Rheoliad 32
ATODLEN 5Diwygiadau canlyniadol
1.—(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli ac addasu), yn y diffiniad o “Medical Regulations”, yn lle “Regulations 1992” rhodder “(Wales) Regulations 2023”.
(3) Yn rheoliad 23(2)(a) (cais am gynnwys person mewn rhestr o gyflawnwyr meddygol), yn lle “7(2) or (11)” rhodder “10(6)”.
2.—(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)ym mharagraff (1) yn y diffiniad o—
(i)“enw amherchnogol priodol”—
(aa)yn lle “42(2)” rhodder “56(2)”, a
(bb)yn lle “6” rhodder “3”;
(ii)“Rheoliadau GMC”, yn lle “2004” rhodder “2023”;
(iii)“rhestr cleifion”—
(aa)yn lle “14” rhodder “22”, a
(bb)yn lle “6” rhodder “3”;
(iv)“rhagnodydd amlroddadwy”, ym mhob lle y mae’n digwydd—
(aa)yn lle “40” rhodder “53”, a
(bb)yn lle “6” rhodder “3”;
(b)ym mharagraff (3)(b)—
(i)yn lle “47 i 51” rhodder “60 a 61”, a
(ii)yn lle “6” rhodder “3”.
(3) Yn Atodlen 7—
(a)ym mharagraff 5 (gweinyddu cyffuriau a chyfarpar a archebwyd gan y meddyg fferyllol)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “baragraff 39 o Atodlen 6” rhodder “baragraffau 49 a 50 o Atodlen 3”, a
(ii)yn is-baragraff (c), yn lle “42(2) o Atodlen 6” rhodder “56 o Atodlen 3”;
(b)ym mharagraff 9(1) (ffioedd a chodi tâl), yn lle “reoliad 24 oʼr Rheoliadau GMC ac Atodlen 5 iʼr Rheoliadau hynny” rhodder “reoliadau 21 a 22 o’r Rheoliadau GMC”;
(c)ym mharagraff 10 (cwynion a phryderon)—
(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “baragraffau 89A a 90 o Atodlen 6” rhodder “baragraff 102 o Atodlen 3”, a
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “95 o Atodlen 6” rhodder “103 o Atodlen 3”.
O.S. 2004/1020 (Cy. 117), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/358 (Cy. 46), O.S. 2006/945, O.S. 2008/1425 (Cy. 147), O.S. 2010/22, O.S. 2013/235, O.S. 2016/101 (Cy. 49). Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.