RHAN 6Trosglwyddiadau
PENNOD 3Trosglwyddiadau ar sail clwb
ADRAN 3Amrywio cyfnod gwneud cais am drosglwyddiad clwb
Amrywio cyfnod gwneud cais am drosglwyddiad clwb46
Mae rheoliad 150 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn perthynas ag—
a
aelod rhwymedi nad yw’n aelod diogelwch llawn o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen 4 i’r Rheoliadau hynny, a
b
chais am daliad trosglwyddo ar gyfer taliad gwerth trosglwyddiad clwb mewn cysylltiad ag aelod o’r fath,
fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (2)(b)—
b
yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid iddo gael ei wneud—
i
erbyn 1 Hydref 2024, neu,
ii
cyn dechrau’r cyfnod o un flwyddyn sy’n gorffen â’r dyddiad y mae’r aelod yn cyrraedd oedran ymddeol arferol ar yr amod nad yw’r dyddiad hwnnw yn hwyrach na 1 Hydref 2024.