliadau Clinigol Cenedlaethol ac Adolygu Canlyniadau Clinigol i ategu’r gwaith o reoli’r system iechyd a gofal.

(4Rhaid i gontractwyr ystyried data ar lefel y practis o archwiliadau clinigol cenedlaethol a chymryd camau perthnasol a chymesur i leihau unrhyw amrywiad arwyddocaol a diangen a nodir.

Gwybodaeth ynglŷn â dangosyddion nad ydynt yn y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd mwyach

87.—(1Rhaid i gontractwr ganiatáu i’r Bwrdd Iechyd Lleol dynnu o systemau clinigol cyfrifiadurol y contractwr yr wybodaeth a bennir yn y tabl isod (Dangosyddion sydd wedi eu symud o’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd) ar ba ysbeidiau bynnag yn ystod pob blwyddyn ariannol a hysbysir i’r contractwr gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Rhaid i gontractwr—

(a)sefydlu a chynnal y cofrestrau a bennir yn y dangosyddion clinigol a restrir yn y golofn “Disgrifiad y Dangosydd” yn y tabl isod (Dangosyddion sydd wedi eu symud o’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd),

(b)pan fo dangosydd yn pennu ystadegyn penodol, gofnodi’r data cysylltiedig yr un pryd fel rhan o’r gwaith o reoli clefydau cronig, ac

(c)pan fo’r dangosydd yn pennu gofyniad neu weithgaredd penodol, gofnodi’n barhaus fanylion cydymffurfedd y contractwr ag unrhyw ofynion neu weithgareddau o’r fath.

Tabl (Dangosyddion sydd wedi eu symud o’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd)
Rhif adnabod y DangosyddDisgrifiad y Dangosydd
AF001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â ffibriliad atrïaidd
CHD001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â chlefyd coronaidd y galon
HF001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â methiant y galon
HYP001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â gorbwysedd sefydledig
STIA001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â strôc neu bwl o isgemia dros dro
DM001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o’r holl gleifion 17 oed neu drosodd sydd â diabetes mellitus, sy’n pennu’r math o ddiabetes pan fo diagnosis wedi ei gadarnhau
AST001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd ag asthma, ac eithrio cleifion ag asthma sydd heb gael presgripsiwn ar gyfer unrhyw gyffuriau sy’n gysylltiedig ag asthma yn ystod y 12 mis blaenorol
COPD001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â COPD
DEM001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd wedi cael diagnosis dementia
MH001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd â sgitsoffrenia, anhwylder affeithiol deubegynol a seicosisau eraill a chleifion eraill ar therapi lithiwm
CAN001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o’r holl gleifion canser a ddiffinnir fel ‘cofrestr o gleifion sydd â diagnosis o ganser ac eithrio canserau anfelanotig y croen y cafwyd diagnosis ar eu cyfer ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003’
EP001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion 18 oed neu drosodd sy’n cael triniaeth gyffuriau ar gyfer epilepsi
LD001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion sydd ag anableddau dysgu
OST001

Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion—

1. 50 oed neu drosodd ac sydd heb gyrraedd 75 oed sydd â chofnod o dorasgwrn oherwydd breuder ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 a diagnosis o osteoporosis wedi ei gadarnhau ar sgan DXA, a

2. 75 oed neu drosodd sydd â chofnod o dorasgwrn oherwydd breuder ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012

RA001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion 16 oed neu drosodd sydd ag arthritis gwynegol
PC001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o’r holl gleifion y mae arnynt angen gofal/cymorth lliniarol ni waeth beth fo’u hoedran
OB001Mae’r contractwr yn sefydlu ac yn cynnal cofrestr o gleifion 16 oed neu drosodd sydd â BMI o 30 yn y 15 mis blaenorol.
AF006Canran y cleifion â ffibriliad atrïaidd y mae’r risg o strôc wedi ei hasesu ynddynt gan ddefnyddio system sgorio pennu lefel risg CHA2DS2-VASx yn y 3 blynedd blaenorol (ac eithrio’r cleifion hynny sydd â sgôr CHADS2 neu CHA2DS2-VASc flaenorol o 2 neu ragor) ac y mae cofnod wedi ei wneud o gwnsela ynghylch risgiau a buddion therapi gwrthgeulo
AF007Yn y cleifion hynny â ffibriliad atrïaidd sydd â chofnod o sgôr CHA2DS2-VASc o 2 neu ragor, canran y cleifion sy’n cael eu trin â therapi cyffuriau gwrthgeulo ar hyn o bryd
DM002Canran y cleifion â diabetes, ar y gofrestr, y mae’r darlleniad diweddaraf ar gyfer pwysedd eu gwaed (wedi ei fesur yn y 15 mis blaenorol) yn 150/90 mmHg neu lai
DM003Canran y cleifion â diabetes, ar y gofrestr, y mae’r darlleniad diweddaraf ar gyfer pwysedd eu gwaed (wedi ei fesur yn y 15 mis blaenorol) yn 140/80 mmHg neu lai
DM007Canran y cleifion â diabetes, ar y gofrestr, lle y mae’r IFCC-HbA1c diweddaraf yn 59 mmol/mol neu lai yn y 15 mis blaenorol
DM012Canran y cleifion â diabetes, ar y gofrestr, sydd â chofnod o archwiliad traed a dosbarthiad risg; 1) risg isel (teimlad normal, pwls teimladwy), 2) risg uwch (niwropathi neu bwls absennol), 3) risg uchel (niwropathi neu bwls absennol ynghyd ag anffurfiad neu newidiadau croen mewn wlser blaenorol) neu 4) troed wlseraidd o fewn y 15 mis blaenorol
DM014Canran y cleifion sydd newydd gael diagnosis diabetes, ar y gofrestr, yn y cyfnod blaenorol rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth sydd â chofnod o gael eu hatgyfeirio at raglen addysg strwythuredig o fewn 9 mis ar ôl cael eu cofnodi ar y gofrestr diabetes
COPD003Canran y cleifion â COPD sydd wedi cael adolygiad, a gynhaliwyd gan broffesiynolyn gofal iechyd, gan gynnwys asesiad o ddiffyg anadl gan ddefnyddio graddfa dyspnoea y Cyngor Ymchwil Feddygol yn y 15 mis blaenorol
MH011WCanran y cleifion â sgitsoffrenia, anhwylder affeithiol deubegynol a seicosisau eraill sydd â chofnod o bwysedd gwaed, BMI, statws ysmygu ac yfed alcohol yn y 15 mis blaenorol ac yn ychwanegol yn achos y rhai 40 oed neu drosodd, cofnod o glwcos yn y gwaed neu HbA1c yn y 15 mis blaenorol
PC002WMae’r contractwr yn cael cyfarfodydd adolygu achosion amlddisgyblaeth rheolaidd (o leiaf bob 2 fis) pan fo trafodaeth ar bob claf sydd ar y gofrestr gofal lliniarol
FLU001WCanran y boblogaeth gofrestredig 65 oed neu drosodd sydd wedi cael imiwneiddiad rhag y ffliw yn y cyfnod blaenorol rhwng 1 Awst a 31 Mawrth
FLU002WCanran y cleifion o dan 65 oed a gynhwyswyd ar (unrhyw un neu ragor o’r) cofrestrau ar gyfer CHD, COPD, diabetes neu strôc sydd wedi cael imiwneiddiad rhag y ffliw yn y cyfnod blaenorol rhwng 1 Awst a 31 Mawrth

System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

88.—(1Rhaid i’r contractwr ddiweddaru’r elfennau gweithlu yn System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru er mwyn cynnwys—

(a)cyfrifiad a’r niferoedd cyfwerth ag amser llawn, a

(b)cofnod o’r holl ddechreuwyr newydd ac ymadawyr.

(2Rhaid i’r contractwr gyrchu, adolygu a diweddaru (os oes angen hynny) ei ddangosfwrdd yn System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru o leiaf unwaith y mis.

Offeryn Uwchgyfeirio Ymarfer Cyffredinol

89.  Rhaid i’r contractwr nodi ei gyflwyniad uwchgyfeirio yn yr Offeryn Uwchgyfeirio Ymarfer Cyffredinol erbyn 3.30pm ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis a hefyd bob tro y mae newid sylweddol yn amgylchiadau’r practis.

System Rhybuddio Ganolog yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd

90.  Rhaid i gontractwr—

(a)darparu i’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, pan ofynnir iddo, gyfeiriad post electronig sydd wedi ei gofrestru â phractis y contractwr,

(b)monitro’r cyfeiriad hwnnw,

(c)os yw’r cyfeiriad hwnnw yn peidio â bod wedi ei gofrestru i’r practis, roi gwybod i’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ar unwaith am ei gyfeiriad post electronig newydd, a

(d)darparu i’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, pan ofynnir iddo, un neu ragor o rifau ffôn symudol ar gyfer eu defnyddio os na fydd y contractwr yn gallu derbyn post electronig.

Ymholiadau ynghylch presgripsiynau ac atgyfeiriadau

91.—(1Rhaid i’r contractwr, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), ateb mewn modd digonol unrhyw ymholiadau pa un a ydynt ar lafar neu yn ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch—

(a)unrhyw ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy a ddyroddir gan ragnodwr,

(b)yr ystyriaethau y mae’r rhagnodwyr yn rhoi’r ffurflenni hynny drwy gyfeirio atynt,

(c)atgyfeiriad unrhyw glaf gan neu ar ran y contractwr at unrhyw wasanaethau eraill a ddarperir o dan y Ddeddf, neu

(d)yr ystyriaethau y mae’r contractwr yn gwneud yr atgyfeiriadau hynny neu’n darparu iddynt gael eu gwneud ar ei ran drwyddynt.

(2Ni chaniateir i ymholiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) gael ei wneud ond at ddiben naill ai sicrhau gwybodaeth i gynorthwyo’r Bwrdd Iechyd Lleol i gyflawni ei swyddogaethau neu gynorthwyo’r contractwr i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract.

(3Nid yw’r contractwr o dan rwymedigaeth i ateb unrhyw ymholiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) oni bai ei fod yn cael ei wneud—

(a)yn achos is-baragraff (1)(a) neu (b), gan broffesiynolyn gofal iechyd sydd wedi cymhwyso’n briodol, neu

(b)yn achos is-baragraff (1)(c) neu (d), gan ymarferydd meddygol sydd wedi cymhwyso’n briodol.

(4Rhaid i’r person sydd wedi cymhwyso’n briodol y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a) neu (b)—

(a)bod wedi ei benodi gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn y naill achos neu’r llall i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn, a

(b)dangos, ar gais, dystiolaeth ysgrifenedig o awdurdod y person hwnnw gan y Bwrdd Iechyd Lleol i wneud ymholiad o’r fath ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol.

Darparu gwybodaeth i swyddog meddygol etc.

92.—(1Rhaid i’r contractwr, os yw wedi ei fodloni bod y claf yn cydsynio—

(a)cyflenwi yn ysgrifenedig i unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (3) (“person perthnasol”), o fewn unrhyw gyfnod rhesymol a bennir gan y person hwnnw, unrhyw wybodaeth glinigol y mae unrhyw un neu ragor o’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (3)(a) i (d) yn ei hystyried yn berthnasol ynghylch claf y mae’r contractwr neu berson sy’n gweithredu ar ran y contractwr wedi dyroddi neu wedi gwrthod dyroddi tystysgrif feddygol iddo, a

(b)ateb unrhyw ymholiadau gan berson perthnasol ynghylch—

(i)ffurflen bresgripsiwn neu dystysgrif feddygol a ddyroddir neu a grëir gan, neu ar ran, y contractwr, neu

(ii)unrhyw ddatganiad y mae’r contractwr neu berson sy’n gweithredu ar ran y contractwr wedi ei wneud mewn adroddiad.

(2At ddibenion cael ei fodloni bod claf yn cydsynio, caiff contractwr ddibynnu ar sicrwydd ysgrifenedig gan berson perthnasol bod cydsyniad y claf wedi ei sicrhau, oni bai bod gan y contractwr reswm dros gredu nad yw’r claf yn cydsynio.

(3At ddibenion is-baragraff (1) a (2), “person perthnasol” yw—

(a)swyddog meddygol,

(b)swyddog nyrsio,

(c)therapydd galwedigaethol,

(d)ffisiotherapydd, neu

(e)swyddog i’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gweithredu ar ran unrhyw berson a bennir ym mharagraffau (a) i (d) ac o dan gyfarwyddyd y person hwnnw.

(4Yn y paragraff hwn—

ystyr “ffisiotherapydd” (“physiotherapist”) yw proffesiynolyn gofal iechyd sydd wedi ei gofrestru yn y rhan o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (sefydlu a chynnal cofrestr) sy’n ymwneud â ffisiotherapyddion ac sydd—

(a)

wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu

(b)

wedi ei ddarparu gan sefydliad o dan gontract yr ymrwymwyd iddo gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau;

ystyr “swyddog meddygol” (“medical officer”) yw ymarferydd meddygol sydd—

(a)

wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu

(b)

wedi ei ddarparu gan sefydliad o dan gontract yr ymrwymwyd iddo gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau;

ystyr “therapydd galwedigaethol” (“occupational therapist”) yw proffesiynolyn gofal iechyd sydd wedi ei gofrestru yn y rhan o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (sefydlu a chynnal cofrestr) sy’n ymwneud â therapyddion galwedigaethol ac sydd—

(a)

wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu

(b)

wedi ei ddarparu gan sefydliad o dan gontract yr ymrwymwyd iddo gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau.

Datganiad ac adolygiad blynyddol

93.—(1Rhaid i’r contractwr gyflwyno datganiad blynyddol ynglŷn â’r contract i’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n ei gwneud yn ofynnol cael yr un categorïau o wybodaeth gan bob person sydd â chontractau gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw.

(2Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ofyn am ddatganiad ynglŷn â’r contract unrhyw bryd yn ystod pob blwyddyn ariannol mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw (heb gynnwys unrhyw gyfnod a gynhwyswyd mewn datganiad blynyddol blaenorol) a bennir yn y cais.

(3Rhaid i’r contractwr gyflwyno’r datganiad wedi ei gwblhau i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)erbyn dyddiad y cytunwyd ei fod yn rhesymol rhwng y contractwr a’r Bwrdd Iechyd Lleol, neu

(b)yn absenoldeb cytundeb o’r fath, cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y cais.

(4Ar ôl cael y datganiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol drefnu gyda’r contractwr adolygiad blynyddol o’i gyflawniad mewn perthynas â’r contract.

(5Caiff y contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol, os dymunir, wahodd y Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract ynddi i gymryd rhan yn yr adolygiad blynyddol.

(6Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol baratoi cofnod drafft o’r adolygiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (4) i’r contractwr gyflwyno sylwadau arno a, gan roi sylw i’r sylwadau hynny, lunio cofnod ysgrifenedig terfynol o’r adolygiad.

(7Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon copi o’r cofnod terfynol o’r adolygiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) at y contractwr.

Hysbysiadau i’r Bwrdd Iechyd Lleol

94.—(1Yn ychwanegol at unrhyw ofynion ynglŷn â hysbysu mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn, rhaid i’r contractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, am y canlynol—

(a)unrhyw ddigwyddiad difrifol sydd, ym marn resymol y contractwr, yn effeithio ar y modd y mae’r contractwr yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract neu’n debygol o effeithio arno;

(b)unrhyw amgylchiadau sy’n arwain at hawl y Bwrdd Iechyd Lleol i derfynu’r contract o dan Ran 11;

(c)unrhyw system apwyntiadau y mae’n bwriadu ei gweithredu a’r bwriad i roi’r gorau i unrhyw system o’r fath;

(d)unrhyw newid y mae’r contractwr yn ymwybodol ohono yng nghyfeiriad claf cofrestredig;

(e)marwolaeth unrhyw glaf y mae’r contractwr yn ymwybodol ohoni.

(2Oni bai ei bod yn anymarferol iddo wneud hynny, rhaid i’r contractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl unrhyw ddigwyddiad sy’n gofyn am newid yn yr wybodaeth amdano a gyhoeddir gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 41 o’r Ddeddf (gwasanaethau meddygol sylfaenol).

(3Rhaid i’r contractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig am unrhyw berson heblaw claf cofrestredig neu berson y mae wedi ei dderbyn yn breswylydd dros dro ac y mae wedi darparu’r gwasanaethau unedig a ddisgrifir yn rheoliad 17(7) neu (9) iddo o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod y darparwyd y gwasanaethau.

Cydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol

95.  Rhaid i’r Contractwr gydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau’r Bwrdd Iechyd Lleol, neu rwymedigaethau swyddogion atebol y Bwrdd Iechyd Lleol, o dan Reoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008(1).

Darpariaethau ynglŷn â hysbysiadau sy’n benodol i gontract gyda chwmni cyfyngedig drwy gyfrannau

96.—(1Pan fo contractwr yn gwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, rhaid i’r contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo—

(a)y contractwr yn ymwybodol o unrhyw gynnig—

(i)i drosi neu drosglwyddo unrhyw gyfran yn y cwmni (pa un ai’n gyfreithiol ynteu’n llesiannol) i berson arall, neu

(ii)i benodi cyfarwyddwr neu ysgrifennydd newydd i’r cwmni,

(b)amgylchiadau’n codi a allai roi hawlogaeth i gredydwr neu lys benodi derbynnydd, gweinyddwr neu dderbynnydd gweinyddol mewn perthynas â’r cwmni,

(c)amgylchiadau’n codi a fyddai’n galluogi’r llys i wneud gorchymyn dirwyn i ben mewn perthynas â’r cwmni,

(d)penderfyniad cwmni yn cael ei basio, neu fod llys ag awdurdodaeth gymwys yn gwneud gorchymyn, fod y cwmni i gael ei ddirwyn i ben, neu

(e)nad yw’r cwmni’n gallu talu ei ddyledion o fewn ystyr adran 123 o Ddeddf Ansolfedd 1986(2) (diffiniad o fethu talu dyledion).

(2Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1)(a) gadarnhau bod unrhyw gyfranddaliwr newydd arfaethedig neu, yn ôl y digwydd, gynrychiolydd personol cyfranddaliwr sydd wedi marw—

(a)naill ai—

(i)yn ymarferydd meddygol, neu

(ii)yn berson sy’n bodloni’r amodau a bennir yn adran 44(2)(b)(i) i (iv) o’r Ddeddf (personau sy’n gymwys i ymrwymo i gontractau GMC), a

(b)yn bodloni’r amodau pellach a osodir ar gyfranddalwyr yn rhinwedd rheoliadau 5 a 6.

(3Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1)(a) gadarnhau bod unrhyw gyfarwyddwr newydd arfaethedig neu, yn ôl y digwydd, unrhyw ysgrifennydd newydd arfaethedig yn bodloni’r amodau a osodir ar gyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion yn rhinwedd rheoliad 6.

Darpariaethau ynglŷn â hysbysiadau sy’n benodol i gontract gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth

97.—(1Pan fo contractwr yn bartneriaeth, rhaid i’r contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo—

(a)unrhyw bartner yn y bartneriaeth—

(i)yn ymadael â’r bartneriaeth, neu

(ii)yn hysbysu’r partneriaid eraill yn y bartneriaeth ei fod yn bwriadu ymadael â’r bartneriaeth, neu

(b)bod partner newydd yn ymuno â’r bartneriaeth.

(2Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1)(a) gadarnhau’r dyddiad yr ymadawodd y partner â’r bartneriaeth neu y mae’n bwriadu ymadael â hi.

(3Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1)(b)—

(a)nodi’r dyddiad yr ymunodd y partner newydd â’r bartneriaeth,

(b)cadarnhau bod y partner newydd—

(i)yn ymarferydd meddygol, neu

(ii)yn berson sy’n bodloni’r amodau a bennir yn adran 44(2)(b)(i) i (iv) o’r Ddeddf (personau sy’n gymwys i ymrwymo i gontractau GMC),

(c)cadarnhau bod y partner newydd yn bodloni’r amodau a osodir gan reoliadau 5 a 6, a

(d)nodi a yw’r partner newydd yn bartner cyffredinol ynteu’n bartner cyfyngedig yn y bartneriaeth.

Hysbysu am farwolaethau

98.—(1Rhaid i’r contractwr gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol am farwolaeth unrhyw glaf yn ei fangre practis, heb fod yn hwyrach na diwedd y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y dyddiad y digwyddodd y farwolaeth.

(2Rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)enw llawn y claf,

(b)rhif Gwasanaeth Iechyd Gwladol y claf pan fo’n hysbys,

(c)dyddiad a lleoliad marwolaeth y claf,

(d)disgrifiad byr o amgylchiadau marwolaeth y claf, fel y maent yn hysbys,

(e)enw unrhyw ymarferydd meddygol neu berson arall a oedd yn trin y claf tra oedd y claf ar fangre practis y contractwr, ac

(f)enw unrhyw berson arall, pan fo’n hysbys, a oedd yn bresennol adeg marwolaeth y claf.

(3Rhaid i’r contractwr anfon copi o’r adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) at unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall yr oedd yr ymadawedig yn preswylio yn ei ardal adeg ei farwolaeth.

Hysbysiadau i gleifion ar ôl amrywio’r contract

99.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo contract yn cael ei amrywio yn unol â Rhan 11 o’r Atodlen hon ac, o ganlyniad i’r amrywiad hwnnw—

(a)bod newid i fod yn yr ystod o wasanaethau a ddarperir i gleifion cofrestredig y contractwr, neu

(b)bod cleifion sydd ar restr y contractwr o gleifion i gael eu tynnu oddi ar y rhestr honno.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r cleifion hynny o’r amrywiad a’i effaith, a

(b)hysbysu’r cleifion hynny o’r camau y cânt eu cymryd er mwyn—

(i)sicrhau’r gwasanaethau o dan sylw yn rhywle arall, neu

(ii)cofrestru rywle arall er mwyn i wasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) gael eu darparu iddynt.

Mynediad ac Archwiliadau gan y Bwrdd Iechyd Lleol

100.—(1Yn ddarostyngedig i’r amodau yn is-baragraff (2), rhaid i’r contractwr ganiatáu i unrhyw bersonau sydd wedi eu hawdurdodi’n ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol i fynd i mewn i fangre practis y contractwr ar unrhyw adeg resymol a’i harchwilio.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)bod hysbysiad rhesymol o’r bwriad i fynd i mewn wedi ei roi,

(b)bod tystiolaeth ysgrifenedig o awdurdod y person sy’n ceisio mynd i mewn yn cael ei chyflwyno i’r contractwr pan ofynnir amdani, ac

(c)nad eir i mewn i unrhyw fangre na rhan o’r fangre a ddefnyddir fel llety preswyl heb gydsyniad y preswylydd.

(3Caiff y contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol wahodd y Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract ynddi i fod yn bresennol mewn unrhyw archwiliad o fangre’r contractwr sy’n digwydd o dan y paragraff hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources