RHAN 3Penderfyniadau mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol
PENNOD 3Penderfyniad dewis gohiriedig ar gyfer buddion cynllun 2015 neu fuddion cynllun gwaddol
Penderfyniad dewis gohiriedig ar gyfer buddion cynllun 2015 neu fuddion cynllun gwaddol: cyffredinol14
1
Caniateir gwneud penderfyniad (“penderfyniad dewis gohiriedig”) yn unol â’r Bennod hon—
a
i wneud dewisiad (“dewisiad adran 10”) yn rhinwedd adran 10 o DPGCSB 2022 mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu
b
nad oes dewisiad adran 10 i’w wneud mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.
2
Caniateir i benderfyniad dewis gohiriedig gael ei wneud—
a
gan A, neu
b
pan fo A yn ymadawedig, gan y penderfynwr cymwys a benderfynir yn unol â’r Atodlen.
3
Pan y rheolwr cynllun yw’r penderfynwr cymwys, rhaid iddo wneud dewisiad ar gyfer buddion cynllun 2015 mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
4
Mae penderfyniad dewis gohiriedig wedi ei wneud pan roddir gwybod amdano yn ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun a’i fod yn ei gael.
5
Ni chaniateir gwneud penderfyniad dewis gohiriedig ond cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 10.
6
Mae penderfyniad dewis gohiriedig i wneud dewisiad adran 10 yn cael effaith fel dewisiad adran 10 (gweler adrannau 10(4) a (5), 11(3)(b) a (4) a (7) a 13 o DPGCSB 2022 ynghylch effaith dewisiad adran 10).
7
Pan mai’r penderfyniad dewis gohiriedig yw nad oes dewisiad adran 10 i’w wneud, buddion cynllun gwaddol yw’r buddion sy’n daladwy i A neu mewn cysylltiad ag A, i’r graddau y’u canfyddir drwy gyfeirio at wasanaeth rhwymedïol A.
8
Mae’r darpariaethau a ganlyn o DPGCSB 2022 yn cael effaith mewn perthynas â phenderfyniad nad oes dewisiad adran 10 i’w wneud fel y maent yn cael effaith mewn perthynas â dewisiad adran 10—
a
adran 10(5) (dewisiad adran 10 yn cael effaith mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rhwymedïol yn y gyflogaeth neu’r swydd);
b
adran 11(3)(b), (4) a (7) (darpariaeth ynghylch pryd y mae dewisiad adran 10 yn cael effaith, ac effaith dewisiad adran 10 yn darfod neu’n cael ei ddirymu);
c
adran 13 (darpariaeth ynghylch personau a chanddynt wasanaeth rhwymedïol mewn mwy nag un cynllun gwaddol Pennod 1).
9
Nid oes unrhyw fuddion yn daladwy o dan y cynllun gwaddol mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy A o dan y cynllun hwnnw oni bai—
a
bod penderfyniad dewis gohiriedig wedi ei wneud mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A,
b
y bernir bod dewisiad adran 10 wedi ei wneud o dan reoliad 18 mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw, neu
c
bod paragraff (10) yn gymwys.
10
Pan fo A yn ymadawedig, caiff y rheolwr cynllun, cyn i benderfyniad dewis gohiriedig gael ei wneud, neu cyn y bernir bod dewisiad adran 10 wedi ei wneud, mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, dalu i unrhyw berson (“y buddiolwr”) sydd, neu a fydd, â hawlogaeth i gael buddion marwolaeth mewn perthynas â gwasanaeth pensiynadwy A y lleiaf o—
a
unrhyw fuddion cyfandaliad neu fuddion pensiwn eraill y byddai gan y buddiolwr hawlogaeth iddynt os gwneir dewisiad adran 10, neu os bernir ei fod wedi ei wneud, mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu
b
unrhyw fuddion cyfandaliad neu fuddion pensiwn eraill y byddai gan y buddiolwr hawlogaeth iddynt os na wneir dewisiad adran 10, neu os bernir nad yw wedi ei wneud, mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.
11
Pan fo, ar yr adeg weithredol—
a
cyfanswm y buddion cyfandaliad neu’r buddion pensiwn sydd wedi eu talu yn unol â pharagraff (10) i fuddiolwr yn llai na
b
cyfanswm y buddion cyfandaliad neu’r buddion pensiwn y mae gan y buddiolwr (ar ôl ystyried effaith paragraff (7) o’r rheoliad hwn neu adran 10(4) o DPGCSB 2022, os oes effaith iddo neu iddi) hawlogaeth iddynt o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy A,
rhaid i’r rheolwr cynllun dalu swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth i’r buddiolwr.
12
Ym mharagraff (11), ystyr “yr adeg weithredol” yw—
a
os—
i
gwneir penderfyniad dewis gohiriedig, neu
ii
bernir bod dewisiad adran 10 wedi ei wneud,
mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, yr adeg y gwneir y penderfyniad neu’r dewisiad;
b
fel arall, ddiwedd y cyfnod dewisiad adran 10 mewn perthynas ag A.