Rheoliadau Pensiynau Diffoddwyr Tân (Gwasanaeth Rhwymedïol) (Cymru) 2023
2023 Rhif 961 (Cy. 156)
Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymru
Rheoliadau Pensiynau Diffoddwyr Tân (Gwasanaeth Rhwymedïol) (Cymru) 2023
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1(1) a (2)(f), a 2(1) ynghyd â pharagraff 6(b) o Atodlen 2 a adrannau 3(1), (2) a (3) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 20131 (“Deddf 2013”) ac adrannau 5(1) a (5), 6(1), 7(3), 8(1) a (3), 10(1) a (3), 11(1) a (5), 12(1) a (3), 18(1) i (3), (5), (6) ac (8), 19(1), (4) a (5), 20(1), (4) a (5), 21, 22(1) a (6), 24(1), 25(1), (3) a (4), 26(1) a (2), 29(1), (7) ac (8) ac 31(2) a (3) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022 (“DPGCSB 2022”)2.
Yn unol ag adran 3(5) o Ddeddf 2013, gwneir y Rheoliadau hyn gyda chydsyniad y Trysorlys.
Yn unol ag adran 21(1) o Ddeddf 2013, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny (neu â chynrychiolwyr y personau hynny) y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.
Gwneir y Rheoliadau hyn yn unol â chyfarwyddydau’r Trysorlys a wnaed o dan adran 27 o DPGCSB 2022.