RHAN 3Penderfyniadau mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol
PENNOD 2Penderfyniad dewis ar unwaith ar gyfer buddion cynllun 2015 neu fuddion cynllun gwaddol
Penderfyniad dewis ar unwaith: dewis tybiedig12
1
Caiff penderfyniad dewis ar unwaith ei drin fel pe bai wedi ei wneud mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A yn union cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 6—
a
pan fo diwedd y cyfnod dewisiad adran 6 mewn perthynas ag A wedi mynd heibio, a
b
pan na fo penderfyniad dewis ar unwaith wedi ei gyfleu mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.
2
Pan na fo A yn ymadawedig, y penderfyniad dewis ar unwaith ym mharagraff (1) yw nad oes dewisiad adran 6 wedi ei wneud a buddion cynllun gwaddol yw’r buddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.
3
Pan fo A yn ymadawedig, y penderfyniad dewis ar unwaith ym mharagraff (1) yw bod dewisiad adran 6 wedi ei wneud a buddion cynllun 2015 yw’r buddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.