- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
30.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â thaliad pensiwn ychwanegol rhwymedïol a wnaed gan aelod rhwymedi (“A”).
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Medi 2023 ac ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, ganfod y “swm y gellir digolledu amdano”, sef swm fel digollediad sy’n hafal i—
(a)cyfanswm holl daliadau pensiwn ychwanegol rhwymedïol A, namyn
(b)swm mewn cysylltiad â gwerth rhyddhad treth yn unol â chyfarwyddydau 5(5) i (9) o Gyfarwyddydau PGC 2022.
(3) Yn achos aelod dewis ar unwaith, rhaid i’r rheolwr cynllun nodi’r ffigur swm y gellir digolledu amdano gyda’r datganiad gwasanaeth rhwymedïol perthnasol a anfonwyd yn unol â rheoliad 4.
(4) Pan wneir canfyddiad yn unol â chyfarwyddyd 5(8) o Gyfarwyddydau PGC 2022, mae’r canlynol yn gymwys—
(a)cyfarwyddyd 5(10) (darparu eglurhad);
(b)cyfarwyddyd 5(11) a (12) (apelau).
(5) Mae’r swm y gellir digolledu amdano yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i A neu, pan fo A yn ymadawedig, i gynrychiolwyr personol A.
(6) Mae’r hawliau i fuddion a fyddai fel arall wedi eu sicrhau gan y taliad pensiwn ychwanegol rhwymedïol wedi eu diddymu.
(7) Pan fo person wedi cael unrhyw fuddion pensiwn o dan gynllun 2015 yn rhinwedd hawliau a sicrhawyd gan daliad pensiwn ychwanegol rhwymedïol, mae swm sy’n hafal i gyfanswm yr holl fuddion pensiwn hynny yn ddyledus gan y person i’r rheolwr cynllun.
(8) Nid yw paragraffau (5) i (7) ond yn gymwys mewn perthynas ag aelod dewis ar unwaith—
(a)ar ôl i’r cyfnod dewisiad adran 6 ddod i ben yn unol ag adran 7(2) o DPGCSB 2022, neu os yw’n gynharach, yn union ar ôl i benderfyniad dewis ar unwaith gael ei wneud yn unol â Phennod 2 o’r Rheoliadau hyn, a
(b)pan y penderfyniad dewis ar unwaith yw ar gyfer buddion cynllun gwaddol mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.
(9) Mae paragraff (10) yn gymwys pan fo A yn aelod dewis ar unwaith ac nad yw paragraffau (5) i (7) yn gymwys iddo, o ganlyniad i baragraff (8).
(10) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)mae’r hawliau i fuddion sydd wedi eu sicrhau yn rhinwedd y taliad pensiwn ychwanegol rhwymedïol a grybwyllir ym mharagraff (1) i’w trin at ddibenion y Rheoliadau hyn a DPGCSB 2022 fel pe bai’r hawliau hynny wedi eu sicrhau yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol A, a
(b)nid yw adran 2(5)(a) o DPGCSB 2022 yn gymwys mewn perthynas â’r trefniant y gwnaeth A sicrhau’r hawliau hynny oddi tano (ac, yn unol â hynny, mae adran 2(1) o DPGCSB 2022 yn effeithio ar y trefniant hwnnw).
(11) Yn y rheoliad hwn, ystyr “taliad pensiwn ychwanegol rhwymedïol” yw—
(a)taliad cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed o dan drefniant yn unol â Phennod 2 o Ran 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2015 a gychwynnodd yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol A;
(b)cyfandaliad ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed yn unol â Phennod 3 o Ran 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2015 yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol A.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: