Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023

RHAN 9Pryderon, cwynion ac ymchwiliadau

Pryderon a chwynion

101.  Rhaid i’r contractwr sefydlu a gweithredu trefniadau sy’n bodloni gofynion Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011(1) i ymdrin ag unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch unrhyw fater sy’n gysylltiedig yn rhesymol â darparu gwasanaethau o dan y contract.

Cydweithredu ag ymchwiliadau

102.—(1Rhaid i’r contractwr gydweithredu—

(a)ag unrhyw ymchwiliad i gŵyn neu bryder a hysbysir yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig yn rhesymol â darparu gwasanaethau o dan y contract yr ymgymerir ag ef gan—

(i)y Bwrdd Iechyd Lleol,

(ii)Gweinidogion Cymru,

(iii)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a

(b)ag unrhyw ymchwiliad i gŵyn neu bryder a hysbysir yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 gan gorff GIG neu awdurdod lleol sy’n ymwneud â chlaf neu gyn-glaf i’r contractwr.

(2Mae’r cydweithredu sy’n ofynnol o dan is-baragraff (1) yn cynnwys—

(a)ateb cwestiynau a ofynnir yn rhesymol i’r contractwr gan y Bwrdd Iechyd Lleol,

(b)darparu unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r gŵyn neu’r pryder a hysbysir yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ac

(c)mynd i unrhyw gyfarfod i ystyried y gŵyn neu bryder a hysbysir yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (os caiff ei gynnal mewn lle sy’n rhesymol hygyrch ac ar adeg resymol, ac os oes hysbysiad dyladwy wedi ei roi) os yw presenoldeb y contractwr yn y cyfarfod yn ofynnol yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Yn y paragraff hwn—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

(a)

unrhyw un neu ragor o’r cyrff a restrir yn adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol 1970(2) (awdurdodau lleol) (cyfansoddiad cynghorau),

(b)

Cyngor Ynysoedd Scilly,

(c)

cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc (Yr Alban) 1994 (cyfansoddiad cynghorau), neu

(d)

cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “corff GIG” (“NHS body”) yw Bwrdd Iechyd Lleol, (yng Nghymru a Lloegr a’r Alban) ymddiriedolaeth GIG, ymddiriedolaeth sefydledig y GIG, Bwrdd Gofal Integredig, GIG Lloegr, Bwrdd Iechyd, Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Darparu gwybodaeth am gwynion

103.  Rhaid i’r contractwr roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol, fesul pa ysbeidiau bynnag sy’n ofynnol, am nifer y cwynion y mae wedi eu cael o dan y weithdrefn a sefydlir yn unol â’r Rhan hon.