RHAN 6Trosglwyddiadau
PENNOD 1Cyffredinol
Datganiadau o wasanaeth rhwymedïol a drosglwyddwyd allan35
Pan fo aelod rhwymedi wedi trosglwyddo unrhyw hawliau mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol allan o gynllun pensiwn diffoddwyr tân, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol a drosglwyddwyd allan yn unol â chyfarwyddyd 6(2) i (4) o Gyfarwyddydau PGC 2022 (ac yn unol â hynny mae cyfarwyddyd 6(4) yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at “any provision made by virtue of section 29(1) of PSPJOA 2022” yn gyfeiriad at reoliad 4).