RHAN 4Darpariaeth ynghylch trefniadau ysgaru a diddymu
PENNOD 1Aelodau â chredyd pensiwn ac aelodau â debyd pensiwn
ADRAN 3Gwybodaeth a ddarperir ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny
Gwybodaeth a ddarperir ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny: ailgyfrifo lleihad buddion D28
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo buddion perthnasol rhwymedïol D i’w lleihau mewn perthynas â debyd pensiwn a gyfrifwyd o dan reoliad 27(3).
2
Rhaid i’r rheolwr cynllun ganfod y swm lleihau amgen mewn perthynas â buddion perthnasol rhwymedïol D—
a
cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad trosglwyddo, a
b
ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun.
3
Y “swm lleihau amgen” yw unrhyw swm y mae’r rheolwr cynllun yn ei ystyried yn briodol gan roi sylw i—
a
cyfwerth ariannol y buddion perthnasol rhwymedïol ar y diwrnod prisio fel pe baent yn fuddion perthnasol rhwymedïol a sicrhawyd—
i
pan gyfrifwyd y debyd pensiwn a grybwyllir ym mharagraff (1) ar sail cyfwerth ariannol y cynllun gwaddol, yng nghynllun 2015;
ii
pan gyfrifwyd y debyd pensiwn ar sail cyfwerth ariannol cynllun 2015, yn y cynllun gwaddol,
b
y gwerth canrannol neu’r swm i’w drosglwyddo a bennir yn y gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol, a
c
darpariaethau adrannau 29 ac 31 o DDLlPh 1999.