RHAN 2Datganiadau o Wasanaeth Rhwymedïol
Gofyniad i ddarparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol4.
(1)
Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol mewn cysylltiad ag aelod rhwymedi (“A”) yn unol ag—
(a)
adran 29 o DPGCSB 2022,
(b)
unrhyw gyfarwyddydau gan y Trysorlys a wneir o dan adran 29(6) o’r Ddeddf honno, ac
(c)
y rheoliad hwn.
(2)
Rhaid darparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol o ran A—
(a)
(b)
pan fo A, mewn perthynas â’i wasanaeth rhwymedïol, am y tro—
(i)
(iii)
yn aelod-bensiynwr, unwaith yn unig, ac
(c)
pan fo A yn aelod dewis gohiriedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad—
(i)
o dan reoliad 15(2) fod A yn bwriadu hawlio buddion mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu
(ii)
bod A wedi marw.
(3)
Rhaid darparu’r datganiad o wasanaeth rhwymedïol—
(a)
i A, neu
(b)
pan fo A wedi marw—
(i)
i’r person sydd am y tro yn benderfynwr cymwys mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A o dan yr Atodlen, a
(ii)
o fewn 18 mis i’r rheolwr cynllun gael hysbysiad fod A wedi marw.
(4)
Rhaid i’r datganiad o wasanaeth rhwymedïol gynnwys—
(a)
pan fo A yn aelod dewis ar unwaith, wybodaeth ynghylch—
(i)
natur ddi-alw’n-ôl penderfyniad dewis ar unwaith, a
(ii)
y buddion a fydd yn daladwy os na wneir penderfyniad dewis ar unwaith cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 6;
(b)
pan fo A yn aelod dewis gohiriedig, wybodaeth ynghylch—
(i)
natur ddi-alw’n-ôl (neu fel arall) penderfyniad dewis gohiriedig, a
(ii)
y buddion a fydd yn daladwy os na wneir penderfyniad dewis gohiriedig cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 10;
(c)
pan fo A yn ymadawedig, pwy yw’r person neu’r personau, neu ddisgrifiad o bwy yw’r person neu’r personau, a gaiff wneud penderfyniad dewis ar unwaith neu benderfyniad dewis gohiriedig mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.
(5)
Am ddarpariaeth bellach ynghylch—
(a)
yr hyn y mae rhaid i ddatganiad o wasanaeth rhwymedïol ei gynnwys, gweler—
(i)
adran 29(5) o DPGCSB 2022;
(ii)
cyfarwyddyd 20(1) o Gyfarwyddydau PGC 2022;
(b)
pryd y mae rhaid cyfuno datganiad o wasanaeth rhwymedïol â datganiad o wybodaeth am fuddion a ddarperir o dan adran 14 o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013, gweler cyfarwyddyd 20(2) o Gyfarwyddydau PGC 2022.