12.—(1) Caiff penderfyniad dewis ar unwaith ei drin fel pe bai wedi ei wneud mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A yn union cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 6—
(a)pan fo diwedd y cyfnod dewisiad adran 6 mewn perthynas ag A wedi mynd heibio, a
(b)pan na fo penderfyniad dewis ar unwaith wedi ei gyfleu mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.
(2) Pan na fo A yn ymadawedig, y penderfyniad dewis ar unwaith ym mharagraff (1) yw nad oes dewisiad adran 6 wedi ei wneud a buddion cynllun gwaddol yw’r buddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.
(3) Pan fo A yn ymadawedig, y penderfyniad dewis ar unwaith ym mharagraff (1) yw bod dewisiad adran 6 wedi ei wneud a buddion cynllun 2015 yw’r buddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.