RHAN 4Darpariaeth ynghylch trefniadau ysgaru a diddymu

PENNOD 1Aelodau â chredyd pensiwn ac aelodau â debyd pensiwn

ADRAN 1Cymhwyso a dehongli Pennod 1

Cymhwyso a dehongli Pennod 120

1

Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag—

a

aelod â chredyd pensiwn (“C”),

b

yr aelod â debyd pensiwn cyfatebol (“D”), ac

c

y gorchymyn rhannu pensiwn y daeth C yn aelod â chredyd pensiwn yn ei rinwedd mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol D (y “gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol”).

2

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “aelod â chredyd pensiwn” (“pension credit member”) yw aelod o gynllun pensiwn diffoddwyr tân sydd â hawliau o dan y cynllun—

    1. a

      y gellir eu priodoli (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i gredyd pensiwn16,

    2. b

      sy’n codi yn rhinwedd gorchymyn rhannu pensiwn sydd â dyddiad trosglwyddo ar 1 Ebrill 2015 neu ar ôl hynny, ac

    3. c

      y canfuwyd eu gwerth (i unrhyw raddau) drwy gyfeirio at werth buddion sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol aelod arall;

  • ystyr “aelod â debyd pensiwn cyfatebol” (“corresponding pension debit member”) yw’r aelod y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o’r diffiniad o “aelod â chredyd pensiwn”;

  • ystyr “buddion perthnasol rhwymedïol” (“remediable relevant benefits”) yw’r buddion neu’r buddion yn y dyfodol a ddisgrifir yn adran 29(4) a (5) o DDLlPh 199917 y mae gan D hawlogaeth iddynt yn rhinwedd hawliau rhanadwy rhwymedïol;

  • ystyr “C” (“C”) yw’r aelod â chredyd pensiwn a grybwyllir ym mharagraff (1)(a);

  • ystyr “cyfwerth ariannol” (“cash equivalent”) yw swm a gyfrifir yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 30 o DDLlPh 199918;

  • ystyr “D” (“D”) yw’r aelod â debyd pensiwn cyfatebol a grybwyllir ym mharagraff (1)(b);

  • mae i “diwrnod prisio” yr ystyr a roddir i “valuation day” yn adran 29(7) o DDLlPh 1999;

  • ystyr “diwrnod trosglwyddo” (“transfer day”) yw’r diwrnod y mae’r gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol yn cael effaith;

  • ystyr “gorchymyn rhannu pensiwn” (“pension sharing order”) yw’r gorchymyn neu’r ddarpariaeth y mae adran 29 o DDLlPh 1999 yn gymwys yn ei rinwedd neu yn ei rhinwedd mewn perthynas ag aelod â chredyd pensiwn a’r aelod â debyd pensiwn cyfatebol;

  • mae i “gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol” (“relevant pension sharing order”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (1)(c);

  • mae i “hawliau rhanadwy” yr ystyr a roddir i “shareable rights” yn adran 27(2) o DDLlPh 1999;

  • ystyr “hawliau rhanadwy rhwymedïol” (“remediable shareable rights”) yw hawliau rhanadwy D a sicrhawyd yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol D yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac yn dod i ben ar y cynharaf o—

    1. a

      y diwrnod cyn y dyddiad trosglwyddo, neu

    2. b

      diwrnod olaf gwasanaeth rhwymedïol D;

  • ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—

    1. a

      D, neu

    2. b

      pan fo D yn ymadawedig, cynrychiolwyr personol D.