xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5.—(1) Mae’r Bennod hon yn gymwys i aelod ac mewn cysylltiad ag aelod (“A”) a chanddo wasanaeth a optiwyd allan mewn cyflogaeth mewn perthynas â chynllun gwaddol(1).
(2) Yn y Bennod hon—
ystyr “gwasanaeth a optiwyd allan perthnasol” (“relevant opted-out service”) yw’r gwasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1);
ystyr “penderfynwr gwasanaeth a optiwyd allan” (“opted-out service decision-maker”) yw’r person a gaiff wneud dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan yn unol â rheoliad 6(2).
6.—(1) Caniateir gwneud dewisiad (“dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan”) mewn perthynas â gwasanaeth a optiwyd allan perthnasol A yn unol â’r Bennod hon ac adran 5 o DPGCSB 2022.
(2) Caniateir i ddewisiad gwasanaeth a optiwyd allan gael ei wneud—
(a)gan A, neu
(b)pan fo A yn ymadawedig, gan y penderfynwr cymwys a benderfynir yn unol â’r Atodlen.
(3) Pan y rheolwr cynllun yw’r penderfynwr cymwys, rhaid iddo benderfynu peidio â gwneud dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan.
(4) Gweler adran 5(2) i (4) o DPGCSB 2022 ynghylch effaith, amseru a natur ddi-alw’n-ôl dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan.
7.—(1) Ni chaniateir gwneud dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan onid oes datganiad o wasanaeth rhwymedïol wedi ei ddarparu yn unol â rheoliad 4.
(2) Rhaid gwneud dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan—
(a)yn ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun,
(b)erbyn diwedd 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir datganiad o wasanaeth rhwymedïol yn unol â rheoliad 4(2)(a), neu o fewn unrhyw gyfnod hwy y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
8. Pan—
(a)bo diwedd y cyfnod dewisiad mewn perthynas ag A wedi mynd heibio, a
(b)na roddwyd gwybod i’r rheolwr cynllun am ddewisiad gwasanaeth a optiwyd allan yn unol â rheoliad 7(2),
mae’r hawlogaeth i wneud dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan o dan reoliad 6 yn darfod.
Gweler adrannau 5(7) (i’w darllen gydag adran 4) a 36 o DPGCSB 2022 am ystyr gwasanaeth a optiwyd allan perthnasol mewn perthynas â chynllun gwaddol Pennod 1 (megis cynlluniau 1992 a 2007).